|
|
"Llongddrylliadau ar arfordir Lleyn" Dechreuwn gyda’r Newry o Newry pa un oedd ar ei thaith o’r Ynys Werdd i Awstralia, gyda llwyth o deithwyr ar ei bwrdd fe ddywedir fod y teithwyr lawer ohonynt wedi eu cloi yn eu cabanau gan y cadben. Oni bai am un Dafydd y Morfa ddod i’r lle buasai llawer mwy wedi colli. Roedd yno un foneddiges yn ceisio cael ei hachub, daeth rhyw ddyn cryf a’i gwthio o’r naill dy, ond gafaelodd Dafydd y Morfa ynddo a bwriodd ef i’r dyfnder. Mae medal Dafydd am ei ddewrder ar gael yn Tirhobed, Bodferin, bu’r cyfryw yn fy llaw. Un arall oedd llong a llwyth o goed o’r enw Dunahoe ddaeth i’r lan o dan dir y Fferm Porthgolmon i le a elwir yn Porthwen Fach ger y lle y byddwn yn arfer pysgota gwrachod, enw’r lle oedd Stol William Sion, Clywais Owen Sioni Sion yn adrodd ar ol ei fam fod y cadben wedi ei gladdu yn yr alltmor, a bod un o’r dwylo wedi pasio y bedd a dweud Nid am dy ddaioni wyt ti yma. Clywais hen wr adwaenwn yn dda ei fod un noswaith yn niwedd Hydref 1859 yn myned ar neges a’r gwynt yn crasu o’r dwyrain a rhyw ddwsin o schooners yn troi yn ol a mlaen am gysgod tir, yn sydyn tua hanner nos daeth gwynt fel ergyd i’r gogledd ac roedd yn ddiwedd ar y llongau, aeth llawer ohonynt lawr wrth eu hangorion, eraill yn sgyrian ar gerrig y trai, un yn unig ddihangodd trwy swnt Enlli a glaniodd yn y Cei Newydd yn ddiogel, bu’r golled ar fywydau yn drwm iawn. Yr un noswaith daeth llong hwyliau Ysbaenaidd i’r lan ger Porthgolmon gyda llwyth o siwgr ynddi, daeth y criw i’r lan ar y pwp pa un a dorrodd yn rhydd. Un yn unig a gollodd ei fywyd. Dynion creulon iawn oedd y rhai hyn, yr oeddynt yn cario cyllill ar eu cyrff ac yn eu defnyddio ar eu gilydd. Clywais yr hen wr y cyfeiriais ato o’r blaen yn adrodd fel yr oeddynt yn claddu yr un a fu foddi ym mynwent Llangwnadl, ac yr oedd y torrwr beddau wedi gwneud y bedd yn fyr, fel roedd yr arch yn gwrthod myned i lawr. Ar amrantiad neidiodd un o’r criw ar y caead, roedd yr offeiriad yn ddyn cryf iawn a gafaelodd yn y dyn a chododd ef i fyny yn ddioed. Fe gofir yn ddiau mae’r noswaith hon y drylliwyd y Royal Charter ar greigiau Mon, Arferai’r hen bobl ddweud ei bod mor wyllt, na welsont y fath beth yn eu byw. Ar noswaith ystormus iawn yn Hydref 1870 (adeg rhyfel rhwng yr Ellmyn a’r Ffrancod) roedd llong dri hwylbren (full rigged ship) yn y sianel wedi torri ei hwylbrenni i lawr ei henw oedd y Sorrento, a chafodd ei hyrddio i’r lan yn erbyn creigiau melynion Porth Ty Mawr, Llangwnadl. Roedd ar ei thaith i New Orleans gyda llwyth o gymysg nwyddau, darfu i un o’r criw roddi rhaff am ei ganol a neidio i’r mor, ond buan iawn roedd y tonnau yn drech nag ef a bu foddi, yna darfu i’r gweddill aros yn y llong er disgwyl i’r trai ddod, a chyn hir daethant i dir yn ddiogel a cheisio ymlwybro yn y tywyllwch, a daethant i fferm Ty Mawr. Roedd fy mam a’i brawd gyda eu nain yn y ty. Yr adeg yma roedd rhyw son ar led fod y Gwyddelod yn bwriadu ymosod ar dir Cymru a phan glywodd fy hen nain y twrrw dyma hi yn gwaeddi ar fy mam “Cadi maent wedi dwad” (sef y Gwyddelod) a dywedai “Fe neidiwn i lawr trwy ffenestr y cefn o’u blaen” ar hyn cododd fy ewythr a chafodd hyd i rhyw hen fseged oedd yn y lle a cherddodd i lawr y grisiau, a rhoddodd y gwn yn erbyn y palis ac agor y drws a dyma’r Iancis i mewn yn wlyb diferyd. Ni fedrai fy ewythr un gair o saesneg, a’r hyn wanethant oedd rhoi blwch matsys ar y bwrdd a rhoddi tair matsen arno a’i redeg ar hyd y bwrdd yn erbyn y pared, a daethant i ddeall eu gilydd. Yn ddilynol anfonasent rhyw hogyn o wasaedd i gyrchu rhyw ‘Tamiwaresman’ (?) oedd yn byw yn agos oedd yn deall Saesneg. Wedi rhoi ymgeledd i’r morwyr aethant i chwilio am y llong a’r peth cyntaf a ddywedodd Ellis yr Erw oedd “Myn diawl Sionyn fe wnawn ein ffortiwn rwan”. Yn 1881 y bu’r llongddrylliad nesaf. Roedd yn agerlong yn perthyn i’r Leyland Line o’r enw Cyprian oedd ar ei thaith o Lerpwl i Genoa, gyda llwyth o gymysg nwyddau. Pan allan o Gaergybi collodd ei llyw a daeth rhyw gam hwyliau ar y peiriannau. Rhoddasant ychydig hwyliau arni, cofiaf yn dda ei gweled yn y man a’r diwedd fu iddi gael ei hyrddio yn erbyn creigiau Rhosgor. Roedd saith ar hugain o griw arni ac un ‘stowaway’. Enw ei chadben oedd John Strachan Lerpwl, yr hwn roddodd ei lifebelt i’r stowaway, pa un a’i collodd yn fuan ond daeth i’r lan yn ddiogel, boddodd y cadben a phedwar ar bymtheng eraill. Pa rai sydd wedi eu claddu gyda’i gilydd ym mynwent Eglwys Edern, ond cludwyd y cadben i Lerpwl. Llong ‘Luther’ o’r Alban gafodd ei dryllio Ym Mhorth Iago Noson dywyll oedd Ionawr 24ain 1884, pan drawodd corwynt arswydus lannau Llyn. Yn brwydo’r elfennau ac ar drugaredd y dymestl roedd brig Albanaidd y ‘Luther’, fe’i cofrestrwyd yn Dundee ac roedd yn 600 tunnell. Roedd arni naw o griw, wyth o’r Alban ac un o Bortiwgal. Allan o’r naw yma dim ond pump lwyddodd i ddod i’r lan a chael eu hachub pan luchiwyd y ‘Luther’ ar y creigiau a’i malu’n racs. Tua dau y bore ar y 25ain cyrhaeddodd dau o’r criw ffermdy Ty Mawr, wedi ymladd yn llwyr, mi ddywedon nhw eu bod wedi gadael dau arall i farw ar y ffordd i fyny, ond pan aethpwyd ati i chwilio fe ddarganfuwyd y ddau a dod a nhw’n ddiogel i Dy Mawr.Y rhai gafodd ei hachub oedd y mate, hen fachgen, y cogydd a dau longwr sef Gilbert Ross a John Jeness. Mi foddodd y Capten John Duncan a’i fab, canfuwyd corff ei fab ugain milltir i fyny’r arfordir yng Nghlynnog. Achubwud bywyd un gwr wrth iddo ddal gafael yn ‘nhanc bisgedi’r llong’ a daeth i’r lan ar ol hir a hwyr. Llwythwyd y llong yn Dundee efo amrywiol nwyddau ac roedd ar ei ffordd i St John’s Newfoundland. Ymhlith y nwyddau roedd cwrrw a ‘stout’ yn ogystal a whiskey mewn casgenni 40 neu 60 galwyn yr un. Ni bu un llongddrylliad ar ol hynny hyd 1901, pryd y daeth y barque Stuart o Lerpwl i’r lan yn yr un fan yn union a’r Sorrento. Keel y ddwy yn croesi eu gilydd a hefyd daeth y sgwner William and Jane o Borthmadog gyda llwyth o lechi i’r un fan yn union.
Stuart Cychwynodd Y Stuart ar ddydd Gwener y Groglith 1901 gyda llwyth o gymysg nwyddau o Lerwpwl yn rhwym am Wellington a Dunedin, New Zealand. Mae yn gred ymysg y morwyr mai diwrnod anlwcus i gychyn yw dydd Gwener bob amser. Roedd y cadben a’r ddau fate yn ifanc a di brofiad, ac mae’n ddiau mai y diffyg profiad fu yn rheswm i’r llong hon ddod i’r lle y daeth. Ar y cycheyn yr oeddynt ar y dechrau yn disgwyl ei chael oddiyno, ond ymhen yr wythnos daeth awel o’r man a buan iawn y darfu i’r hwylbrenni ei hagor, ac ni welwyd y fath gyflawnder o nwyddau ag a oedd ar hyd y creigiau y bore hwnnw, digon o ganwyllau, matches, llestri o bob math, digonedd o whiskey a stout. Chollodd neb mo’i fywyd gyda’r drylliad yma. Mae’n debyg mai gyda’r Newry, llongau Porth Oer, y Luther a’r Cyprian y bu y golled fwyaf mewn bywydau. Gan mai agerlongau sydd yn ymlwybro’r moroedd y dyddiau hyn, hyn sydd i gyfri am anamlder y llongddrylliadau, pryd yr oedd yr hen longau hwyliau yn fwy tueddol i gael eu dal mewn cilfachau. Mae’r Bae hwn yn fynwent y môr. Hanes prudd am ddyddiau’r llongau hwyliau ddaw o Fae Caernarfon. Priodol iawn y gellid ei alw yn fynwent y mor, gan mor niferus y llongau a’r bywydau a gladdwyd dan ei donnau. Prin gofir bod ei safle yn gwbl agored i holl ruthriadau ystornydd o’r Iwerydd a’r drafinidiaeth forwrol oedd rhwng Mor y Gwyddel a’r holl fyd, ni ellid na ddeuai dinistr mawr ar longau’r cyfnod hwnnw – llongau llawer llai na’r rhai yr ydym ni yn gynefin a hwy heddiw. Er lleihau ei beryglon yn y nos fe adeiladwyd goleudy mewn lleoeodd manteisiol, ac angorwyd goleulong yng nghanol y bae i luchio eu goleuni llachar a rhybbuddiol ar y tonnau bygythiol. Diau yr arbedwyd llongau a bywydau lawer trwy ei fflachiadau. Yr oedd tri bywydfad hefyd mewn gorsafoedd hwylus ac agos i estyn cymorth i longau a fyddai yn galw amdanynt. Ceir cronicl o ddewrder mawr ynglyn a’h gwaith achubol. Er popeth a wnaethpwyd erys yr hanes yn un trist iawn. Llong Cenhadwr. Yn un o’i lyfrau edrydd Hudson Taylor y Cenhadwr hanes ei daith mewn sgwner fechan o Lerpwl i China. Pan oeddynt rhwng Caergybi ac Enlli, disgynndd storm enbyd o orllewinwynt ar y llong gan ei churo i Fae Caernarfon. Pan oedd y llong bron ar daro creigiau pentir Mon, newidiodd y gwynt ei gyfeiriad, ac arbedwyd y llong rhag trychineb a allasai fod yn alaethus iawn. Ni bu’r llongau a enwir yn y restr isod mor fodus. Yn 1817 dryllwyd llong ger Porthdinllaen a bu’r holl ddwylo foddi. Yn 1820, Awst 5ed suddodd cwch fferi Caernarfon a chollwyd 24 o fywydau. Yn 1830 collwyd llong emigrant a oedd yn rhwym i’r America gyda phedwar cant o deithwyr. Suddodd ger Ogof Newry, Llyn a chollodd nifer eu bywydau. Enw’r llong oedd Newry. Awgryma mai’r trychineb a roes enw i’r ogof. Yn 1832 ger creigiau Morfa Trwyn Glas, Llyn drylliwyd y llong Rossey of Ireland. Achubwyd y dwylo oll. Llwyth o foch. Yn 1833 ar daith o Borthdinllaen i Lerpwl gyda llwyth o foch, suddodd y slwp ‘sea Hawk’ ger Aberffraw. Achubwyd y dwylo. Yn yr un flwyddyn suddodd y sgwner ‘Sceptre’ ym Mae Caernarfon. Collwyd pump o fywydau. Yn 1843, Ionawr 7fed, ar ei thaith o Borthdinllaen i Lerpwl gyda llwyth o foch drylliwyd yr agerlong Monk ar far Caernarfon. Yr un flwyddyn, ger Pistyll drylliwyd llong o’r enw Sappho ac ar yr un dydd curwyd deuddeg o longau i’r traeth ym Mhorthdinllaen. Yn 1844 suddodd y barque Scotland ym Mae Caernarfon, hefyd y slwp Prosperity a’r brigantine Lady Raffles a barque arall o’r enw Bob a’r llong Oakland ym Mae Caernarfon. Boddi pawb. Yn 1846 collwyd brigantine berthynol i Glasgow ym Mhorthdinllaen, a bu’r holl ddwylo foddi. Yr un flwyddyn collwyd hefyd brigantine o’r enw Alsborough ym Mae Caernarfon. Yn 1847 ym Mae Caernarfon collwyd y frigantine Leori y sgwner Cambrian Maid a llong arall o’r enw John o Gaunt a’r barque Robert Bedford a bu foddi 39 o bersonnau. Yn 1848 ar far Caernarfon collwyd pilot cutter a bu’r holl ddwylo foddi. Yn 1849 bu’r llong William Turner golli ym Mae Caernarfon pan gollwyd yr holl ddwylo a sgwner o’r enw Mermaid yn swnt Enlli. Dwg enw swnt Enlli atgof imi a’m temtia i ddyfynnu a ganlyn o’r ‘Udgron Rhyddid’ am Rhagfyr 12 1888. Unig Fab. Y mae gennyf heddiw y gorchwyl galarus o gyhoeddi marwolaeth un o’r bechgyn ieuanc mwyaf addawol sef R. O. Griffith unig fab Mr a Mrs Richard Griffith, Croeshigol Terrace, Trefor. Morwr oedd Mr R. O. Griffith a phan oedd ar ei fordaith o Plymouth goddiweddwyd y llestr ag awel gref, nes cario y rhan fwyaf o’r hwyliau ymaith, yn ogystal a phob peth oedd ar ei bwrdd, a chan fod y bulwark wedi cael ei ddryllio, a’r llong yn hanner llawn o ddwfr (oddeutu saith troedfedd) nid oedd gan y trueiniad ddim i’w cysgodi rhag y tonnau ffrothwyllt oedd yn golchi drosti, a phan oedd yn y cyflwr hwn collwyd ef a’r capten dros y bwrdd i’r mor. Llwyddodd yr olaf i ddal ei afael mewn rhaff a chael ei hunan i fewn drachefn, ond methodd ef. A’r cwbwl welwyd oedd ei gap ar y wyneb y don. Digwyddodd hyn y 3ydd o Ragfyr 1888 pan ydoedd y llong oddeutu dwy filltir o Ynys Enlli. Yr oedd yn ddeunaw oed. 1850 drylliwyd ar far Caernarfon y ddwy farque Aurora a Tartar a chollwyd ei dwylo i gyd. Yr un flwyddyn ger Porthoer suddodd slwp o’r enw Eifion. Yn 1851 drylliwyd tair brigantine ym Mae Caernarfon sef Onward, Franconia a Juno yng nghyd a llong o wlad Groeg. Yn 1852 collwyd y frigantine Athenia ar far Caernarfon a’r sgwner Silah ym Mhorthdinllaen. Yn 1854 collwyd yr agerlong Olunda ger Caergybi yn 1855 drylliwyd llong o’r enw Barthenor ym Mae Caernarfon. Yn 1856 y llong William Carey mewn distres ym Mae Caernarfon – llong a adeiladwyd ym Mhwllheli yn 1849 ac a gludai 656 o dunelli. Yn 1857 suddodd y barque Sally ym Mae Caernarfon pryd y collwyd 15 o fywydau. Fflat Huw Puw a storm y Royal Charter. Yn 1858 tu allan i Fae Caernarfon drylliwyd yr Ann fflat Huw Puw, ger Ynys St Tudwals adeiladwyd hi yn Frodsham yn 1795. Yn 1859 Hydref 26ain dyddiad awel y Royal Charter. Yn yr ystorom hon drylliwyd un ar ddeg o longau ar lannau Llyn – llong o Sbaen ym Mhorth Colmon, sgwner ym Mhorth Felin, naw o longau ym Mhorth Oer, a cholllodd dwylo saith ohonynt eu bywydau. Yn 1863 drylliwyd y sgwner Bardsey ym Mhorthdinllaen. Yn y flwyddyn hon y cyflwynwyd i Robert Rees penllel, fedal bres yr RNLI am achub 23 o fywydau rhag boddi mewn llongddrylliadau. Yn 1866 (Rhagfyr 6) collwyd y sgwner Henry a Catherine ym Mhorth Neigwl. Achubwyd un o’r dwylo o’r enw Dafydd Williams, Penrhos. Tua’r un adeg ym Mhorthdinllaen collwyd y brigantine Columbia. Daw lleiahad yn y llongddrylliadau y blynyddoedd nesaf. Oherwydd cynnydd yr agerlongau, a chilio o’r llongau hwylio lleiaf o’r mordeithiau pell. Mewn blwyddyn ddiweddarach bu trychineb mawr ym Mhorthdinllaen pan ddrylliwyd y Cyprian. Byddai son didaw pan oeddwn yn hogyn amdani. Ceid hanesion anhygoel am yr olwg oedd ar y traeth pan olchwyd ei llwyth i’r lan. Y Lady Hinks a’r bywydfad. Yn 1882 drylliwyd y barque Lady Hinks ger Trefor. Pan oeddwn yn hogyn yr oedd ei henw yn wybyddus i bob plentyn yn ardaloedd glannau’r mor ym mhlwyf Llanaelhaiarn a Chlynnog, oherwydd yn bennaf a ddigwyddodd i fywydfad Trefor wrth geisio ei achub ei dwylo. Y bore oedd hi pan welwyd llong yn y bae, ar ol noson ystormus enbyd o wynt o’r gogledd orllewin. Yr oedd yn amlwg ei bod allan o lywodreath y capten. Ei hwyliau wedi eu cario ymaith gan y gwynt a’i llyw heb un bwrpas iddo gan gynddaredd y tonnau. Yr oedd yn nesau yn gyflym o flaen y tonnau tua chreigiau Clogwyn Morfa (Trywn Tal ar hen fapiau) pan clywyd ergyd yn galw ar ddwylo’r bywydfad. Rhuthrodd pawb o’r pentref yn wyr a gwragedd a phlant tua’r traeth. A chynifer ac oedd wedi cyrraedd y chwarel, dychwelasant yn ol i chwyddo’r dorf, oedd ar y cei, ac mewn safleodd agos i weled y bywydfad yn myned ar ei neges ddyngarol. Nid oedd amser i golli; yr oedd y llong bron cyrraedd ei dinistr. Codwyd ei hwyliau coch gyda’i fod yn glir a’i gar. Troi. A phawb yn dal ei anadl ymaith ag ef i ganol y tonnau trochforiog a ruthrai heibio blaen y cei. Nid cynt nad oedd ei flaen yn y trochion nad oedd wedi ei ddymchwelyd a’i wyneb isaf a’i hwylbrennau yn ei atal i ddod yn ol ar ei gel. Daliodd rhai eu gafael yn y bad, a daethant i dir yn ddiog. Golchwyd y gweddill gan y tonnau i’r lan, ac achubwyd y cwbwl. A holl sylw y cannoedd edrychwyr ar y bywydfad yn y cyfamser yr oedd y llongwyr y llong oedd mewn perygl wedi llwyddo i ollwng cwch i’r tonnau a’u cael eu hunain ynddo, bymtheng ohonynt a’i lanio yn wyrthiol ar raean y traeth wth aber afon y Morfa. Yno y bu. Trawodd y llong ar y creigiau gan ymguro yn ei herbyn nes daeth llanw i’w symud a’i gadael ar y traeth rhwng y Clogwyn a’r cei. Symudodd yr ail lanw hi drachefn heibio’r cei i gysgod gwell. Ac yno y gorweddodd nes ei thorri fyny gan garpentwr o Aberdesach a’i prynodd gan gwmni yswiriant. Daeth elw nid bychan i ffermwyr yr ardal trwy y drylliad. Nid oedd adwy yn y fro nad oedd rhannau o’r Lady Hinks ar ei thraws ymhen blynyddoedd ar ol y digwyddiad. ********* |
|
Copyright © Rhiw.com |