Fel y gwelwch yn y lluniau yma, roedd Nant
Gwrtheyrn ar un adeg yn chwarel brysur iawn, a galwai llongau bach
yno bron yn ddyddiol i lwytho cerrig. Byddai rhai o'r llongau yma
yn dod i Borth Ysgo i lwytho Mango.
(1,2) Y "Maraboe" ar y traeth Hydref 28 1932,
cafodd ei thynnu nol i'r môr diwrnod wedyn gan y tug
"Ranger"
(3) Doedd yr "Amy Summerfield" ddim mor lwcus,
daeth ei dyddiau hi i ben ar Fawrth y 23ain 1951, pan gafodd ei
gyrru ar y traeth mewn tywydd garw. Byddai yn llwytho Mango reit
amal yn Porth Ysgo yn y dauddegau.