SS Afon Lledi
c/o Harris Dry Dock
Swansea.
Annwyl Deulu,
Dyma fi yn
anfon gair i ddweud fy mod wedi cyrraedd yn saff erbyn 10 o’r gloch nos
fawrth drwy Mount Lane a Builth road y dois cychwyn o Pwllheli un o’r
gloch. Mae yma Cadben newydd a Mate a 2nd Engineer a taniwr newydd. Ches i
ddim cyfle i yrru. I Bordeaux yn Ffrainc mae hi’n mynd, dwn i ddim eith hi
allan yr wythnos yma ai beidio. Wel does gennyf ddim rhagor ond terfynnu
gan gofio atoch i gyd Isaac.
Mi adewais fy strap ar fy ol,
chwiliwch am y fy llyfr Union yn y bwtri, dydio ddim yma yn unlle.
SS Afon Lledi, C/O W Coombs, Ship
Owners.
Llanelly,
Dydd Sul.
Annwyl Deulu,
Dyma fi yn
anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach. Derbynniais eich llythyr
yn saff dydd Iau, drwg gennyf glywed am nain. Yn Llanelly yr ydan o hyd,
mae’n debyg na yma y byddwn yr wythnos nesaf eto. Y maent wedi tynnu darn
fawr o’i blaen i ffwrdd yn ochr llongwrs, mi gafodd gnoc ofnadwy ar yr
afon yn Ffrainc, yr oedd hon wrth ei hangor, y mae gwaith mawr arni eto.
Wrti yn glanhau y boiler yr ydan ni rwan o’r tu fewn, mae hi yn job fudr
iawn, ond yr ydym yn cael £1 yn extra am wneud. Mae cyflog ar mor yn codi
mis nesaf o 30/- yr wythnos, felly mi fydd yn £5/17/6d mewn wythnos.
Deudwch wrth Harri fod well iddo ddwad ar y mor. Ydi Ismael wedi gwerthu y
moto os nag ydio deudwxh wrth Robin am fynd yno i nol y tools ohonno, y
mae yno beth i William Ty Croes Bach yn y bag a perwch i fynd ag o oddyno,
peth i drwsio y belt, mi wyr Robin yn iawn amdano. Yr oedd hi’n dywydd
mawr pan oeddym yn Ffrainc, yr oedd yn foriog a niwl. Hen lo sal ydi’r glo
yma i danio – peth man i gyd fel glo gefail. Mae mewn siop yma foto beic
bach handi fasa yn gwneud i Robin gofynnwch iddo fasa yn well imi ei brynu
2 speed gear run fath a un Jack Croesfryn. Y mae yma le annifyr iawn y Sul
does yma ddim ond dau ohonnom yn y pen blaen, mae lleill yn mynd i adref i
gyd. Y mae yn anodd deall y Southmon yn siarad Saesneg ac yn enwedig
Saesneg sydd cael i siarad ar y llong. Y mae un o Sir Fon ynddi. Wel does
gennyf ddim byd eto ond terfynnu gan anfon fy nghofion gorau atoch Isaac.

"Afon Lledi"
Annwyl Deulu,
Dyma fi yn
anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach fel finna ar hyn o bryd.
Derbyniais y llythyr yn saff gynta y deuthom i mewn bore Sul. Wedi cael
tywydd reit braf, chlywais i ddim son am y parsel, mae’n debig na welaf
mono bellach. Mae nhw wedi roid gownt fy arian i’r office does gin yr
engineer ddim byd i wneud ond talu yr overtime. Mi fuom yn sbio am sidan
yn Ffrainc ac y mae gin ddrutad a’r wlad yma. Y mae gennyf baco y tro yma
a llun y llong ac un i Sion hefyd. Mi gyraf nhw eto a trons i chwi ei ail
bwytho fo. Mi edrychaf beth ydi pris y stoves eto pan gaf chance. Wel does
gennyf ddim byd yn rhagor tro yma ond anfon fy nghofion gorau atoch i gyd
yna. Ydwyf Isaac
Gofynnwch i Sion ydio am yrru pres
at yr Injian.
************

"Stevenstone"
SS Stevenstone
London.
Annwyl Deulu,
Dyma
fi yn anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach fel finnau. Mi fuom
yn Rotterdam wedi symud i Antwerp i lwytho steel am Caerdydd. Mi fuom reit
wael wrth ddwad fedrwn ni fyta dim. Lle mae Guto Four? Dydi hon fawr
sgafnach na’r Afon Lledi i thanio ac yn drymach o lawer i godi’r lludw
pedwar o dannau. Yr oeddwn wedi clywed fod Harry Ty Fry yn hwylio yn
Caerdydd felly y darwn yrru wire iddo. Mi fyddwn yn cychwyn oddiyma tua
dydd gwener y maent wedi gwneud damage ar y mast heddiw mae’n debig y bydd
yn mynd i gael ei drwsio i Gaerdydd. Cewch air o Gaerdydd gennyf. Yr wyf
yn gobeithio eich bod wedi derbyn yr arian a Guto Four ei ddillad.
Terfynaf ar hyn gan anfon fy nghofion goreu atoch i gyd yna. Isaac.
SS Stevenstone
London.
Annwyl Deulu,
Dyma fi yn
cymeryd y pleser o anfon gair neu ddau i chwi gan ddisgwyl eich bod yn
iach yna i gyd fel finnau ar hyn o bryd. Yn Pauliag yr ydym ar hyn o bryd
yn llwytho pit wood, mi fyddwn yma dan dydd mawrth wedi symud o ymyl
Bordeaux yr un fan ac y bum efo Guto Four. Does neb yn gwybod i ble mae hi
yn mynd mae’n debig nag i Gaerdydd. Mi gawsom dipin o gale tua’r Sul o’r
blaen. Mi gafodd dau o’r taniwrs sac yn Caerdydd, dau o Gaerdydd ddoth yn
eu lle. Rhyw 1000 ydi hon mae gynnon lo budr iawn y tro yma glanhau dau
dan bob watch tua 30 o bwcedi o ludw bob watch.Does yma ddim overtime yn
hon cael time off bob dydd gweithio o wyth dan 12 yn port yn lle overtime.
Taswn ni di bod ddeg munud yn gynt yn Swansea mi faswn wedi cael llong
bach handy iawn, un newydd. Wel terfynaf ar hyn gan anfon fy nghofion
goreu atcoh i gyd. Sut mae Morris a M Evans, deudwch yn y llythyr nesaf.
Ydwyf Isaac.
SS Stevenstone
Barry Dock.
Annwyl Deulu,
Derbyniais y
llythyr heddiw sef dydd mercher. Yr ydym yn hwylio heno i ymyl Rotterdam.
Derbyniais lythyr Hugh Trip. Yr wyf ar frys yn y Post yr wyf yn ysgrifennu
hwn. Cewch air eto yn fuan. Isaac.
SS Stevenstone,
Alexandria Dock,
Newport (Mon)
Annwyl Deulu,
Dyma fi
yn cymeryd y pleser o anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach fel
finnau ar hyn o bryd. Derbyniais eich llythyr yn saff ddoe sef dydd llun,
a da oedd gennyf ei gael a llun y ty a mam yn rhoi tipin o hanes Dick, mae
hi yn sobr iwan yno felly. Yn Newport yr ydym rwan ers nos wener yn
dadlwytho yr oedd hi yn chwythu yn arw iawn pan oeddym yn dod yn ol o
Bordeaux. Does fawr o awydd dwad adra y Nadolig yma, mae hi’n o fuan.
Gobeithio y gwnewch yrru pwdin dolig i mi lle bynnag y byddaf. Am Ffrainc
yr ydym yn mynd tro yma a mynd allan nos fory. Yr wyf wedi gweld y
Christiana yn rhywle mae’n siwr gen i. Os oes gynnoch chi awydd mynd i
danio rwan mi wnaf le i chwi yn hon. Ydi Guto Four yn dal i ddreifio y
moto o hyd? Mae siwr fod honna wrth ei fodd. Wel does gennyf ddim mwy i
ddweud ond terfynnu ac anfon fy nghofion goreu atoch ydwyf Isaac.
Gyrrwch i’r un address eto yn
Cardiff. Does gen i ddim baco tro ma, diolch i Sion am y llun. Mi fum yn
Capel y Bedyddwyr nos Sul ac mewn swper nice iawn. Gyrrwch address Kate Ty
Fry i mi eto. Dydi hi ddim yn bell oddi yma.
SS Stevenstone
c/o Hansen Shipping co
Cardiff.
Annwyl Deulu,
Dyma fi yn
cymeryd y pleser o anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach fel
finnau ar hyn o bryd. Derbyniais eich llythyr yn saff drwg gennyf glywed
am yr hogia yn dwad o’r Sarn piti garw. Yn Caerdydd yr ydym rwan er bore
Sadwrn yn dadlwytho. Caen oedd y lle y buon, doeddwn ni ddim yn gwybod syd
i’w spelio. Mae’n debig y byddwn yn mynd allan nos fercher am Havre ac i
South Shields a Norway. Mi gafodd y Captan sack dydd Sadwrn yn feddw ar
hyd y trip a mi oedd o yn ei wely pan ddaeth yr owners i’w weld, a mae y
Mate yn Captain rwan. Tydwi ddim yn meddwl y bydd o fawr gwell, bachgan o
faw ydi o. Y mae Harry Ty Fry yn Swansea er ddoe mae hi rhy bell i fynd
yno. Mi oedd yr Afon Towy yn Caen efo ni, mi welais frawd Wil Sir Fon. Mae
arnai ofn y byddan ar y Mor Nadolig. Drwg gennyf glywed am Modryb Penbryn
Bach yn dal yn wael o hyd. Wel terfynaf ar hyn heddiw gan anfon fy
nghofion goreu atoch i gyd yna. Mi ges PO Robin, mi yrraf y mouthorgan y
tro nesaf, mi fasa werth iddo weld y American round sydd yma rwan, mi fum
ynddi neithiwr fasa well iddo safio 15/- cael iddo ddod i Gaerdydd deudwch
wrtho.
I Bedwas mae y coed yn mynd
Ydwyf Isaac, deudwch wrth Ted am
yrru gair i mi.

SS Stevenstone
c/o Hansen Shipping co
Cardiff
Annwyl Deulu.
Dyma fi yn
cymeryd y pleser o anfon gair i chwi gan ddisgwyl eich bod yn iach fel
finnau ar hyn o bryd. Yn Blyth yr ydym rwan cyrraedd yma nos fercher dydan
ni ddim yn llwytho heddiw. I Denamark yr ydym yn mynd eto nid wyf yn
gwybod enw y lle mi fyddwn tua wythnos yn dod yn ol tua 1,100 0
filltiroedd, y run fwya eto. Mae wedi gwneud tywydd braf iawn hyd yn hyn.
Mi yrrais lythyr i Ted o Havre. Sut y pasiodd hi arnynt ar ol bawa noson
ffair Sarn? Deudwch wrth Robin y bydd gin i le iddo helpu y cook £2 yr
wythnos. Yr wyf yn gyrru baco i chi at y Nadolig mi ddarynt gadw un plug
yr oedd gennyf ormod. Mi yrraf fouthorgan eto. Wel does gennyf ddim mwy am
y tro yma ond terfynnu gan anfon fy nghofion goreu atoch i gyd. Ydwyf
Isaac, mi yrraf air o Denmark.
Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd
Dda i chwi.
Dyma lythyr ola Isaac cyn colli
– Rhagfyr 15 – 1921.
***************
Hanes Isaac
***************