|
|
Casgliad o ddywediadau am y tywydd ~~~~~~~~ IONAWR Tir dan ddwr-prinder. Tir dan eira-bara. "Blwyddyn o eira Blwyddyn o lawndra" "Os y borfa dyf yn Ionor Gwaeth y tyf drwy’r flwyddyn rhagor" Daear las mynwent fras A heuo’i geirch yn Ionor A gaiff aur a phres yn drysor. Diwerth gwanwyn yn Ionawr Haf yn Ionawr gaeaf yn Mai Haul yn Ionawr Mawrth ei dialwar. Ionawr- mis marw Mis du wedi’r Nadolig.
CHWEFROR Chwefror teg yn difetha’r unarddeg. "Os yn Chwefror tyf y pawr Trwy’r flwyddyn ni thyf fawr."( pawr = porfa) Ni saif eira fis chwefror, mwy nag wy ar ben trosol . Chwefror a leinw’r cloddiau a Mawrth a’u tyf yn foleidiau. Byr yw Chwefror ond hir ei anghysuron. Ceir oeraidd dymor ar ddiwedd Chwefror. Chwefror a chwyth y neidr oddiar ei nyth.
MAWRTH Mawrth a ladd Ebrill a fling. Os yn Mawrth y tyf y ddol, gwelir llawnder ar ei ol. Fel bo Mawrth y bydd yr haf. Mawrth sych, pasgedig ych. Niwl yn Mawrth, rhew yn Mai. Os daw Mawrth i mewn tel oenig, allan a fel llew mileinig.
EBRILL Chwech o bethau sych yn sydyn, Carreg noeth a gehau meddwyn, Cawod Ebrill, tap heb gwrrw, Pwll yr haf a dagrau gwidw. Ni saif eira yn Ebrill, fwy nag wy ar ben ebill. Ebrill oer aleinw’r sgubor. Ebrill sych popeth a nych. Yn Ebrill mi gynhesith ar ol pob cawod. Gwyn ein byd os Ebrill mwyn, a wisg y llawr a gwisg y llwyn.
MAI Awel oer mis Mai, ni wna’r cnydau ddim llai. Mis Mai oer a wna’n ddi-nag sgubor lawn a mynwent wag. Mai oer a gwlyb, llond lle o yd. Glaw Sulgwyn ffrwythlon drwy’r flwyddyn. Glaw fis Mai i ladd llau. Dau leuad llawn yn mis Mai, dim cynhaeaf a dim cnau.
MEHEFIN Mis Mehefin,gwych os daw, peth yn sych a pheth yn law. Gwenau Mehefin, alltudiant bob drycin. Glaw Mehefin, cynnydd yr egin. Na chwsg Fehefin, rhag rhew fis Ionawr. Na feia dy egin, cyn ddiwedd Fehefin. Rhaid iddo frafio cyn toad y rhod, neu glaw a geir am y mis i ddod. Glaw gwyl Ifan andwyo’r cyfan. Yd yn ehedeg cyn Gwyl Ifan a fedir yn Awst. Blodau’r mwyar ym Mehefin, bydd cynhaeaf cynnar wedyn.
GORFFENNAF Gwenwyn blin I’r march a’r ych mis Gorffennaf na fo sych. Tes Gorffennaf, ydau brasaf. Llwm a thlawd ar gyfer gaeaf, yw haid o wenyn yng Ngorffennaf. Glaw ar Swiddyn, bery ddeugain niwrnod cyfan. Gwell hanner had na hanner haf. Mae tymhestl Gorffennaf yn ddrwg ar les cynhaeaf, cyweiriwch wair a chludwch, rhag ofn glaw nac oedwch.
AWST Dechrau Awst Niwlog, ddiwedd tesog. Nid yw Awst gwlyb yn dwyn newyn. Mis Awst y bladur ar y trawst. Daw Awst daw nos. Ni fydd tatws yn eu grymnes cael Gwynt Awst. Mis Awst os bydd yn hindda ni wna niwed i’r cynhaeaf.
MEDI Awst a leinw’r gegin, Medi y seler. Hanner medi sych a wna seler lawn o gwrw da. Bore Niwlog ar ddechrau’r cynhaeaf a ddilynid yn gyffredin gan bnawn tesog.
HYDREF Hydref hir a glas, blwyddyn newydd oerllyd gas. Hydref teg, gaeaf gwyntog.
TACHWEDD Tachwedd a’i darth a’i niwl o hyd sy'n gwneud i ni anniddan fyd. Tachwedd - dechrau’r galar.
RHAGFYR Taranau ar y mis du angladd o bob tu. Niwl gaeaf gwas y rhew. Rhagfyr gocheler ei far. Nadolig glas - Mai cas. Nadolig gwyrdd - Pasg gwyn. Nadolig tirion - blwyddyn o fendithion.
Dyma gasgliad o rai o ddyfyniadau tywydd y daethom ar eu traws, os wyddoch chi am rai yn enwedig rhai sydd yn fwy lleol eu naws gyrrwch e-bost, mi fasa ni yn ol yr arfer yn dra ddiolchgar. Yr unig un wyddom ni i ffaith sydd yn wir ydi os glywch chi’r mor yn crafu ym Mhorth Llawenan yna mae hi yn saff o niwl. Yn sicr mae na rhywbeth yn hen ddywediadau’r tywydd, a diddorol fyddai cael casgliad yma ar Rhiw.com, felly os gwelwch yn dda gyrrwch eich dyfyniadau atom ni. |
|
Copyright © Rhiw.com |