Ble
fyddwch chi地 mynd am dro? Yn y tudalennau canlynol da ni am roi teithiau
cerdded yn Llŷn, ond efo osgo ychydig yn wahanol.
Da ni am wahodd pobol i ddweud wrthym am eu hoff le i fynd am dro. Beth
mae nhw地 hoffi am y lle, be mae nhw地 weld ar y daith a pam eu bod yn
mynd.
Os oes
gennych chi hoff le i fynd am dro yn Llŷn, mi
hoffwn ni glywed gennych. Mi fyddai地 ychwanegiad diddorol i池 wefan. Yn
ogystal a cael gwybod ble mae池 lle mwyaf poblogaidd i gerdded, mi allwn
ni rannu ein
teithiau ac efallai ffendio lle newydd i gerdded. Gadewch i ni wybod os
ydi池 daith da chi地 mynd ar hyd iddi yn le da i wylio adar neu weld bywyd
gwyllt yr ardal, neu os oes olion o hanes Llŷn neu
unrhyw beth o ddiddordeb, neu lle i adael bwrlwm y byd o段 ol ac ymlacio地
llwyr a chael eich ysbrydoli gan harddwch naturiol yr ardal ydio.
Os
hoffech chi gyfrannu i池 tudalennau yma, cymerwch olwg ar un o地 hoff
lefydd ni i gerdded, sef Garn Boduan, mi roith hyn ryw fath o syniad o
fformat yr erthyglau. Mi fydde地 ddifyr iawn clywed gan y rhai ohonoch
sydd yn byw y tu allan i Llŷn, gael i ni gael
gwybod be di apel y lle i chi (cofiwch i ni sydd yn drigolion Llŷn,
wel nefoedd o le sydd yma !!) Os oes na rai agweddau nag ydych yn hoff
ohonyn nhw e.e ysbwriel, llygredd, llwybrau peryglus neu rywbeth sydd ddim
yn plesio, cofiwch son amdano.
Diolch yn fawr, Tony a Gwenllian.
Mynydd Rhiw
Ffynnon
Saint Rhiw
Mynydd Graig Rhiw
Garn Boduan
Uwchmynydd
Yr Eifl
~~~~~~~~~~