|
|
54 Turners road
Limehouse
London
May
11th 1890 Fy
annwyl Chwaer,
Daeth yr eiddoch i law mewn pryd, da gennyf weled eich bod
oll yn mwynhau gweddol iechyd, fel yr ydym ninnau yma ar hyn o bryd, cyrraeddais
yma ddoe, a bwriadaf hwylio eto dydd gwener nesaf am Swansea fel arferol- credaf
y byddaf yn myned ar y llong i Belfast, pan ddelwyf yn ol o’r fordaith nesaf,
eisio gwneud tipyn o Gyfnewidiadau o’i mewn ac wyrach y caf
ryw ychydig ddyddiau i ddod
i Gymru pryd hynny, os na fyddwn ar ras fawr fel arferol fel nas gallaf gael
dyfod. Buaswn yn leicio cael dod am ryw ddiwrnod pe buasai yn bosibl cael amser,
ond y mae y perthynasau wedi lledu cymaint nes y mae bron yn amhosibl eu gweled
i gyd, oni bai fod yna ryw flwyddyn glir o’i flaen. Aberdaron, Caergybi,
Aberystwyth, Bangor, Pwllheli, Llanengan, ryw wedi ymledu i bedwar cwr y byd neu
chwe chwr am wn i, ac mae yn anhawdd dweud pa mor fuan y bydd rhai ohonnoch yn
ymchwyddo drachefn. Fodd bynnag mi ddof ffordd yna os y gallaf dianc o afael
rhai o’r lleill or hen dylwyth – ni chlywais air yng nghylch pregethwr
Pencaerau hyd derbyn dy lythyr, ond credaf y gwnaiff ei wraig Americanaidd fwy o
les iddo na dim arall, oni bai i rywun gymeryd ffon a’i bastwyo yn lled dda,
ond ryw feddwl sydd gennyf mai nid gwir American o waed digymysg ydyw y lodes,
gan eu bod hwy fel cenedl yn llawer rhy graff i gael eu llygad dynnu gan gena
mor ddifaeth ag ef.
Ydwyf gan gofio atoch oll eich ffyddlon frawd, R Griffith. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ |
|
Copyright © Rhiw.com |