|
|
"Llongau a ddrylliwyd yn Llyn" (Gan Megan Mai, Abersoch, Herald, Chwefror 27, 1956) Flynyddoedd yn ol arferai lawer iawn o longau hwyliau hwylio o gwmpas gwlad Llyn – hwn oedd y prif foddion i gludo glo, blawd, plwm a haearn i mewn ac allan. Golygfa gyffredin oedd gweled tua dau ddwsin neu fwy o longau yn ‘Roads’ Abersoch, a diddorol ydyw gwrando ar hen bobl yn adrodd hanes am y rhai a aeth yn ddrylliau ar yr arfordir. Dyma hanes amryw o longau a gollwyd rhwng y flwyddyn 1879 a’r flwyddyn 1925. Aeth yr ager long Sorrento yn ddrylliau ym Mhorth Ty Mawr, rhwng Bodferin a Phorthgolmon, yn y flwyddyn 1870. Llwyddodd y dwylo i ddianc i’r lan. Tua’r amser yma yr oedd ar hen drigolion gwlad Llyn ofn y Gwyddelod yn arw, gan y credent yn sicr y meddianent y wlad. Pan ddaeth y llongwyr oddiar y llong i’r lan, yn naturiol aethent i guro wrth ddrysau’r tai agosaf. Gwrthododd yr ardalwyr agor iddynt gan ei bod yn siarad Saesneg. Tybiasent mai Gwyddelod oeddynt, a hwythau druan bron rhewi yn ei dillad gwlybion. O’r diwedd llwyddasent i’w cael i ddeallt beth oedd wedi digwydd, a chawsent bob ymgeledd. Neidio ar yr arch. Ymhen ychydig o amser wedyn aeth llong Sbaenaidd o’r enw ‘Villa’ yn ddrylliau ym Mhorthcolmon. Boddodd un o’r dwylo a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Bodferin. Dywed hanes wrthym fod y torrwr beddau wedi torri’r bedd yn rhy fyr, ac yr oedd yn anodd cael yr arch i mewn, dim ond at yr hanner. Neidiodd un o’r morwyr ar gaead yr arch gan feddwl ei gael i’r gwaelod. Gwylltiodd y Person yn enbyd wrtho am hyn,a chododd ef gerfydd ei wddf a rhoddi hergwd iddo yn ddigon pell, ac aeth y gwasanaeth yn ei flaen. Aeth y sgwner Kenilworth, Lerpwl yn ddrylliau ar drwyn Porth Caeriad, ger Abersoch, ym mis Ionawr 1870: achubwyd y dwylo, ond collwyd y llong a’r llwyth. Collwyd y llong ‘Ireland’ hon o’r tu allan i ynysoedd St Tudwals, Abersoch ar Ionawr 1872. Ac aeth y Maria (Aberystwyth) yn ddrylliau ym mae Abersoch yn y flwyddyn 1872. Collwyd y llong fechan ‘Prosperity’ (Porthmadog) ym Mau Ceredigion ar ei mordaith o Abersoch i Borthmadog gyda llwyth o blwm (o un o weithfeydd yr ardal) yn 1873. Collwyd y ‘Jane and Helen’ (Nefyn) ar greigiau Porth Caeriad yn 1873. Cnwd Tatws. Rhedodd y ‘Persa Veronica’ i’r lan ym Mhorth Neigwl yn 1877. Llong o’r Eidal ydoedd. Tua’r un adeg aeth llong arall ‘Idea’ yn ddrylliau ym Mhorth Neigwl. Achubwyd y llongwyr ond collwyd y llwyth – llwyth o datws o’r Iwerddon. Golchwyd rhai cannoedd ohonynt i’r lan, a chasglwyd hwynt gan y trigolion a’u plannu yn eu gerddi, a chafwyd cnwd ardderchog y flwyddyn honno yn ol yr hen hanes. Llong fechan yn perthyn i Lerpwl oedd y ‘Dusty Miller’ fe’i collwyd ger Porth Caeriad yn 1878. Ugain yn boddi. Aeth yr agerlong Cyprian yn ddrylliau ar y creigiau ger Porthdinllaen yn ystod storm enbyd ar Hydref 14eg o Hydref 1881. Boddodd ugain o’r dwylo ac achubwyd saith a ‘stowaway’. Claddwyd pedwar ar bymtheng yn yr un bedd ym mynwent plwyf Edern. Aethpwyd a chorff y capten i’w gladdu i Lerpwl. Mae hanes torcalonus iawn ynglyn a’r digwyddiad hwn. Pan oedd y morwyr yn ymladd am eu bywyd yn y tonnau gwyllt, gwelodd y capten ‘stowaway’ bychan bron suddo yn y dwr. Taflodd ei ‘lifebelt’ iddo gan weiddi “Take this my boy, I shall be able to swin to shore”. Achubwyd y bachgen. Ond boddodd y capten dewr. Credaf mai diddorol yw dweud imi glywed ewythr imi – capten llong yn dweud iddo gyfarfod y ‘stowaway’ hwn pan oedd yn dod gartre fel teithydd ar un o’r liners o’r America yn ystod Rhyfel Mawr 1914 – 18, ac iddo gael sgwrs ag ef. Yr oedd wedi dod yn ei flaen yn y byd ac wedi dringo i fod yn swyddog. Ar Sarn Badrig. Aeth yr ‘Inveresh’yn ddrylliau ar Sarn Badrig yn 1889. Perthynnol i Lerpwl ydoedd. Achubwyd y dwylo, ond collwyd y llong. Rhedodd llong fechan ‘Fosil’ i’r lan yn nhraeth Castellmarch (Warren Beach yn awr) yn 1889. Yr oedd darn ohoni i’w gweld ar y traeth yn ddiweddar, pan fo’r mor ar ddistill. Aeth Emily of Cardiff yn ddrylliau yn Nistull y Cim heb fod ymhell o Borth Neigwl yn y flwyddyn 1893. Gwerthu’r Blawd. Rhedodd y Faith i’r lan ym Mhorth Neigwl yn 1896. Llwyth o flawd oedd ynddi. Achubwyd y dwylo a rhan o’r llwyth a gwnaed arwerthiant ar y blawd ar y traeth. Prynodd bron bob teulu yn yr ardal beth. Mae darn o haearn o’r llong yma i’w weld hyd heddiw o dan Nant Trefollwyn. Tua’r un adeg rhedodd llong fechan o’r enw Twelve Apsotles i’r lan ym Mhorth Neigwl a dyna oedd yr hwyl gan drigolion y cylch – fod y deuddeg apostol wedi glanio yn Safn Uffern. Torri’n rhydd. Yn ystod storm enbyd ym mis Hydref 1896, yr oedd llawer o longau wedi bwrrw angor ym mau Abersoch – y ‘Roads’ ond torrodd amryw ohonynt yn rhydd gan redeg o flaen y gwynt. Aeth pwmp un yn dipiau ond achubwyd y dwylo. Drifftiodd tair arall i’r ochr arall i fae Ceredigion – ar draeth Abererch a buont yno fisoedd cyn gallu cael digonedd o ddwr i’w hwylio oddi yno. Clywais ddweud gan rai oedd yn fyw yr adeg honno fod y mor wedi golchi dros Ynysoedd Tudwal y diwrnod hwnnw, a theuleuoedd y morwyr ar y lan yn edrych arnynt yn brwydro yn erbyn y gwynt a’r mor, nes bron mynd yn wallgof. Enwau y llongau a gollwyd oedd: Gibson (Fleetwood), Rare Plant, Mouse (Cardigan), John (Padstow), Tapaz (Milford) S Scott (Newport). Whisgi. Aeth y Stuart yn ddrylliau ar greigiau Porth Ty Mawr nos Sadwrn cyn Pasg yn y flwyddyn 1901, gyda llwyth o general cargo – chwisgi !! Golchwyd llawer o’r llwyth i’r lan ac arferai trigolion y glannau godi’n fore i fynd i’r traeth i chwilio am ysbail yna ei guddio o’r golwg. Methodd yr heddwas na swyddogion y tollau wneud dim ohonynt. Mae rhai yn dal i ddweud yn gryf fod peth o’r whisgi yma yng nghudd yn Llyn hyd heddiw. Aeth y Falcon a’r Unity yn ddrylliau ar yr un noson yn ‘roads’ Abersoch, ym mis Hydref 1909. Perthynai’r Falcon i Aberteifi a’r Unity i Beaumaris. Chwythwyd y ‘Silver Eagle’ ar y creigiau yn Henborth thwng Caeriad a Thrwyn yr Wylfa yn 1912. Mae’r lle hwn yn eithriadol o beryglus gan fod y creigiau bron yn hollol syth uwchben y mor mawr, a chyda gryn drafferth yr achubwyd y dwylo. Credaf i mi glywed mai llwch esgyrn a gariai ac nad oedd fawr gwaeth a phenderfynwyd ei godi i fyny i ben y creigiau gyda math o windlass, a bu’r anturiaeth yn llwyddianus. Cariwyd ef lawr i Abersoch mewn troliau, ac aeth llong arall ac ef yn ei flaen i ben y siwrne. Nid oedd yn bosib gwneud dim i’r llong a gadawyd hi i fynd yn ddarnau lle yr oedd. Cofadail. Drylliwyd y Mint ar Sarn Badrig yn 1924. Perthynai i Boston. Collwyd y ‘Millard Castle’ ar y Sarnau yn 1924. Heblaw’r rhestr uchod collwyd llawer iawn o longau eraill o dro i dro nad oes cyfrif amdanynt yn enwedig yn ystod blynyddoedd y ddau ryfel. Golchwyd amryw o gyrff i’r lan, ar y gwahanol draethau. Daeth nifer fawr i’r lan ar draeth Prth Neigwl yn ystod y Rhyfel Fawr gyntaf. Ac Mae cofadail hardd ar fedd rhai ohonynt ym mynwent Llanengan wedi ei chodi trwy haelioni trigolion yr ardal.
|
|
Copyright © Rhiw.com |