Yr Eifl

gyda

Aled Williams

Yr Eifl

Mae tri mynydd yn yr Eifl, mewn gwirionedd, sef Garn Fôr, Garn Ganol (yr uchaf) a Thre’r Ceiri.  Yr Eifl y gelwir y Garn Ganol yn lleol sydd tua 1850 troedfedd o uchder, ac fel  Mynydd y Gwaith yr adwaenir y Garn Fôr. Lluosog o ‘gafl’ yw tarddiad yr enw.

Mae’r Eifl yn ‘garreg gongl’ i dri o ardaloedd, sef Llyn – i’r De-Orllewin, Eifionnydd i’r De-Ddwyrain ac Arfon i’r Gogledd-Ddwyrain. Mae ei hwyneb yn Llyn a’i chefn yn Arfon, felly, o gyfeiriad Llithfaen, yn Llyn mae’r daith i’w chopa! Yn debyg i’r Eryri a’r Carneddau, ar raddfa llai efallai, rhaid wrth esgidiau cerdded da a dillad addas ar gyfer tymheredd is ac, efallai, gwynt ar y copa.

 

Sut i gyrraedd y llwybr

 

Mae modd ymuno a’r prif lwybr i’r copa o gyfeiriad maes parcio Nant Gwyrtheyrn ac mae’n amlwg y dyddiau yma mai dyna’r dewis poblogaidd. Nid felly oedd hi, a dilynnaf fy hen lwybr arferol y tro yma. O’r groesffordd yng nghanol pentref Llithfaen, dilyn y ffordd i’r dwyrain am Gaernafon am tua 100 llath. Troi i’r chwith i fyny’r allt gyferbyn a’r Capel M.C. a dilyn y lôn a mynd drwy (a chau) giat y mynydd ger Gorslwyd. Gellir parcio car ar ochr y trac heb amharu ar neb ychydig pellach na’r ty neu rownd y gongl yn uwch ger Bryn Ffynnon.

Pan oeddwn i’n blentyn byddai arwydd yn waelod y lôn yn y pentref yn dweud ‘To the Rivals’ a denai hwnnw aml i gerbyd crwydrol yn yr haf a chawswn rhyw geiniog neu ddwy am agor y giât iddynt. Pan ddaeth ymwybyddiaeth y 60au, diflannodd yr arwydd dwl a daeth cerdded o gyfeiriad y Nant yn fwy poblogaidd. Yn wir, mae’r tyfiant wedi tagu y rhan gyntaf o’r hen lwybr o Gorslwyd erbyn hyn.

 

Paham y llwybr yma?

 

Dewisaf fynd o gyfeiriad Gorslwyd achos yno cefais fy magu a Mynydd yr  Eifl oedd ein gardd gefn a’n cynefin, megis. Efallai mai Tan ‘Rardd ddylai enw Gorslwyd fod hefyd! Wrth oedi ger giat y mynydd,  gwelir yr Eifl yn ei hurddas yn gefndir cyfarwydd iawn i mi gyda’i dwy glust i fyny, yn gwisgo patrwm cerrig y ddraig ar ei bron. Mae’n edrych draw dros diroedd Llyn fel hen frenhines. Mae golygfa ac arogl blodau’r grug a’r eithin a’r fawnog yn gallu bod yn hudolus yn ystod misoedd Awst a Medi.  I’r dde o’r mynydd gwelir Creigiau Cribyn a Mynydd Carnguwch dros Bwlch Swngwn gyda ‘ffedoged y gawres’ ar ei phen. Ym Mwlch Swngwn mae’r ffordd fawr ar ei man uchaf yn Llyn. Yn is na Creigiau Cribyn, mae cae mawr (Cae Cribyn) gafodd ei adfer o’r mynydd yn sgil gweithgareddau’n dilyn yr ail Ryfel Byd. Yn y pant mae cronfa ddwr bychan fyddai unwaith yn cyflenwi Llithfaen, Pistyll a rhan o Nefyn. Dyma darddiad afon fach o’r enw Carfen a oedd yn derfyn rhwng plwyfi Pistyll a Chaernguwch. Yn y gors fawnog yma ceir planhigion diddorol megis Cotwm y Gors a Llusgrug.. Treuliais oriau ers talwm yn rhyfeddu at un planhigyn yno ddaliai bryfaid a’u bwyta!

 

Amser i gyrraedd y Copa

 

Pan yn llafnau, gallai fy ngyfaill a minnau fynd o Gorslwyd i’r copa mewn ugain munud a dod i lawr mewn deg. Tri chwarter awr i fyny fyddai’n  amser call erbyn hyn!

 

Y daith i fyny

 

Rhaid peidio dechrau dilyn y trac cerbydau sydd yn arwain i’r cyfeiriad rhwng Yr Eifl a Chreigiau Cribyn – i Dre’r Ceiri! Gwelir y trac hwnnw ar lun Creigiau Cribyn.

Yn hytrach o gongl y trac, fel mae  llun Yr Eifl yn dangos, gellir gweld olion y llwybr defaid yn mynd ar hyd-traws i’r Gogledd-gogledd-ddwyrain tuag at odrau’r mynydd.

 I fyny’r ysgwydd foel yma felly am tua chwarter milltir. ‘Roedd mawn yma yn yr hen oes a defnyddiwyd hwnnw gan hen drigolion y bythynod – cyn dyfodiad y chwareli.

Pan ddaeth ithfaen yn bwysig, teithiai gweithwyr hyd y llwybr hwn at ‘Waith cerrig yr Eifl’ (llun).

Cyn dechrau dringo’r mynydd go iawn, cerddai’r gweithwyr ar hyd llwybr arall  i’r chwith dros yr ysgwydd, heibio i ffynnon ddaw allan o’r godrau – ‘Ffynnon Oer’. Mae’r dwr yn oer yno bob amser hefyd. I’r cyfeiriad yma mae corlan fechan (fel yr ymddengys) mewn pant a elwid yn ‘Gorffwys Ennyd’ – lle iddynt ymochel.

Yn ôl at ein llwybr ni! Yn y man yma gellir edrych yn ôl a gweld asgwrn cefn Llyn yn ymestyn tua Enlli a Mynydd y Rhiw wedi ymddangos heibio’r Garn. Ymddengys bwa bae Ceredigion i’r De dros Graig yr Imbill yn ogystal a bae Pothdinllaen a Nefyn a thraethau Gogleddol Llyn i’r Gorllewin. Gwelir hefyd Fynydd Cae’r Defaid uwchlaw chwarel y Nant  gyda’r lôn i’r Nant wrth ei odrau ac olion Llyn Bwlch i gyfeiriad Ciliau uwchlaw Carreg y Llam.

‘Carreg y Llam a’i gwyneb llym

A’i thraed yn y dwr yn malio dim’.

 

            Daw y cerdded yn galetach ‘rwan ac ymhen ychydig, bydd yr olygfa uchod yn ymddangos yn is ond yn fwy eang. Ar y dde mae’r Ddraig ac wrth ei thraed mae olion cloddio lle bu cronfa ddwr rhyw ddydd - ‘tegan o beth’, meddai fy nhad. Ffynnon y Ddraig ydy’ honno. Ymhellach i’r dde ymddengys Clogwyn Nansi – bryncyn bach carregog ydyw mewn gwirionedd. Pan waiff Nansi, hithau, ddechrau suddo i’r olygfa, datgela bethau newydd. Clogwyn Dannedd – gyda chreigiau felly ar ei brig –lle mae ffaeau llwynogod yn frith a Tre’r Ceiri fyd enwog. Daw Eifionnydd ac Eryri i’r amlwg erbyn hyn. Ar odrau clogwyn dannedd mae ffynnon tan-ddaearol a glywir weithiau ar ôl glaw a elwir (wel elwid) yn ‘Ffynnon Aur’.

            Mwy o ymdrech eto ac nid yw’r copa’n amlwg yn nesau! Ar un adeg mae Nansi, Cribyn, Caernguwch a’r Imbill yn rhes unionsyth, bron.

 

‘ Llawn gyfyd Llyn ac Eifion

Dir-lun hardd o dorlan hon’

 

Am Graig yr Imbill y canai ‘r hen Eben Fardd, nid yr Eifl. ‘Doedd dim tafarn yn ddigon agos, debyg, i’r Eifl haeddu sylw! Ond byddai’r Eifl yn ddefnyddiol i longwyr yr hen oes at ddiben gosod cwrs.

 

Y Copa

 

            Wrth ddringo ymhellach, daw mwy o fawn i’r golwg a choed llus yn llechu wrth y cerrig a’r grug ond mae llai o eithin yma. O’r diwedd ymlwybrwn rhwng glustiau’r Eifl a’r carneddi cerrig o bopty cyn cyrraedd y ‘Trig Station’ ar dwmpath y copa. Yma teimlir a chlywir awelon cryf yn aml – a da wrth y dillad cynnes adeg hynny!  Ond i’r sawl sydd mor lwcus i gyrraedd yma pam nad oes chwa o wynt, ni all beidio rhyfeddu at y diffyg swn. Peth anghyffredin dros ben y dyddiau yma. Yr Awyrlu Frenhinol o’r Dyffryn ym Môn yw’ unig beth all chwalu hyn. Ac eithro brefiad dafad, crawc bran dyddyn, trydar nefolaidd yr ehedydd neu eraill o “adar mân y mynydd uchel” – ‘nid oes twrw – hun distawrwydd . .’ chwedl Ceiriog ac Eben.

 

Yr olygfa a’r myfyrion

 

Y Dwyrain

            Yn y Dwyrain, dros Greigiau’r Cwm daw Arfon i’r golwg –Gurn Ddu a Gurn Goch gyda gogoniant Eryri a’r arfordir hyd at Far Caernarfon a’r Fenai. Dyma ardal Rhys druan yn chwilio am Meinir ac eglwys Clynnog yn y pellter. Daw Eben Fardd eto i’r cof! Hefyd gwelir Môn a Chaergybi. Ceir golwg manwl o’r ‘cytiau gwyddelod’ ar ben Tre’r Ceiri. Ar ddiwrnod clir, gellir cael trem ar rhannau o Loegr, os y mynnir, ac Ynys Manaw. Gellid cael derbynniad rhagorol o Radio Caroline oddiyma yn y 60au! Sôn am drawsglwyddo neges, byddai hen drigolion ardal Llithfaen yn canu utgorn ar ben yr Eifl i rybuddio pobl Arfon fod y ‘Redcoats’ o amgylch yn hel hogiau i Fyddin Lloegr.

              Un diwrnod pan oedd fy nhad a minnau yn hel defaid o gyfeiriad Creigiau’r Cwm ac yn ymlwybro tuag adref rhwng yr Eifl a Thre’r Ceiri, daethom ar draws rhywbeth hynod. Nid oedd tyfiant yno ar y pryd gan fod tân wedi bod yno ddechrau’r flwyddyn. Ar ran lefel o dir i fyny ychydig ar lethr yr Eifl uwchlaw Clogwyn Blew a Twmpath Bach, ‘roedd cerrig gwastad wedi eu gosod yn batrwm hir-sgwar tua tair trodfedd wrth chwech – tebyg i ‘Crazy Paving’. Gwnes lun ohono ar bapur – ond aeth i abergofiant! Euthum yno droeon wedyn ar ôl blynyddoedd ond ‘roedd y tyfiant wedi dychwelyd a chuddio’r patrwm a welais i ddim golwg ohono wedyn. Dyna fo i chi!

 

Y Gogledd

            Ar y llethr gogleddol, rhwng y Graig Ddu a’r copa gwelir hen Waith Cerrig yr Eifl yn furiau trwchus a sciablins yn dyst i’r llafur cynnar. Dros y Graig Ddu, gwelir Cwm Nant Gwyrtheyrn sydd â mwy o fwrlwm unwaith yn rhagor, diolch am hynny. Rhyfedd meddwl fod pump o blant Tan’Rardd, Rhiw wedi byw a gweithio yma yn eu tro yn nyddiau aur y chwareli, sef  Robin, Siân, Ben, Huw a Jack. Ganwyd rhai o’u plant yno. Mae hanes Dewyrth Robin yn llyfr Eileen Webb ‘This Valley was Ours’. Nid does golwg o’r hen Gamfordd erbyn hyn. Ac mae coed pinwydd bondigrybwyll gan adael diffaethwch pan fydd ‘arall yn eu medi’. I’r dde o’r Nant saif y Gorllwyn fel caer a’i thraed hithau yn y dwr a hen chwarel y ‘Croft’ wedi rhwygo ei phen. Hefyd y Garn Fôr – Mynydd y Gwaith yn gwisgo’r un fantell fel Chwarel Trefor. Teithiai’r Pererinion rhwng y copaon yma ar eu taith i Enlli. Mae Mynydd y Gwaith erbyn hyn yn gyrru negeseuon pwysig drwy gyfrwng y ‘Microwave Link’ sydd ar ei ysgwydd. Mae carreg y mynydd yma yn addas iawn ar gyfer llithro ar rew fel ‘Curling Stones’ ac mae rhai yn dal yn cael gwaith yno drwy hynny. Dros Fynydd Cae’r Defaid ar ddiwrnod clir, gellir gweld tir Iwerddon. Yn wir, mae mynydd y Wiclo (Wicklow) yn debyg iawn o ran siâp i’r Eifl a gellir gweld y ddau fynydd fel efeilliaid ar un rhan o’r fordaith rhwng Caergybi a Dulyn.

           

Y De-ddwyrain

            I’r cyfeiriad yma, gellir gweld Eifionnydd bron i gyd a . . . ‘Llangybi, os wyf fi fardd . .’ – taw, Eben!! Gellir dilyn cwrs y Lôn Goed ar ei hyd. Ceir arfordir Ceredigion ar ei hyd pan yn glir o drwyn Cilan i Preseli.

 

Y De-orllewin

            Ond i mi, y cyfeiriad gorau un ydyw’r De-orllewin lle gellir tremio dros Llyn – a meddwl weithiau am gael dilyn yr asgwrn cefn i’r pen draw. Ac wedyn,efallai dilyn llwybr yr haul i’r Gorwel. O Ffynnon Aur i Ffynnon Fair fel petai – tebyg i’r hen Bererinion! Pwy fynnai olygfa well na hyn? Ar y llethr yma mae’r haul ar ei orau a’r adar mwyaf swynol – wel pan mae hi’n braf, felly!

 

Dychwelyd

Dilyn y lwybr yn ôl sydd yn naturiol, wrth gwrs. Byddaf i’n bersonnol yn hoffi dychwelyd o’r copa ar hyd y llethr De-Ddwyreiniol am gyfeiriad Tre’r Ceiri ac wedyn troi i’r dde tros y gamfa hyd y gwastadedd rhwng Creigiau Cribyn a Clogwyn Gwyn (llun). I lawr wedyn hyd y trac cerbydau yn ôl.. Mewn mannau ar yr Eifl (a bery’n ddirgel!!)  a phan y mae’n dymhorol, gellir cael digonnedd o lus a dyna fonws bach arall.

            Felly gall taith i ben yr Eifl fod yn gryfhad i’r cyhyrau, yn gynhaliol i’r corff ac maen sicr o fod yn falm i’r enaid.

Aled

~~~~~~~~

Diolch yn fawr i Aled am y daith gerdded yma.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com