Arwyddion Tywydd

~~~~~~~

  “Gweld Yr Iwerddon yn amlwg yn y bore a olyga dywydd mawr; ond gweled ei chwr deheuol yn eglur yn y prynhawn a olyga hin deg.” (Myrddin Fardd)

 

“Os cyll y glaw o’r dwyrain daw,

Os cyll yr hindda o fanno daw hithau.”

 

Cylch mawr o amgylch y lleuad – glaw yn agos,

Cylch fach o amgylch y lleuad – glaw ymhell.

 

Glaw cyn unarddeg - wedi clirio at y prynhawn,

Glaw cyn tri – bwrw drwy’r prynhawn.

 

Arwyddion glaw

Tir Sir Feirionydd i’w weld yn isel ac agos.

 

“Mae’r haul yn mynd i lawr rhwng y gist a’r pared, daw yn law yn fuan.” (Myrddin Fardd), h.y. yr haul yn machlud dan gwmwl dudew.

 

“Pan gwynt o’r De a ddaw,

Y mae yn ngenau’r glaw.”

(Myrddin Fardd)

 

“Pan fo’r Garn yn gwisgo’i chap,

Does fawr o hap ar dywydd.”

 

Crëyr glas yn hedfan tua’r tir i “agor fflodiard.”

 

Cymylau mawr gwyn “pennau personiaid Bangor” yw gweld uwchben mynyddoedd Eryri.

 

Gwynt gorllewinol – “gwynt o ddrws y glaw.”

 

Haul gyda’r nos ar Machros, Sir Feirionydd yn unig.

 

Tŷ gwyn ar ochr mynydd yn Sir Feirionydd i’w weld yn glir.

 

Traeth awyr.

 

Ffust dan yr haul.

 

Un wylan yn gweiddi.

 

Wennoliaid yn hedfan yn isel ar ôl pryfed.

 

“Y lleuad yn boddi” i.e., mynd y tu ôl i gymylau tew – glaw cyn y bore.

 

Barrug yn codi’n sydyn yn y bore – glaw cyn cinio.

 

Arwyddion tywydd braf

“Gwynt o’r môr, hinion fydd.”

 

Crëyr glas yn hedfan tua’r môr – tywydd sych.

 

Mwg yn mynd yn syth i fyny o simdde.

 

Arwyddion gwynt

“Twrf ac aflonyddwch Porth Neigwl sy’n rhagfynegiad tra chywir o wynt gorllewinol.” (Myrddin Fardd).

 

Bach Cilan yn crafu a ddynoda wynt o’r gogledd.

 

“Gwynt dwyrain wrth yr awr,

Gwynt gogledd wrth y dydd.”

 

Cymylau “blew geifr.”

 

Wiwerod llwyd ym mhen y coed.

 

Brain yn dod i lawr ar eu pennau.

 

Brain yn “codi balast ar gyfer y gwynt” - h.y. brain yn bwyta cerrig bach yn y caeau. 

 

Arwyddion tywydd mawr

Haul gyda’r nos yn gwneud i ffenestri’r caffi ar ben Yr Wyddfa ddisgleirio.

 

Mwg trên bach Yr Wyddfa i’w weld.

 

Defaid yn ymgasglu at ei gilydd.

 

Eira

Fflam las yn y tân.

 

Eira cyn Calan Gaeaf wedi’i erthylu, h.y. bydd dim llawer o eira drwy’r gaeaf wedyn.

 

Terfysg

Cymylau yn uchel yn yr awyr yn mynd yn groes i gyfeiriad y gwynt ar lawr.

Diolch i Mrs G Hughes (Cimwch.com) am y dywediadau tywydd yma.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com