Garn Boduan

gan

Tony a Gwenllian

Mae Garn Boduan wedi ei leoli yng  ngogledd ddwyrain Llŷn, uwchlaw Nefyn a Bae Porthdinllaen, ac mae un o’r ammdiffynfeydd hynaf a mwyaf yn Ynysoedd Prydain ar ei gopa. Mae’n le anhygoel i fynd iddo a ceir golygfeydd gwych oddyno yn ymestyn o Enlli i Eryri.

Sut i fynd yno.

O Bwllheli cymerwch y A497 i gyfeiriad Nefyn ac ar ol tua pedair milltir a hanner trowch i’r dde ar y ffordd sydd yn mynd i’r Ffor y B4354, ymhen 300 medr ar ochr chwith i’r lon fe welir adwy i goedwig. Mae lle i barcio yma, ond cofiwch adael yr adwy yn hollol glir er mwyn i gerbydau perchenogion y goedwig gael rhwydd hynt i fynd a dod.

Y Daith

Mae llwybr llydan yn mynd i fyny drwy’r goedwig, dilynwch hon ac ar yr ail droad yn y ffordd cymerwch y llwybr sydd yn syth o’ch blaen. Mae’r llwybr yma yn ymdroelli ac yn culhau wrth agosau at gopa’r mynydd, ac yn wir ar un rhan ohonno mae yn culhau yn arw ac mae’r rhedyn uchel yn ei gwneud yn anodd i weld beth sydd dan draed  yn y rhan yma, felly gofal piau hi, yn ystod misoedd yr haf. O’r fan yma mae’r golygfeydd i’r de a’r gorllewin dros bennau’r coed yn wych.

Garn Boduan 27-7-06

Edrych Tua'r De

 

Garn Fadryn

 

Bron a cyrraedd y Gaer

 

I'r Gaer

 

Garn Fadryn

 

Un o'r 170 Cytiay Crwn

 

Cwt yn y Gaer fach ar y copa

Edrych tua'r gorllewin

 

O’r llwybr yma rydych yn mynd fewn i’r amddifynfa hynafol drwy’r fynedfa ddeheuol (gweler y map) ac yma o’ch blaen, mae’r cyntaf o’r cytiau crwn, mae oddeutu cant i’w gweld yma hyd heddiw. Mewn arolwg a wnaed yn y 50au, darganfyddwyd oddeutu 170 o’r hen dai yma ar y safle, a dywedir mai Buan, wyr Llywarch Hen, oedd yn trigo yma.

Tua pum mlynedd ar hugain yn ol bu tân difrifol ar y mynydd a dinistrwyd y goedwig oedd ar y mynydd, heddiw mae ambell goeden farw yn dal i sefyll ar hyd y gwastir uchel (plateau) ac mae hyn yn creu golygfa eitha swreal. Mae’r gloygfeydd o gopa Garn Boduan (279 medr / 915tr) ymhlith y goreu yn Llŷn, yn enwedig i gyfeiriad Nefyn, Morfa a Porthdinllaen.

 

Porthdinllaen a Nefyn

 

 

Nefyn

 

 

Mynydd Nefyn

 

Golygfa hynod

 

Garn Fadryn

 

Ar ein ffordd gartref

Yr Eifl a Llithfaen

Mae’n bosib dod lawr y mynydd drwy’r fynedfa gogledd ddwyreiniol a dilyn y llwybr lawr i’r lon, ond oherwydd prinder amser, mi aethon ni lawr yr un ffordd ddaethon ni fyny drwy’r fynedfa ddeheuol.

Nodion.

Mae’r daith i fyny Garn Boduan yn eithaf tywyllodrus, gan ei fod yn edrych yn eitha rhwydd ac yn rhoi’r teimlad na fyddwch fawr o dro yn cyrraedd y copa, ond ar ol tua hanner awr, roedd y copa i weld yr un mor bell i ffwrdd, felly dylid gadael tua awr i gyrraedd y copa, yn enwedig os da chi fel ni, yn cymeryd saib bob hyn a hyn i werthfawrogi’r olygfa a tynnu llun neu ddau, a chael llymaid o ddwr, (ar gyda’r nos gynnes iawn, fel ag yr oedd hi y noson fuo ni.)  Hefyd ar y copa sydd wedi ei orchuddio a grug ac eithin tew tydi hi ddim yn hawdd cerdded, o gofio hefyd fod cerrig  eitha mawr (boulders) dan draed, ond o gymeryd gofal a chraffu mae’n bosib ffeindio un o’r myrdd llwybrau sydd yn tramwyo’r gwastadtir uchel. Yn bendant mae Garn Boduan yn werth chweil mynd am dro arno, ac yn fwy felly os oes diddordeb gennych mewn hen hanes, mae olion yr amddifynfeydd a’r cytiau (tai) yn werth ei gweld.

 ~~~~~~~~~

Un peth oedd yn tarfu braidd ar y daith oedd bod swn y traffic, ar yr A497, i’w glywed ar hyd y ffordd, hyd yn oed ar y copa. A toedd y teimlad o ddianc o’r byd a’i bethau ddim i’w gael yno fel ag y mae ar ben Rhiw, Anelog neu Garn Fadryn er enghraifft. Ond wedi dweud hynna mi oedd hi’n werth chweil mynd yno ac mi fydde ni yn argymell unrhyw un sydd heb fod i fynd yno yn saff.

Oes ganddoch chi le da i fynd am dro yn Llŷn? Os oes cysylltwch a ni ac mi rown ni eich un chi ar y wefan.

~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com