|
|
"Captan Hugh Roberts O.B.E."
1895 ~ 1987 Fel amryw o fechgyn Llyn
penderfynodd Hugh Roberts o Argraig Edern, wneud gyrfa iddo’i hun ar y môr.
Yn bymtheg oed aeth i ymuno a’r ‘Arvonian’, un o Longau Pwll Parc, Edern
ac o’r cychwyniad yna fel ‘mess-boy’ aeth yn ei flaen i gael gyrfa
llewyrchus a llwyddianus ar y môr a chael ei anrhydeddu gyda’r O.B.E. am ei
arweinyddiaeth a’i wroldeb yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cofnododd Hugh Roberts
ei yrfa ar y môr yn fanwl iawn ac rydym yn ffodus fod ei deulu wedi caniatau i
ni roi ei hanes ar y wefan. Ynddynt ceir llawer o bigion diddorol iawn ar sut
fyd oedd hi ar longau yn y cyfnod yma o 1910 – 1942. Mae yr hanesion yma yn
ddarlun byw iawn o fywyd morwrol pan oedd y diwydiant yn ei anterth a bron bob
teulu yn Llyn efo llongwr neu ddau yn eu mysg. Yn wir mi fu tri o hogiau Argraig,
Edern ar y môr Wil, Hugh, a Jack. Ceir hanes Hugh Roberts ar longau yn amrywio
o ‘Tramp Steamers’ i Danceri ble bu yn Feistr arnynt. Llongau i’w hofni
gan longwyr oedd ‘Tankers’ adeg Rhyfel ac roedd colledion bywyd arnynt yn
aruthrol. Yn Saesneg ysgrifennodd Hugh Roberts ei hanes a rhag tynnu dim o’r
gwreiddiol rydym wedi eu gadael felly, ac mae yn fraint gennym eu cyflwyno yma. ~~~~~~~
~~~~~~~ The Memoirs of Capt Hugh Roberts O.B.E.
~~~~~~~
~~~~~~~ Fe hoffwn ddiolch i deulu y diweddar Captan Hugh Roberts am gael defnyddio'r hanes gwych yma. |
|
Copyright © Rhiw.com |