|

Ellis
Jones

1914~1942
Ar Ebrill 1af 1942 roedd Llynges
Imperialaidd Siapan o dan oruchwyliaeth is-lyngesydd Ozawa yn hwylio i fewn i
Fae Bengal.Roedd yna bedwar o longau rhyfel mawr sef y "Kumano" "Suzuyo"
"Mikuma" a’r "Mogami ac un llai o’r enw "Chokai a pedair
o ddistrywlongau yr "Ayanami", "Yugiri" "Asigiri"
a’r "Shikaze". Bu’r llongau yma yn chwilio yn ddyfal yn y bae
enfawr am longau i’w targedu a’i dinistrio.
Cruiser "Kumano" |
Bae Bengal |
 "Autolycus" |
Buan iawn wedyn ar y 4ydd o Ebrill
mi gaeson eu targed cyntaf sef y Silksworth llong fasnach o Brydain. Y diwrnod
canlynol roedd gosgordd o longau Prydeinig wedi gadael porthladd Calcutta ar ei
ffordd i Brydain gan alw heibio Durban yn Ne Affrica. Roedd saith o longau yn yr
osgordd yma gan gynnwys llong Blue Funnel yr Autolycus, arni roedd gwr ifanc o’r
Rhiw yn gweithio sef Ellis Jones Tyn Lon Fawr. Ar y 6ed daeth y fflyd
Siapaneaidd ar draws yr osgordd ac yn y gyflafan a fu dinistiwyd pedair o ‘r
saith llong gan gynnwys yr Autolycus, collodd un ar bymtheng o’r criw eu
bywydau ac ymhlith y trueiniaid yma roedd Ellis a oedd yn wyth ar hugain oed ar
y pryd. Y llongau eraill a gollwyd oedd yr Exmoor, Malda a’r Shinkuang. Mae
yn cael ei gofnodi ar y gof golofn tu allan i gapel Nebo.

Tyn Lon Fawr
Cyn ei ddiwedd trist iawn bu Ellis
yn hwylio ar amryw o longau Blue Funnel gan iddo fod yn llongwr o’i lencyndod.
"Teucer" |
"Patrocolus" |
"Eurymedon" |
|
Autolycus
was built in 1922 by Hawthorn Leslie & Co. Ltd at Hebburn-upon-Tyne
with a tonnage of 7621grt, a length of 459ft 2in, a beam of 56ft 4in
and a service speed of 14 knots. Sister of the Eumaeus she was built for
the China Mutual Steam Navigation Co. |
|
On the 25th of November 1944, in Santa Cruz
harbour, Philippines. At 14:45, the Japanese cruiser “Kumano” was
attacked by aircraft from Task Force 38's USS Ticonderoga (CV-14) and they
hit the portside with five torpedoes, and four 500-lb. bombs. At 15:15,
she capsized and sank in 108 feet of water at (15-45N, 119-48E) Captain
Hitomi and 440 crewmen went down with her. |
Diolch yn fawr i Mrs W Jones, am rai o'r lluniau yma.
|