|
|
"Rhuol" Porth y Rhiw Lleolir Rhuol ar ochr orllewinol o Fae Porth Neigwl yng nghysgod mynydd – dir y Rhiw. Blynyddoedd maith yn ol adwaenid y lle fel ‘Porth y Rhiw’ ac yr oedd yn y cyfnod a fu yn rhan bwysig o’r pentref ac yn le llawn prysurdeb. Adeiladwyd llongau yma ac er fod cofnod am bump ohonynt mae’n sicr i lawer mwy gael eu hadeiladu yma cyn y dechreuwyd ar gofrestru llongau yn 1776. Oddyma allforiwyd cynyrch ffermydd yr ardal i’r farchnad yn Mhwllheli, Lerpwl a thu hwnt. Mewn foriwyd cynyrch megis glo a calch yn ogystal ac anghenion eraill yr ardalwyr. Roedd yma odyn a fu’n tanio hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif ac roedd tair melin yn y cyffiniau agos, un ohonynt ychydig ffordd i fyny’r allt bron dafliad carreg o’r traeth, ac mae’n eithaf amlwg felly y byddid yn mewnforio yd i’r hen felin gael malu. Mae son hefyd fod llong fach yn cysylltu’r ardal a phentrefi bychan Sir Feirionydd ar draws y bae, ffordd llawer haws o deithio pan nad oedd ffyrdd adddas ar gael yng ngefn gwlad Cymru yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae’n debyg fod tafarn Tyn Borth yn elwa ar brysurdeb y cyfnod a gellir dychmygu sut y bu yno. Llongwyr yn eistedd o gwmpas y bwrdd, coelcerth o dan eithin yn clecian yn yr hen simdde fawr, pob un a’i stori i’w adrodd ei gan i’w ganu, y cwrrw’n llifo, pibelli clai yn tanio a sbort a miri a gollyngdod o flinder a chaledi bywyd ar fwrdd y llong am un noson. A phryd o gaws a bara ffres i ddiweddu’r noswaith hwyliog honno. Ond mi oedd yna ochr ddu i’r Rhuol hefyd, dim yr un croeso oedd gan bawb dan sylw i’r morwyr, arferid defnyddio’r lle gan ddryllwyr a oleuai ffagod eithin er drysu’r llongau a’u denu ar y creigiau, ac yna ysbeilio’r llong ac unrhyw gyrff ddeuai i’r lan, neu os y doi llongwyr i’r lan yn ddiogel, buan iawn y daethon i wybod mai nid lloches glud mo’r Rhuol. Yn 1742 bu i ddau forwr gael ei lladd gan ddau o’r ardalwyr a oedd ar berwyl dryllio, a’r oll a gafodd y dryllwyr am eu gweithred mileinig oedd planced ac ychydig o gyllell a ffyrc. Ganrif neu fwy yng nghynt aeth y dryllwyr ar long o Ffrainc, a oedd wedi angori yn y bae a lladd pawb arni gan gynnwys boneddigesau bach ifanc, er mwyn ysbeilio eu gemau a’u tlysau. Gwnaed hyn mewn ffordd erchyll a mileinig torrwyd ei bysedd i ffwrdd i gael eu modrwyau, wedi gwneud hyn lluchiwyd y cyrff yn ddiystyriol dros yr ochr i’r eigion i fod yn ddim mwy na bwyd i’r pysgod. Rhai eraill oedd yn ymwelwyr eithaf cyson i’r Rhuol oedd y smyglwyr. Fe ddoi rhain a’i nwyddau ar gefn nos y brandi, gwin, les, halen, te a gin. Yn 1824 bu smyglwyr yn Rhuol am ddyrnodie yn dadlwytho, a chwynai Sgweiar Nahoron, Richard Edwards, i swyddogion y tollau mai gwastraff amser oedd cael eu ‘cutter’ ym Mhwllheli, pe bai hi allan yn ‘St Tudwal’s Roads’ y byddai’n llawer haws dal y smyglwyr. A’r union eiriau ddefnyddiodd oedd ‘Having the cutter at Pwllheli is a waste of time. She might as well be stationed at Charing Cross’! Mae na son fod twnel o’r traeth i fyny i seleri Plas yn Rhiw, ac eraill yn son ei fod yn mynd cyn belled a Thyn Graig, ble roedd tafarn arall, rhamant y smyglwyr yn saff !!!!
Pan beidiodd y llongau a dod i’r Rhuol, gyda dyfodiad gwell ffyrdd, aeth Rhuol yn ei ol i fod yn borth bach pysgota. Oddyma ai’r ardalwyr allan i bysgota penwaig ac i gwella a gosod cefnen a cheir disgrifaid da o hynny gan Daniel Rowlands yn ei atgofion. Distewodd Tyn Borth a gorfodwyd y teulu olaf i adael eu cartref yno, ar ol i’r mor dorri drwyddo yn fuan yn yr ugeinfed ganrif. Bellach mae’n adfail tawel sydd yn gartref i gewyll y ‘dories’ sydd yn sefyll o’i flaen, yr unig gychod sydd bellach yn pysgota o’r Rhuol. ********* Atgofion dau o drigolion Rhiw am bysgota o Rhuol. |
|
Copyright © Rhiw.com |