|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Symud ei
long Sept 12, 1921. R No 1920
Swansea. R No 246
Barry. R No 191
Newport. Dyma nymbar
oedd ar lythyra y rhai diweddaf yrrodd Isaac Bach adra efo arian or SS
Stevenstone. Ionawr. Sul 1
Yn Tan y Ffordd, Sul annifyr. Llun 2
Dydd llun yn Tan y Ffordd cael llythyr or office o Gaerdydd yn dweud fod
stori yn caerdydd fod criw wedi ei picio fyny yn North Sea dim sicrwydd. Mawrth 3
Dydd mawrth, Pwdin ar llythyr wedi ei yrru i Isaac Bach yn dod yn ol,
digalon iawn yn eu derbyn a llythyr oddiwrth Thomas fy mrawd or South a
darn papur newydd, hanes y criw. Mercher 4
Gwynt mawr or gogledd trwyr nos. Dim newydd heddiw yn dod. Llythyr i
Lanbedrog. Iau 5
Rhew caled bora heddiw. Newydd ddrwg trwy i Mr Williams y Person ddod a fform
iw llenwi oddiwrth y Bord of Tred dim gobaith. Llythyr ir South. Gwener 6
Digalon iawn heddiw dim ond dim ond cymyla o dur ddaear ym mhob man. Gan
Lewis 15/-. Sadwrn 7
Cael llythyr o Lundain eisiau mi fynd at Mr Williams y Person i seinio i
gael pum punt or gymdeithas y llongddrylliedig, Newydd drwg o hyd. Sul 8 -
Evans Rhiw am 2 a 6. Yn Tan y Ffordd bora Hiraeth am fy machgen.
Catherine fy chwaer yma efo motor Robert London. Llun 9
Yn Tan y Ffordd, gwynt mawr heddiw etto. Hiraeth mawr etto heddiw. Llythyr
oddiwrth Thomas or South. Mawrth 10
Yn Tan y Ffordd yn rhoi fyny i ddisgwyl. Rhaid bodloni ir drefn. Derbyn
10/- o Caernarvon. Talu am wadna sgidia Bob 7/7d Mercher 11
Yn Tan y Ffordd anfon llythyr i Thomas ir South ac address y dyn Caerdydd
ynddo. Marw Wmffra Tyn Graig. Iau 12
Cael llythyr or Office o Caerdydd yn rhoi yr SS Stevenstone i fyny, Mr
Williams y Person yn ysgrifennu dau lythyr iw ateb. Gwener 13
Yn Tan y Ffordd. Polyn malu yn torri. Araian Lewis G Jones 15/-. Bob yn nol
4 cant o lo or Nant.. Sadwrn 14 -
Angladd Wmffra Tyn Graig. Cael fform iw llanw o Gaerdydd yng nghylch
Isaac Bach. Mynd ir Sarn at y lifin. Sul 15
Yn Tan y Ffordd glaw mawr, hiraeth mawr am Isaac Bach, gwynt mawr. Llun 16 -
Cael llythyr or office o Caerdydd yn dweud ei bod wedi gyrru y cleim i
mewn ir ensurance. William Ty Croes Bach yn dod ac yn dod ac oed fy machgen
or dre i yrru i Caerdydd. Mawrth 17
Cael llythyr oddiwrth Thomas or South a llun Trefor Thomas o Gaerdydd
oedd ar y Stevenstone, a llenwi y fform ai gyrru i ffwrdd. Mercher 18
Dim efo post heddiw. Anfon llythyr i Owen Williams Ty Newydd i Blackwood.
Reit ddigalon heddiw. Iau 19
Cael llythyr o Appledore, dim newydd ynddo. Gwener 20
Dim newydd, digalon iawn. Cael 5/- o Gaernarvon. Cael 15/- gan LG. Jones
Bach fu yma yn bregethwr heddiw. Sadwrn 21
Glaw heddiw. Derbyn llythyr oddiwrth Owen Williams Ty Newydd. Derbyn Fform i
llenwi a llythyr yng nghylch ei gyflog, anfon llythyr am y nymbar y llong i
Gaerdydd ac anfon yn nghylch ei gyflog. Tarw i fuwch Neigwl Ganol. Sul 22 -
Evans am 2. Bora braf llawer o bethau ar fy meddwl. Thom Hughes yma. Llun 23
Bora braf gwynt or dwyrain. Anfon llythyr i Owen Williams i Blackwood ac
anfon llythyr i Mrs Trevor Thomas i Gaerdydd a un i Mrs Copp i Appledore. Thomas
Ty Rhos yma heno. Derbyn 6/- o log or coperatyf. Mawrth 24 -
Anfon llythyr i Clwt y Bont a Portmadoc. Mynd at Hugh Tyddyn. Dick yn dod
yno i fy nol i fynd at y Person i seinio riw bapur. Chwythu yn oer iawn or
dwyrain. Mercher 25
- Bwrrw eira heddiw or dwyrain.
Marw Richard Roberts Tyn y Fron. Cael llythyr or office o Gaerdydd. Dim
newydd reit ddigalon. Iau 26
Derbyn llythyr oddiwrth Anne or Port. Derbyn £7/18/0d oddiwrth Hansen
Cardiff a derbyn yr hyn oedd yn weddill oi gyflog £1/2/7d. Mr Williams yn
anfon fform insurance i ffwrdd. Yn y Syntyr. Gwener 27
Mynd ir Sarn i newid yr arian gefais or office Hansen Caerdydd £9/2/7d.
Cael llythyr o Clwt y Bont. Merchaid Bayview a merchaid Llawenan yma. Sadwrn 28
Yn tan y Ffordd bob dydd. Dim cysur. Cael llythyr oddiwrth y Shipping
Federation of Liverpool eisiau y Regret Envelope a faint oeddwn wedi ddrbyn
or arian diwaith mewn 2 fis. Angladd Richard Roberts. 15/- gan Lewis Jones. Sul 29 -
Yn Tan Y Ffordd. Bora braf. Bodlonni ir Drefn. Yn Carreg Lefain fi a
Eliza gydar nos. Llun 30
Derbyn llythyr oeddwn wedi ei yrru ar y 14 o Ragfyr i fy machgen yn ol o
Gaerdydd ac wedi bod yn Nenmark. Llythyr Tedi a Christmas card hogan o Cork,
digalon iawn pob gobaith wedi darfod. Anfon llythyr i Lerpwl ar Regret
Envelope a un i Caerdydd ir undeb. Mawrth 31
Dim llythyr heddiw. Anfon llythyr i Thomas ir South. Chwefror. Mercher 1
Cael tri llythyr , dau o Gaerdydd ac un o Liverpool. Angladd Joseff
Brynffynnon. Iau 2
Yn Tan y Ffordd bob dydd. Dim hefor post. Bwrrw glaw. Owen Griffith
Meillionydd Bach yma heno. Gwener 3
Cael llythyr o Lundain oddiwrth yr undeb sailors and ffeirmen. Llifo cyllill
y felin yn Penponcyn fi a Tedi, arian Lewis Jones 15/-. Sadwrn 4 -
Derbyn y llyfrau misol a dim arall. William Jones Ty Croes Bach yma heno.
Cyngor plwy heno. Sul 5 -
Yn Tan y Ffordd, bora braf. Bachgen o Glynnog am 2 a 6. Llun 6 -
Derbyn llythyr Hugh Tan yr Ardd yn cydymdeimlo a ni ar ol ei hen ffrind.
Anfon llythyr i Gyfynus a Rev Madog Roberts. Mawrth 7 -
Mynd at Owen Parry i weld chwarel Meillionydd Bach. Derbyn llythyr ac yn
dywedyd y swm ddarfuont bennu ar ol fy machgen druan. Ei hanes yn yr Herald
Gymraeg. Mercher 8 -
Yn y dre yn talu am y llechi toi y gegin. Llythyr oddiwrth Bobi y Port o
Cork ac oddiwrth Madoc Roberts. 10/- Caernarvon. Iau 9
Cael yr agriment i seinio ei phostio yn ol. Diwrnod sych gwynt yn y de ddwyrain.
Blwyddyn i heddiw daeth fy machgen bach adra yn sal o Llanelly (9fed dydd) Gwener 10
Dim hefor post. Diwrnod braf. Hiraeth Mawr. Hanes fy machgen yn yr
Herald. 15/- gan Lewis Jones. Drama
Pwyllgor Ras Cwn yn yr ysgol. Sadwrn 11 -
Cael postcard oddiwrth y Shipping Federation yn dweud eu fod wedi gyrru
yr agreement i Head Office. Cael llythyr oddiwrth Rev Gwilym Roberts gweinidog
Pwllheli. Dick yn redig efo ceffyl Tyn Llan. Sul 12 -
Yn Tan y Ffordd bora. Rhew a gwynt or dwyrain. William Evans Gwiga am
2 a 6. Yr oedd fy machgen adra yn sal flwyddyn yn ol i heddiw. Llun 13 -
Dim hefor post heddiw, hiraeth mawr. Bob a Dick yn redig yn cae capel
am roid tatws yn y pen ucha. Tywydd sych. Mawrth 14
Dechrau redig tyndir yn cae big. Dim hefo post heddiw, pob gobaith am fy
machgen wedi darfod. Mercher 15
Cau adwy llidiart Dafydd i Henry Bodwyddog. Dick a Bob yn redig tyndir. Iau 16
Derbyn llythyr o Clwt y Bont ar agriment oddiwrth Arthur Owen Pwllheli. Gwener 17
Mynd i Clwt y Bont. 15/- gan Lewis Jones. Sadwrn 18
Yn Clwt y Bont yn angladd fy ewythr. Bob a Dick yn redig. Sul 19 -
Yn Llanbabo, gweinidog Llanrug. Llun 20
Cychwyn am dy modryb Sarah Llanrug. Dau lythyr un or De ar llall. Bob a
Dick yn gorffan redig. Mawrth 21
Derbyn llythyr a stiffigat oed fy machgen o Liverpool. Bwrrw eira. Mercher 22
Anfon llythyr i Josua i
America. Bob yn dyrnu yn Meillionydd Bach. Iau 23
Derbyn llythyr oddiwrth Jini Brynchwilog. Anfon llythyr i William Roberts Namor.
Derbyn 2/6d gan H Parry Bodwyddog am gau adwy. Gwener 24
Niwl heddiw. Derbyn 15/- gan LG Jones. Sadwrn 25
Derbyn 5/- o Caernarvon. Anfon i William Trevor Williams fy nghefndar ir
America. Palu yr ardd yn Tan y Ffordd. Sul 26
Evans am 2 a 6. Oen bach cyntaf y Tan y Ffordd. Tan y Foel am 6. Llun 27
Yn Tan y Ffordd bob dydd. Bwrrw y bora, gwynt oer or de. Dim efo post heddiw. Mawrth 28
Eisteddfod Rhoshirwaun. Diwrnod sych. Merchaid yr Efail Bwlch Clawdd yma
heno. Mawrth. Mercher 1
Bore braf, dechrau bwrrw 10 y bora or dwyrain. Dim newydd heddiw. Iau 2
Yn Tynlon yn gosod popty. Gwener 3
Yn Tynlon yn gorffan. 15/- gan Lewis Jones. Sadwrn 4
Mynd i Rhoshirwaun at Caradog i lenwi fform yr arian diwaith. Cael llythyr
oddiwrth Arthur Owen Pwllheli yn dweud fod yr arian yn cael eu talu. Yn y cwrt
18 or mis yma. Cyngor plwy rhoi rhybudd i ddewis am aelod newydd ar 11 o mis
yma. Sul 5
John Lewis Pwllheli am 2 a 6 Yn Tan
y Ffordd bora. Gwynt a glaw drwyr dydd.
Bob yn ei wely yn wael. Llun 6
Anfon arian am y llyfr misol £1/4/7d. Anfon papur wedi ei seinio i Arthur Owen
Pwllheli. Mawrth 7
Derbyn llythyr W Roberts Nantymor. 5/- o Caernarvon. Tedi yn ei wely yn wael. Mercher 8
Mynd ir dre heddiw at Arthur Owen. Prynu coed i wneud trwmbal newydd trol
Tan y Ffordd. Iau 9
Yn Tan y Ffordd. Gwener 10
Gorffan palu Tan y Ffordd. Sadwrn 11
Ffebi yn dod ac oen. Y gwn mawr heddiw yn Penarfynydd. Dewis dynion newydd
at y Cyngor Plwy. Sul 12
Evans am 2 yn lle Gwilym Roberts. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 13
Yn Pwllheli yn y cwrt yn gorffan hefo fy machgen Druan. Mynd i Newport wrth ddod
adra. Mawrth 14 -
Rhychu, plannu tipyn o resi yn ardd Tan y Ffordd. Yn Shop Newydd pawb
or gwaith yn trio cytuno i llwyth. Mercher 15
Yn Pwllheli yn derbyn yr arian ar ol fy machgen druan £125/0/0d Iau 16
Yn Pwllheli etto o flaen treibiwnal yr ynemployed. Gwener 17 -
Yn Meillionydd yn symud y fainc fechan or bwtri ir gegin fach. Mynd
i Rhoshirwaun at Caradog yn gylch yr ynemployed. Diwrnod braf, tywydd braf 14
diwrnod braf. Sadwrn 18
Mynd ar spinod ar myharen ir comins. Gorffan plannu ardd Tan y
Ffordd. Diwrnod braf etto heddiw. Sul 19 -
WR Jones am 6. Pasio i Evan Williams a mi fynd i hel y gymdeithas. Llun 20
Mynd fy hunan i hel y gymdeithas Beibla. Mawrth 21 -
Mynd i Chwilog efor ferlan i nol car Hugh Jones Tyddyn. Diwrnod oer
bwrrw eira. Mercher 22
- Yn Tan y Ffordd. Diwrnod oer. Iau 23
Yn Syntyr yn torri fy ngwallt. Yn Trip yn ail osod y popty. Gwener 24
Mynd ir Nant i ddisgwyl llong, llwytho chwe wagon. Sadwrn 25
Yn Ty Canol ffatri yn ail osod popty. Sul 26
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Ellis Lloyd ddim wedi dod. Llun 27 -
Llwytho SS Amy Summerfield o saith dan saith. 74 round. Mawrth 28
Gorffan llwytho un or gloch, 20 awr. Mercher 29
Llwytho SS Mary Summerfield 72 round, dechra 7 dan 8.30 Iau 30
Palu yr ardd o dan y cwt mochyn. Gwener 31
Mynd ir Nant i lwytho SS Amy
Summerfield, dim llwytho, gwynt a glaw or de. Bwrrw eira cnwd tew. John Tan y
Ffordd yma. Rhew yn galed. Ebrill. Sadwrn 1
Mynd lawr i Nant disgwyl SS Amy Summerfield. Rhewi yn galed. Blwyddyn yn ol
gorffan plannu y fordor dan y gegin Isaac druan. Sul 2 -
Sul heb bregethu. Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Sul braf dadmer yn yr haul. Llun 3 -
Llwytho SS Amy Summerfield 65 round. Diwrnod oer. Anfon llun i
Roland Tyn Cae. Fi a Eliza yn mynd i Tyddyn i ddanfon y blawd. Mawrth 4
Mercher 5-
Mynd lawr ir Nant i lwytho chwe wagen, llong yn methu dod i fewn. Iau 6
Llwytho SS Jesse Summerfield o saith dan 4. Gwener 7
Methu dod at i pier, rigio lle i gael cerrig y Benallt i lawr. ( ar y mor
1920) Sadwrn 8 -
Yn rhoid slipars hyd y lein i gario cerrig i Benallt. Sul 9
Bob Humphreys Llanbedrog am 2. Llun 10
Yn y Groeslon yn gwneud lle ir ceffylau i gario cerrig or Benallt. Mawrth 11
Gorffan plannu tatws yn pen uch cae capel. Tan y Ffordd. Mercher 12
- Rhychu clwt mawr Ael y Bryn,
plannu cae crwth Penarfynydd. Glaw pnawn. Iau 13 -
Nol benthyg trol Tyn Gamfa i ddod a llwyth o dail i Ael y Bryn. Plannu y
fordor dan yr hen gegin a hanner y clwt mawr. Marw Owen Conion. Gwener 14 -
Glaw mawr or dwyrain. Dick yn mynd i Nevin efo John Conion. Sadwrn 15 -
Gwynt a glaw or de yn bora. Sul 16 -
Rev T Gwilym Roberts. Derbyn or newydd Bob a Johnnie, Mary a Jemima (Pasg)
Te yn Ty Croes. Gwynt oer or gogledd. Llun 17
Bob yn angladd William Conion. Aberdaron wedyn finnau yn gorffan plannu tatws. Mawrth 18
Mynd i Meillionydd Mawr, dim tywod yno i wneud llawr, mesur 87. Diwrnod braf
gwynt or gogledd. Mercher 19
Eliza yn mynd i dre hefo moto Seaview dim yn dod adra, finnau mynd i
Groeslon. Iau 20
Yn Ty Croes Bach yn gwneud stol rhwng y ddwy fuwch, mynd i nol baich o
bricia i ddal pwys. Gwener 21
Diwrnod braf. Tarw ir fuwch ganol. Dick yn rowlio Cae Big. Sadwrn 22
Llythyr oddiwrth Eliza or dre yn dweud mai dydd mercher y daw adra efo
gwraig Harry. Sul 23
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Jones Nevin ddim di dod. Sul oer bwrrw ychydig. Llun 24
Hanner yn cael y wagen i fyny Bodwyddog efo Nant y carw. Mawrth 25
Turn ynyr iard Nant yn dod a cerrig Benallt. Pau £2/13/10d. Glaw pnawn. Mercher 26
Turn yn yr iard yn dadlwytho. Gwynt or gogledd. Iau 27
Turn yn yr iard yn dadlwytho gwynt or gogledd. Gwener 28
Hanner yn yr iard, coed y drym ar inglain yn torri, adra pnawn. Gwynt oer
or gogledd. Sadwrn 29
Adra yn gwneud y simna yn y gegin bach. Diwrnod heb fod yn oer. Sul 30
John Lewis Pwllheli am 2. Mai. Llun 1
Chwythu yn oer or gogledd heddiw etto. Annie Bryn Difyr yn mynd ir dre i
gyflogi. Hannar yn yr iard yn dadlwytho. Mawrth 2
Diwrnod yn yr iard etto. Diwrnod brafiach heb fod mor oer gwynt i lawr. Mercher 3
Tri chwarter etto yn yr iard. Glaw or de. Iau 4
Diwrnod etto. Gwynt or south west. Gwener 5
Diwrnod yn gorffan cael y cerrig o Benallt i Nant. Sadwrn 6
Sul
7 RM Williams am 2 . Sul braf. Llun 8
Gwneud simdda y gegin fach bora, yn Ty Rhyd yn gosod sgeulat ym mhen y ty yn
pnawn. Mawrth 9
Gwneud simdda gegin bach. Tywydd braf. Mercher 10
Chwilio am gerrig tu ucha i Brynfran i wneud y simdda. Motor doctor yn
Carreg Lefain. Iau 11
Yn dre o flaen y treibiwnal. Tynnu fy nanedd. Gwener 12
Gwynt oer or gogledd. Gosod gwydra ar ffenast yr eil. Sadwrn 13
Ffair Pwllheli neb oddyma yno. Eliza yn Carreg Lefain y merchaid yn wael yno
i gyd. Sul 14
Evans am 2. Dim capel chwydd yn fy ngwyneb. Eliza yn Carreg Lefain. Sion Penbryn
Bach yma. Llun 15
Gwneud corn y gegin bach. Mawrth 16
Bwrrw glaw heddiw. Cyfarfod yn yr ysgol. Thomas hogyn Charles yma a Harry
Penbryn Bach ar wraig. Mercher 17
- Tomi Bryn Awel yn mynd ir Siop
Isa i weini. Iau 18
Tyllu i roid pren ar wal y gegin bach. Gwener 19
Sadwrn 20
Sul
21 - WR Jones Nevin. Llun 22 -
Fi a Eliza yn mynd ir ffair. Prynu sink a grat. Mawrth 23 -
Toi y gegin bach. Mercher 24
- Llwytho SS Mary Summerfield. Iau 25
Diwrnod poeth palu tatws yn fordor dan y parlwr. Mynd ir Groeslon pnawn
cymysgu calch. Gwener 26 -
Yn Meillionydd Mawr yn gwneud llawr syment. Sadwrn 27
Llwytho SS Jessie Summerfield. Clirio cerrig Benallt Pau £1/12/5d. Gwn mawr. Sul 28 -
Bachgen o Glynnog. Llun 29
Diwrnod poeth. Yn y Nant yn gosod llawr. Mawrth 30 -
Diwrnod poeth. Trwsio ty Elin Wmffra. Mercher 31
Diwrnod yn y Groeslon, chwilio am ystolion, dechra symentio y corn. Mehefin. Iau 1
Diwrnod yn y Groeslon. Gwener 2
Diwrnod yn y Groeslon. Cyfarfod yn Tyddyn. Sadwrn 3
Hannar yn Groeslon. Sul 4
Rev Gwilym Roberts am 2 a 6. Llun 5
Yn Groeslon. Mawrth 6
Yn Groeslon. Mercher 7
Yn Groeslon. Iau 8
Groeslon etto. Gwener 9
Groeslon etto. Sadwrn 10 -
Adra ar y gegin bach. Sul 11 -
Dim yn y capel. W O Evans yn Aberdaron. Llun 12
Yn Groeslon yn gosod sgeulat. Marw Dafydd Penbryn Bach. Mawrth 13
Hannar yn y Greoslon. Eliza a fi mynd i Penbryn Bach. Mercher 14
Yn y Groeslon. Iau 15
Yn y Groeslon. Gwener 16
Angladd Dafydd Penbryn Bach. Sadwrn 17
Yn Y Groeslon dan dri. Sul 18
Thomas Ellis Pwllheli (injan driver). Llun 19
Yn Groeslon yn plastro talcen ty. Mawrth 20
Yn Groeslon. Mercher 21
- Yn y Groeslon gorffan. Breuddwyd
neithiwr gweld stemar fawr yn angori wrth y lan yn Porth Llywenan. Iau 22
Y ddau William Clwt y Bont ffordd yma. Dechra yn y Benallt. Gwener 23
Yn y Benallt. Mynd i Meillionydd Mawr at y gwenyn. Sadwrn 24
Yn y Benallt. Yn Ty Croes Bach yn gosod polyn wrth yr injan ladd gwair.
Hughes yn talu am drwsio y Groeslon £2/16/0d. Sul 25 -
WR Jones Nevin am 2. Llun 26
Turn yn Benallt. D Tecwyn Evans yn darlithio ar AG. Mawrth 27
Hanner turn. Mynd ir capel mawr. Mercher 28
Turn. Iau 29
Adra ddim yn dda. Gwener 30
Turn. Derbyn 10/- o Caernarvon. Gorffennaf. Sadwrn 1
Tedi ar y mor. Gwynt a glaw mawr. Sul 2
William Evans Gwiga am 2 a 6. Llun 3
Turn Benallt. Mawrth 4
Turn yn Benallt. Mercher 5
Turn. Bob yn danfon bustych Nant ir dre. Glaw mawr drwyr nos or
dwyrain. Iau 6
Glaw mawr bore heddiw etto. Turn. Tywydd gwan, gwair Bodwyddog wedi ei dorri ers
pythefnos. Gwener 7
Turn. Gosod y popty yn y gegin bach. Sadwrn 8
Turn. Willie clwt y Bont yma a Rhisiart Ty Fair.Glaw mawr or dwyrain. Sul 9 -
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llawer ar fy meddwl, Isaac bach yn mynd i
ffwrdd ar ol te blwyddyn yn ol i heddiw ir South Sail ar yr SS Afon Lledi,
Dick yn ei ddanfon i Bangor ( July 10 1921). Llun 10
Codi cerrig i fyny yn y Benallt hannar y bora. Mynd ir Syntyr heno i dorri
mawn gwair. Mawrth 11
Codi etto. Ty Croes Bach yn cario cae sgubor. Mercher 12
Turn. Iau 13
Turn. Pau cyntaf yn y Benallt £1/14/2d. Eliza wedi mynd i Llanbedrog. Angladd
Tommi Pisgah. Gwener 14
Turn. Dechra torri gwair yn y cae nesa i Conion yn Tan y Ffordd. Sadwrn 15
Turn. Gwn Mawr. Derbyn £1/10/0d gan Lewis G Jones. Sul 16
Evans am 2 a 6. Llun 17
Turn. Mawrth 18
Turn. Mercher 19
Turn. Iau 20 -
Turn. Niwl. Gwener 21
Turn. Niwl. Sadwrn 22
Turn. Yn Ty Croes Mawr yn cario gwair cae waen. Sul 23 -
Evans am 2 yn lle Gwilym Roberts. Bwrrw glaw heddiw. Cyfarfod gweddi am 6
Griff Thomas, Elis Jones, Evan Hughes, Evan Williams yn sal, Tom Hughes. Llun 24
Turn yn codi cerrig fyny 66 twb, 88 pnawn. Mawrth 25
Hannar yn codi cerrig dan 10.30, mynd i lawr i dyllu wedyn. Mynd i gario
gwair cae dan ty Tan y Ffordd pnawn. Mercher 26
- Turn. Bwrrw glaw. Iau 27
Dim gwaith rigeta Aberdaron. Gwener 28
Tri chwarter heddiw. Tedi yn fy nol i gario gwair, gorffan cae gwair. Mynd
ir Sarn at Williams Portdinorwig. Sadwrn 29
Niwl trwyr dydd. Sul 30
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Owen Jones Bodrydd, Evan Jones Efail Bwlch Clawdd,
Evan Hughes, Wmffra Jones am 6 W Jones, G Thomas, Elis Jones, R Owen. Llun 31
turn. Awst. Mawrth 1
Turn. Mercher 2
Turn. Eliza wedi mynd ir dre. Bob a John wedi mynd ir dre efo mam. Iau 3
Turn. Gwener 4
Turn. Glaw heddiw. Sadwrn 5
Turn. Gosod grat yn y gegin mawr. Miss Jones Nant yma. Sul 6
Gwilym Roberts gweinidog am 10 tro olaf. Breuddwydio neithiwr gweld Isaac fy
machgen wedi dod adra ac yn dywedyd mai wedi dengid or llong yr oedd, yr
oeddwn yn falch dros ben ohonno, ac yn gofyn am faco i mi. Diolch am gael ei
weld mewn breuddwyd. Llun 7
Turn. Mawrth 8
Turn. Mercher 9
Turn. Iau 10
Turn. Rigeta Abersoch. Motor Tocia yn dod drwy Rhiw. Gwener 11
Turn yn weindio fyny, 60 bora, 70 pnawn. Sadwrn 12
Turn. Glaw mawr heddiw. Sul 13
Rev WR Jones tro olaf. Llun 14
Mynd i ffair Awst Fi a Eliza i brynu stove. Mawrth 15
Turn. Mercher 16
Trun. Iau 17
Ras cwn yn Ty Croes Mawr. Y merchaid yn dod yma. Gwener 18
Turn. Sadwrn 19
Turn. Paentio talcen y gegin. Pnawn poeth. Sul 20
Joseff Jones a fu yn Nevin. Llun 21
Turn. Mawrth 22
Turn. Mercher 23
Turn. Iau 24
Turn. Gwener 25
Turn. Nant yn bora yn dod ar gwageni i nol brics. Trip Wesla. Sadwrn 26
Turn. Sul 27
Bob Humphteys Llanbedrog. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 28
Turn. Codi i fyny pnanw 85. Mawrth 29
Turn yn codi fyny bora 54. Mercher 30
- Turn. Iau 31 -
Turn. Marw Thomas Parry Ty Fry. Medi. Gwener 1
Bwrrw glaw mawr heno. Sadwrn 2
Turn. Bil y llyfra misol 13/-. Sul 3 -
Evans am 2 a 6. Glaw heddiw etto. Llun 4
Bora braf dim gwynt mynd i angladd Thomas Parry Ty Fry. Mawrth 5
Turn. Mercher 6
Turn. Iau 7
Turn. Gwener 8
Turn. Sadwrn 9
Turn. Gorffan gosod y landars yn Groeslon. Griffith Ffor yn dod adref
Medi 8 1921, Isaac druan yn symud ir Stevenstone. Sul 10
Glyn Roberts tro cyntaf. Mynd ir Tyddyn am 6. Llun 11
Turn yn codi cerrig, 55 bora, 60 pnawn. Mawrth 12
Symud ei long 1921. Mercher 13
Turn. Iau 14
Turn. Bob a Nell yn mynd ir Tyddyn. Y merchaid yn mynd i ffwrdd, y rhai fu
yma fel ymwelwyr. Gwener 15
Turn. Sadwrn 16
Turn. Niwl a glaw. Eliza wedi mynd ir Tyddyn. Sul 17
RW Aneurin LL Hugh. Nefyn am 2 a6. Llun 18
Turn. Glaw trwy nos lun. Mawrth 19
Hannar. Bwrrw glaw, glaw mawr
trwyr nos, llawer o anifeiliad wedi boddi yn Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd. Mercher 20
Turn. Iau 21
Turn. Gwener 22
Turn. Codi pnawn 75. Sadwrn 23
Turn. Codi i fyny 61. Brynfran yn trwsio y ty. Cario yd yn Tan y Ffordd. Sul 24
Evans am 2 Llun 25 -
Turn. Codi fyny bora 61. Gorffan cael yr yd yn Tan y Ffordd. Mawrth 26
Turn. Mercher 27
Turn. Iau 28 -
Turn. Marw Mary Williams Fron Ola. Gwener 29
Turn. Sadwrn 30
Turn. Glaw mawr. Hydref. Sul 1 -
Bob humphreys Llanbedrog am 2 a 6. Llun 2
Turn. Mawrth 3
Turn. John Roberts yn dod ar brics i Nant i roid o gwmpas y boileri. Mynd
a dwy dunnell a saith gant o gerrig. Mercher 4
Turn John roberts yn dod a brics mynd a dwy dunnell a saith gant o gerrig
iw gyrru i ffwrdd efo tren dod i nol 2 dunnell ac 8 cant pnawn. Iau 5
Turn. John Roberts yn gorffan dod ar brics, dau lwyth o gerrig 2 dunnell ac 8
cant. Glaw. Gwener 6
Turn. Tywydd gwan efor yd. Sadwrn 7
Turn. Yn Brynfran pnawn yn trwsio pen y ty. Sul 8
Thomas Cricieth tro cyntaf. Llun 9
Turn. Derbyn 12/6d o Gaernarfon ynemployed. Mawrth 10 -
Pau £15/19/6d. Turn. Mynd i Pencaerau i wrando ar Jones Gopa a Morgan
Penmynydd (?). Mercher 11
Turn. Windio mewn 66. Iau 12
Turn. Gwener 13
Turn. Windio mewn 66. Sadwrn 14
Turn. Windio bora 66. Mynd i Llangwnadl ir pwyllgor cyntaf. Tywydd sych
gwynt or dwyrain. Sul 15 -
Evans 2 a 6. Llun 16
Diolch am y cynhaeaf. Bora EW, O Jones, Elis Jones. Evans. Pnawn Tom Hughes, EH,
G Thomas, Robert Owen, Humph Jones, EW a Tom hughes. Mawrth 17
Turn. Hel cerrig bora i roid a dan y brics hefor boilar yn y Nant. Crafu
y foilar pnawn. Mercher 18
Turn. Dechrau rhoid y brics. Derbyn 10/- ynemployed Carnarvon. Iau 19
Turn, Bildio brics bora. Yn Refal yn gwneud heuar uwch ben y giat pnawn Gwener 20
Turn. Sadwrn 21
Turn. Sul 22 -
Aneurin LL Hughes Nevin am 10. Llun 23
Turn yn rhoid brics yn y Nant. Mawrth 24
Turn etto. Mercher 25
Mynd ir dre i brynu Reipan i roi ar corr y gegin a dwy lechan i roid yn y
llawr. Iau 26
Turn. Gwener 27
Turn. Arian gan Lewis Jones. £3/7/5d. Sadwrn 28
Turn. Gwn mawr. Sul 29 -
Rev Thomas Cricieth am 2. Llun 30
Turn. Hefo boileri yn Nant. Mawrth 31
Turn etto. Tachwedd.
Mercher 1
Turn etto. Bwrrw glaw. Iau 2
Turn. Codi y crud bora efo boilar pnawn. Gwener 3
Turn yn gorffan yn y Nant y bora mynd a syment a tywod i Pen r Ogo pnawn.
Llun Isaac druan yn y Winllan. Sadwrn 4
Turn. Sul 5
Hughes Fawr. Sul glawog. Llun 6
Turn. Mawrth 7
Turn. Mercher 8 -
Turn Iau 9
Turn. Codi crud bora. Gwener 10
Turn yn y Nant. Symud i Pen r Ogo pnawn. Sadwrn 11
Turn yn rhoid syment yn Pen r Ogo. Mynd ir Tyddyn aros yna dan bnawn
Sul. Sul 1 2 -
Glyn Roberts Pwllheli am 2 a 6. Llun 13
Turn yn Benallt. Anfon y Winllan i Thomas ir South. Mawrth 14
Turn. Codi pnawn 60. Cael 10/- am drwsio (?) Mercher 15
Turn. Codi bora 61, pnanw 60. Fotio. Iau 16 -
Turn. Mynd i nol brics. Yn grat yr office bora, yn y Benallt pnawn. Anfon
stampiau i Edeyrn 12 o rai swllt. Gwener 17
Turn. Sadwrn 18
Turn. Llythyr or South. Tyn Lon Fawr yn trwsio pen y beudy. Sul 19
Evans am 10. Llun 20
Turn. Dyrnu yn y Nant. Mawrth 21
Turn. Dyrnu yn Llawenan. Mercher 22
Turn. Bwrrw glaw. Dyrnu yn Ty Rhedyn. Iau 23
Turn yn gollwn cerrig i lon Bodwyddog, 6 wagen. Dyrnu yn Penarfynydd. Gwener 24
Turn yn windio a llwytho dau lwyth i John Roberts. Dyrnu yn Tyn Llidiart. Sadwrn 25
Turn. Dyrnu yn Ty Croes Mawr. Sul 26 -
AH Hughes Nefyn am 2 a 6.Marw Hugh Jones Tyddyn, cynt o Felin Chwilog. Llun 27
Turn. Mawrth 28
Turn. Mercher 29
Turn. Hugh Terfyn yn mynd i Fangor. Anfon y Winllan i William roberts Namor. Iau 30
Mynd i angladd Hugh Jones i Chwilog. Rhagfyr. Gwener 1
Turn. Tedi yn mynd i dre yn barod am y tren gynta fore Sadwrn i fynd ir
South. Sadwrn 2
Turn. Yn tyn Lon pnawn. Bil y llyfra 18/2d Sul 3
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. William Llawenan yn cynnal moddion. Llun 4
Turn. Yn Llawena yna isio mi osod y popty. Mawrth 5
turn. Pau £11/0/8d, wyth wythnos, 46 days. Mercher 6
Turn. Hugh Ty Corn yma. Iau 7
Turn. Gwener 8 -
Turn. Sadwrn 9
Turn. Yn Tyn Lon pnawn. Sul 10 -
DH Thomas Cricieth. Llun 11
Turn. Mawrth 12
Turn. Codi fyny pnawn. Mercher 13
Turn. Iau 14
Turn. Niwl a glaw pnawn. Gwener 15
Turn codi pnawn. Sadwrn 16 -
Ar y 16 o Ragfyr y daeth y llythyr olaf a baco oddiwrth Isaac bach o
Blyth. Turn. Sul 17
EO Lloyd Portmadoc Llun 18
Turn. Mawrth 19
Turn. Mercher 20
Turn. Hugh wedi mynd ir dre. Iau 21
Turn, glaw a gwynt or de. Gwener 22
Turn. Sadwrn 23
Turn. Yn Porth Ysgo a Porth Alm efo coed y piar. Gwynt a glaw. Sul 24
Evans am 2 a 6. Llun 25
Mawrth 26
Turn. Mercher 27
Turn mynd lawr i lan y mor bora codi fyny pnawn. Iau 28
Turn. Gwener 29
Turn. Merchaid Llywenan yma. Sadwrn 30
Turn. Sul 31
AH Lloyd Hughes am 10.
Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |