|
|
Evan Williams (Capt Bryn Meillion) "1887~1975" Un o hogiau Rhiw a ddechreuodd ei yrfa forwrol ar longau hwyliau oedd Evan Williams gafodd ei eni yn Cadlan yn 1887. Un o’r llongau hwylio mwyaf adnabyddus y bu arnynt oedd y "William Pritchard". Sgwner dri mast a adeiladwyd yn y flwyddyn 1903 gan David Jones, Pritchard Brothers Porthmadog, cafodd ei lawnsio ar Chwefror 14eg gan Miss Nesta Pritchard, merch un o berchnogion y cwmni ac am un mlynedd ar bymtheg bu y "William Pritchard" yn hwylio i Newfoundland Canada i nol llwythi o Benfras(Cod) i ddod yn ol i borthladdoedd Ewrop. Gelwid y math yma o longau yn "Newfoundland Traders" Sgwner Porthmadog "William Pritchard" Yn 1906/ 1907 roedd Evan Williams yn gweithio arni fel a welir yn ei lyfr nodiadau bach, talodd i ffwrdd arni yn Amlwch ar y 25ain o Ionawr 1907. Gyrrodd gerdyn post i’w nai Robert Blawdty o Amlwch i ddweud y byddai adref cyn bo hir. Evan yn "Talu ffwrdd" yn Amlwch 1907 Bu Evan Williams ar amryw o longau hwylio a gyrrodd gerdyn post i’w chwaer o Port Pirie yn Awstralia, lle roedd yn gweithio ar y llong "Milverton" yn ogystal a rhai o Chile De America sydd yn awgrymu i Evan "Rowndio’r Horn" mewn llong hwylio. Cardiau post a yrrodd Evan gartref. Cerdyn post o'r "Milverton" Newcastle, Awstralia 1909. Cerdyn post arall gafwyd oedd o long Almeinig (Llong fwya’r byd yn ol y cerdyn) a yrrodd i’w frawd John Williams a oedd hefyd yn longwr. Prif beirianydd oedd ei frawd John a aeth ymlaen i weithio fel peirianydd i Camell Laird. Arhosodd Evan Williams ar y llongau a bu am flynyddoedd yn Gapten ar Blue Funnel y cwmni a elwir "The Welsh Navy" gan i gymaint os nad pob un o longwyr y pen yma ddechrau ei gyrfa efo nhw. Bedd argraffiad Evan yn mynwent Capel Nebo. Evan Jones Williams M.M. Mor annwyl cael am ronyn Angori llong yng nghwr Llyn. "1887~1975" ~~~~~~~~~ Diolch i Mrs Menna Jones a Mrs Jean Hughes, am ei cymorth.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |