~~~~~~~~~~
Dyma ddyfyniadau o ddyddiadur John Williams Talarfon ceir ynddo
ddarlun diddorol o’r ardal , bob sul mae yn rhoi lawr gyfeiriadau o’r
Beibl tybiem mai hyn yw testun y bregeth ?.
~~~~~~~~~~~
Ionawr 1af
Hogyn bach yn Bryndifir.
Ionawr 3ydd
Evans, DS Jones. Judas 1, 21. Genesis 17, 10(a).
Ionawr 4ydd
Wms yn precethu yn Nebo ..Marc 8, 18.
Ionawr 9.
Pwyllgor y Gymdeithas Ddiwylliadol yn cyflwyno tysteb,
inkstand, a dressing case i Wms ar ei ymadawiad.
Ionawr 10.
Evans.. Effesiaid 3, 20.
Ionawr 11.
Buom yn cymdeithas ddiwylliadol Tyddyn Wms yn cael tysteb yno.
Ionawr 13.
Hugh Jones Trip wedi marw yn 92 oed.
Ionawr 14.
Wms yn pregethu yn Tanfoel Ioan 3 (3&5).
Ionawr 16.
Pwyllgor yr ymrysonfa cwn yn cyflwyno tysteb o £5 i Wms ar ei
ymadawiad.
Ionawr 17.
Myfyriwr o Fangor Mathew 25, 10.
DS Jones Psalm 112,4.
Ionawr 20.
Wm Anthony Pwllheli wedi marw.
Ionawr 23.
Wms yn cychwyn oddiyma am America.
Ionawr 24
Evans Marc 1, 17.
Ionawr 25
Gwraig Ysgo wedi marw.
Ionawr 27 Wms yn hwylio o Liverpool yn yr "Adriatic".
Ionawr 29
Y milwyr yn Aberdaron
Ionawr 30.
Wm H Sarn yn cychwyn at y Navy Reserve.Ethol 12 o Gwnstabliaid
yn y Rhiw.Submarine German wedi sincio 3 o longau lloegr yn agos i
Liverpool.
Ionawr 31
Evans Actau 9, 15
Tanfoel OJ Jones Rhostryfan Luc 19, 10.
Chwefror 1
Anne Tanycapel wedi marw.
Evans yn rhoi anerchiad i’r Gymdeithas Ddiwylliadol yn yr
ysgol.
Chwefror 4.
Pen y Stage wedi torri a dod i’r lan. Cyfarfod Pwyllgor
Llenyddol.
Y Cwnstabliaid ar lwc out heno yn y cwt ar ben y mynydd.
Chwefror 5
Cynhebrwng Anne Tanycapel.
Ar y lwc out heno eto.
Chwefror 7
Evans, DS Jones Diarhebion 10, 17
Chwefror 14
Evans Actau 2 17, DS Jones Mathew 5, 1.
Chwefror 15.
Cario grafel ar hyd lon Rhiw.
Chwefror 18 Beili yn gwerthu stage,
Chwefror 19
Y fuwch ddu wedi dod a llo.
Chwefror 20.
Cefais un oen bach.
Chwefror 21.
Evans Mathew 13, 33.
Chwefror 22.
Danfon y dynewad tew i John Llanbedrog £15.0.0.
Chwefror 26.
R Parry yn gwerthu coed y stage.
Chwefror 28
Evans Marc pennod ola 15.
Tanfoel T Wms Pwllheli Hebreaid 8 1&2.
Mawrth 5.
Buom yn Abersoch yn nol llwch.
Mawrth 6.
Y moch yn mynd i ffwrdd.
Mawrth 7 Evans heb ddod, DS jones Psalm 116, 15.
Mawrth 8
Yr heddlu ar look out yn Poth Ysgo.
Mawrth 11
Dau fochyn yn dod yma o Bwllheli.
Mawrth 12
Auction Tir y Plas.
Mawrth 13.
John Thomas Dreifar yn y Tower Pwllheli yn marw.
Mawrth 14
Evans Mathew 13, 33, 35. WP Owen yn yr Eglwys Jonah 3, 5.
Mawrth 15
Griff Jones Groeslon wedi marw yn 82 oed.
Ellen Llawenan wedi marw yn 62 oed.
Buom yn y Ffair newydd.
Mawrth 20 .
Griffiths Neigwl Newydd wedi gorffen y shed. Buom yn Pwllheli
yn y pwyllgor gymanfa a chael Beic newydd.
Mawrth 21
Evans Mathew 6, 2.
Mawrth 22
Gweinidog newydd wedi dod i Pisgah.
Mawrth 28
Evans Luc 8, 18.
Tanfoel RG Roberts Bethel heb ddod.
Mawrth 29
Beili yn marcio coed y stage.
Ben yn dod adra.
Mawrth 30
Buom yn Hebron yn gwylio’r arholiad.
Ebrill 1
Buom yn Abersoch yn nol
glo.
Ebrill 4
Evans Marc 6,48. Dewis arolygwyr yn yr ysgol Sul.
Ebrill 5
Cyfarfod chwarter yn Pisgah. Dafad dew i John butcher £1.15.0
Ebrill 6
Y beili yn gwerthu coed y stage y diwethaf
Ebrill 9
R Parry yn gosod tir y Tyrfelin. Buom yn Abersoch yn nol glo i
Tanymuriau.
Ebrill 11
Evans heb ddod.
Ebrill 12
Hogyn bach yn Penrallt.
Ebrill 15
Gorffen plannu tatws yn y weirglodd.
Ebrill 17
Concert yn yr ysgol.
Ebrill 18
Richards Ysgol ganolraddol Pwllheli Luc 17, 20, 21.
Ebrill 22
Troi y dynewad allan.
Ebrill 23
Plannu tatws yn Rhydbenganbach, clywais y gog.
Ebrill 24
Plannu tatws yn Tanymuriau. Cyfgarfod ysgol yr eglwys yn
Llangian.
Ebrill 25
Evans Mathew 20, 17.DS Jones Jerom 25, 28.Tanfoel Sydney Morris
Llithfaen.
Ebrill 27
Y fuwch las wedi dod a llo.
Ebrill 30.
Gorffen plannu tatws yn Tyngraig.
Mai 2
Evans Actau 9, 6
Mai 3
Jane Lizzie Tynymuriau wedi marw 8 oed
Mai 6
Oen tew i John Butcher £1.5.0.
Mai 7
"Luistania" wedi sincio gan y Germans 1457 wedi
boddi.
Yr heffar goch yn dod a llo.
Mai 10
Evans Petr 1, 13 DS Jones Rhufeinaid 1, 11.
Mai 10
Danfon y dynewad i Penbont Saithbont.
Mai 14
Dau fochyn tew yn mynd i ffwrdd i’r Sarn. Cyfarfod llenyddol
yn yr ysgol.
Mai 15
Dic yr Oil yn priodi.
Mai 16
Evans Joshua 8, 1
Mai 17
Ellis Davies yn yr ysgol yn annerch dynion dros yr ymrestru.
Hogan bach yn Tanymuriau wedi marw.
Mai 22
Buom yn y ffair. Y fuwch ddu efo tarw.
Mai 23
Glyn Davies Llaniestyn Luc 16, 31 DS Jones Actau 2, 16
Mai 29
Clirio huol y cychod
Ellen Penycaerau wedi priodi.
Mai 30
Wms gweinidog Penygroes Mathew 16, 25.Tanyfoel James Jones
Corswaen Jerom 6, 16.
Mehefin 5
Dechrau tynnu tatws newydd.
Mehefin 6
Evans Cenadwri y gwir broffwyd.
Mehefin 7
Ben wedi dal mecryll.
Mehefin 9
Dau fochyn bach yn dod yma o Bwllheli
Mehefin 10
Cneifio y
defaid.
Cymanfa Ganu Wesla yn Aberdaron Cneifio y
defaid.
Mehefin 11
Cymanfa ganu Methodistiaid yn Tudweiliog.
Mehefin 13
Davies Abererch heb ddod, cyfarfod ysgol sul yn Tanyfoel.
Mehefin 14
Buom yn Pothmadoc yn y Gymanfa Ganu.
Mehefin 15
Danfon oen myharen i H Tynlon £1.3.0
Mehefin 17
Dau oen tew i J Llanbedrog £1.5.0 y chwechfed.
Mehefin 18
Cymanfa Ganu yn eglwys Aberdaron
Mehefin 19
Cynhebrwng R Roberts Refail Sarn.
Mehefin 20
Myfyriwr o’r coleg Ioan 10, 10 DS Jones Mathew 6 2, 8.
Mehefin 23.
Margaret Post Llanor wedi marw (mam Evan Penponcyn)
Mehefin 25
Buom efo trip yr eglwys yn Caergybi yn y motor.
Mehefin 26
Ann Tanygraig yn priodi.
Mehefin 27
Wms Capel Helig Galat 2, 20. Tany foel G Parry Borth Heb 2, 3.
Mehefin 28
Pysgota Mecryll dal 148.
Gorffenaf 4
RW Jones Cilgwyn, Jerem 9, 23, 24
DS Jones John 3, 28
Gorffenaf 9
Dechra torri
gwair.
Gorffenaf 11
Evans Deuter 16, 1
Gorffenaf 12
Gorffen torri gwair yn Rhydbengan bach.
Gorffenaf 13
Cario gwair.
Gorffenaf 17
Dechrau torri gwair i Moses
Gorffenaf 18
Evans DS Jines Ruth 1, 1&2
Gorffenaf 19
Traction Carreg yn mynd i fyny lon Rhiw.
Gorffenaf 23
Tipio defaid
Gorffenaf 24
Cynhebrwng gwraig Brynmor Abersoch.
Gorffenaf 25
Evans Psalm 1, 3 Tanyfoel JJ Jones Pwllheli Ioan 6, 6,6,7
Gorffenaf 28
Y fuwch goch yn cael tarw
Gorffenaf 30
Pobl ddiarth yn dod i’r Plas. ‘Dewyrth wedi syrthio a brifo
ei fraich.
Gorffenaf 31
Flower show yn Sarn.
Awst 1
Evans DS Jones Rhif,8 3,5.
Awst 7
Roberts yn mynd i fyw i
Penyrogo.
Awst 8
Lloyd Rhosgadfan Datgudd 7, 17.
Cyfarfod yn Pisgah.
Awst 9
Trip yn mynd efo motor i
Llandudno.
Awst 10
Pysgota mecryll dal 300.
Awst 13
Gorffan cario gwair.
Awst 14
Flower show yn Tudweiliog.
Awst 15
Thomas Bethel Colossiaid 1, 12
DS Jones Luc 12, 15.
Awst 16
Rowland Trefollwyn bach wedi marw.
Awst 17
Griffith Roberts y Maes wedi marw yn 71 oed.
Awst 19
Mownti cwn
defaid.
WO yn darlithio yn yr ysgol ar y Cymro.
Awst 22
Evans
Awst 24
Hogan bach yn Parc y Brenin.
Awst 25
Myfyriwr o goleg Aberhonddu yn pregethu yn Nebo.
Awst 29
Evans.
Awst 30
Cario yd.
Medi 4
Buom yn Abersoch yn nol glo i Tyngraig.
Medi 5
O Owens Hebron Ioan 12, 3.
Awst 18
Y Sasiwn yn dechrau yn Pwllheli Margaret Tynmynydd wedi marw yn
Abersoch.
Medi 10
Wm Thomas Llanrwst yn Penmount, Mp Morgans Blaenannerch yn
llofft yr hall a J Williams Caergybi.
Medi 16.
Ceffylau Carrog wedi rhedeg a lladd Evan Pig y
Parc.
Gorffen dal mecryll.
Medi 18
Richard Ty Hen yn priodi.
Medi 19
Rhydderch Pwllheli Chronicl 28 , 9
DS Jones Psaln 62, 12
Medi 20
Daeth gair fod Wm Terfyn wedi marw mewn hospital yn y
Dardanells.
Medi 24
Pobl ddiarth y Plas yn mynd i ffwrdd.
Medi 25 Buom efo motor yn Bettws Garmon.
Auction yn Ty Hywel.
Medi 26
Evans Psalm 89, 1
DS Jones Josuah 3, 10.
Medi 29.
Parch Evan Jones Caernarfon wedi marw.
Hydref 3
Evans Luc 7, 19.
Dr Evans Abersoch wedi marw yn 36 oed.
Hydref 4
Diolchgarwch yn dechrau yn yr eglwys. Cyngor Plwyf am 7.30 Wm P
Owen heno.
Hydref 5
Sephard Jones Llanor Mathew 13, 24-30.
Hydref 8
Auction Trefaes. Rhoddi y ceffylau a’r lloiau i mewn. Tynnu y
cychod i’w cadw.
Hydref 10
Evans mathew 21, 16-19
DS jones Ioan 14.
Hydref 12
Auction Plas Newydd.
Hydref 15
Gorffan cario y rails a’r trucks o’r stage.
Auction Crugerran.
Hydref 17
Evans Psalm 141, 2
DS Jones, Ioan 1 19.
Hydref 18
Dydd Diolchgarwch. G Griffiths Hirwaen C.S. wedi marw neithiwr
mewn hospital yn Scotland.
Hydref 19
Gorffan cario rhedyn.
Auction Ty fair.
Hydref 22
Hogyn bach gan Lisa Tyn y Cae.
Gorffan tynnu tatws.
Hydref 23
Auction yn Bron Phylip.
Hydref 24
Evans Joshua 10, 11
Hydref 28
Cyfarfod gweddio yn y capelydd.
Hydref 29.
Cynhebrwng Wm Bodwi.
Hydref 31
Evans
Tanyfoel E O Roberts Golan Datd 21.
Tachwedd 1
Buom yn ffair Pwllheli.
Tachwedd 4
Tenant newydd yn dod i Siop Penrallt.
Tachwedd 7
Evans Buddiol fy nghystuddio o’r salm fawr.
Tachwedd 11
Hugh Rwttan wedi marw.
Tachwedd 12
Gwynt mawr o’r gogledd a glaw, dryllio coed o’r gwraidd.
Tachwedd 14
J.H Jones Wesla Eseciel 14, 12-14.
DS Jones 2 Corinthiaid 7, 6
Tachwedd 15
Buom yn cynhebrwng Hugh Rwtan.
Tachwedd 20
Llong awyr uwchben Mynydd Mawr.
Tachwedd 21
Glyn Davies Llaniestyn Petr i , 13.
Tachwedd 23
Traction Sarn yn danfon glo yma.
Gwraig Fantol wedi boddi ei hun.
Tachwedd 24
Traction yn danfon
glo.
Tachwedd 26
Y moch tewion yn mynd i ffwrdd.
Tachwedd 28
Evans
Tanyfoel O Jones Penmorfa Efesiaid 3, 16.
Tachwedd 29
Ellis Tanygraig yn gorffan mudo i Caer Mur.
Tachwedd 30
Dr Abersoch wedi rhedeg y motor i’r rails.
Rhagfyr 1
Moch bach yn dod yma o Bwllheli.
Rhagfyr 5
Glaw mawr.
Tanyfoel M Roberts Pistyll.
Rhagfyr 7
Traction o Ruthin yn dechrau cario rails a’r gwageni.
Rhagfyr 10
Y Traction yn gorffan.
Rhagfyr 12
Tanyfoel Wm Jones Tudweiliog.
Rhagfyr 15
Hannah Rhiwlas wedi marw 30
oed.
Rhagfyr 17
Llawer o froc y mor.
Rhagfyr 25
Buom yn Aberdaron yn y cyfarfod Llenyddol.
Rhagfyr 26
Neb yn Nebo, Tanyfoel J Roberts Rhydbach.
Rhagfyr 27
Anne Tanybryn wedi marw.
Gwynt mawr o’r de.
Ionawr 1, 1916.
Drycin fawr o’r De Orllewin.