|
|
S
S Exford
Port Said
Aipht
July 8, 1911 Hannah
Anwyl Ffrind, Wele fi yn cymeryd y pleser o anfon gair atat gan fawr obeithio dy fod yn gwella yn dda erbyn hyn. Mae yn dda iawn gennyf allu dweud fy mod i yn cael iechyd rhagorol ers pan ydwyf wedi dod i’r llong yma. Mi rwyf ymysg pobl diawledig rwan, y dynion yn gwisgo trowsus pais a dillad fel merched a rhai hynnu yn fudr ag yn dyllau i gyd, a’u traed yn noeth, yn waeth yr olwg nag oedd Evan Ty Rhedyn ers talwm. Mi fasai yn werth chweil i ti glywed hwy yn ganu, mi driaf gofio erbyn y dof adref. Mohametaniaid ydynt bron i gyd, rhywbeth tebyg i hyn yw ei iaith, ‘ hi, ha, ba bu, burbusbach,’ dyma bore da, ‘ Sgildbach slide’, nos da ‘ Sigdrag Slide’. Dyma i ti le Hannah digon a dychryn neb, mi fuasai Tom dy dad yn deud pethau rhyfedd pe yn gweled pethau fel hyn. Anwariaid ydynt yn credu pethau rhyfedd iawn.
Mae yma
lawer o longau o Loegr, mi fum ar long lle mae Bob Plas ynddi neithiwr, mae John
Pen y Fron wedi gadael ac mae Bob wedi cael ei le. Mae y llong roedd Wil y Gefn
ynddi yn fy ymyl. Mae yma bawb yn ffeind iawn wrthyf, nid ydym yn gwybod eto i
ba le y byddwn yn mynd oddiyma ond fe fyddwn yn hwylio un ai i’r India neu Y
Mor Du dydd Mawrth nesaf. Wel
yr hen ffrind rhaid i mi derfynu gan obeithio y caf dy weled yn fuan, fe allai y
deuaf adref o Gaerdydd os bydd y llong yma yn aros yna am rhyw wythnos. Cofia fi
at bawb yna yn y modd mwyaf caredig,
A chynes,
Ydwyf dy ffyddlon ffrind,
Wil, At Hannah. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Fe farwodd Hannah druan ar Ragfyr 15 1915, yn ddeg ar hugain oed, (Gweler yn Nyddiadur John Williams, Talafon) ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Diolch i Mr & Mrs R Williams, am y Llythyr yma. |
|
Copyright © Rhiw.com |