|
|
S S Manitoba
New York
Jan 4th 1893 Fy
annwyl Chwaer, Dymunaf flwyddyn newydd dda ichwi i gyd- mae yn gwrs amser er pan ysgrifenais ddiwedda, ond gwell hwyr na hwyrach, mae yn debyg dy fod yn gwybod fod Catherine yn yr America ers tro erbyn hyn, mae yn aros geyda Eliza merch fy ewythr Robert yn Salt Lake City. Oh credaf fy mod wedi dy hysbysebu o hyn o’r blaen pan yn Llundain. Wel yn ol at ei llythyrau ataf y mae yn leicio ei lle yn reit dda ac nid oes arni eisiau dod adref hyd yn hyn- son am hel arian y mae yn fwy na dod yn ol, ac os y medr wneud hynny waeth iddi yma am wn i. Yr wyf wedi dod o hyd i Owen Tynrhyd yma ers tro byddaf yn mynd i’w dy bob tro y mae yn byw yn eithaf taclus, o fyw gweithiwr a chanddo wraig reit dda yn ol fy marn i a dau o blant. Mae Owen ei hun yr un fath yr olwg arno yn allanol a Sion Llidiarda yn gymwys, er nad oeddwn erioed wedi ei weled yn fy mywyd hyd nes y daeth i’r llong un noson yn yr haf, yr oeddwn yn ei adnabod yn y fan cyn iddo siarad a hynny yn y tywyllwch ar y ‘deck’, yr oeddwn yn meddwl fod yn wir fod yr hen greadur wedi codi o’i fedd pan y gwelais Owen yn dod tuag ataf.
Cawsom sgwrs ddoe am y pregethwr clyfar Penycaerau hwnnw
Robert Williams yw ei enw, a dywed wrth Owen ei fod yn fy adwaen I yn bur dda
wedi fy ngweled yn y Blawdty lawer gwaith meddai. ‘Wel tewch a dweud celwydd’
medda Owen ‘fu y dyn ddim yno ond ychydig oriau ers ugain mlynedd neu ragor-
ac wedyn ar ryw sgwrs arall bu raid iddo ddweud wrtho eilwaith am beidio dweud
celwydd drachefn, mae ef yn fachgen clyfar dros ben, buasai yn dda iwan gennyf
pe buasaai yn dod i edrych amdanaf ryw bryd, cawsai fyned yn ol gyda mwy o boen
yn ei glust na fu ganddo er llawer dydd, yr wyf yn credu os cafodd unrhyw was y
diafol oi fath mae fy mysedd yn llosgi gan isio ei dagu i farwolaeth neu yn lled
agos beth bynnag. Wel mae
Owen wedi rhoi mwy o hanes Aberdaron i mi na glywais erioed o’r blaen yn fy
mywyd, mae yn gwybod hanes pawb sydd yna o’r gwaelod yn well na neb welais neb
welais i erioed. Byddaf yn hwylio ar y 7th a disgwyliaf fod yn Llundain tua yr
18th.
Ydwyf gan gofio atoch oll yn garedig eich ffyddlonaf frawd R Griffith. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Diolch
i Mrs J Hughes, am y Llythyr yma. |
|
Copyright © Rhiw.com |