"Pysgota o'r Rhuol"

Roedd llawer o bysgota yn Rhiw pan oeddwn yn ifanc. Allan o Rhuol ym Mhorth Neigwl y byddai rhan fwya yn mynd, er fod rhai ym Mhorth Ysgo a Phorth Cadlan hefyd. Yr adeg y ceid mwyaf o hwyl oedd pan eid allan i ddal gyrnaits neu hwyrach Benwaig ar adegau. Roedd pawb yn ceisio mynd allan gyda’i gilydd ar adeg felly, rhaid oedd cael cychod cryf a cheid i fynu i dri bedwar cant o bysgod yn y cwch pan fedrid mynd allan i’r strem (Teid cryf) a sgubai allan i tu allan i Enlli, ac am y mor mawr. Rhwyfo wneid yr adeg honno allan o’r Rhuol hyd nes cyrraedd y teit, ac wedyn dilyn y teit allan i’r fan oedd gryfaf – Y Strem. Yno roedd y Gyrnaits iw cael. Byddem yn mynd allan tua chwech y bore ac yn rhwyfo a hwylio allan nes codir Garreg Ddu gerllaw Ynys Enlli. Arhosem yn y Strem – yn mynd ol a blaen, yn ol galw’r teit. Hyd yr hwyr ac weithiau ai yn nos arnom. Rhaid oedd rhwyfo llawer ar y ffordd adref ar ambell i adeg o’r teit. Roedd y llanw yn gryfach na’r trai bob amser a’r ffordd i ‘r Huol yn bell gyda’r hwyr. Un tro cofiaf i fy mam fod yn bur bryderus- fel llawer i fam arall- wrth weld ei bod yn ddau o’r gloch y bore a dim golwg o’r cychod. Ond y gwir oedd fod yr helfa y noson yn drom ac anodd oedd i dlodion adael y strem a gweld eu cynhaliaeth ar ol.

 

 

 

"Gyrnaits" "Macrell" "Penog"

Cofiaf fy nhad ddweyd unwaith ei bod yn nosi a lled awgrymu mai gwell oedd codi’r rhwtdi ond meddai Wmffra’r Garth-"Na dim iws dod yn ol i le fel hyn adeg Nadolig". Rhaid oedd manteisio ar y cyfle pan oedd i’w gael a chyflenwad yn barod i ni.

Tad Dora Williams oedd Wmfra Williams ac aeth i Awstralia am gyfnod i’r gwaith aur a dod yn ol yn gefnog. Cofiaf son amdano un adeg yn mynd i Bwllheli i dystio yn erbyn un oedd wedi mynd i ddyled ac yntau wedi rhoi cryn dipyn o werth iddo i ‘w gynorthwyo ac yn y sgwrs ar y ffordd meddai "------- diawlad" ac meddai John Griffith Pencaerau oedd yn y cwmni "Rwan, rwan does dim angen defnyddio geiriau mawr H.W " "Oes, oes " meddai yntau "Achos mawr, geiriau mawr". Un garw ei eiriau oedd.

Byddis yn arfer dal llawer o Gyrnaits yr adeg honno, ond ambell dro byddai yn rhaid mynd ymhell allan y tu allan i Enlli, yn bell i’r Strem, cyn cael helfa. Byddai rhai o’r bechgyn yn gallu nofio yn bur dda, ond chydig o forwyr fyddai yn gallu nofio yr adeg honno. Credid mai gwell oedd i forwyr beidio dysgu rhag fod temtasiwn iddynt fynd dros y bwrdd ar adeg o berygl ac achosi mwy o drafferthion yn hytrach nag aros wrth eu gwaith. Cofiaf Jack Ship ac Edward Tynllan yn nofio yn y Strem, yn ol a blaen, ar brynhawn braf a poeth, ac yn mwynhau eu hunain. Cofiwch fod amryw o gychod gydai gilydd ac felly doedd dim llawer o berig iddynt fynd ymhell o afel ymwawred.

Roedd amryw o gychod yn y Rhiw yr adeg honno. Rwy’n cofio enwau rhai ohonynt. Dyna y "Firefly", ryw 25 troedfadd wedi ei fildio yng ngardd yd y Gongol "Hen Fyharen" fyddai Evan Nant yn ei alw, am ei fod yn gwch mawr cryf, ac yn barod i ddal storm go ddrwg. Dyna cwch "Bo" wedyn, ac ar ei hol cael "Bo Bach" a doi "Bwbach" wedyn. Cwch fy nhad a John Williams Ty Mawr Saer a Teiliwr yn cydfynd. A dyna Evan Go a Richard Prichard Felin Bodwrdda wedyn – Gof a Melinydd yn cydfyw. Roedd y cychwyr yn llawer gwell na’r llongwyr pan yn mynd allan i’r strem. Dyna "Hen Ful" Evan Ty Croes, cwch 16 troedfedd, cwch llydan. Roedd Evan yn un or cychwyr mwyaf medrus, handi iawn yn trin cwch. Un waith roedd yn dod adref ar dywydd pur galed, nid oedd wedi dweyd gair ers hir amser, a’r mor yn bur dymhestlog. Gafaelai yn y llyw, ac weithiau gip yn ol at Enlli, i gadarnhau ei fod ar y cwrs cywir, a’i wefusau wedi eu cau yn glos. Yna yn sydyn gollwng y llyw. "Dyna chdi rwan" Roedd wedi gallu mynd yn ddihangol o afael y Strem, a gallai rhywun ohonom gael gafel yn y llyw oddiyno i’r Rhuol. Nid oedd yn un am fentro yn ymffrosgar pan oedd y gwynt yn groes. Yr adeg hon ai a’r cwch allan ac aros yn ymyl Rhuol drwy’r prynhawn, os teimlai fod perygl mentro ymlaen. Ac weithiau rhodd y cwch i rhywun arall. Ond y fo oedd y gorau a’r mwyaf gwybodus o’r cychwyr i gyd.

        

Roedd William Williams y Saer yn gychiwr da, ond yn brin ei amynedd ar adegau. Cofiaf son amdano yn cyfarfod a Richard Parry, Bodwyddog ym Mhenponcyn (Ty Tafarn poblogaidd iawn yn oes y Gweithiau) Roedd dadl wedi codi am rywbeth a’r ddau wedi cael diod yn drwm. A meddai R Parry "Weli di, dwyt ti yn neb ond Wil Saer. Mi ydw i yn Guardian, Church Warden, ac yn Chairman y School Board. Mr Parry Bodwyddog ydw i, ac Wil Saer wyt ti" Bu bron a mynd yn ymladd, ond yn fuan daeth cymod a’r ddau yn mynd allan yn bennaf cyfeillion.

Yn Benallt, lle agorwyd y gwaith roedd Evan Benallt yn byw, tad Jane Benallt a thaid Griffith Jones Ty Canol wedyn a thad Jane Bryneithin hefyd. Dyn cryf a rhegwr diymdrech.

Rwy’n cofio mynd i’r Terfyn i edrach am Robert Williams gyda mam- Robert William Owen ei gelwid amlaf-. Dyflwydd oed pan oeddwn pan fu farw. Roedd yn cofio llawer o hen gerddi a chofiaf fy nhad yn dweud y byddai fy nhaid a R.W yn canu "Gini melyn bach" achaneuon eraill ond does gen i ddim cof i mi ei glywed yn ei chanu. Roedd ef wedi ei eni yn y Dafarn Rhos yn nhueddau Hebron.

Pan aeth mab Cae Rhydderch i agor siop ym Mhwllheli aeth R.W. yno ac edrych yn y dtych. Yr oedd ei olwg wedi pylu erbyn hynny ac meddai "Wel Sion o ble doist ti yma ?" gan gredu mai Sion Sowldiwr  oedd wedi bod yn y Crimea oedd yn sefyll o’ flaen.

Gwnai ambell i gan hefyd a mae un wedi ei hargraffu ym Mhwllheli. Can am ryw long Spaniard yn mynd i’r lan ym Mhorth Neigwl oedd. Argraffwyd hi gan Richard Jones os cofiaf yn iawn. Pan oeddent yn mynd at y llong ar y treath dywedodd rhywun wrth W.R. "Rwyt ti yn medru siarad saesneg yn iawn"- ond y gwir oedd fod cymraeg yn llawn gwell na saesneg at y Spaniard.

*********

Ysgrifenwyd gan Daniel Rowlands yn 1965, pan oedd yn 89 mlwydd oed

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com