
"Y Bristol"
~~~~~~
Bro Llanfaelrhys a'i thrigolion,
Hwy sy' dystion o sad waith,
Yn Mhorth Ysgo, a wnaeth cryfdwt
Gwynt a chynwr' llifddwr llaith
~~~~~~~~~~~
Ei llwyth oedd haiarn, crynion folltau,
Goreu darnau o Gaerdydd
I'w dadlwytho yn nhre Lerpwl
Oes i feddwl -- sy'-- a fydd,
Mai dyna'r achos i gylchnodwydd
Eu harweinydd, ddydd y daith,
Dueddu i'r ddwyreiniol ddryghin
Yn lle at hin gorllewin llaith.
Ieuan Llyn.
|
Yn Porth Ysgo ar y16eg o
Rhagfyr 1819, daeth y "Brig" Bristol a'i chriw i ddiwedd trist iawn.
Roedd ar ei ffordd o Gaerdydd i Lerpwl efo llwyth o haearn, pan gafodd ei dal
mewn storm fawr ai gyrru ar y creigiau. (Credwn fod ei llwyth o haearn, wedi
effeithio ar ei chwmpawd, a dyna pam ddaeth y Bristol mor bell oddiar ei chwrs)
Llwyddodd Captan William Williams ei fab ifanc a
criw o bedwar ddengid mewn cwch bychan, ond cyn cyrraedd y lan fe suddodd y cwch
a chollwyd pawb ond un sef Robert Owen o Gaergybi. Golchwyd eu cyrff i'r traeth.
Ac fe roddwyd eu cyrff yn Eglwys Llanfaelrhys. Claddwyd Capt Williams ai fab yn
fynwent Dyneio ym Mhwlleli. Y criw oedd Robert Humphreys, Caernarfon. Lewis
Jones, Bermo, a William Benjamin o Gaer. Aeth Robert Owen yn ei flaen I fod yn
ddyn crefyddol iawn, ac yn trafaeilio o amgylch Cymru yn pregethu’r efengyl i
forwyr.
|
|
"Brig"
~~~~~~~~
"Bristol" |
"Porth Ysgo" |
"Llanfaelrhys" |
"Eglwys Llanfaelrhys" |
~~~~~~~~
Other Shipwrecks
Stuart
Sorrento Newry
Twelve Apostles
Cyprian
Monk Timbo
Amy Summerfield
Brig Ann