"Trwyn Dwmi"  

Porth  y  Pistyll.

Dechreuwyd gweithio ym Mhorth y Pistyll,  -  neu fel ei gelwir yn lleol, Gwaith Trwyn Dwmi,  -  ym  1907,  Hugh Evans, Tŷ Canol, Galltraeth, gynt o Lanaelhaiarn, oedd y rheolwr.  Dechreuwyd codi cerrig yn Graig y Cwlwm yn 1908,  o dan reolaeth Mr. Mercer, o Lundain. Grianfaen, neu wenithfaen yw y graig  -  granite, a gwneud cerrig o wahanol sipiau fel sets a cherrig cerb  -  kerbstones,  i wneud pafin, strydoedd a phalmentydd oedd bwriad y gwaith.  Amcanwyd codi wyth o dai neu ychwaneg gydar cerrig, ar Rs Bodermyd Isaf, ond sylfaen ar gyfer chwech yn unig a wnaed, a dim ond dau dŷ a adeiladwyd i uchder llofft.  Cymaint oedd eu crefft fel mae y tai wedi sefyll bron yn eu cyflwr perffaith er pan eu codwyd ym  1907-08. Yn y cynllun yma hefyd, roedd bwriad i adeiladu capel a siop.  Mae engraifft arall ou medrusrwydd fel seiri cerrig yn parhau ym Mhorth y Pistyll, sef postyn cerrig  -  bollard, ar gyfer rhwymo llongau, mae hwn wedi ei gerfio allan or graig naturiol.

Adeiladwyd dau harbwr bach lle y gallai llongau rwymo i fyny tra yn llwytho.  Clirio yr harbwr wyrach oedd y broblem fwyaf, gan fod y mr yn dwad a cherrig i mewn yn fuan ar l clirio y safle.  Adeiladwyd rheilffordd yno hefyd, hon ar ffurf bwa hanner crwn, roedd yma beiriant stm, yr hon a elwid yn steam crane.  Defnyddid y peiriant yma i godi a gostwng cerrig a nwyddau eraill i ac ben yr allt.  Lle anhwylus oedd hwn ir gweithwyr, gan fod yr allt yn serth iawn, cerdded i lawr llwybr beth or ffordd, yna defnyddid ysgolion weddill y daith. Nis gwyddom pa bryd cauwyd y gwaith, ond fei hail-agorwyd yng nghanol y tri-degau (1930au), o dan reolaeth Mr. Jackson y tro yma, ond medd rhai or gweithwyr, ni werthwyd sets yn y cyfnod yma.  Gan fod cymaint o ymdrech wedi ei wneud i baratoi y chwarel ar gyfer cynhyrchu, aeth y mudiad yn fethdalwr, ond mae amal i le tn ym Mhen Llŷn wedi ei addurno efor sets ithfaen hardd yma.

Tua  45  oedd yn gweithio yn y chwarel, dyma enwau rhai :-

Emmanuel Jones,                   Tyn Gamdde.

William Jones,                       Tangofer.          (meinar).

William Jones,                       Tangarn.

Evan Jones,                            Pig Parc.

William Jones,                       Dolfor.

Humphrey Williams,             Plas Coch,  (Delfryn).  (saer coed).

Griffith Evans,                       Dynfra, (Tanfron),  ai dad

Robert Evans,                        Dynfra.  (Lladdwyd ef pan gwympodd y graig arno).

Catrin Jones,                          Tyn Gamdda,  (Moryn).

Robat Parry,                           Bryn Goronwy,  (Glanrafon).

Love Pritchard,                      Talcen Foel.

Huw Williams,                       Tyn Mynydd.

John Lewis Roberts,               Bryncanaid.

John Kidd,                              Pentrer Felin.

Huw Erith Williams,              Brynchwilog.

Robin                                      Morfa Nefyn,  (gof).

Eban Jones,                            Tyn Ffrydiau, Garn Fadryn.

Richard Roberts,                    Brynawelon.

John Jones,                             Terfyn.

Robat Thomas,                        Pwllheli.

Ifan  (Trwyndwmi),                Llanaelhaiarn.

Huw                                        Bwlchffordd.

 

Ar l cau y chwarel tua  1937/38,  roedd amryw o adeiladau eraill a berthynnai ir gwaith yn sefyll ar ben yr allt, ac yn Ebrill  1939,  gwerthwyd rhai i Bencwm, a rhai i Rydgaled, y fargen yn hanes Rhydgaled o leiaf, yn golygu yr arfau ar celfi oedd ynddynt hefyd. Yn y cyfnod y bu y gwaith ar fynd, adeiladodd Jackson dŷ iddoi hun ai deulu, a  Bungalow Jackson ei gelwid ar lafar gwlad, ond erbyn hyn mae sawl teulu o Saeson wedi byw ynddo, ar enw priodol yn cael ei ddefnyddio, sef Mr Awelon. Bu i Richard Jones, Glo, Pwllheli, feddiannu Mr Awelon cyn ei orffen, i glirio dyledion Jackson am gario nwyddau Bwllheli, ac iddo ei werthu i ddyn or enw Worrell, bu iddo ef gwblhau y gwaith adeiladu, a bu yn byw yno am flynyddoedd. Mae ambell i hanes digri ar gael o hyd, hwn yn engraifft :-  fod dyn ar swydd o gario nwyddau o afael trol, i lawr ir chwarel, ac yn amlwg wedi hen flino ar y gwaith, felly, dyma fynd ai gŵyn i Jackson, y mistar, gan ddeud yn y diwedd, gyda theimlad,  I look like a donkey, a methai ddeall paham y bu i Jackson gydweld fo, a deud, Yes, I suppose you do.  Tipyn bach yn anffodus wyrach, fod ei glustiaun hirach nar cyffredin.

Hanesyn bach arall, sydd i Huw Evans ymweld ag Aberdaron, fel y gwnai amal i gydar nos, reit siwr, ac roedd hyn yn golygu cerdded ar hyd pen yr allt, ac ar hyd y traeth a thros yr afon, gryn daith.  Yr arferiad gan Huw wrth groesi yr afon, fyddai tynnu un esgid ac un hosan, er mwyn sicrhau y byddai yr esgidiau ar sanau yn sych, yn rhedeg nerth traed a rhoddi llam, gyda y droed noeth yn mynd ir dŵr, ond y tro yma, yn ei ddiod wyrach, bu i Huw Evans roddi y droed ag esgid arni yn y dŵr.

Mae stori i gymeriad arall, sef John Llewelyn, Deunant, alw yn y chwarel, gan ei fod yn awyddus iawn i weld beth oedd yn mynd ymlaen yno, ond nid oedd Jackson yn croesawu pobol yno i fusnesu, ac felly daeth Jackson at John a gofyn iddo yn bur chwyrn beth oedd ei fusnes, ac i John ddeud mai Inspector of Mines oedd, ac i Jackson diflannu mewn eiliad, gan ofni yr ymchwiliad y teimlai yn sicr oedd i ddilyn.

Pan ddigwyddodd damwain erchyll i Robert Evans, Dynfra, daeth tunnelli o gerrig a phridd i lawr r allt ar ei ben ai gladdu.  Bu chwilio mawr am oriau maith, yng ngoleu lanteri, ac mae sn mai Robert Jones, Tegfan ai canfuodd, roedd tri mab Robert Evans yn chwilio hefyd.  Defnyddiwyd trol John Thomas, Bodermyd Uchaf, i gludo y corff ben yr allt.

Bu i Jackson, am ryw reswm, geisio cwch, lifeboat oddiar long, ac yr oedd yn un dau-flaen, a maint go lew ynddo, cymaint felly na allai y lori oedd yn ei gludo fynd a fo i ben ei daith.  Bu raid ei ddad-lwytho cyn cyrraedd y darn cul dwytha or ffordd i gyfeiriad Grepach.  Cafwyd caseg Bodermyd Uchaf iw dynnu, a bu hefyd raid sgriffio ochrau y cloddiau iw gael trwodd.  Ac er hyn i gyd, gwaith caled iawn oedd, a bu i gaseg John Thomas roddi mwy nai gallu y diwrnod yma, gan na fu byth yr un fath ar l hynny.  Bu y cwch dau-flaen yn gorwedd mewn chwarel bach ar ochor y bryn am amser maith, heb ei ddefnyddio.

22ain  Ebrill  1940.  Llythyr oddiwrth William Owen Jones, Twrniaid o Bwllheli, i Charles Midgley. Ymweld ag Aberdaron ac archwilio chwarel a adwaenir fel Creigiau Rallt a Glan Mr, ar dir Fferm Bodermyd Isaf ar tir scyfago.  Ar ben yr allt uwchlaw y chwarel, ceir yr adeiladau dilynnol :-

Cwt powdwr,  muriau cerrig,  to haearn rhychog, mewn cyflwr da.  Tri adeilad haearn rhychog, i gyd mewn cyflwr da.  Mae ffenestri un wedi ei gau i fyny, felly dim modd gweled i mewn, ond oddi mewn  un or lleill yr oedd megin gof, ac amrywiaeth darnau o beiriannau, ac yn y trydydd adeilad roedd glo, olwynion tryc, torch o gebl, ac amryw o slabiau llechi wedi eu llifio.  Roedd yr adeiladau i gyd wedi eu cloi.  Yn gorwedd yn ymyl yr adeiladau yma oedd jib craen, tua ugain darn cryf o pitch pine, wins, amryw ddarnau o beiriannau a chledrau rheilffordd, a thri twb o olwynion.

Saif y chwarel ei hun wrth sawdl allt y mr, ac mae cei sylweddol yno, mae ystormydd y ddau neu dri gaeaf dwytha wedi niweidio y muriau mewn aml i fan.

Mae tua  600  o sets yma, a tua llond trol o gerrig ymyl palmant (kerb-stones), ac amryw o ddarnau o beiriannau, er engraifft, gwaelod y craen, olwynion y tryciau, a chledrau, hen foiler, dwy bwced haearn ir craen, un twb, a pheipiau galvanised  a.y.y.b.

Mae yn ymddangos fod y cei wedi ei adeiladu ar lefel rhy isel, fel fod y mr yn golchi trosto pan for llanw yn uwch nar cyffredin.  Ceir cerrig o ansawdd da un ochr ir chwarel, ond mae angen tynnu i lawr llawer or ddaear sydd yn hongian yr ochr arall, cyn dod i garreg dda.

Nid yw llawer or haearn sydd yn gorwedd yn y chwarel yn werth dim ond   scrap. Ein barn ni ydyw y buasai y chwarel yn eithriadol o anodd a chostus iw gweithio, yn arbennig yng ngolwg trafnidiaeth.  Mae y chwarelydd cerrig ar gau i gyd ar hyn o bryd o achos y rhyfel, ac mae amryw o chwarelydd cerrig yn yr ardal sydd a gwell darpariaeth o lawer ganddynt, a moddion cludiant ar fr  a thir ganddynt.  Mae bron yn amhosibl cyrchu defnydd or chwarel yma ar y ffordd. Gwnaethom ymholiadau yng nglŷn a Mr. Jackson yn lleol, a dywedwyd wrthym nad oedd wedi ei weled ers peth amser hyd ddeufis yn l, pan fu i ddwy lori fawr o Fanceinion, gludo tua wyth dunnell o haearn scrap oddi yno.

Dywedwyd wrthym hefyd, fod Mr. Jackson wedi adeiladu bynglo yn agos ir chwarel, ac wedi ei archwilio, cael ei fod wedi ei gau i fyny.  Fe ofynnwyd i amryw or trigolion os oeddynt yn gwybod pwy oedd perchen y chwarel, a dywedent nad oeddynt yn gwybod, ar wahn i un gŵr a arferai weithio yn y chwarel, ac roedd yn meddwl mai Mr. Jackson o Lundain.  Dywedodd y dyn

yma hefyd nad oedd un garreg wedi mynd or chwarel ers dros ddwy flynedd.

Nid oedd neb yn gwybod dim am yr Allied Quarrying and Coasting Company   Ltd.

~~~~~~

Diolch i Wil Williams am y wybodaeth yma.

Map or Safle                Website Map

Copyright Rhiw.com