Eleni mae neuadd y Rhiw yn hanner cant oed, ac i
ddathlu'r achlysur fawr mae Rhiw.com yn dod a'r lluniau yma ichi, dydi
rhai ohonynt ddim wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd lawer, mwynhewch!!!

Yr hogia wnaeth y gwaith
********
Cywydd.
I ddathlu hanner canmlwyddiant adeiladu
Neuadd y Rhiw.
Y dwylo wnaeth adeilad,
I’n bro hen a roes barhad.
Diarbed fu gweithred gwyr
Yn deulu o ardalwyr
A’u dawn oedd i gadw’n hiaith
Oludog, trwy galedwaith.
Bu’n ganolfan i gannoedd,
Di-ail le i ardal oedd.
Yn y Rhiw rhoi amrywiaeth
Goreuon oll gwerin wnaeth
A dod a nerth trddodiad
I hawlio’i le yn y wlad
Deil ei chyfaredd heddiw
I roi ias hyd erwau’r Rhiw.
Mae “Cyfrif” noddi’r ifanc
Yma’n bod fel aur mewn banc.
Mynnwyd meithrin cymuned –
A heuo faes, hwy a fed.
R.O. (Bala)
*********
|

Rhai o blant Rhiw 1954
|

Plant Ysgol Rhiw yn 1955
|
********

Beti Roberts, Tyn Mynydd y ferch fenga yn Rhiw
yn cyflwyno'r blodau wrth agor y neuadd newydd
*********

Y Pwyllgor
********

Trigolion y Rhiw, diwrnod agor y neuadd
********
|
Digwyddiadau yn 2005
Ffair Grefftau; 7 - 9 nos Fawrth 26 Gorffennaf.
I archebu bwrdd i arddangos am gost o £5. ffonio 780330. Bydd
mynediad i weld y gwaith am ddim.
Cyngerdd dathlu 50 y neuadd nos Sadwrn 20 o
Awst am 7:30pm. Gyda John Alan Jones, y Prif fardd Tudur Dylan a
Alaw Tecwyn. Mynediad yn £5 tocynnau ar gael gan aelodau or pwyllgor.
Ymholiadau 780330.
Arddangosfa; Rydym yn dal i obeithio cael
tipyn o luniau i arddangos y nosweithiau cyn y cyngerdd. Os medrwch
ein helpu byddwn yn ddiolchgar, cysylltwch a Nesta ar 780330.
Gobeithiwn hefyd gael noson o "House
Detective" yng nghwmni Margaret Dunn (Griffiths) lle bydd hi yn rhoi
hanes tai yr ardal.
********* |
Diolch yn fawr iawn i Mrs, Beti Jones, Mrs K E Jones
a Mr, Carroll Hughes am gael benthyg y lluniau bendigedig yma.
A diolch arbennig iawn i Mr, R O Williams, Bala, am y
Cywydd, ar gyfer yr achlysur yma.