|
"Llangwnadl" Hanes
Cymdogaeth Peyngraig. Yn
ddaearegol, gwladol a chrefyddol yn ystod yr oes sydd yn myned heibio.
Ysgrifennwyd ddechrau y flwyddyn 1923 gan Huw Williams Nant Llangwnadl. Mae yn fy
mryd ers amser maith ar ysgrifennu hanes y gymdogaeth hon mor gywir ag y gallaf,
yn ddaearol, gwladol a chrefyddol ac felly ei gyflwyno i’r oes a ddaw yr hyn y
carwn i fy hunan fod wedi gael gan yr oesau a aethant heibio, canys nae rhyw
awydd rhyfedd mewn dyn am gael holl hanes y gorffenol a cael gweld ymlaen llaw
yr hyn oll sydd i ddigwydd yn y dyfodol. Dyn ei hun sydd yn gyfrifol am golli
hanes y gorffenol , ond gyda Duw y mae’r hawl a’r gallu i ddatguddio i ddyn
ddigwyddiadau y dyfodol ei fywyd ef ei hunan a dyfodol oes y byd. Yn
ddaearyddol. Nid oes
llawer i ddweud am y gymdogaeth. Dibwys ydyw y cyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle
ynddi trwy y canrifoedd ambell i fwthyn to gwellt a’i furiau mwd yn syrthio
i’r llawr ac un newydd yn cael ei godi yn ei le a’i fur yn gerrig neu
briddfaen gyda tho llechi iddo, a’r newydd yn helaethach ac yn harddach na’r
hen. Yn ystod fy oes i syrthiodd cynnifer a deuddeg o’r bythynod to gwellt hen
ffasiwn y wlad i’r llawr ac ni chodwyd yr un yn eu lle, sef Llain Ffidil, yn
awr yn gysylltiedig a Ty Hen. Dau dy ar
fin y ffordd fawr cydrhwng Glanrafon a’r Bryn, ei gerddi wedi cysylltu a
Glanrafon. Llain Salisbury y tir wedi cysylltu a’r Bryn. Gofelan Siop, ei
safle ydoedd cydrhwng Gofelan Fawr a’r ffordd fawr, yr ardd wedi ei chysylltu
a Gofelan Fawr. Ty Huw’r Cwn a safai ar y ffordd sydd yn arwain o Gofelan at
Penygongl a Hebron, y tir wedi ei gysylltu a Penygroes. Cil llidiart ar yr un
ffordd ag ef , y tir wedi ei gysylltu a Tyn Ffynnon, Plas y Dywarchen, y tir yn
cael ei ddal gan Mr Hugh Jones Gyfynus. Yr oedd y
bwthyn hwn a’i dalcen ar glawdd y lon sydd yn arwain o Penygongl at Trefgraig
Plas. Rhyw ganllath o’r ffordd hon ar yr ochr ddeheuol iddi, ond yn nes at
Penygongl, safai hen dy arall a elwid yn Ty Llartha, mae y tir pethynol iddo
wedi ei gysylltu a Tirrhos, safai hwn ychydig o’r ffordd ac i’r dde o Llain
Fadryn. Oerfa, safai ar y ffordd o Hebron i lon y groeslon, y llain wedi
chysylltu a Siop Hebron. Ffrwdamwys, safai cydrhwng Penygroes a Tirrhos, y llain
wedi ei chysylltu a Tirrhos. Refail a safai cydrhwng Ty Uchaf a Llainruttan, y
tir yn naliedigaeth Mr John Jones Tir Gwenith. Bwlch neu Siop y Waun a safai
ochr arall i’r ffordd gyferbyn a Ty Coch, y tir perthynol iddo wedi ei
gysylltu a Tros yr Afon. Pen y Gamfa neu’r Ysgoldy, fel y’i gelwid ar lafar
gwlad, y tir yn cael ei ddal gan Griffith Griffiths Ty Coch; Ty Ifan Will Beran,
safai ar fin y ffordd cydrhwng Maes Gwyn a’r ffordd fawr. Glanrafon neu dy
Bonsiach, a safai ar lan yr afon sydd yn rhedeg o gyfeiriad Hebron at Plas, yr
holl dir wedi ei gysylltu a Pen y Bryn – Gyfynus – Penllech, y tir yn cael
ei ddal gan Brynffynnon. Penrhyn Melyn, y tir yn cael ei ddal gan John Griffith
Tyddyn Belyn. Hefyd y mae yma dai eraill sydd hyd yn hyn heb syrthio i’r llawr,
sef y Gwyllt, gerllaw y Lleiniau a’r tir wedi ei gysylltu a’r lle hwnnw,
a’r hen dy wedi ei droi yn feudy. Tyn Lon, neu Ty Bach fel y’i gelwir ar
lafar gwlad a saif rhwng Penygraig a Tyn Cae. Refail Bach a saif ar ochr y
ffordd gerllaw Cae’r Odyn a’r Muriau y tir wedi ei gysylltu a’r Morfa. Y
mae eto yn aros hen dai to gwellt i’r cofio am yr amser dedwydd fu pan yr oedd
rhyw gydraddoldeb cyffredin yn bod yn ein mysg, sef Llainfatw, y Dyffryn a’r
Gors Byll, boed hir oes iddynt i fod yn gysgod rhag oerni a gwres i fforddolion
ein byd. Er fod nifer mawr o dai y gymdogaeth wedi syrthio i’r llawr ac nid
oes neb hyd yn hyn wedi codi rhai yn eu lle mae’n gysur meddwl fod yna
gynnifer a saith wedi eu codi yn newydd, lle nad oedd dai o’r blaen. Codwyd
chwech ohonnynt yng nghorff y deng mlynedd diweddaf sef Minafon, Talafon, Y
Stores, Bryn Afon, Gorffwysfa bungalow a Cae’r Odyn, hefyd bu yma ailadeiladu.
Y cyntaf y
cofiaf amdano yw Glan y Mor yn lle yr hen dy to gwellt oedd yno, Moel y Berth,
Muriau, Plas Morfa, Morfa ( ei adgyweirio yn helaeth) Ty Cam, yn lle yr hen dy
to gwellt, Ty Capel, Siop Penygraig ( ei adgyweirio yn helaeth) Ty Hen, Rhent (
ei adgyweirio a’i helaethu) Gelli yn lle yr hen dy to gwellt, Rerw yn lle hen
dy to gwellt, Bryn y Graig, Bryn Bach yn lle hendy to gwellt, Lleiniau, Tafarn y
Rhos, yn lle ty to gwellt. Cae Garw yn lle ty to gwellt, Gyfynus, yn lle hen dy
to gwellt, Dyffrin ei atgyweirio a’i doi a llechi yn lle gwellt fel cynt.
Penygongl yn lle ty to gwellt, Llety Adda, Pwll Crwn, a cadw hen dy i fyny. Siop
Hebron, helaethu darn o’r newydd at y lle. Ty capel Hebron, adeiladwyd ef yr
un amser a’r capel presennol yn lle dau dy oedd yn gysyllriol a’r hen gapel.
Cefn Gwyn, Tai’r Cryddion ei atgyweirio a’i doi a llechi yn lle gwellt fel
cynt. Penybont yn lle hen dy to gwellt, y beudai hefyd yn newyddion yn yr un
modd. Plas
Llangwnadl yn lle yr hen dy a safai ar lan yr afon, mewn cornel glyd o swn pob
drycin, Castell Coch ( The Vicarage) yn lle hen dy to gwellt, Carrog yn lle hen
dy to gwellt ynghyd a’r holl feudai ar y lle wedi eu hadeiladu o’r newydd yn
ol dull yr oes bresennol, Congl Cae ty newydd yn lle yr hen dy, Berthaur, ty
newydd ond yn llai na’r hen dy, ond y drefn ydyw codi ty newydd yn fwy na’r
hen, hefyd ychwanegwyd yma feudai newydd at yr hen rai oedd yn bod eisioes.
Bryngeinach, ty newydd a beudai newyddion yn lle yr hen rai to gwellt.
Brynbodfan neu Nant, ty newydd gwell na’r hen dy er nad gwael hwnnw. Bydd
gennyf ragor i’w ysgrifennu am y rhai a fu yn preswylio ynddynt. Bellach awn
at ffyrdd y gymdogaeth, canys y rhai hyn sydd yn cysylltu ty a thy ac yn hwyluso
ein trafnidiaeth fel cymdogaeth. Dechreuwn gyda ffordd a elwir yn ffordd isaf.
Arweinia hon yr holl ffordd o Uwchmyndd i Tydweiliog neu fel y seinid yr enw yn
yr hen amser Bydwaliog, arweinia y ffordd hon drwy Bodferin, Penygraig a gwaelod
plwy Penllech, Ffordd drofaog a’r conglau yn aml ac yn chwyrn, mae y conglau
hyn i’w canfod fynychaf pan mae y ffordd yn arwain cydrhwng man dyddynod y
gwaelodion hyn. Pan mae y ffordd yn myned trwy diroedd y ffermydd mawr maent yn
weddol unionsyth, y rheswm am hyn ydyw na oddefai’r tenantiaid y lleoedd
bychain i’r awdurdodau gario y ffordd yn syth trwy ei tiroedd hwy, felly nid
oedd dim i’w wneuthur ond amgylchynnu eu terfynnau. Dywedodd Mr Griffith
Roberts Berthaur wrthyf hanesyn
sydd yn cadarnhau y dyb hon o’m eiddo. Pan oeddynt yn adeiladu Pont yr Afon
Fawr yr oeddynt wedi cynllunio i’w gwneuthr yn uwch i fyny nag y mae hi yn
bresennol, yr oeddynt wedi cynllunio i’r ffordd fod yn unionsyth o ben
garifynnu’r Afon Fawr fel y’i gelwir hyd i derfyn Penllech Uchaf, hynny ydyw
o derfyn Berthaur hyd i dir Penllech a golygai hynny fyned a’r ffordd trwy
ddarn helaeth o ddol Bryngeinach, ond ni chaniatai John Evans tenant Bryngeinach
iddynt wneuthur y fath beth am ei fod yn golygu ysbeilio ei fferm ef o ran dda
o’r tir goreu a feddai a llwyddodd i’w rhwystro, a bu raid newid y plan a
hyn sydd gyfrifol am y drofa sydyn a pheryglus sydd ar bont yr Afon Fawr. Yn nechrau
y ganrif o’r blaen y gwnaed tipyn o drefn ar y ffordd sydd yn arwain o
Langwnadl trwy waelod Penllech hyd Tudweiliog, cyn hynny nid oedd y ffordd ond
yn rhannol mewn llawer lle o bont yr Afon Fawr ac Afon y Nant hyd Benygraig, nid
oedd na ffordd na clawdd i’w gael o unrhyw fudd ymarferol, yr oedd y tir yn
wyllt ac yn cael ei orchuddio a thwmpathau mawrion o eithin, ac yr oedd amryw o
fan ffyrdd a llwybrau yn arwain trwyddynt a defnyddid oll ohonynt yn eu tro yn
ol y fantais a’r cyfleustera ar y pryd. Ar un tro arweiniau y ffordd o
Langwnadl a Penygraig hyd at afon Penllech, hyd derfyn Berthaur ac elai dros yr
afon yn agos i morgenen, mae olion ohonni i’w gweled yn amlwg hyd y dydd hwn.
Wedi hynny trowyd cyfeiriad y ffordd a elai lawr hyd at yr afon fawr gyda
therfyn y Nant , yna cymeryd gwaelod yr afon yn ffordd, ac elid ar ei hyd pryd y
troid allan ohonni yn nhir Berthaur yn yr un man ag y byddid yn arferol yn
croesi yr afon yn amser yr hen ffordd. Ond wedi gwneuthr pont dros yr afon a
gwneud ffordd newydd o’i ben hyd at derfyn y Nant sef lon gallt forgan fel ei
gelwir hyd heddiw. Ar ol hyn yr unig ran o’r afon a arferid fel ffordd oedd y
rhan tu isaf i’r bont a ddefnyddid yn ffordd i fyned a dyfod i ac o lan y mor,
mae olion hon yn aros hyd heddiw, yn ddiweddar y torrwyd y ffordd trwy allt
Bryngeinach, fel y caf sylwi eto. Yr ydwyf yn cofio yn dda gau y clawdd ochr
nesaf i Bryngeinach, ac hefyd y clawdd ochr nesaf i’r afon ar gallt forgan. Cyn gadael
y ffordd isaf dylwn ddweud bod yn yr hen amser amryw ffyrdd yn arwain ohonni i
lan y mor, rhai ohonnynt yn cael eu hystyried yn ffyrdd plwy ( byddai fy nhaid a
minnau yn cael ein galw gan yr overseer ffordd ein plwy, sef Penllech i wneud
ein rhan fel eraill yn y plwy i adgyweirio’r ffordd sydd yn arwain o’r bont
afon fawr trwy fron y Berthaur i glan y mor neu’r borth fel ei gelwir gan
drigolion yr ardal, yr adgyweirio yn bod arni bob blwyddyn a gwneud hyn bob
amser cyn dechrau cario grafel o’r traeth i drwsio y ffordd isaf, grafel glan
y mor ddefnyddid bron yn gyfan gwbl ar y ffordd hon. Byddai ffermwyr a’r
tyddynwyr yn talu treth y ffordd fawr y pryd hynny trwy roddi gwaith i’r plwyf
yn gyfnewid am y dreth. Yr oedd ffordd uchaf y plwyf yn cael ei hadgyweirio a
grafel o chwareli y mynydd bach fel y caf sylwi eto ymhellach ymlaen. Yr oedd yn
rhaid wrth y ffyrdd canys ar hyd y rhai hyn y cariai yr amaethwyr a thyddynwyr y
parthau hyn eu gwrtaith i wrteithio eu meysydd, sef gwymon a tywod sydd i’w
cael ar y glennydd hyn mewn
cyflawnder mawr. Nid oedd y fath beth yn bod y pryd hynny a gwrteithiau
celfyddydol. Yn hanner olaf o’r ganrif ddiweddaf 1858 y daeth y peth cyntaf
ohonno i Benllyn, gweithiodd yn rhagorol, yr oedd nerth gwrteithiau glan y mor
yn aros yn y tir. Yr oedd ffermydd mwyaf ein plwyfi yn gystal a’r ffermydd
bychain yn dibynnu yn gwbl am eu gwrteithiau o lan y mor, a gwnant ddefnydd
helaeth. Rhoddant haen deneu o’r gwmon tros wyneb y maes ac yna braenent arno.
Yn y gwanwyn ail droant y maes pan ddelai amser hau. Heuent
haidd ynddo a caent haidd trwm melyn ei liw a gwellt bras fel cyrs. Ar yr ail
flwyddyn heuid ceirch yn yr un maes ac fel rheol byddid yn cael cnwd trwm o
hwnnw a byddai ei liw fel aur, felly byddem yn cael dau gnwd o’r tir am un
wrtaith iddo. Gwelir bod gwerth mawr yn cael ei roddi ar y gwymon a thywod y mor
ac felly bod gwerth a gofal yn bod ar y ffyrdd. "Porthgolmon" Ffyrdd Glan
y Mor. Yr oedd
amryw o’r ffyrdd hyn sef ffordd Porth Ferin, ffordd Trefgraig Plas i Borth
Fesig, yr oedd y ffordd hon at wasanaeth Trefgraig Plas, a’i cymdogion agosaf.
Ffordd Ty Mawr Llangwnadl yr oedd hon yn arwain i Borth Ty Mawr i wasanaethu Ty
Llwyd ac ychydig o’r cymdogion agosaf, yr ydwyf yn ei chofio yn dda a bod
defnydd mawr yn ei wneuthr ohonni. Yn y flwyddyn 1870 pan ddaeth y llong fawr
i’r lle, bu pobl yr ardal gyda’i troliau yn cario rhan o’i llwyth i ben yr
allt ar hyd y ffordd hon, fel y cawn sylwi eto ymhellach ymlaen. Ffordd Ty Llwyd
gyfer a Borth Ty Llwyd, nid oedd llawer yn cael ei wneud i hon. Ffordd
Porthgolmon, mae hon yn cael ei chadw mewn cyflwr da gan y plwyf,
gwasanaetha’r wlad canys y mae tipyn o drafnidiaeth yn cael ei chario ymlaen
ym Mhorthgolmon. Cludir glo yno gyda llongau o Lerpwl ac Afon Caer, ac hefyd
o’r deheudir, cludir blawd o Lerpwl a mannau eraill megis Caernarvon a Bangor,
hefyd bu yma odyn galch, yr ydwyf yn ei chofio yn dda. Cludid yma gerrig calch o
Borth Amal Sir Fon, byddai un o longau bach y gymdogaeth yn cael gwaith cyson
i’w gario trwy y tymor haf. Llosgid y cerrig hyn yn yr odyn gyda cwlm o’r
Deheudir, yr oedd yn gofyn wrth fedr a gofal i’w losgi. Os na roddid digon o
gwlm gyda y cerrig yn yr odyn, ni losgid y cerrig o gwbl, neu os rhoddid gormod
o’r cwlm elai yr holl gerrig yn un gacen, byddai yr odyn wedi rhwmo a gwaith
anhawdd fyddai ei ryddhau o’r cyflwr hwn. Y ddau wr medrus gyda’r odyn galch
yn fy nyddiau i oeddynt Robert Griffith Refail Bach a William Roberts Llainfatw.
Heblaw fod calch at adeiladu yn cael ei gario oddyma yr oedd toreth ohonno yn
cael ei gario yn wrtaith i’r tir. Yr oeddynt yn dod i lawr i’w geisio o
Meillionydd a lleoedd cyfagos iddo, yr oedd calch yn gweithio yn rhagorol i’r
wlad ond erbyn hyn yr ydym yn gwneuthr hebddo am fod y draul o’i geisio wedi
myned yn rhy fawr. Ffordd Nant
Abermaenog neu fel ei gelwir heddiw, ffordd Bodchenan. Yr oedd defnydd mawr yn
cael ei wneud o hon pan fyddai gwman yn garreg felan, mae y ffordd hon yn aros
hyd heddiw, ond nid oes llawer o ddefnydd yn cael ei wneud ohonni. Ffordd
y traeth neu ffordd Penllech. Yr ydwyf yn cofio hon yn dda a’r wlad am
filltiroedd o’i amgylch yn gwneuthr defnydd ohonni. Yn nechrau y ganrif
ddiweddaf gwnawd peth cyfnewidiadau ar y ffordd hon, yr oedd y ffordd ar y
cyntaf yn arwain lled union o afon Penllech i bengallt y mor ac oddiyno i lawr
i’r traeth fel ag y mae yn bresenol. Yr oedd y brif ffordd yn arwain hyd yr
afon fel dengys map y plwyf, ac yr oedd yr hen ffordd yn barhad ohonno ac yn
arwain yn lled union i ben yr allt. Yn ol a ddywedwyd wrthyf gan hen drigolion y
gymdogaeth. Ond daeth
tenant newydd i fyw i Benllech o’r enw Evan Griffith, daeth yma o rywle yn
Llanengan. Yr oedd yn wr dymunol hawdd ei hoffi. Llwyddodd hwn i berswadio prif
ddynion plwyfi Penllech a Llangwnadl i gael caniatad i wneuthr peth cyfnewid yn
y ffordd, sef bod iddo ef wneuthr ffordd newydd trwy ffarm yard Penllech, ac
oddi yno i ben yr allt i gysylltiad a’r hen ffordd ( yn gymwys fel y mae y
ffordd i’w gweled heddiw) ac iddynt hwytha roddi i fyny eu hawl o’i
hen ffordd fel y gallai ef gau i fyny y weirglodd isaf, fel y’i gelwir, a cael
trefn hefyd ar y caeau sydd rhyngddi a’r mor ac felly fu. Yr oedd y fantais i
gyd fel y’i gwelir ar ei du ef, golygai cael trefn dda a thaclus ar y caeau yr
oedd yr hen ffordd yn arwain trwyddynt a cael ffordd dda hyd at ei dy a thrwy
yard y lle hyd i lan y mor a cael pobl y gymdogaeth i’w chadw iddo ef mewn
cyflwr da trwy gario gro ar hyd ddi bob tymor, tra na roddai efe ei hun yr un
llwyth arni – dyma oedd y drefn y pryd hynny, tra’r oll a gafodd y plwyf
oedd ffordd i lan y mor, amlach ei throfeydd yn galw am gael ei thrwsio’n
amlach ac yn cael ei chau i fyny yn aml gan anifeiliad y fferm, erbyn hyn mae y
ffordd hon wedi ei chau i fyny. Ffordd yr
Afon Fawr. Mae hon yn
arwain i’r traeth o bont yr Afon Fawr. Yr oedd hon yn yr hen amser yn cyfuno
dwy neu dair o ffyrdd bychain ynddi ei hun, sef y ffordd o gyfeiriad Penygraig,
fforchogai honno ger Afon Penllech, un i arwain at y traeth a’r llall i ffordd
yr Afon Fawr, ac unai a hi ychydig uwchlaw morgerwin ar derfyn Penllech a
Berthaur. Mae olion ohonni yn aros hyd
heddiw. Y rhan arall yn arwain oddiwrth Bryngeinach, ac a ffordd yr Afon Fawr ac
weithiau ffordd Bryngeinach fe allai am y gwnai ffermwr y lle hwnnw fwy o
ddefnydd ohonni na neb arall. Yr oedd rhigwm ar lafar y gymdogaeth am un a
breswyliai yn Bryngeinach ddiwedd y ganrif cyn ddiweddaf, a redai fel hyn Gabriel
Bryngeinach Y lleban
llusa a chul Yn prysur
geisio gwman Yn gyson
bob dydd Sul. Nid ydwyf
yn cofio rhagor ohonni. Trwy’r afon arweiniai y ffordd hon hyd o derfyn
Bryngeinach i derfyn Penllech a Berthaur, lle mae olion y ffordd yn torri i fyny
ohonni. Ceir olion mwy diweddar ohonni yn troi i’r afon a’r Fron. Yn
ddiweddarach fyth y trydd y ffordd yn gwbl o’r afon pryd y torrwyd ffordd
newydd trwy allt Bryngeinach a than Fron Berthaur, ac y cysylltid hi a ffordd y
plwyf Penllech, oedd yn arwain trwy y Fron i’r traeth, mae y rhan hon o ffordd
‘Rafon Fawr yn aros hyd heddiw ar hyd hon y byddai Plasymhenllech a lleoedd
eraill yn cario gwman a tywod o’r traeth ac ar hyd hon y byddid yn cario
grafel i drwsio ffordd isaf y plwy, hefyd tua diwedd y ddeunawfed ganrif
a dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai CefnAmwlch yn cario llawer
ar hyd ddi – Gwymon a tywod, cariant y naill a’r llall ar gefnau mulod (
bastariaid) carient y gwymon i’r Gadogan, caeau a elwid felly sydd ar yr ochr
nesaf i Blas Cenamwlch, ar y mynydd bach. Un o’r enw Griffith oedd yn
preswylio yno pryd hynny. Mae ffordd yr Afon Fawr yn aros eto ond nid oes fawr o
ddefnydd yn cael ei wneuthr ohonni heddiw. Ffordd Nant
Cwch. Mae hon yn
arwain oddiwrth feudai Berthaur i’r traeth ac nid oes neb ond hwy yn gwneud
defnydd ohonni, mae y ffordd hon yn aros hyd heddiw. Ffordd Y
Bont Bridd neu ffordd Ty Mawr ym Mhenllech. Bu hon yn
gwasanaethu Ty Mawr a Berthaur ynghyd a Phenllech Bach a mannau eraill yn y
gymdogaeth. Yr oedd yn arwain o’r brif ffordd trwy yard Ty Mawr a Berthaur ac
yna trwy y gweirgloddiau ac i lawr i’r traeth Bont Bridd trwy dir Berthaur,
nid oe neb yn ei defnyddio heddiw. Ffordd
Porth Sion Dafydd. Yr oedd hon
cydrhwng y Bontbridd a traeth Penbryn, yr oedd hon at wasanaeth Penrhyn Melyn a
Penbryn Penllech. Yr oedd Penrhyn Melyn wedi ei gysylltu a Phenbryn a Sion
Dafydd oedd enw tenant Penbryn yn yr hanner gyntaf o’r ganrif ddiweddaf ac efe
a wnaeth y ffordd hon wedi iddo gael Penrhyn Melyn. Mae y mor wedi tynnu y
ffordd hon i lawr mor llwyr erbyn hyn fel nad oes brin olion ohonni i ddweud lle
y bu. Ffordd
Porthychain. Yr oedd hon
yn arwain o’r brif ffordd trwy yard Tyddyn Belyn i lawr i Rhos Borthychain ac
i lawr ochr y nant fechan ac i’r Borth. Gwasanaethai hon holl amaethwyr mawr a
bach canol plwyf Penllech, nid oes ddefnydd yn cael ei wneuthr ohonni heddiw. Ffordd
Porthgwylan. Arweiniai
hon o’r briffordd yn ymyl Tyddyn Sander a thrwy yard Porthgwylan i lawr i’r
borth gwasanaethai Borthgwylan a’r cymdogion agosaf. Bu
y ffyrdd hyn o wasanaeth werthfawr i’r wlad am lawer oes ond daeth tro ar fyd.
Daeth teimlad newydd i’n mysg, dadmerodd ein serch tuag at ein gilydd a
graddol giliodd cydymdeimlad y naill tuag at y llall hen rinweddau y trigolion
yn yr amser a fu a daeth cenfigen i lanw eu lle. Yr oedd hyn yn fuan wedi
etholiad 1868, yr oedd dirywiad crefyddol wedi dechrau cyn hyn, ond daeth yn
gryfach ac yn fwy amlwg yn etholiad 1868 fel y caf ddangos eto. Cyn hyn yr oedd
pawb yn ewyllysgar a barod i gynorthwyo ei gymydog yn amser hau a medi, neu mewn
rhyw amgylchiad arall ac yn llawenhau o gael rhoi help llaw i’w gyd ddyn, ac
yn gallu llawnehau yn llwyddiant y naill a’r llall. Yr oedd ei crefydd mewn
cynorthwyo ei cyd ddynion mewn gwerth neu benthyca arian mewn angen a hynny yn
ddi log ac heb na phapur na dim arall i ddangos eu bod yn cael ei rhoddi, dim
ond ymddiriedolaeth brawdol. Yr oeddynt hefyd yn ddiarhebol am eu haeliongarwch
a’u gofal am y tlodion, a’r crwydriaid ond wele y rhinweddau hyn yn cilio,
ac fel yr oedd yr hen gymwynaswyr yn marw nid oedd neb yn codi yn eu lle. Daeth
ysbryd caled a hunanol yn eu lle, ac un o’r amgylchiadau cyntaf ohonno oedd
gwaith ffermwr Penllech Uchaf yn cau ffordd a arweiniai trwy ei fferm ef rhag
i’w gymdogion gael manteisio byth mwy. Ac fel hyn y diweddaf y peth.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |