|
|
Owen Hughes
1906~1972
Hwyliodd
Owen Hughes, Min Y Don Rhiw allan o Gaerdydd ar 18fed o Fehefin 1935 ar long y
‘York City’, llongwr oedd Owen a hon oedd ei fordaith gyntaf ar y ‘York
City’ er ei fod wedi hwylio ar amryw o longau cwmni William Reardon Smith ers
1930, llongau fel y ‘Leeds City’, ‘Quebec City’, a’r ‘King City. O
Bideford swydd Dyfnaint y deuai’r perchnogion ond fel ‘Smiths of Cardiff yr
adnabyddid y cwmni. Llongau ‘Tramp’ oedd llongau Reardon Smiths gan nad oedd
ganddynt fordeithiau rheolaidd, hwylient y byd yn chwilio am gargo, doedd hi
ddim yn anarferol i dripiau barhau am ddwy flynedd ac yn wir bu Owen ar y
‘Leeds City ‘ am drip un ar ddeg mis, a doedd ei amser ar y llongau eraill
fawr llai. Erbyn canol mis Gorffenaf roedd y ‘York City’ mewn porthladd yn y
Mor Du, Rwsia yn llwytho 8,500 tunnell o fanganis i’w gludo i’r Amerig, ac
yn nechrau Awst hwyliodd am Baltimore yn yr Unol Daleithiau. Aeth wythnosau
cyntaf y daith yn eithaf rhwydd a’r unig gynnwrf fu
darganfod dau ‘stowaway’.a bu’n rhaid galw fewn i Gibraltar i fynd
a’r ddau i’r lan. Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae’r Iwerydd yn le eitha
braf, gyda gwynt ysgafn a haul cynnes, ond gyda tymheredd y mor yn y de yn codi
i 26 gradd selsiws ac uwch roedd tymor y corwyntoedd ar ei anterth,
a maes o law daeth neges o’r stafell radio fod anferth o gorwynt yn datblygu
i’r de. Doedd neb ar fwrdd y llong yn poeni yn ormodol, oherwydd gynta i’r
corwynt gyrraedd yr arfordir byddai yn rhedeg allan o blwc ac yn gostegu yn
raddol. "Owen yr ail or chwith" Ar
y 4ydd o Fedi roedd y ‘York City’ gan milltir i’r gogledd o Ynysoedd
Bermuda ac yn gwneud amser da. Ond ar y bont roedd pryder yn dechrau dangos gan
fod ‘Corwynt yr Wyl Lafur’ fel y’i gelwid wedi troi yn sydyn ac annisgwyl
i’r gogledd ac yn mynd fyny arfordir ddwyreiniol yr Unol Daleithiau a gallai
hyn greu problemau i Capt Llewelyn Thomas a’i griw. "Llwybr o'r
Corwynt yr Wyl Lafyr"
‘Corwynt
yr Wyl Lafur’ oedd y corwynt mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Roedd yn
gategori 5, ac mae’r gwyntoedd ynddynt yn cyrraedd cyflymder o fwy na 155
milltir yr awr. Symudodd y storm i’r gorllewin o’r Iwerydd ar draws y
‘Florida Keys’ gan ladd pedwar cant o bobl ar ei ffordd i Gefnfor Mexico.
Boddwyd llawer a chafodd eraill eu golchi allan i’r Cefnfor, tra cael eu sugno
allan i’r Iwerydd gan don enfawr oedd ffawd eraill.Cymaint oedd nerth y storm
bu farw llawer wrth gael eu chwipio gan dywod, yn wir fe gollwyd cymaint yn y
storm yma fel nad oedd unman i gadw’r cyrff a bu raid creu coelcerthi
angladdol. Pan basiodd y storm dros ochr ogleddol ‘Long Key’ crewyd record
am y pwysedd isaf i gyrraedd tir yr Unol daleithiau erioed. Trodd y storm ei
gyfeiriad i Fae Tampa ac ymlaen drwy ‘Georgia’ a’r ‘Carolinas’cyn
mynd allan yn ol i’r Iwerydd ar y ffin rhwng Gogledd Carolina a
Virginia. Ar ddydd gwener y 6ed gyda gwyntoedd dros gant a hanner o filltiroedd
yr awr a’r llong ‘Fannie Mae’ wedi dod i ddistryw milltir i’r dwyrain o
oleudy‘Windmill Point’ nelodd y gwynt am y ‘York City a oedd rwan tua 130
milltir oddiar yr arfordir. Hyd at 4.30 fore dydd sadwrn y 7fed roedd yr ‘York
City’ wedi dal ei hun yn dda yn y storm, ond daeth ton anferthol a thrawo’r
llong nes ei bod o’r golwg dan y tonnau tymhestlog. "Y York City yng nghanol y storm" Ar
y bont roedd Capt Thomas, Glen Williams y met a’r llywiwr Campbell Roberts
wedi eu taflu drosodd gan bwer y mor a chymerodd gryn amser iddynt ddod at eu
hunain. Roedd cryn lawer o ddifrod i’r llong, maluriwyd y rhan fwyaf o’i
ffenestri, byclwyd ei agorfeydd aer, a rhwygwyd ymaith ei chanllawiau, ond yn
waeth na dim maluriwyd yr unig ddwy fad achub oedd ar ei bwrdd a pe suddai y
llong yna fyddai fawr o obaith i neb fyw. Gorchmynodd Capt Thomas i’r ystafell
radio yrru neges ‘Mayday’, ond methiant fu hynny gan fod
‘aerials’ y llong wedi cael eu chwythu ymaith yn y storm.
Dros
y pymtheng awr nesaf brwydrodd y llong yn erbyn yr ystorom, a bu’r oriau yma
yn hunllef hollol i’r criw. Torrodd un o’i ‘derricks’ yn rhydd ac aeth
llongwr o’r enw John Wright allan ar fwrdd y llong i’w angori i’w le cyn
iddo rwygo canfas yr howld a’r mor dorri mewn. Roedd yn wr dewr i fentro allan
i’r fath le, ond fe lwyddodd i sicrhau bob dim i’w le. "Owen ar lan (mae o ar y dde)" Dri
diwrnod yn ddiweddarach er mawr ryddhad i’r criw blinedig glaniodd y llong yn
Baltimore, ond fe fyddai yn chwe mis arall cyn y byddai Owen a’i ffrindiau yn
ol ym Mhrydain, ac ar Fawrth yr 2il 1936 cyrraeddodd yr ‘York’ yr afon Tyne
yn ddiogel.
"Record o amser Owen ar y York City"
Diolch yn fawr iawn i Mr & Mrs R Williams, am eu cymorth. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |