|
Hanes
prudd llosgi chwech o bobl yn eu gwelyau. At
Olygydd yr’Herald Gymreag’
Ydwyf, etc OWEN GRIFFITHS, Penygraig.
Plas
Neigwl, trwm yw meddwl
Yn fanwl fel y bu, Y
gwellt ennynodd yno rywfodd
Nes llosgodd yr holl dy Ar
gefn nos dan go
Caed rhybudd i roi ffo, ‘Roedd
pawb o’r teulu yno’n cysgu
Gan drengu ar fyr dro. Digwyddodd
fod dau’n effro
Er mwyn ymgomio’n gu, Yn
caru’n unfryd fel dau awylyd
Yn hyfryd yn y ty. Mewn
llofft yr oedd y rhain
Yn bur gysurus sain, Fel
niwl o’u deutu gan eu dychryn
Dechreua’u mygu’n fain. Hynodol
ac ofnadwy Daeth
atynt fwy fwy fwg, Nas
goleu’r grisiau; hwy ni chredant
Fod yno droad drwg Dyn
syllodd dros y grisiau,
Fe welai dyrau o dan, Pob
peth o’r ochrau yn myn’d yn wreichion
Yn fawrion ac yn fan. Fe
roddodd waedd ddychrynllyd
I’w deffro i benyd bwys, Bu’r
wraig a’r plentyn munudun
Mewn cerwyn dychryn dwys. Trwy’r
ffenestr aeth. Ger bron
Fe blygai’r haiarn ffon Gan
daflu’r baban drwy hono allan
Yn iach o’r oddaeth hon.
Ei gariad wastad wen Drwy’r
ffenestr rhoes ei phen, Ond
ffaelodd ganddi ddyfod trwyddi;
Am dani gwasgai’n den. Gafaelodd
yn ei breichiau
Nes tynu un o’i lle, Yn
nghanol penyd y fflam danllyd
Ond methu wnaeth efe. Hi
dost griai am gael helpu, Mae’n
marw – ffaelu wnaeth, O!
Dyma ffarwel trwm i’w harddel,
Ei gadael yno gaeth. Wrth
weld y truan a’i phen allan
A’i thraed ar dorlan dan, Ei
pheisiau’n fflamio a’i chnawd yn ffrio,
Hir gofio fydd y gan.
Cyfansoddwyd gan Mari Siarl, mam Ieuan Lleyn. Diolch yn fawr iawn i Mr Wil Williams.
|
|
Copyright © Rhiw.com |