|
"Pigion IX" Daeargryn Ar y
seithfed o fehefin 1931 roedd Griffith Thomas Ael y Bryn ar wyliadwriaeth yng
nghwt Gwylwyr y Glannau ym Mytilith pan deimlodd a chlywodd ddaeargryn am ddau y
bore ac fe’i cofnododd fel a ganlyn yn ei ddyddiadur ‘ Daeargryn 2 am amryw
oedd yn ei gwlau wedi ei glywed, cyrn wedi disgyn mewn trefydd oddyma.’ Hon
oedd daergryn Mor y Gogledd y mwyaf a fu yng ngwledydd Prydain. ~~~~~~~ Dal
ar Enlli Ar yr ail
ar bymtheg o Ionawr 1891 aeth John Griffith Pencaerau drosodd i Enlli ar ran y
Cyfarfod Misol er mwyn cael adroddiad ar ansawdd yr achos ar yr Ynys. Oherwydd
tywydd mawr bu’n rhaid iddo aros ar Enlli dan y seithfed ar hugain cyn
dychwelyd i’r tir mawr a’i gartref ym Mhencaerau. ~~~~~~~ Neigwl y Plas Ar Chwefror y 4ydd 1788 llosgwyd hen blasty Neigwl y Plas ym mhlwyfi Llandegwning. Bu i dair o enethod bach golli eu bywydau yn y drychineb Elizabeth, Catherine a Mary Jones. Cynhaliwyd cwest i’w marwolaethau yn Eglwys y plwyf Llandegwning ar y 7fed o Chwefror. “On the night of the fourth of February
1788 aforesaid Neigwl y Plas in the Parish of Llandegwning accidentally casually
and by Misfortune took fire and was consumed, and it so happened that they were
suffocated smothered and burnt to death in their beds” Fe ysgrifenodd Mari Siarl gan am dan yn Neigwl ond yn ol
y gan honno fe gollodd llawer mwy eu bywyd. Roedd Neigwl Plas yn amlwg yn le pwysig iawn yn y
dyddiau a fu. Mi arhosodd Edward 1af yna ar Orffennaf 28 – 30 yn y flwyddyn
1284 pan oedd ar ei ffordd i Enlli, yr oedd yn Enlli ar yr 2 o Awst. ~~~~~~~ Byd Bach Yn 1957 tra
yn gweithio allan yn Awstralia aeth Edgar Morris Ael y Bryn i siop lyfrau ail
law yn Sydney a’i fwriad ar brynu llyfr am ffotografiaeth. Tynnwyd ei lygaid
at lyfryn bach o’r enw ‘Negative Faults and how to correct them’ gan Frank
Harris A.R.P.S. rhan o gyfres ‘photofacts’ rhif 23. Mi brynodd y llyfryn ac
wedi dychwelyd i’w lodgings aeth ati i’w ddarllen, wrth bori drwyddo fe
ddaeth ar draws dau lun a dynnodd ei lygaid yn syth iard fferm Penarfynydd a’r
llall o Fae Porth Ysgo ac Enlli yn cefndir. Diolch
i Mr Edgar Morris am y pigion yma. ~~~~~~~ Caernarvon
and Denbigh Herald August 23 1851. Pwllheli
– On Wednesday last, near twenty persons, male and female, from Rhiw,
Llanfaelrhys, and the neighbourhoods, passed through this town, on their way to
Liverpool, to embark for the United States of America. ~~~~~~~ Caernarvon
and Denbigh Herald Ionawr 31 1905. Bu tan
arswydus yn ydlan William Davies, Tyn Mynydd a llosgwyd y cyfan oedd ynddi
heblaw am yr adeiladau a arbedwyd trwy gymorth cymdogion caredig. ~~~~~~~ Caernarvon
and Denbigh Herald Ebrill 4 1905. Mae yr
inclein o waith mango Porth Ysgo wedi ei gorffen ond heb gwblhau y lanfa on d
tua hanner ei hyd. Ychydig yw nifer y gweithwyr sydd yng ngwaith haiarn mango y
Rhiw ond parheir i gario stwff ymaith efo llongau. ~~~~~~~ Caernarvon
and Denbigh Herald Mehefin 6 1905. Nos fawrth tra yr oedd Mr David Roberts, Llainfatw, Llangwnadl wrth ei orchwyl yn y gwaith mwyn syrthiodd carreg drom ar ei goes gan ei thorri. Caed yn fuan wasanaeth Dr griffith, Castellmarch i’w ymgeleddu. ~~~~~~~ "Bedford OB SL71" Dyma lun o un o
hen fysus Crosville fyddai'n arfer rhedeg o Bwllheli i Rhiw ac yna'n ôl i
Bwllheli. Hon fyddai'r bws i Bwllheli am dri o'r gloch brynhawn Sadwrn yn y
1950au. Byddwn yn mynd arni'n aml i'r dre ac roedd yn swish iawn o'i chymharu â'r
hen rai. Mae'r bws yn awr
yn eiddo i gwmni Vista Coachways, Yatton, ger Bristol, ac yn dal i gael ei
defnyddio ar gyfer achlysuron arbennig Diolch yn fawr i Mr Carroll Hughes am hanes y bws.
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |