Y nawfed ar hugain o Ebrill 2000. I'r rhan fwyaf
ohonoch Dydd Sadwrn digon cyffredin oedd hwn ma'n debyg. Ond i grwp o ffermwyr o
Ben Llyn roedd hwn yn ddiwrnod arbennig a hanesyddol oherwydd atgyfodwyd un o
hen draddodiadau amaethyddol Pen Llyn, sef Ras 'Redig Sarn a'r Cylch.
Nid ras gyffredin mo hon oherwydd nid y cyntaf i
orffan aredig oedd nod y cystadlu ond pwy all droi'r gwys daclusa! Y gamp oedd
defnyddio y gwydd mwya' gyda'r tractor mwya', neu yr "horse power" go
iawn, sef y ceffyl gwedd, neu yn achos un ras dau Ful!
Dechreuodd y traddodiad o gynnal y ras o gwmpas 1945
ac roedd y ffermwyr yn ei chysidro hi'n fraint ca'l cynnal y ras ar eu tir. Ond,
ar ôl 39 o flynyddoedd, aeth hi'n anoddach trefnu'r ras, ac yn 1984 daeth i ben.
Fel un o gefndir amaethyddol roeddwn wastad yn
clywed hen hanesion gweision ffermydd am 'Ras 'Redig Bodnitho' neu 'Ras 'Redig
Porthdinllaen', a po' fwya y clywn y straeon yma, mwya'n byd roedd yr awydd i
gael gweld sut beth oedd y "ras redig" 'ma. Ac wrth lwc fe atgyfodwyd
y traddodiad.
Er mor braf ydi gweld yr achlysur pwysig hwn yn cael
ei gynnal yn flynyddol, mae gweld "Y ras redig" yn gwneud i mi feddwl
be' fasa' ffarmwr nôl yn 1945 yn feddwl o weld y tractors a'r gwyddion modern
yn cael eu cymryd yn ganiataol!
Mae cael gweld 'ras redig' yn deyrnged i'r oes
amaethyddol a fu a hefyd yn agoriad llygaid i'r genhedlaeth bresennol o sut
weithai ein tadau a'n cyn dadau ar y tir!
Geiriau a Lluniau gan Guto Thomas. Diolch yn fawr
iawn.