Magwyd fi yn Morfa Nefyn. Pan roeddwn yn blentyn, lan mor oedd fy lle
efo’r dynion cychod a’r bad achub fel llawer o hogia fy oed, ac yn
gweithio i Wil Bwtchar, Wil Ty Mawr, yn cario cig efo beic. Oedd pawb efo
joban bach adeg hynnu i gael pres pocad. Oedd yn rhaid penderfynnu pedwar
ar ddeg oed beth oeddwn am wneud ar ol gadael ysgol. Ces ddau gynnig, un
gan Wil Bwtchar, yn gofyn i mi fod yn fwtchar a’r llall oedd i fynd i’r
mor. Wnes i feddwl am hir am gynnig Wil Bwtchar a siarad efo fy rhieni.
Byddwn yn licio bod yn y shop ond un peth fedrwn i ddim neud oedd mynd i
rhyw gwt mewn cae yn Morfa Nefyn, cae Wheldon oeddwn yn ei alw fo, a
bwtchar oedd Wheldon, a lladd wyn bach amser cinio, efo Wil wrth gwrs, a’u
hongian i fynnu a’u skinnio efo’r penelin a wedyn llichio’r perfa i gyd i
rhyw dwll yn y cae a hwnnw’n llawn o bryfaid glas yn drewi. Na, dim diolch.
Y
mor oedd yr ail gynnig ac yno yr es. Dyna ni’n sgwennu i fynu am fforms i
fynd i drenio i fynd i’r mor. Ces atab a fy nerbyn i fynd i’r National Sea
Training School yn Sharpness, y Vindicatrix, llawer i un wedi bod
yn fano, a dechrau yno 2 Ionawr 1961a bod yno am wyth wythnos. Oedd rhaid
bod yn 15½ i gael ein derbyn i fynd i’r
Vindicatrix felly roedd fy oed i’n iawn. Mi es yno efo tren o
Pwllheli, full kit bag. Ar ol cyrraedd yna rhywsyt,
dwn i ddim syt, hen long oedd hi fel mae pawb yn gwybod a camp yn ei yml.
Ar y llong oedd y training a cysgu mewn billets yn y camp. Oedd hi reit
galed yna weithiau ond bob bore full gear a marchio rownd y camp tua
chewch y bore bedair gwaith cyn cael uwd fel mwd i frecwast a’r gweddill
o’r brecwast dim gwerth son amdano. Dysgu bob dim yna ynglyn a llongau
a’r gwaith. Oeddwn i’n gwybod dipyn golew gynt achos oedd gan Capten
Jones o Drefor ddosbarth yn ysgol Central Pwllheli i ddysgu hogiau’n barod
i fynd i’r mor. Un da oedd o hefyd. Dwi’n cofio amball o’i eiriau. Un
sydd yn dal i fod yn fy meddwl oedd yn deud o hyd, “ychdi sydd yna i wneud
y
gwaith
ar y deck, os na fedri di fedar neb”. Un da oedd Capten Jones. Oedd
rhaid neud bob dim yn iawn.
Ar
ol gorffen training ar y Vinicatrix roedd rhaid mynd i Lerpwl yn
syth cyn mynd adra, i’r Shipping Federation i seinio’i fewn a wedyn cael
medical ac adra am leave. Roedd yn braf cael bod adra ar ol bod ar y Vindi,
bwyd neis am change – ond oedd mam yn gyrru amball i focs bwyd i mi hefyd
pan oeddwn yn trainio. Roeddwn i adra rhyw dair wythnos a mi doth y
diwrnod. Hywel Post Morfa Nefyn yn dod ifynnu efo telegram, negas i Meic
fynd i’r mor. Oedd rhaid i mi fod yn y Shipping Federation erbyn deg yn
bore ar yr 18 Ebrill 1961 pump diwrnod ar ol fy mhenblwydd yn 16. Es i
Lerpwl diwrnod yn gynt a B & B yn y Sailor’s Home. Wel am agor llygad!
Dump go iawn, fel wr llawer un. 1/6 oedd bed & breakfast. Hen jel
merchaid oedd hwn dwi’n deall a felly roedd yn edrych. Cuddiad pres a
watch a pob dim rhag ofn iddynt cael eu dwyn. Brecwast yn y bora, black
pudding wedi llosgi a lwmp o facon fath a craig. Es ymlaen bore wedyn i’r
Shipping Federation a signio ar llong o’r enw Salmela, un o cwmni
Salvesen o Leith. Whaler oedd y cwmni yna ond oedda nhw wedi dechra
llonga general cargo. Llonga newydd sbon a llonga neis.
Mi
es ar y bws o Pierhead i Canada Dock ac ar fwrdd y llong. Ew, oeddwn i’n
gweld hi’n llong fawr. Ar ol ffendio fy ffordd i’r messroom, yna oedd y
bosun. Coblyn o ddyn mawr cru o Shetland a dwylo fel shefl. Oeddwn i
ddim yn ei ddeall yn siarad, fy Saesneg i ddigon drwg ond trio dallt
hwna’n siarad efo acen Scotch, oedd yn waeth byth. Oedd rhaid mynd i weld
y chief officer i seinio’r articles. Contract efo’r cwmni oedd hwnnw, fod
ar y llong. Dyna’r chief officer yn dod I’r golwg. Coblyn o ddyn mawr
oedd hwnnw hefyd, yn llawn o gold braid a minnau’n rhyw ditch bach yn ei
ymyl o, tena, fatha hogyn bach ysgol, dim yn gwbod lle i fynd, ac ofn geni.
Ar ol cael hynnu drosodd, es i lawr yn ol i’r decks efo’r llongwr yma a
hwnnw’n mynd a fi rownd y llong a mi ddwedodd bod na foi arall o Gymru ar
y llong, a bod o’n siarad Cymraeg. JOS oedd o, Junior Ordinary Seaman,
wedi bod ar y mor am rhyw flwyddyn cyn cael y job yma, Brian Roberts o
Llangefni oedd o. Roedd o’n dweud ‘ar fy enaid i’, ar ol bob dim. Roedd
o’n hen foi iawn, yn gwatiad ar fy ol i. Basiwyd yr hogiau ar y llong am
bod o’n hyn na fi ac yn dalach, a Scots oeddyn nhw wrth gwrs, oeddyn nhw’n
galw fo’n ‘Big Taff’ a fi yn ‘Wee Taff”. Gafo ni’ll dau ranu caban –
roeddwn i’n falch o hynnu hefyd, i gael rhywyn Cymraeg efo fi. Oedd na 66
o bobl i gyd ar y llong o’r capten i lawr i’r deckboy a fi oedd un o’r
deckboys a dau arall. Cael duty list oedd y job wedyn. Y drefn erioed
oedd bod deckboys tripia cynta yn gweithio yn y messroom, cafeteria, enw
neis. Ein job ni oedd cadw bob dim yn lan a gosod byrdda a golchi llestri
a rhoid y bwyd allan i’r llongwrs. Oedd o mond r’yn peth a rhedag caffi i
ddeud y gwir. On i ddim yn disgwl hyn chwaith achos mynd i weithio ar y
deck roeddwn i’n gobeithio bod ond dyna fo, mae pob llongwr wedi bod
trwydda fo. Peggy oedd y teitl i rhywyn yn y job yna ond roeddwn i’n
lwcus, oedd ‘na dri deckboy, wedyn oedda ni’n gweithio bythefnos yn y
cafeteria a mis ar deck a felly oeddan ni’n gwneud trwy’r trip i gyd mewn
rota.
Hwylio o Lerpwl y diwrnod wedyn ar trip oedd i fynd i Australia ac yn ol.
Oedd hyna’n cymeryd tri mis. Wel roeddwn i’n edrych ymlaen, great. Yr
oeddwn ni’n stemio i lawr y Mersi, gwllwng y Pilot yn y Bar Light Vessel
ac away a ni, Oeddwn i ar y deck am y mis cynta. Cadw rhaffa oedd y job
gynta, i gyd i lawr yn y lower fore peak a’u clymu nhw ar y
racks ac wrth basio Holyhead, job wedyn oedd ‘throw the dunnage over the
wall’ oedd yr ordors. Fi’n deall dim ond
dilyn llongwrs erill. Oedd na tunelli o goed mawr ar y deck wedi bod yn
neud fframia i gadw’r cargo yn ei le ond dim angan hein dim mwy. Coed
mawr 3 x 2, 4 x 4, a pawb yn llichio nhw dros ochor i’r mor. Adeg hynnu
nes i sylweddoli beth oedd broc mor. Oeddan ni’n gwbod bod nhw’n dwad
oddiar llonga ond oni ddim yn meddwl na fel hyn oedd o chwaith. Llichio
nhw i gyd drosodd a wedyn oedd stormydd yn mynd a nhw i’r lan a pobl yn
hel nhw ar hyd y traeth yn Benllyn. Ar ol bob storm oedd pawb yn lan mor
yn hel
coed.
A rwan dwi’n llichio nhw drosodd fy hun. Bydd pobl Benllyn wrth eu bodd
efo hyn.
Buan
iawn oeddan ni allan yn y mor agored, a’r stop nesa fysa’r Suez Canal, ond,
nes i rioed feddwl ar y daith y byswn yn
mynd yn sal mor. O bobl, oeddwn yn sal. Am tua wythnos a hanner rhyw swel
mawr ar bem y llong a hithau’n rowlio’n araf drwy’r dydd a nos a hefyd
hogla paent fresh yn y llong am bod hi’n long newydd. Oeddwn i isio aros
yn fy ngwely. Oedd y bosun yn dwad i’r cabin “get out of it on deck”.
Sal neu beidio oedd rhaid mynd i wneud y job. Ond oedd llawer i un yn deud
na dyna oedd y peth gora i neud – mynd allan ar y deck a gweithio. Ond wn
i ddim – fuaswn i wedi licio aros yn fy ngwely – a dipyn bach o hiraeth
geni adeg hynu hefyd. Oeddwn yn falch iawn weld tir ar ol mynd ochr isa
Bay of Biscay. Oeddwn i’n dechrau cael hiraeth am adra ond pan aeth y mor
daweli ac aethom i cysgod tir, oeddwn i’n gwella wedyn.
Ar y
daith o Lerpwl i Suez, oedd y llongwrs i gyd yn spleisio wire ropes yn
barod i dadlwytho’r llong yn Australia. Gwneud eye splices ar y wire
ropes. Mae’r heini tua modfadd a hannar i ddwy modfadd o dew a finnau efo
nhw’n dysgu spleisio weiran. Buan iawn godi’s i’r tric yna i fynu.
Aethon ni heibio Gibtaltar, i mewn i’r Mediterranean ac entro Suez Canal.
Dwi’n cofio entro’r Canal achos dynis i lun pan oeddan ni yn mynd i mewn.
Dwi’n meddwl bod y llun yna o gwmpas o hyd gen i. Adeg hynnu oeddwn i’n
digwydd bod ar ben y Monkey Island ar look-out a mi ges i lun reit dda.
Ar ol mynd i mewn i’r Canal oedd rhaid disgwyl ar y cei am ein tyrn i fynd
i fynnu a gwitiad am Beilot arall. Oedd pawb yn son am y ‘Gili-Gili man’,
mi welan ni hwnnw cyn hir. Oeddwn i ddim yn dallt pwy oedd hwnw. Gofynais
i Brian “pwy ar y ddaear yw’r Gili-Gili man?” “O, weli di’n munud”, medda
fo. A dyna’r hen ddyn bach yma’n dwad efo cap a mackintosh mawr hir fel
sai’n ganol geua ac oedd hi’n chwilboeth a hwn oedd y Gili-Gili man. Oedd
o’n gwenud tricia efo rhaffa ,wyau a rhyw dderyn bach ac yn gweiddi ‘gili
gili ar ol pob tric, pawb yn
rhoi
pres iddo, wedyn ffwrdd a fo am y llong nesa wedi gwirioni. Roedd o reit
ddifir. Mae’n siwr oedd o’n dlawd iawn ac yn falch o bob dim.
Dyma’r bum boats yn dwad alongside yr ochr arall i’r llong, rheini oedd y
cychod bach, tau deg ohonynt, yn gwerthu petha fel T shirts, siorts, capia
haul a flipflops – oedd na tua deg ohonyn nhw alongside. Pawb yn gweiddi
am y gorau inni brynnu, ar ol taro bargan, a ni’n gollwng bwcad i lawr
ochor y llong efo’r pres. Nhw’n rhoi y goodies yn y bwcad a ninna’n halio
nhw’n ol i fynn, tro cynta i mi brynnu rhywbeth i ffwrdd. Ges i T shirt,
cap haul, siorts a flip flops. Welais i erioed flipflops o blaen a gweld
pawb yn eu prynu, well i mi gael hefyd. Ychydig o bres a dau bloc o
Sunlight soap, y paced melyn yna, efo dau floc o Lifebuoy rhois am y cwbwl.
Gyda llaw, rhodd bob wythnos oedd y sebon gan y cwmni, rations mae’n siwr,
ag efo heini oeddan ni’n golchi’n dillad a sgwrio’r jins ar y deck.
Roes
i y flipflops ar fy nhraed yn syth yr un fath a pawb arall, heb ddim sana
ac ymhen rhyw ddwy awr, oedd y traed yn diodda. Bysadd wedi llosgi a’r
darn flipflop yn mynd rhwng y bus a’r bawd wedi tyllu i’r cig noeth, wedi
mynd yn amrwd ar y deck efo gwres yr haul
a’r decks yn boeth achos decks heuar oeddan nhw a’r haul yn eu llosgi.
Buan iawn es i yn ol i fy sana a sgidia.
Ond
drwy’r Suez Canal a ni. Oeddan ni ddipyn o oria’n mynd trwadd. Dwi’n
cofio rhyw amball i betha. Oedd ‘na gnebrwn gyda’r ochor a pawb yn cario’r
bag ‘ma a corff rhyw deulu a llwyth o bobol yn cerdded tu ol iddo ac yn
gweiddi.
Dwi’n cofio hefyd gweld bump neu chwech o longa. Oedd na ddau o’r wlad
yma mewn rhyw fath o pool ar angor, a ddwedodd yr hogia wrtha fi na
skeleton crew sydd arnyn nhw. Mae’r llongau yna ers y Suez War yn
1950s a methu mynd o ‘na – wedi cael eu bomio
neu rhywbath. Oedd na un ne ddau rhyw hanner o dan dwr a wedi cael eu
llusgo i’r ochor o’r ffordd fel bod llonga’n medru mynd trwadd. A chlywis
i ddim byd am hynnu wedyn, pa bryd gafodd heini fynd o na, ond oedd y criw
yn cael ei fflio yn ol ac ymlaen yn aml yn relievio’i gilydd bob rhyw
bedwar mis dwi’n dallt.
Wel
ymlaen a ni ag oeddan ni trwadd i’r Red Sea a wedyn i’r Indian Ocean ag i
lawr am Australia. Es i ddim yn sal mor wedyn ond pan oeddwn i’n sal, o’n
i’n sal go iawn.
Melbourne, Australia oedd y porthladd cynta, ew, a minnau’n edrych ymlaen,
ew, fi yn Australia my’n dian i. Australia here we come! A cyn cyrraedd,
rhyw ddau ddiwrnod oeddan ni’n dechra neud y derricks yn barod. Creinia
di heini, rigio heini, rigio’r jumbo. Y jumbo oedd y main derrick i’r
heavy lifts. Oedd na waith rigio ar
hwnw, dipyn o waith llusgo petha yn ol ac ymalen ond oedd pawb yn dallt
pob dim a fina’n dysgu a gwatiad bawb. Dyma ni’n cyrraedd Melbourne, wel,
o’n i ddim yn cweilio fod i yn Melbourne, Australia, mor bell o Gymru. Ar
ol docio, oedd pawb yn agor yr hatches. Oeddwn yn dallt na gan y llong
yma oedd yr hatches modern gynta erioed. MacGregor Hatch Covers oeddan
nhw’n galw nhw. Dim ond eu bachu ar y winch a halio nhw’n gorad ac oeddan
nhw’n rowlio fel concertina i un pen yr hold. Wel am handi! Dim fatha
llonga welis i wedyn ymhellach ymlaen efo tair sheet o ganfas tew stiff a
plancia o danyn nhw a wedges pren rownd yr hatch a heini’n drwm ac yn
anodd i handlio.
Diwrnod wedyn, gafo ni hanner diwrnod i fynd i’r lan. Mi aethon ni gyd
i’r lan am dro ag oeddwn i’n meddwl na mynd am dro a gweld llefydd
gwahanol ond ges i siom. Ar ol rhyw hanner awr o gerdded dyna pawb yn
troi i mewn i rhyw dy tafarn. Un o’r gloch yn pnawn oedd hyn ond o’n i
wedi gwrthod mynd i fewn. Fedrwn i ddim. Hogyn bach 16 oeddwn i o Morfa
Nefyn, erioed wedi bod yn ty tafarn. Pasion nhw i gyd i fynd a wnes i
aros allan, eista ar y
steps,
methu deall beth oddynt yn neud. Oedd rhai yn dod allan weithia i weld
syt oeddwn i a trio cael fi i fynd i fewn ond no way, es i ddim. Ymhen
rhyw bedwar awr mi doth nhw allan ac aethon ni gyd yn ol i’r llong. Es i
lan wedyn yn Australia efo rhywyn arall. Oedd hwnnw a fi yn licio mynd am
dro i weld llefydd erill.
Ar
ol mynd i fynnu y coast i Brisbane a Rockhampton, a Townsville, Wallaroo,
oeddan ni’n mynd wedyn i Cairns ag o Cairns i ryw ynys bach yn y Pacific
Ocean, doedd o’m llawer o oriau stemio, ryw ddiwrnod hwyrach, ynys bach
o’r enw Nauru i nol phosphates a dwad a nhw’n ol i Australia ag i Cairns.
Pan oeddan ni’n dwad yn ol, o’n i’n gweld llong alongside, Rubens
oedd enw fo, duwcs medda fi, dwi’n siwr bod Stanley’m mrawd ar hwnnw. Ar
ol docio, mi es i drosodd a mi oedd Stanley’m mrawd arno fo. Do’n i ddim
wedi ei weld ers talwm. Oedd ei llong o homeward bound a finau outward
bound. Fydda ni’m yn hir rwan fysa ninau’n hedio’n ol ond roedd reit neis
ei weld o, do’n i’m wedi ei weld o ers talwm.
Ar
ol dadlwytho rhan fwyaf o’r cargo yn Australia, roedd ‘na fymryn ar ol i
fynd I Philippines. Oeddan ni’n mynd i fynu i Manila, wedyn llwytho yn y
Philippines ac yn ol i Australia a llwytho a dod adra. Yn y Philippines
oedan ni’n dadlwytho’r llong i gyd, pawb i lawr yn llnau yr holds, a
hwylio bore wedyn am Japan! Pawb methu deall be goblyn oeddan ni’n
mynd am Japan! Doedd o ddim ar y list! Australia oedd i fod, ag adra.
Anyway, os na Japan oedd i, Japan amdani. Reit neis, dim ots gyn i.
Cyrraedd Japan, i Osaka, oedd hyn gyda’r nos, tua pump o’r gloch yn docio.
Dyna fo, toedd dim yn digwydd noson hono. Oeddan ni alongside. Aeth pawb
am fwyd, i’r cabins ac i’n gwlau. Deffro bore wedyn a mynd midships am
frecwast. Gynta es allan o’r accommodation i ar y deck oedd pawb yno a
cannodd o Japanese ar y llong, yn bob man, ar ben y funnel ar ben y mastia,
dros yr ochr efo stages, hyd y decks i gyd, cannodd ohonnyn nhw. Beth ar
y
ddaear sydd yn mynd ymlaen yma, medda finna, yn Gymraeg heb feddwl dim.
Oeddwn i’n meddwl bod na ryfal wedi dechra. “What was that, Wee Taff?”,
medda un o’r hogia wrthf i. “Wel, what’s going on here”, medda fi. “I
don’t know” medda fo “but there’s something fishy going on here” Dyna’r
Bosun yn dwad ar hyd y deck yn wyllt ac yn dân, ei ddwylo i fynny’n yr
awyr a’i wynab yn goch wedi gwilltio, yn gweiddi, “We’ve been shanghaid
lads! The bastards have shanghaid us! I’ve got three wee bairns at home
and we’re trapped on this ship!” Dyna oedd ei eiria fo ag yn gweiddi o’i
go. Doeddwn i ddim yn dallt ond wnes i holi un o’r hogia be oedd o’n
feddwl. “Huh”, medda fo, “It means we’ve been signed on by an American
company for a two year contract to run between Japan and the States and
the Philippines and many other places as well, so we’ll be on this ship
for two years without going home”. “Oh,
good God”, medda fina. Wel, am siomedig, o’n i jest a crio a hiraeth mawr
stret away, meddwl am adra – dim yn mynd adra am ddwy flynadd, dwy flynadd!
A pawb yn sbio rownd y llong, beth oedd y Japanese ‘ma’n neud. Oeddan nhw
wedi newid lliwia’r llong dros nos, wedi sgwennu United States Lines ar
hyd ochr y llong y ddwy ochr o’r llong mewn gwyn, o’r bow i’r stern, wedi
newid lliwia’r funnel, lliwia’r mastia, yr housing, bob dim wedi newid a
dyna ni, oeddym ni’n trapped. Pawb yn teimlo’n
isel
iawn, llawer efo teulu adra – ond dwy flynedd i ffwrdd, oeddyn ni gyd
wrthi. “Two years without seeing my bairns!” Fedra neb ddim neud dim am
hyn achos adag hynu, y drefn oedd pan oedd pawb yn seinio ar llong, unrhyw
long deep sea, y contract oedd seinio am dwy flynadd ond fel arfer, ar
regular runs rhyw dri mis i bedwar oedd y voyage yn para. Fydd hyn erioed
yn digwydd tan tro yma ac yr oedd yn rhaid iddo ddigwydd i mi! Hefyd, os
nad oedd y llong yn cael llwyth i fynd adra ymhen y ddwy flynadd, mae’n
rhaid i’r cwmni fflio ni adra o unrhyw wlad yn y byd. Ond mae dwy flynadd
yn bell i ffwrdd. Welodd rywyn y chief officer yn mynd i’r messroom,
papur yn ei law. Aeth pawb yna ar ei ol, a dyna fo, mi oedd yn official,
oedd o ar y noticeboard – “Chartered by the United States Lines of
America”. Oedd pawb yn ddistaw ac yn deud dim. Rhyw deimlad anifir iawn
oedd hynu. Es i a Brian o Sir Fôn i lawr i’r caban ac eistedd i lawr a
sgwrsio am y peth. Dipyn bach o hiraeth am adra ond oedd rhaid derbyn,
fedra ni neud dim byd arall. Oedd y bosun a llawer un arall wedi mynd i’r
lan i foddi’r newydd drwg mae’n siwr. Oedd y capten yn gweld dim bai
arnyn nhw. Mwya debyg, oedd o’n gwneud r’un peth efo’r mate a pawb arall.
Ychydig o ddyrnodia wedyn, oedd pawb yn dod atti hun yn aradeg, dechra
derbyn y newyddion drwg, ond fydda nhw’n dal i fod yn ddistaw, oedd o ddim
yr un peth. Y docars yn llwytho’r llong, dynion a merchaid yn gweithio yn
yr holds dydd a nos, wedyn mynd o borthladd i borthladd dan nes oedd y
llong yn llawn, llefydd fel Tokyo, Fujisawa, Kobe, Nagoya, Shimizu,
Yokohama. Y porthladd dwytha oedd Yokohama, ac yna, y diwrnod cyn hwylio
am America, gafon ni hannar diwrnod. Am dro i brynu radio, tap recorder,
tapia a dipyn o records, rhywbeth i wrando. Oedd gynon ni ddipyn o amsar
rwan i fynd ar y mor. Aeth pawb i fewn i ty tafarn, a fi, am y tro cynta
– dim problem fel Melbourne. Ac yna yn Yokohama ges i fy diod meddwol
cynta, dim llawar ond un botal ond y lleill yn cael spree go iawn. Beth
oeddyn yn clywad yna oedd, pan aethon i mewn dyna’r dyn yn y bar yn gofyn,
“Are you John Limes?” “Yes”, medda ninna. “20 yen a bottle”, 1000 yen yn
gwneud punt adeg hynu a John Lime oeddan nhw’n galw pobl o Prydain.
Llwyth o longwrs o America yn dwad yn llichio’i dollars i bob man. Bwndeli
tew o bres yn eu dwylo a sylwais, pan oeddyn nhw’n prynnu diod bod rhaid
iddi nhw dalu 3000 yen a bottle – am yr un botal a roeddyn ni’n cal.
Holais dyn y bar wedyn pam oedd hyna, a’r rheswm oedd, oeddan nhw’n
casau’r Americans am wllwng y bomb yn Hiroshima a bod nhw’n dwad yna rwan
yn flashio’r dollars mewn llwythi a ddwedodd ei bod am gael hynu fedra nhw
ohonnyn nhw ag yn y diwedd cymeryd blynyddoedd medda nhw a mi fydda ni ar
y blaen a nawn ni gicio nhw allan. Ond yr oedd yr Americans digon bodlon i
dalu – doedd dim ots ganddyn nhw achos oedd ganddyn nhw ddigon o bres, yn
wahanol i’r hen John Lime.
Oedd
y diwrnod wedi dwad I adael Japan. Llong yn llawn mynd am America. Oedd
hi’n batten down the hatches, clirio’r decks a hwylio, ben bora. Portland
oedd y stop gynta wedyn San Francisco, Los Angeles, San Diego, i lawr i
ryw ddau lefydd yn Mexico, San Salvador wedyn drwy Panama i fynnu’r Gulf
of Mexico i San Antonio, New Orleans, Huston, Corpus Christi a mynd i fynu
wedyn i Jacksonville, Washington, Philadephia, New York, Boston wedyn i
Canada, Montreal a Quebec a gweithio’n hunan yn ol wedyn i lawr drwy’r
Panama, i fynu’r ochor arall wedyn yn ol ar draws i Japan. Dadlwytho yn
Japan a wedyn oeddan ni’n mynd i Hong Kong a’r Philippines. Dechrau
llwytho yn ol wedyn Japan ag yn ol i America neud un peth wedyn A felly
buo hi am y trip, yn ol ac ymlaen. Oedd yn dair wythnos bron o stemio o’r
States i Japan. Dyna adag o’n i’n falch wedi prynu’r radio. Oedd o’n
rhywbeth i wrando arno fo, ag y tapia a cael dipyn bach o newyddion y byd.
Oedd yn ddipyn o daith, drwy stormydd mawr, tywydd braf hefyd, ond oeddym
ni’n cael dipyn o stormydd.
Mae
‘na un trip dwi’n cofio’n iawn, roedd na storm fawr. Oeddan ni’n mynd o
Japan ar draws i America a dyna ni’n cael message ar y radio bod na
typhoon reit ar ein track ni. Wel, oeddan ni rhy hwyr i droi ‘nol. Cwbl
fedar y capten wneud oedd alto cwrs a trio mynd i rownd hi. Yr oedd i fod
i gyrraedd ni ymhen ryw ddeuddeg awr. Chafon ni ddim llawar o amsar ond
mi oedd yna mewn chewch awr. Oeddan ni braidd yn rhy hwyr. Chafon ni ddim
ein dal
yn ei chanol hi ond mi gafon ni ein dal yn reit dda. Dwi’n cofio’n iawn mi
falodd y portside lifeboat, mi falodd y portside superstructure, y
gangways, y bulwarks i gyd wedi cael eu ripio ar y llong rel sa’i gyd wedi
plygu. Oeddan ni fel llong wedi cael ei bombio a cwbl fedra ni wneud oedd
dim stemio ymlaen o gwbl, just cadw’r llong head on i’r mor a’r capten yn
arafu lawr yr injans fel mond ein bod yn medru cadw trwyn y llong i’r
tonnau, ac oedd ‘na donnau mawr yn dwad – oeddan ni’n sbio i fynnu arnun
nhw, fel mynydd o’n blaena ni. Dwn i ddim syd yr oeddyn ni wedi mynd
allan o hynnu. Pan oeddyn ni’n mynd i fynnu un ton mawr lawr i trough y
llall a ton wedyn yn dwad droston ni i gyd nes oedd o’n pwshio’r llong i
lawr i’r mor ac oeddan ni’n teimlo’r llong yn vibratio ei hun yn ol i
fynnu a dwn i ddim syt oedd hi’n dod yn ol i fynnu achos os y bysai wedi
torri yn ei hannar adeg hynnu, fuaswn ni wedi darfod. Fysa na ddim chance
fynd ar lifeboat na dim byd adag hynnu. Fysa ni wedi darfod hi. Yr unig
beth oedd yr hogia’n deud, “Don’t run for the lifeboat Wee Taff, go for
the inflatable boat on the top of the poop deck.” Ella fysa na well
chance – ond fysa gyna ni ddim.
Wel,
mi ddaethon ni drwyddo fo a pan naethom ni gyrraedd America, roedd y
welders ar y llong torri’r darna i gyd allan ohonni a rhoi darna newydd
a’i phaentio hi wedyn.
Ar
ol rhyw wyth, naw mis, oedd rhaid i mi fynd am fy steering certificate,
hyna oedd trainio i llywio llong. Oedd yn rhaid i mi neud beth bynnag
deg awr o lywio ar ben fy hun ond cyn hynnu, oedd rhaid i mi neud rhyw
pump awr wrth ochor rhywyn arall. Yn y deg awr ar ben fy hun, oedd y mate
yn rhoi bob math o ordors i altro cwrs, mynd a fo yn ol
ar
y cwrs a bob math o betha felly, checkio fi efo’r compass, efo’r degrees,
a bob dim, bob math o test felly ac ar ol deg awr drosodd, dyna ni, oeddwn
wedi neud o ag oeddwn i’n promoted wedyn i JOS, Junior Ordinary Seaman.
Dipyn bach mwy o gyflog, dim llawar ond oedd o’n rwbath.
Oedd
yna dipyn o hiraeth yn dwad weitha hefyd, yn syffedu braidd ar y voyage,
mynd i’r un un lle o hyd a wedi bod i ffwrdd am flwyddyn erbyn hyn. Ond
adag y stormydd, oedd pawb yn meddwl mwy am adra achos fedra ni neud dim
byd arall mond eista a reidio nhw trwadd. Y drefn oedd adeg hynnu hefyd
mewn bob storm oedd rhaid rhoi y dead lights i lawr ar bob portholes yn y
cabin, cau y storm doors i gyd, achos oedd tywydd am fod mor ddrwg, fysa
wedi malu llawer heb heini ac oedd y
cabins i gyd aft a’r wheelhouse lle roeddyn ni’n mynd ar y wheel, ar
lookouts midships, hyno ydi canol y llong. Ag y messroom hefyd, lle’r
oeddan ni’n cael y bwyd, y lle pwysica. Oedd rhaid mynd trwy’r propeller
shafts tunnel oeddan ni’n alw fo. Oedd hwnnw’n gwylod y llong ac ar hyd
rhyw dwnel bach, doedd o mond rhyw bedwar droedfadd sgwar a shaft fawr yn
ei chanol hi’n troi – hwnnw oedd yn mynd o’r injan i droi y propeller.
Ffordd yno oedd rhaid i ni fynd. Oedd yn rhy beryg i fynd ar hyd y
decks. Mewn amball i rana hyd hwnnw, oedd yn rhaid i ni fynd ar ein
pedwar i osgoi joints y shafts ne fysa ni hwyrach yn cael ein hitio efo
hwnnw. Ryw handrail bach yma ac acw i afal ynddo for rhag ofn i ni fynd
yn ei erbyn o ond oedd rhywyn yn arfar.
Yn
gynharach ar y voyage, aethon ni dros yr Equator a y llongwrs i gyd yn
gafal yn ni’ll tri deckboys, ein tripia cynta, a stripio’n dillad i gyd a
peintio ni gyd efo grease. Oeddwn methu dallt be oedd yn mynd ymlaen, a
wedi dychryn ond y drefn oedd hefyd, erioed oeddwn i’n dallt, pan mae
rhywyn yn mynd dros yr Equator tro cynta un, oeddach chi’n cael eich dipio
mewn tar, ond diolch i Dduw, oedd na dim tar ar y llong yma. Oedd na
dipyn o job cael hwnnw oddarna ni wedyn.
Ar
ol ryw ugian mis ar y voyage, oedd pawb yn disgwl newydd da. Bod yn Japan
rwan am ryw ddegfad gwaith a doedd ddim llawar i fynd. Pan oeddan ni’n
Japan y tro yma, oeddan ni’n disgwl fysa ni’n cael negas, be fasa’n
digwydd, dim byd yn dwad, mond mynd yn ol i America eto a cyn cyrraedd
Panama, dadlwytho ar hyd y coast, dim byd, pawb ar bina, o le i le, dim
byd, dim newydd. Ar ol mynd drwy’r Panama Canal, oeddan ni’n mynd I New
Orleans, Miami, Jacksonville, Savannah a wedyn oedd y llong yn wâg. Erbyn
hyn, oedd pawb ar bina go iawn.
Dyna’r newydd da yn dwad. Oeddan ni i alw yn New York, Boston wedyn mynd
i fynu i Canada, i Halifax, St. Johns, Montreal - ac am adra, i Llundan!
Wel yr oedd pawb wrth eu bodd, oeddan ni’n disgwl y bysa ni adra ganol mis
Mawrth – o, pawb mewn tempar dda, edrach ymlaen, pawb dechra pacio, methu
glir a gwitiad. Oeddan ni gyd wedi prynu suitcases yn Japan, pedwar neu
bump suitcase bob un achos oedd hwn wedi bod yn gartra i ni am ddwy
flynadd a petha wedi hel. Dwn i ddim gwbod erbyn rwan syt ddaethon ni a
gymaint o betha adra.
O
Canada rwan a dwad am yr UK, am Brydain o’r diwadd. Diwadd y trip. Gola
ar ddiwedd y tynal – pawb methu gwitiad. Gweld y coast o Brydain. Ew,
wedi gwirioni, i fynu am Llundan. Gafon ni drip reit neis yn dechra ond
gafon ni ryw dri diwrnod o storm, stormydd reit fawr a cadw’r bow i’r mor
fel yr oeddyn ni’n gwneud o’r blaen. Felly gollon ni ryw dri dwrnod o
stemio hwyrach yn cyrraedd adra eto. Dos na dim byd arall i’n dal ni’n ol
rwan , tywydd wedi gwella ag ymlaen a ni, full speed ahead. Oeddan ni’n
cyrraedd tu allan i’r docks tua dau y pnawn. O na, newydd drwg wedyn,
oedd rhaid aros yn fano dros nos cyn gaethon ni le, disgwl i ryw long
arall fynd i mewn, honno wedi ei dal yn ol. Ond dyna ni, noson hir eto
ond oedd un noson ddim yn neud gwahaniath ar ol bod i ffwrdd mor hir.
Docio o’r diwadd, a’r llongwrs a pawb yn deud mai dyna’r tro cynta a’r
dwytha iddi nhw fynd ar llong Salvesons o Leith. Nes i ddim meddwl am
hyna adag hynny ond penderfynais i wedyn nag a’i byth arnyn nhw chwaith.
Dim isio cael fy nal fela eto.
Pay
off time yn dwad, dyma chief mate yn deud bod yn peth brin iawn fod i wedi
mynd ar y llong yna yn deckboy a
yn gadael hi yn Senior Ordinary Seaman. Mynd i fynu rwan i’r Officers Mess
am y pres, cyflog am y trip. Roedd yn
ddipyn go lew. Oeddan ni’n cal £391 a 5p i ddod adra – oeddan nhw’n dalu
o’n gash. Hwnnw’n fy mhocad. O’n i wedi
gweithio, oeddwn ni’n gweld, 2,355 awr o overtime yn y dwy flynadd yna.
Ew, dyna ni oria a dwi’n siwr oedd yr oria wythnosol 56 awr yr wythnos.
Oedd hynnu heb yr overtime.
Dyna
fi wedi cael fy mhres. Doedd na’m bancs i ni adag hynnu, cwbl oedd rhaid
neud oedd rhoi’r pres yn ein sgidia a gobeithio nawn ni ddim eu colli nhw
ar y daith adra. Wel, dyna ni, diwadd y voyage. O’n i’n cychwyn, ar ol
bod yn trainio, a joinio’r llong yma ar yr 11 Ebrill 1961 a gorffan 21
Mawrth 1963. O’n i’n bymtheg a hannar yn mynd i dreinio a ges i fis adra
ag o’n i’n landio’n ol wythnos cyn fy mhenblwydd yn un deg wyth. Dyna ni
drip – Shanghai go iawn.
Brian a fi yn cael taxi i fynd o’r llong i’r station, pedair neu bump o
suitcases bob un. Gadal llawar o bethau ar ol ar y llong, methu cario nhw.
Oedd y cleaners yn mynd i gael field day. Naethon ni gyrraedd Bangor ryw
dro yn hwyr yn nos a tad Brian o Llangefni yn codi ni fynnu yn y station
efo van, efo’r holl luggage. Es i aros i ty Brian yn Llangefni y noson
honno a bore wedyn, tad Brian yn mynd a fi adra efo’m magia. Oedd yn
amhosib mynd fel arall.
Cyrraedd Morfa Nefyn, dwn i ddim be oedd ar fy meddwl i chwaith ond pan
o’n i’n landio o flaen ty, oedd mam yn nisgwl i, a’n nhad, ag o’n i’n
gweld nhw’n sbio’n ffenast a Brian a fi’n mynd i fewn efo’r suitcases yma.
Helo mam, dwi di cyrradd. Wyddost ti be, meddai, blaw bo fi’n gwbod bod
ti’n dwad adra, faswn i ddim wedi dy nabod ti, ti ‘di newid cymaint. Ti
‘di tyfu, ti ‘di altro. Hogyn bach o’n ni’n mynd dwy flynadd yn ol.

Ond
rhaid ‘mi ddeud am y llong y Salmela, oedd hi’n long dda, neis,
criw da iawn arno fo, pawb yn helpu‘i gilydd, bwyd bendigedig. Mi fasai’n
medru bod yn waeth, cael llong sâl iawn, bwyd sâl, fel ges i ryw dri llong
wedyn. Na’i ddeud hyn yn sydyn, es i ar y Pardo, Pacific Steam
Navigation Company, i lawr i South America, trip o ddeg wythnos oedd hi.
Wel am long! Oedd fy cabin i yn y gwaelod un, yn y tu’n ol, i lawr yn
gwaelod, reit uwchben y propeller ac oedd wyth o bunks wedi cael eu
gwthio yn y cabin ac oedd tô y cabin i fynnu yn y poop deck Fedrwch
chi ddeud bod y tô tua beth bynnag ugian droedfadd i fynnu. Caban cul,
lockers haear fatha lockers army, un i bob un ohonnan ni, doedd o ddim
digon i ddal brwsh llawr. A drws nesa i’r caban oedd y steering gêr a
heini’n stem, a heini’n mynd chu chu chu chu fela yn ol ac ymlaen bob tro
oedd y wheel yn cael ei droi. Oedd hwnnw’n neud swn. Ew, o’n na job arfar
ac yn boeth a dim byd i coolio ni. A bwyd, bwyd sâl – rations. Oeddan
ni’n cael llefrith, toedd na’m llefrith fresh, cania, sweetened condensed
milk, hannar can yr un bob wythnos a un can o Ideal – shaky-shaky oeddan
ni’n ei alw fo. Oeddan ni’n medru roid ryw ddau, dri beint o ddwr yn
hwnnw i neud o bara a chydig bach o ddwr yn y condensed milk –
connie-onnie oddan ni’n galw hwnnw. Ew. Do’n na’m siwgwr iw gael, do’n
na’m coffee, mi oedd na de i’w gael yno fo ac oedd dail y te fel dail mint
sauce, dim blas o gwbwl. Bwyd, roedd y soup fel dwr, dim ots beth oedd y
soup, oedd o fel dwr, rubbish. A bwyd sâl ond oedd raid ei fwyta fo neu
lwgu. A lle oeddan ni’n mynd efo hon, doedd na’m llawer o fwyd i gael
anyway i lawr yn South America – fano’n dump hefyd. A pan oeddan ni wedi
bod ar y trip yna a dod i fynnu’r Mersi, roedd y mate yn gofyn o hyd os
ydach am fynd yn ol am drip ar y llong yna. No way medda bawb de. Oedd o’n
methu dallt pam. 
Un
peth raid i mi ddeud am y trip ar y Salmela, be o’n i’n weld yn odd, ar ol
i pawb cael eu pres, a paid off, mi ath pawb, mesul un, heb ddeud cheerio
wrth neb. O’n i’n weld hynna yn beth odd iawn a ninna wedi byw efo’n
gilydd am ddwy flynadd. O’n na amball i
un hefyd, wedi neud drwg iddyn nhwy hunan iddyn nhw gael fflio adra. D’on
nam llawar mond ryw dri neu bedwar, un wedi gwllwng shackle ar ei droed i
gael paid off yn y States oedd o mor desperate isio cael mynd adra.
Gafodd hwnnw fynd. Mi aeth un yn sâl go iawn, llall yn torri ei fraich.
O’n i’n dallt bod huna’n mynd ymlaen lot ers talwm pan oedd y llonga’n
mynd i ffwrdd mor hir a’r hogia isio mynd adra. ‘Swn i byth medru neud
huna.
Oedd
gen i ddipyn o leave wedyn. Mi aeth Brian a fi i fynnu ar ol ryw dair
wythnos adra, i Scotland i weld rhai o’r hogia. Aethon i Aberdeen a
Peterhead ag i Edinburgh, Brian yn dreifio. Ond mynd am ryw bedwar, bump
dwrnod ag adra’n ol. Oedd neis ei gweld nhw o. Welis i ddim un wedyn a
welis i ddim Brian chwaith. Mae’n beth rhyfadd iawn fel mae pawb yn mynd
o un peth i’r llall ac yn symyd ymlaen ag anghofio lle mae nhw wedi bod.
Mordaith y Samela yn y ddwy flynedd
Llongau eraill Meic
***********
|
Diolch yn fawr i Meic, am yr hanes diddorol yma. A diolch o
galon i Mrs Gwerfyl Gregory, am godi'r hanes i Rhiw.com. |