|
|
"William Jones" Llyshyfryd, Rhiw. SS
Glaucus,
Falmouth, Sadwrn
Hydref
18 1930. Annwyl
Fab,
Wele fi yn ysgrifennu gair bach iti unwaith yn rhagor gan
fawr obeithio y bydd iddo dy gael yn iach fel ag yr ydwyf innau ar hyn o
bryd. Fel y gweli ein bod yn dal i fynd o hyd wedi dadlwytho y cwbwl i
gyd rhwng Llundain, Rotterdam a Hamburg. Mi gefais Sul yn Llundain y tro
yma ac mi gefais amser braf
Capel
Kings Cross y bore yn gwrando ar Elved ag yn ty John Brynhyfryd a Gwen
dan 9.30 fel ta taswn i adref bron. Mi roedd y ddau wedi aros ar eu
traed yn hwyr nos Sadwrn yn fy nisgwyl yno, Os mi fum o’r llong wedyn.
Mae gennyf slipars i dy fam a Lizzie, mae dy fam wrthi yn arw efo y pres
yn hel ag yn mynd a nhw i Bank. Mi rydym wedi neu yn cael run dda yn
hon. Mi fyddwn yma hyd y 31st ag yn Swansea hyd yr 8th o Nov a gadael
Birkenhead ar y 15th am Straits of China a Japan. Mae yr Ulysess yn
gadael Lerpwl yr un adeg ag yr ydym ni yn gadael Swansea. Biti na faswn
yn cael gweld yr Hen Domas. Mi rwyf yn disgwyl cael mynd adref o
Birkenhead os nad o Swansea. Mi roedd dy fam yn dweud ei bod wedi cael
llythyr oddiwrthat ti a Griff. Mi fuo ef yn Awstralia a Java ag i Java
yn ol wedyn ag mae yn dod am adref rwan wedi cael voyage iawn. Biti ei
fod yn colli Tommy mi fydd yn fis Mawrth cyn y daw yn ei ol. Ond os aiff
Griff round the Land yn honna ni fydd ond tua tri mis adref ac mae’n
debyg ag mae’n debyg y bydd ef ai fam wedi ffraeo cyn hynnu. Mi anfonais
y pethau adref o Lundain i gyd ag mae dy fam am dynnu ei llun yn y
Kimono a’r Japanese ambarel wrth ei phen., am olwg ynte. Anfon air i mi
os byddi adref ddigon buan o rhywle ar y Coast. Ond hwyrach na fyddaf yn
hon eto nis gwn. Wel nid oes gennyf ond terfynu ar hyn gan gofio atat yn
y modd gynhesaf. Dywed wrth y Carpenter mae ffit union oedd gennyf i
wneud y box a’i fod yn alright hefyd. Remeber me to all, ydwyf dy Annwyl
Dad William Jones.Nid wyf wedi cael Boat Ticket eto mi roedd yma rhy
fychan o ddau i drio. Biti na faset yma ynte i wneud y cyfri fyny
(eisiau deg)
"William Jones" ~~~~~~~ Y Kimono ~~~~~~~~
~~~~~~~ "Glaucus" Roedd
William yn Saer Coed ar yr Glaucus, un o longau Blue Funnel. Mewn
ychydig ddyddiau o ysgrifennu’r llythyr yma pan oedd yn Abertawe,
bu i William gael damwain angeuol pan ddisgynnodd lawr hatch y long. Mae
Griffith Thomas yn son am hyn yn ei ddyddiadur ym mis Tachwedd 1930. Llun
3, Newydd ddrwg W Jones wedi ei ladd. Mawrth
4, Willie Llyshyfryd a Owen Siop yn mynd i Swansea i nol W Jones. Iau
6, Dod a corff William Jones Llyshyfryd o Swansea. Sadwrn 8, Angladd William Jones Llyshyfryd yn Nebo syrthio i howld stemar i gyfarfod ei ddiwedd yn Swansea.
R.I.P. ~~~~~~~~ Diolch i Mrs R Jones am y lluniau a Mrs M Jones am y Llythyr. |
|
Copyright © Rhiw.com |