gan

Wena Alun

Dros fisoedd yr haf 2004 bu Wena o BBC Cymru yn gweithio ym Mhlas yn Rhiw. Yma mae’n son am ychydig o hanes diweddar y Plas.

~~~~~~~

Breuddwyd tair chwaer sydd yn gyfrifol am adael Plas yn Rhiw a nifer o dyddynod yng nghyffuniau Rhiw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd Lorna, Honora ac Eileen Keating eisiau cadw’n fyw math o fywyd daethant ar ei draws flynyddoedd ynghynt pan byddan nhw yn dod ar ei gwyliau fel plant i Pen yr Ogof, Rhiw. Nes ymlaen fe fu’r teulu yn rhentu tai eraill yn yr ardal nes i’r dair ddod at ei gilydd yn 1947 i brynu Plas yn Rhiw. Y bwriad gwreiddiol oedd achub y goedlan hynafol oedd yn cael ei werthu hefo’r ty, ond ar ol darganfod ei bod yn bosib i adnewyddu’r adeilad penderfynodd y dair fwrw mlaen hefo hyn.

Roedd gwaith mawr ar y ty, ac mae llun o rai o’r gweithwyr fu’n gyfrifol am y gwaith i’w weld ar wefan Rhiw.com. Ar y dechrau roedd y chwiorydd yn aros yn y pentref ac yn ymweld ar ty i weld sut oedd y gwaith yn mynd yn ei flaen – ond ar ol i un ohonyn nhw fethu’r bws un noson , a methu gwthio ei mam yn ei chadair olwyn nol i fyny’r allt, fe benderfyno nhw symud i fewn i ganol y gwaith, er gwaetha’r ffaith fod dim lloriau yn rhai o’r stafelloedd a bod rhaid cerdded ‘y planc’ i fynd o gwmpas y ty.  

"Wena"

I ddechrau dim ond Eileen yr hynaf a Lorna a’i mam oedd yn byw yn y ty, ond ar ol iddi roi gorau i weithio daeth Honora i fyw yn Rhiw hefyd.

Roedd y dair yn adnabyddus yn yr ardal, efallai y busasai rhai wedi ei galw’n fysneslyd, eraill yn meddwl eu bod ychydig yn ‘eccentric.’

Prif ddiddordeb y dair oedd yr amgylchedd ac mi fyddan nhw yn ymgyrchu yn frwd yn erbyn unrhyw beth yr oedden nhw yn feddwl fydda’n amharu ar y lle – gan gynnwys lein ddillad un cymydog anffodus yn Talafon. Gofynwyd iddo fo dynnu’r lein i lawr am eu bod yn amharu ar yr olygfa a’i gosod o olwg y ffordd!

Roeddan nhw yn aelodau selog o eglwys Ael y Rhiw ac yn cefnogi busnesi lleol. Yn archebu bwyd a nwyddau o siop Talafon stores yn Abersoch  oedd wedyn  yn danfon y nwyddau draw i’r ty bob dydd Gwener.

Er gwaetha’r ambell ffrae hefo cymdogion roedd y dair yn medru bod yn garedig iawn. Amser y Nadolig fe fyddan nhw yn mynd o gwmpas gyda anrhegion i’r teuluoedd lleol. Cynnyrch o’r ardd yn Plas yn Rhiw, neu jam loganberries, a wafers pinc i’r plant.

Mae pobl leol yn cofio mynd i Plas yn Rhiw a gweld andros o lanast ymhobman. Papurau wedi cael ei pentyru ar y bwrdd a’r dair yn siarad ar draws ei gilydd.

Roedd cael y teulu’n byw yn lleol yn medru bod o fantais hefyd – byddai nifer yn gofyn am eirda wrth fynd am swyddi neu i’r coleg, ac roedd yn dipyn o ‘coup’ i’r WI lleol gael Honora Keating OBE yn aelod!

Dros yr haf 2004 roedd yn bleser dysgu am y teulu yma ac am ei rhodd rhyfeddol i’r Ymddiriedolaeth wrth i mi gymeryd rhan mewn cynllun ymlyniadau allannol sy’n cael ei redeg gan y BBC o Lundain.

Bwriad yr ymlyniad oedd i mi fynd a’m sgiliau fel newyddiadurwraig allan i’r gymuned ac i fynd a phrofiadau a chysylltiadau yn ol i’m gwaith hefo’r BBC ym Mangor ar ddiwedd y cyfnod.

Wrth fod y chwiorydd wedi byw yn eitha diweddar - bu farw y diwethaf , Lorna,  yn 1981 -  roedd nifer o drigolion lleol yn cofio’r chwiroydd ac yn fodlon rhannu eu hatgofion.

Arferai Robin Thomas weithio i’r teulu. Mae’n cofio fod yr ardd yn dipyn mwy gwyllt nag y mae hi heddiw, a bod y tymheredd yn ddipyn fwy tynner nag y mae hi ger ei gartref ar Fynydd Rhiw. Caniata hyn i’r chwiorydd fwynhau ei hobi o gasglu planhigion anarferol , ac mae nifer o’r rhain i’w gweld yn yr ardd hyd heddiw.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn ymfalchio yn y  faith eu bod yn rhedeg y lle fel y byddai’r chwiorydd wedi ddymuno. Er fel y dywedodd un aelod o’r staff wrtha fi mae’n dipyn taclusach yna heddiw nag yr oedd hi yn amser y chwiorydd. Roedd eu tueddiad i gasglu wedi mynd dros ben llestri erbyn y diwedd a bu misoedd o lanhau a sortio cyn i’r cyhoedd gael mynd i fewn i’r ty.

 

Will_Dalar.jpg (145664 bytes) keatings.jpg (136776 bytes) pen_yr_ogof.jpg (75585 bytes)

"Rhai o luniau Rhiw.com a gafodd eu harddangos"

Fel rhan o’r ymlyniad cefais gyfle i roi arddangosfa at ei gilydd yn trafod hanes y Plas – a diolch i Rhiw.com am fenthyg rhai o’r lluniau - ac mae hwnw i’w weld yn un o hen adeiladau’r Plas dros dro. Tydi hyn ddim ond rhan o hanes y Plas, ac mae mwy o hanes yn parhau i gael ei greu wrth gwrs. Ceidwad y Plas ar hyn o bryd ydi Mary Thomas – fel un sydd wedi cael ei geni a’i magu yn Rhiw  mae hi mewn lle unigryw yn  cofio’r Plas o’i phlentyndod ac mae ei mam Gladys Thomas yn gyfoeth o atgofion am y cyfnod pan oedd y Plas yn dy preifat.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com