Fy
hoff daith gerdded.
Ddowch
chi efo mi ar fy hoff daith gerdded, lleol yn Llŷn, taith na fyddaf
byth yn blino na diflasu ar ei gwneud? Mi gymrith ryw bedair awr yng
nghit yng nghat, mae yn dibynnu beth a phwy a welaf, [pwy sy’n cyfrif
pa un bynnag?] ac
mae’r amrywiaeth yn anorfod, fydd ddim dwy daith ‘run fath er eu gwneud o
fewn pythefnos i’w gilydd. Natur, hanes - henafol iawn yn ambell i lecyn,
-diwydiant yr awrhon, cyn-ddiwydiant a nid ychydig o ddirgelwch hefyd,
amryw o hen ffynhonnau, does wybod beth ddaw i’r golwg.
Byddaf yn gadael y cerbyd ym maes
parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - sydd dros y ffordd i
ffarm Cwrt, a bron gyferbyn - sydd hefyd erbyn hyn yn eiddo i’r
Ymddiriedolaeth, mae y parcio yn ddi-
dâl,
a fydd o byth yn llawn.
Mae hanes i Cwrt i ddechau,
fel mae yr enw yn awgrymu, Llys yr Abad oedd enw cynnar arno, o’r
fan yma y cawsai Mynachlog Enlli a’i heiddo - nid bychan - ar y
tir mawr ei weinyddu. Mae archwiliad o stedydd y fynachlog ym 1547
yn disgrifio Cwrt fel . . . ‘tŷ o fewn muriau, cyfagos i’r Ynys,
yn cael ei alw yn Cwrt Enlli, gyda pherllannoedd, ystafelloedd gerddi,
cynteddoedd ac amcangyfrif rhyw ddwy acer . . . yn
y gymdogaeth hefyd roedd 157 acer o dir aredig, caeau tir pori,
weirgloddiau a tir eithin, hefyd chwe acer o dir’
Oes rhywun yn gwybod beth ydi hanes Tredom? Wn i ddim. Yma hefyd y
byddai achosion troseddol a chyfreithiol yn cael eu cynnal, cyllid a
threthi yn cael eu trafod.
Mae y Parch. John Owen, yn
sôn yn ei gyfrolau ‘Hanes Cymru,’ 1875, am garchardy ar
ffarm Cwrt, mae Bryn y Crogbren ar y tir hefyd, ar ran uchaf
o dir y ffarm, sylwch, ‘fel y byddai y gosb eithaf, -sef
y
crogi - yn amlwg i olwg yr holl wlad fel rhybydd.’ Mae yna gae o’r
enw Bryn y Mynach hefyd yn rhan o’r stâd.
Awn i lawr ar hyd yr hen ffordd drol
hyd at Borth Meudwy, y borth fyddai yn arwain y saint a’r meudwyaid
i’r Ynys Sanctaidd. Yma gwelwn nifer o gychod, nifer go dda os
dowch yma yn ystod yr haf, gan fod deuddeg neu bymtheg o gychod lleol yma
ar eu trelars, ond os byddwch yn lwcus, cewch eu gweld yn cystadlu mewn
rigeta sawl tro yn ystod y tymor, golygfa gwerth ei gweld,
mae y gystadlaeaeth yn frwd i gael y nifer mwyaf o bwyntiau, a chlod a
chwpan wyrach, ar ddiwedd y tymor, noson y cinio gwobrwyo.
Cawn yma hefyd un o’r diwydiannau
lleol sydd yn parhau, yn dymhorol wyrach, ond fel mae’r hinsawdd yn newid,
mae y tymor dal cimychiaid yn ymestyn, ac mae o leiaf bump o fechgyn lleol
yn ennill eu bywoliaeth yn y gwaith yma. Ffermio ydi galwedigaeth arall
Llŷn, mae hwn yn waith trwy’r flwyddyn, ac ambell amser o’r tymor,
fel amser wyna ac yn y blaen, yn waith rownd y cloc hefyd, gwaith caled a
diwyd, ond mae y ffermydd a’r tyddynod yn edrych yn hynod daclus.
Ô’r
Borth ac ogla’r gwymon, cymerwch lond eich ysgyfaint, mi wneith
fawr lês ichi, awn i’r dde ac i fyny y grisiau - sydd wedi eu hadnewyddu
ar ôl tir-lithriad ym 2005, bu cryn ddifrod o achos y glawogydd
trwm, ar elltydd Llŷn mewn sawl safle, a bu gwaith enfawr i
ymgeleddu y llwybrau.
Ar ôl dringo y grisiau a mynd drwy’r
llidiart, dyma ni yn dwad i olwg y môr yn go iawn, a golygfa wŷch ydi,
Bae Aberdaron a’r pentref, Ynysoedd Gwylan, Trwyn Penrhyn, Trwyn
Penarfynydd, Trwyn Cilan, heb sôn am ysblanedd Bae Ceredigion a
thirlyn Meirionnydd, mae yr olygfa yn esgus [neu reswm] da i aros
am ddeng munud i gael ein gwynt ar ôl y grisiau, ac edrych o gwmpas.
Mae y llwybr cul a throellog yn ein
harwain nesaf at Borth y Gloch, o ben yr allt, mae i’w gweld ar
ffurf cloch, ond mae hanesyn arall ar syt y cafodd yr enw, gwir neu beidio,
mae yn ran o hanes erbyn hyn.
Fel
hyn mae yn mynd :- dywedir fod cloch abaty Bala yn cael ei chludo
i Ynys Enlli yn y cyfnod pan oedd y mynachlogydd yn cael eu
dinistro, er ei diogelu, ond wrth agoshau at Ben y Cil, syrthiodd y
gloch i’r môr, ac er ymdrechion dyfal, ni lwyddwyd i’w symud, a by raid ei
gadael lle y syrthiodd, sydd yn arwain at ddywediad eitha arwyddocaol,
‘mor sownd a chloch Y Bala.’ Yn yr ardal yma ceir amrywiaeth o
adar a blodau, mae rhai o’r adar yn prinhau, rhai fel y benfelen, yr
ehedydd a’r gylfinir, mae adar fel tinwen y garn, clochdar y cerrig,
cyffylog, y bwncath a’r hebog i’w gweld yn dal eu tir, hefyd adar y môr
fel aderyn drycin y graig, y fulfran, a’r gwylanod. Nid ydi’r ardal ddim
heb ei gwiber chwaith, er yr hen draddodiad nac oedd neidr i’w chael tu
hwnt
i Afon Saint.
Yn dymhorol mae amrywiaeth mawr o
flodau gwyllt i’w cael, fel clustog Fair, gludlys arfor, teim, clychau’r
Tylwyth Teg, eira mân y mynydd, ysgallen Siarl, bysedd y cŵn a llawer mwy,
fel grug ac eithin mân, popeth yn darawiadol iawn.
Wel dyna ni, y safle nesa’ o
ddiddordeb ydi safle cyn-ddiwydiant, sef Porth Y Pistyll, mae yn
fwy adnabyddus yn lleol fel Trwyn Dwmi, yma mae Craig y Cwlwm
hefyd, ‘does gen i ddim eglurhâd ar y naill enw na’r llall, bum ar ofyn yr
Athro Bedwyr Lewis Jones, ond ni allai fy ngoleuo. Ithfaen ydi y
graig sydd yma, a gwneud sets ar gyfer palmantu a cerbio strydoedd ein
trefi a’n dinasoedd oedd cynnyrch y chwarel. Bu gweithio yma gyntaf ym
1907, yna bu cyfnod o
waith
yn y 30au, pan fu tua 45 yn gweithio yma, ac ‘roedd mor
lewyrchus y pryd hyn, fel y dechreuwyd codi tai ar gyfer y gweithwyr, -
maent yn dal ar eu traed ar hanner eu codi er yr holl flynyddoedd, -
‘roedd siop a chapel yn rhan o’r cynlluniau hefyd, ond bu gwario cyn
dechrau gwneud elw, felly aeth y cwmni yn fethdalwr cyn yr Ail Ryfel
Byd, yr ‘hwch drwy’r siop,’ cauwyd y gwaith a chaed ocsiwn,
aeth rhai adeiladau i Bencwm, eraill i Rydgaled, Nanhoron,
a phopeth ar chwâl. Mae peth o’r peirianwaith i’w gweld yno o hyd.
Troi ein golygon tua’r de wnawn eto
ar hyd lwybr pen yr allt, nes dwad i Henborth, does dim yn arbennig
am hon am wn i, gallasech weld llwynog o gwmpas, mae’r môr i’w weld yn
hyfryd o’r uchder. Down nesaf at Ben y Cil, a golwg hyfryd ar
Ynys y Saint, [Pen y Cil, enciliad y saint ar eu ffordd i
Ynys Enlli?], a dyma un dirgelwch yn ymddangos, cerfiad ar y graig, ‘William
a John,’ pwy ar y ddaear oedd y ddau ddyn yma? Beth oedd eu
gwaith? Ffermwyr? Pysgotwyr? Oeddan nhw yn frodyr? Oeddan nhw yn
perthyn o gwbl? ‘Roeddynt yn amlwg yn adnabod eu gilydd, yn gyfeillion
tybed? Mwy na thebyg. Chawn ni byth wybod, ond maent wedi treulio amser
efo cun a morthwyl mae’n amlwg, seiri cerrig, tybed? Pwy a ŵyr.
Mae peth dringo o’n blaenau rwan,
ond mae’n werth edrych ar yr olygfa o lefel y môr bron, mae yn wahanol heb
amheuaeth, nac ar ôl codi i ben Mynydd Grepach. Ond cyn cyrraedd y
man uchaf, mae gan yr ardal ddirgelwch arall mae am gadw iddi ei hun,
cerfiad eto, mae hwn wrth ochr sedd naturiol yn y graig, a’r cerfiad y tro
yma ydi ‘R.G. M.O.
1844.’ ac mae dwy lythyren arall fel ‘J.W.’
i’r dde iddynt. A oes esboniad ydach chi yn meddwl? Dydw i ddim yn credu,
ond mae yn rhoddi ffrwyn i ddychymig yn tydi.
Ychydig lathenni ymlaen tuag at y
man uchaf, down o hyd i gerfiad arall ar graig, ond mae gen i eglurhâd i
hwn, y cerfiad ydi, ‘J.H. H.H. 1929.’
Dau o feibion Grepach oedd y ddau yma, Jeremiah Hughes, a
Hugh Hughes. Jeremiah ddaeth yn Jerri Maemhir,
Pengroeslon, a Hugh ddaeth yn Hugh Bryn, Pencaerau,
roedd gan y ddau deulu sydd yn dal i fyw yn y cylch,. a dyna chi, un allan
o dri wedi ei ddatrys.
Ychydig
ymlaen eto, a dyma ni uwchben ac yng ngolwg Parwyd, man delfrydol i
ddaearegwyr, mae y graig yn noeth, yn syth ac yn uchel iawn, ac mae yn
hawdd gweld haenau y graig yn y borth yma. Bydd amryw o adar yn nythu yma
yn y gwanwyn.
Yn
y fan hyn, edrychwn i gyfeiriad y tir yn hytrach na’r môr, cael golwg ar
Fynydd Gwyddel, Mynydd Mawr, Anelog, Carreg,
Garn Fadryn, Y Rhiw, ac ymlaen i gyfeiriad yr Eifl ac
Eryri, Yn y gaeaf bydd Eryri i’w gweld yn wyn yn yr haul,
llun prydferth iawn.
Enlli sydd yn llenwi ein golygon
erbyn hyn, ond rhyngddom ni a hi, mae y Graig Ddu, yng ngerwinder y
Swnt pwerus, mae y llif yn nerthol iawn, a hawdd gweld y peryglon a
wnai i hen drigolion droi i weddi pan yn croesi. Ar y Graig Ddu ac
o’i chwmpas, cewch weld morloi, yn y dŵr ac wedi halio allan ar y graig.
Nesaf, down i dir agored Mynydd
Bachestyn, moch Ystum medd rhai, ond dim yn fy marn i. Awn i
gyfeiriad y môr cyn dwad i olion adeiladau henafol dros ben, mae’n
ymddangos fel adeilad petrual, gyda mur, neu glawdd pridd llawer yn fwy
o’i amgylch, hwn hefyd ar ffurf petrual. Wrth ymyl y rhain eto, mae olion
adeiladau hŷn fyth, un crwn ac un sgwâr, pa mor hen, nis gwn. Mae dwy neu
dair ffynnon heb fod ymhell, a thair arall ychydig ymlaen wedyn.
Ar ôl mynd tros gamdda, daw y llwybr
a ni yn agosach i’r môr eto, a gwelwn olion mwyna, George Spargo
fuo yma ‘dwi bron yn sicr, bu yn archwilio am fwynau efo amryw bartneriaid,
disgwyl gwneud ei ffortiwn, priododd Margart Griffith, Pengraig,
Llangwnnadl, un o deulu meddygon y ddafad wyllt. Porth Felan
ydi’r nôd nesaf, byddai y borth yma yn cael ei defnyddio fel croesfan i
Enlli yn achlysurol, os na fyddai y tywydd yn ffafrio croesfannau
eraill. Mae odyn
galch ar ben yr allt yn ei golwg. Down hefyd i olion rhês o adeiladau
henafol dros ben, o wneuthuriad pridd, mae tua pump neu chwech ohonynt, yn
sawdl Mynydd Gwyddel.
Dringo ydi ein rhan unwaith eto, i
ben Mynydd Gwyddel, ac mae yr olygfa yn newid eto, edrychwn i lawr
i gyfeiriad Eglwys Fair, lle cai y saint ymgeledd, bwyd a gorffwys
- am wythnosau ambell waith, - i ddisgwyl i’r tywydd ostegu cyn croesi
Y Swnt. Gwelwn hefyd Maen Melyn Llŷn, - mae peth ohoni yn
iasbis, ac wedi ei gorchuddio a chen melyn, felly yr enw, - sydd uwchlaw
Ffynnon Fair, mae chwedl y ffynnon yn dweud os y gallwch ddal
cegiad o ddŵr y ffynnon yn eich ceg a dringo i ben Mynydd Mawr, y
rhoddir unrhyw ddymuniad ichwi. ‘Dwi wedi bod yn dyst i hyn ddigwydd, ond
wnai y person ddim datgelu y dymuniad, a bu i ni wahannu ar y diwrnod, ac
heb gyfarfod byth wedyn. Mae dŵr y ffynnon yn ffres er i donnau hallt y
môr olchi trosti.
Gwnawn ein ffordd i lawr llwybr
llydan o ben Mynydd Gwyddel, - sylwch ar y chwith fod ffynnon yma
oedd ar un amser yn gweithio ‘ram’ i bwmpio dŵr i Tŷ Mawr a
Gwyddel cyn i ddŵr Cwm Ystradllyn gyrraedd, bu’r ddwy ffarm
yn gyfrannog yn y gost o £150, ‘roedd yn orfodol cael dŵr o dan
bennau y gwartheg cyn y cawsai’r ffermydd werthu llaeth i Ffatri
Rhydgwystyl, - a dringo rhan o’r ffordd i ben Mynydd Mawr,
yna fforchio i’r dde tuag at Safn Pant, mae ffynnon doreithiog yn y
bryn tu cefn i’r tŷ, ac un arall yn sawdl Mynydd Mawr lle byddai ‘ram’
i pwmpio dŵr i ben y mynydd pan oedd y llu militaraidd yno yn ystod yr
Ail Ryfel Byd, ond awn ni ddim ar y trywydd hwnnw heddiw.

Ynys Enlli
Mae ein llwybr yn cyfeirio at i lawr
rwan, rhwng Safn Pant a Safn Pant Bach, ac yn dwad a ni i’r
ffordd, a croeswn hon, a dilyn llwybrau ar draws caeau ddaw a ni i Bwll
Ciw, heibio Gwag y Noe. Mae Pwll Ciw yn enw adnabyddus
ym myd cariwrs amser a fu, cario i Bwllheli, pobol a nwyddau.
Dilyn y ffordd wnawn yn ôl i faes parcio Cwrt, heibio Bodermyd
Isa’ a Thir Glyn, Diolch am eich cwmni, hyfryd fydd diosg yr
esgidiau rwan.
Wil Efail Rhos.
**********