|
|
"Captan Sam K Williams" (Hela Morfil) Ym mis Chwefror 1947 ymunais a’r MT
Empire Taganax yn Avonmouth, ar yr adeg yma roedd y wlad i gyd yng ngafael
tywydd eithriadol o oer. Roedd ‘rigging’y llong yn drwch dan eira ac roedd yn
amhosib gweld ei deciau. Cyflwyniad addas iawn iddi, oherwydd yr oeddwn i a’r
hen long am brofi tywydd llawer oerach yn y dyfodol agos. Ail enwom y llong a’i
galw y ‘Busen Star’. Adeiladwyd hi gan y Daniaid ar ddechrau’r rhyfel, ei henw
gwreiddiol oedd yr ‘Heming Maersk’. Pan oedd Denmarc wedi ei meddiannu gan yr
Almaenwyr, fe gymeron nhw drosodd y llong a’i galw yn ‘Hydra’, fe’i defnyddiwyd
fel llong cario nwyddau ac offer i longau tanfor. Arni hefyd roedd caetsys i
ddal carcharwyr rhyfel Prydeinig, ond yn ffodus iawn ni chafodd ei defnyddio ar
gyfer y pwrpas yma, gan i’r RAF ei bomio a’i gyrru i’r lan oddiar arfordir
Llychlyn. Roedd olion o’r bomio i’w gweld arni pan
Ar ol gadael
Cape Town, aethom am y de ac allan o’r llwybrau arferol i longau ac i’r moroedd
eang, anhysbys i lawer. Yn fuan roeddem yn y ‘Roaring Forties’ y rhan honno sydd
rhwng 35 a 50 degrees i’r de, ble mae gwyntoedd cryf yn Daeth llong ddal (catcher) atom i gael llythyrau ayb, roedd hi’n tynnu morfilod y tu ol iddi, pob un yn cael ei lusgo i fyny llithrfa oedd ar starn y llong ffatri ac i fyny i’r ‘flensing deck’. Un tro dwi yn cofio i mi weld morfil glas oedd mor fawr roedd wedi mynd yn sownd ar y lithfra, bu dipyn o fystachu i’w gael oddyna ac i fynu i’r dec uwch ble byddid yn trin y morfilod. Dois i wybod fod y morfil arbennig yma yn pwyso dros gan tunnell ac yn gan troedfedd o hyd, ond mewn llai nag awr roeddent wedi tynnu’r saim a rhoi’r gweddill yn y boileri. Roedd gwaith ar y llongau ffatri yn mynd ymlaen ddydd a nos ac roedd wastad prysurdeb di ddiwedd arnynt. Pan oedd digonedd o forfilod i’w cael roedd y dynion yn hapus, ac yn gweithio fel lladd nadroedd oherwydd wrth y canlyniadau roeddent yn cael eu talu, ac os oedd y tymor wedi bod yn un llwyddiannus roedd bonws da iawn i’w gael. Yr adeg yr ydwi yn gyfeirio ato roedd digonedd o forfilod o glas i’w cael. Y morfil glas ydi’r mwyaf o’r morfilod ac yn rhoi cnwd da o olew, gellid cael tua 200,000 casgen sef 33,000 tunell o olew morfil mewn tymor heb son am y cig a’r cynhyrchion eraill a geid ohonynt. Ar un adeg roedd olew morfil yn werth £100 y dunell. Roedd yn fusnes llewyrchus iawn i’r gweithiwr a’r perchenog. Gwyr y gynnau oedd y rhai pwysicaf o’r criwiaiu i gyd a gallai saethwr da fod gyda cymaint o ddylanwad a pherchenog y cwmni ei hun. Roedd ei sgiliau a’i wasanaeth yn dra pwysig ac o’r oherwydd cai ei dalu yn dda. Gallai rhai ohonynt ennill hyd at £10,000 mewn pedair mis o bysgota, cofiwch roedd yn waith caled a gorthrymus, ble nad oes nos a’r gwaith yn cario ymlaen rownd y cloc. Ai’r alwad allan ‘Vaal Blast’ (dutch) neu yn saesneg ‘There she blows’ ac mae’r helfa yn dechrau. Weithiau roeddent yn dod i fyny at y morfil yn sydyn a saethu’r harpwn, oedd a ffrwydrad ynddo, chwythai i fyny eiliad neu ddwy wedi taro’r morfil. Os oedd y saethwr wedi ei chael yn iawn yna mi fyddai’r morfil yn marw yn syth. Tynnwyd y morfil at y llong a byddid yn ei bwmpio efo aer cywasgedig, torrwyd rhan o’r gynffon a byddai’r llong ddal yn torri rhif y llong ar gynffon y morfil. Os mai ‘setter’ 1V oedd wedi saethu’r morfil, yna ‘r nod fyddai S1V, neu i ‘terrier’ 1V y nod fyddai T1V. Rhoddwyd banner y cwmni a oedd gyda’r llythrennau HW (Hector Whaling) arni, ar y morfil, er mwyn adnabod ac er mwyn gallu gweld ble roedd y morfilod. Yn ogystal roedd ‘floating direction finding beacon’ yn cael ei roi ar y morfil er mwyn i ni gael dod o hyd iddynt mewn niwl neu luwchfeydd eira (blizzards) Defnyddiau’r llong ffatri y morfilod fel ‘fenders’ i nadu’r ddwy long daro eu gilydd, ac roedd y morfilod yn dda ar gyfer y pwrpas, llawer gwell nag unrhyw ddyfais ddynol. Mae dod ochr yn ochr a llong arall yn dasg eitha anodd, mae’r ddwy long yn hwylio i’r gwynt, a’r llong ffatri yn dal cwrs cyson tra roedd ein llong ni yn symud ati, gallai cangymeriad ar ein rhan greu difrod mawr. Mae clymu fyny yn anodd hefyd wrth i’r ddwy long fynd lan a lawr yn y tonnau. Gyda ein bod wedi clymu fyny yn ddiogel mae’r gwaith o drosglwyddo a chyfnewid olew yn cymeryd lle. Tra mae’r llong ffatri yn derbyn olew tanwydd rydym ni (gynta mae’r gwyddonwyr di archwilio’r tanciau a’u pasio yn addas) yn derbyn olew morfil. Yn ffodus i ni y tro cyntaf i ni glymu fyny roedd y tywydd yn braf a digon o forfilod yn yr ardal, ac mi fuon di clymu fyny am ddeg diwrnod i’r long ffatri a ddaru ni ddim stopio gweithio am hynna chwaith ! Gellir disgrifo dec y long ffatri fel golygfa erchyll, roedd morfilod yn cael eu datgymalu, weirs a bachau dan straen yn tynnu cnawd ac esgyrn, dim y lle i rai efo stumogau gwan yn saff. Oedd yn wir mi oedd o yn waith caled, digysur, gweithio ddydd a nos dan amodau echrydus. Weithiau mi oeddan ni yng nghanol cymaint o fynyddoedd ia, fel yr oeddem yn meddwl tybed a welan ni ddwr clir fyth eto. Mi welais fy hun am ddau ddiwrnod yn ceisio dod allan o’r rhew a hithau’n chwythu’n gryf, ac eira mawr yn ogystal. Weithiau mi fyddem yn cysgodi o’r gwynt wrth ochr mynydd ia enfawr. Gallai rhai ohonynt fod yn sawl milltir o hyd. Bob tymor fe ddigwyddai rhywbeth i’n atgoffa o’r tymor hwnnw, ond roedd stromydd gerwin yn digwydd bob tymor ac yn achlysuron cyffredin a disgwyliedig. Deuai Pegwn y De a’r gorau a’r gwaethaf allan mewn dynion. Roedd yno’i harddwch a’i hacrwch, roedd hi’n galed yno, ac eto dychwelyd tymor ar ol tymor oeddan ni gyd. Roedd yna rhyw alwad anesboniadwy yn perthyn i’r lle rhyw dynfa anealladwy. Wrth sgwrs yma oedd ein bywoliaeth, ac mi oedd y pres yn dda ac un peth allai pawb fod yn sicr ohonno oedd ‘bonws dda’ ar ddiwedd bob tymor. ********* Yn ol i dudalen Captan Sam K Williams ********* Diolch yn fawr iawn i Miss G Williams am hanes a lluniau ei thad. |
|
Copyright © Rhiw.com |