|
"Porthgolmon" Wil Llainfatw oedd peilot Porthcolmon. Ai allan i’r bae efo’i gwch i gyfarfod llong a’i gyfrifoldeb ef wedyn oedd fyddai ei chael yn ddiogel at y graig yn y porth. Ar ol ei chael i’r fan honno, rhwymid hi wrth y creigiau ar gyfer ei dadlwytho. A Wil wedyn yn rhinwedd ei swydd fel peilot fyddai yn gyfrifol am ei chael allan i’r bae drachefn. Cai ei dalu am hyn wrth sgwrs. Drws nesaf iddo yn Llainfatw trigai William Roberts a fo bwysai’r glo ar Wastad Porthgolmon. William Williams Pwllcrwn a Thomas Hughes, Plas Morfa oedd hen fasnachwyr glo Porth Colmon.Bu Griffith Williams, Pwllcrwn yn cario busnes ei dad ymlaen wedyn. Deuai’r llong i fewn gyda’r llanw ac fe’i rhwymid yn ddiogel. Wedi i’r llanw fynd allan ai’r troliau i lawr at ei hochr a dadlwythid y glo. Pan sefydlwyd Co operative yn Llangwnadl bu newid ar y cynllun. Caed peiriant stem ar ben y fan lle mae’r odyn galch, a gwifren ohonno i lawr i’r llong. Robert Thomas Hebron House, oedd y peirianydd a ofalai amdano. Byddai dynion yn llenwi’r tybiau a glo yn y llong a’r peiriant stem wedyn yn tynnu’r twb i fyny, wedyn, dyn ar y gwastad a pholyn hir ganddo yn rhoi pwniad i’r gliced, a’r twb yn dymchwel ei gynnwys ar y domen. William Roberts Llainfatw Isaf, hen wr wrth ei ddwy faglen a gofiaf yn pwyso’r glo i’r troliau. Dywedodd John Williams Gyfelan Bach fod ei fam wedi bod yn pwyso glo am flynyddoedd i Thomas Hughes, Plas Morfa. Byddai troliau yn disgwyl eu tro, y naill y tu ol i’r llall o’r Borth hyd at Tyddyn Du. "Wil Llainfatw, peilot olaf
Porthgolmon" Efo llong i Borthgolmon y daeth y brics i adeiladu tai newydd Pen y Gongl a Thir Gwenith a Gorffwysfa a Bryn Afon yn y flwyddyn 1913. Coffa da am gymwynasgarwch pobl yr adeg honno: cymdogaeth dda, mewn gwirionrdd. Rhuthrent lawr efo’u troliau i’r borth o gario’r brics i fyny. Gosod y drol wrth ochr y llong, a thaflu’r brics o law i law nes cael llwyth. Cofiaf i fricsen ddisgyn ar ben Hugh Roberts Tyddyn Difyr a’i anafu’n bur ddrwg, ond daeth ato’i hun yn ddigon da i fynd a’i lwyth i ben y daith. Fe gariais innau rai o’r brics efo’r ferlan fach – mynd yng nghysgod rhywun arall. Rwy’n cofio rhywun yn dweud wrthyf pan oeddwn ar fy ffordd i lawr ryw ddiwrnod na fyddai fy llwyth brics yn ddigon i wneud corn!
"Co-op
Llangwnadl" Allan o ‘Blas Hir Hel’ gan Griffith Griffiths. ~~~~~~~~ Porthgolmon Y ddiweddar Syr Thomas Parry yn cofio’r llongau
bach ym Mhorthgolmon. ( Y
Genhinen XX11 ) Un o
brofiadau mwayaf iasol a chynhyrfol fy mlynyddoedd cynnar oedd gweld dadlwytho
llong ym Morth Golmon, er nad oedd i mi ddim rhan yn y gwaith , ond bod rhyw
swyn gafaelgar imi yng ngweithgareddau’r mor. Yr enw
technegol ar y llongau fyddai’n dod i Borth Golmon oedd ‘ketch’ gyda dau
fast, y blaen yn fwy na’r ol, ond nid oedd hwyliau ar y rhai welais i,
oherwydd yr oedd y peiriant petrol wedi dod i fod erbyn hyn. Rhyw gan tunnell
oedd maint eu cargo. Yn misoedd yr haf yn unig y byddent yn dod yno, oherwydd yr
oedd gormod o greigiau o gwmpas yr hafn, a hyd yn oed yn yr haf petae’r gwynt
o’r gorllewin yn codi’n sydyn byddai raid rhoi’r goreu i ddadlwytho yn
syth a mynd a’r llong allan i’r mor agored. Clywais fy ewythr yn son am ryw
long a ddaeth yno yn rhy hwyr at y flwyddyn ac fe ddaeth storm a chwythwyd hi ar
y creigiau, ac yno y bu nes ei dryllio yn llwyr. Pan oedd y masnach llongau yn ei bri y llwyth cyntaf i gyrraedd bob dechrau haf fyddai llestri pridd o gyrrau Mostyn, yn ol a glywais, sef potiau a dysglau at iws ffermwyr pan oedd corddi a gwerthu menyn yn rhan bwysig o economi bob ffarm. Yna doi llwythi o lo, blawdiau o bob math ar gyfer dyn ac anifail, a gwrtaith gwneud, basic slag gan mwyaf. Yr oedd cyfran helaeth o angen rheidiau darn o wlad weddol boblog yn dod dros y mor i Borthgolmon a’r porthladdoedd bach eraill o gwmpas. "Porthgolmon" Yr oedd
dadlwytho cynnwys y llong, beth bynnag fyddai yn dipyn bach o broblem, oherwydd
nid oedd yno ddim o’r craeniau a’r ger o’r fath a welir mewn dociau mawr.
Yr hen ddull oedd mynd a throliau at ymyl y llong ar y trai, ond dim ond am
ychydig oriau bob dydd y gellid gwneud hynny. Yr oedd ym Mhorthgolmon, pan wyf i
yn cofio, fath o lwyfan pren wedi ei adeiladu allan o’r graig yn wastad a
bwrdd y llong. Ond yr oedd y ‘Co-op’ wedi moderneiddio a mecaneiddio yn
rhyfeddol trwy ddefnyddio coed y llong oedd wedi mynd yn ddrylliau i godi cwt ar
allt y mor ( a warws helaeth hefyd ) ac
yn hwnnw yr oedd peiriant stem yn weindio twb o howld y llong ar hyd y weiar –
rop oedd ag un pen iddi yn sownd ar y lan a’r llall wrth fast y llong. Yr oedd
hyn yn ffordd gyflym o ddadlwytho, ac o gofio peryglon tywydd mawr yr oedd
cyflymder yn ystyriaeth bwysig dros ben. Cefais
afael ar ddau lyfryn bychan digon diolwg. Ar ddalen flaen un ohonynt yr oedd y
geiriau ‘Cargo book of the Ketch Colonel Gamble. Commander R Hughes’ a’i
gynnwys yn rhedeg o 5 Ionawr hyd at 14 Chwefror 1914. A’r llyfryn arall nid oedd dim teitl, ond yn unig
‘Robert Hughes of Ketch Tryfan of Portdinlleyn Carnarvonshire’ a’r tu mewn
iddo yr oedd record o deithiau rhwng Chwefror 1916 a Medi 1917. Tua diwedd llyfr y ‘Colonel Gamble’ y mae cofnod yn dweud
fod y llong wedi gadael Garston am Borth Golmon gyda 61 o dunelli o lo a 35 o
dunelli o basic slag ar Hydref 9 1913. Mi synnais weld ei bod yn mentro yno mor
ddiweddar a hyn ar y flwyddyn. Yr oedd cofnod ar waelod y tudalen. O droi i’r
ddalen nesaf dyma welais ‘Blown ashore on top of Rocks Nov 13 1913 and on till
went total wreck Feb. 14 1914’. A dyna ddiwedd trist y Colonel Gamble. A dyma’r
llong y dywedodd fy ewythr wrthyf amdani, ac y defnyddiwyd ei choed i
adeiladu’r warws a’r cwt i’r peiriant stem gan y ‘Co-op’ Adeiladwyd hi
yn Rhyl yn 1863 a’i pherchennog cyntaf oedd William Roberts, Llywelyn Street,
Conwy. Fflat un mast oedd i gychwyn ond ychwanegwyd mast arall a’i gwneud yn
ketch. Coed oedd ei defnydd, ei hyd yn 66 troedfedd, ei lled yn 19 a dynfder yr
howld yn yn saith. Pan ddrylliwyd hi yr oedd yn flwyddyn dros ei hanner cant oed,
ac yr oedd hynny’n oed mawr, oherwydd rhyw ddeng mlynedd ar hugain oedd hyd
einioes yr hen longau coed. Y mae y
ddau lyfr a ysgrifennodd Capten Hughes yn rhoi darlun diddorol o’r fasnach
gyda’r glannau pan oedd y fasnach honno ar ei hen sodlau. Dyma’r lleoedd y
byddai’r llongau yn galw ynddynt: Manceinion, Lerpwl, Garston, Runcorn, Widnes,
Hesketh Bank, Point of Ayr, Caergybi, Cemaes, Moelfre,Lleiniog, Biwmaes,
Porthaethwy, Y felinheli, Caernarfon, Portinllaen. Porth Golmon, Abersoch.
Bu’r Tryfan ym Mhorthgolmon ddeng gwaith yn ystod y ddau haf a gynrychiolir yn
y llyfr cargo. Fe welir mai’r darn o for a elwir yn Fae Lerpwl a Bae
Caernarfon oedd eu rhanbarth,. Fe aeth y Colonel Gamble unwaith mor bell a
Cheinewydd yng Ngheredigion. Yr oedd y fasnach wedi para yn Llyn am nad oedd y
rheilffordd yn mynd ond i Bwllheli, ac nid oedd cludiant ar y ffordd yn ddim ond
yr hyn y gallai ‘cariwrs’ ei wneud gyda cheffylau. Yr oedd
cludo dros y mor yn rhad. Chwe swllt y dunnell oedd y tal am gludo glo, ac felly
ar gan tunnell y cyfanswm yr oedd y cyfanswm yn ddeg punt ar hugain. Gan mai ef
oedd piau’r llong yr oedd Capten Hughes yn cael yr arian yma’n llawn. (
Petai ef yn gapten cyflogedig neu ‘gapten gosod’ buasai un rhan o dair o’r
tal yn mynd i’r perchennog ) O’r swm hwn yr oedd yn rhaid iddo dalu cyflog
ei griw a thalu am eu bwyd ar bob mordaith, talu peilot a thaliadau arbennig
mewn rhai porthladdoedd, ac ar ol rhoi’r gorau i ddibynnu ar y gwynt yr oedd
raid iddo dalu am betrol. Gyda thywydd gweddol a digon o gargo, gallai incwm
Capt Hughes fod tua thri cant o bunnoedd y flwyddyn, cyflog da iawn. Un fantais
o dradio i borthladdoedd bach Llyn oedd gorfod mynd yn ‘light’ fel y mae’r
capten yn dweud sef y wag. Nid oedd dim allforio o Llyn ac eithrio ychydig o
fanganis o waith Mynydd y Rhiw. Yn y ddeunawfed ganrif ac i fyny i chwarter
cyntaf y ganrif ddiwethaf ( 19g) yr oedd cryn lawer o allforio menyn a chaws,
ond yr oedd hyn wedi dod i ben erbyn yr amser y sonnir amdano yn y llyfrau
cargo. Y mae
trafnidiaeth y ffyrdd fel y mae heddiw yn cymeryd llai o amser wrth reswm na’r
trafnidiaeth dros y mor. Ac eto syndod mor gyflym pan fo’r hin yn ffafriol y
gallai’r llongau bach fynd o un lle i’r lall. Ar 16 Mehefin 1916 cychwynodd
y Tryfan o Lerpwl gyda 98 o dunelli o lo, cyrhaeddodd Borthgolmon a dadlwythodd,
a hwyliodd yn ol i Lerpwl a llwythodd 88 o dunelli o lo eto, ac yr oedd yn
cychwyn am Borth Golmon ar 27 o Fehefin. Camp go dda mewn un diwrnod ar ddeg, a
chofio’r fordaith trwy Afon Fenai a thros far Caernarfon lle’r oedd llawer
yn dibynnu ar gyflwr y teitiau. Dyma’r
hwylio gyda’r glannau, neu’r ‘costio’ math o fyw ac o weithio a aeth
heibio ers blynyddoedd bellach. Rhan ydoedd o holl amryfal weithgareddau’r mor,
oedd yn cynnwys hefyd hwylio ar led ac adeiladu llongau a’u hadeiladu a’u
trwsio gan roi gwaith i grefftwyr medrus iawn yn seiri a gofaint a gwneuthurwyr
hwyliau a rhaffau. ~~~~~~~ Llongddrylliadau cyfagos ~~~~~~~ Yr ydym wedi methu yn glir a chael gafael ar lun o long ym Mhothgolmom, ac mae hi'n anodd credu nad oes dim yr un yn bod, wrth feddwl pa mor brysur yr oedd y porthladd. Os wyddoch chi am un, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
|
|
Copyright © Rhiw.com |