|
"Porth
y Sgaden" Porth y Sgaden neu
hwyrach mae Porth y Pennog ddylai
fod gan mai enw cymreig hynafol ar bennog ydyw ysgaden. Mae’n amhosibl olrhain
hanes cynnar y gilfach yma sydd ar arfordir Gogledd Orllewin Llyn, oherwydd fod
cofnodion bore oes ardal Tudweiliog lle y mae Porth
y Sgaden wedi ei leoli wedi mynd ar
ddifancoll os y bu i gofnodion gael eu cadw o gwbwl. Yr hyn sydd yn wybyddus am
y lle ydyw mae eiddo stad Cefnamwlch ydoedd ac y sydd hyd heddiw. Ar un cyfnod
bu yn ddolen gyswllt cydrhwng llefydd fel Lerpwl a thu hwnt gan nad oedd ffyrdd
y gorffenol yn ddim amgenach na llwybrau geirwon oedd yn gwneud teithio yn araf.
Gan mor wledig oedd yr ardal dibynid ar y llongau bychain a hwylient i’r
porthladd naturiol yma am nwyddau fel triog, siwgr, te, halen, ac yn aml
ddilladau heb son am haearn at ddefnydd y gofaint, tar, llestri, tybaco, hefyd
at friciau at adeiladu ac yn fwyaf arbennig calch. Gan
y byddai tymor y llongau yn dod i ben oddeutu mis Medi ni fyddai yn amheuthyn
gweld hanner cant a mwy o droliau a wagenni yn aros ar y ffordd i lawr i’r
borth i ddisgwyl am lwyth o lo oedd i fod yn gyflawnder am y gaeaf. Mewnforiwyd
hefyd Sop Wast h.y. carthion o’r ffatrioedd sebon yr Iwerddon yng nghyd a tail
ceffylau a gai ei gasglu oddiar strydoedd Dulyn, roedd y gymysgedd a gai ei alw
yn ‘Sopes waste mixed with dung’ yn anffaeledig fel gwrtaith yng ngolwg yr
amaethwyr er fod toll ar y carthion fel sebon a a’r halen. Mae’r hyn ysgrifennodd David Thomas yn ‘Llongau Sir Gaernarfon’ am Borth y Sgaden yn ddiddorol, ac yn enwedig am Morgan Hughes, is swyddog y tollau oedd yn trigo yn y bwthyn ar ben yr allt sydd ond ychydig o olion ohonno erbyn heddiw. Bu cyfnod Morgan Hughes o Awst 7fed 1735 hyd ei farwolaeth ar 27ain Chwefror 1768. Derbynniai £25 y flwyddyn o gyflog a rhan o werth pob nwyddau a ddaliai oddiar y smyglwyr, doedd ryfedd felly iddo gadw llygad barcud ar y llongau oedd yn mynd a dod a cerddai bennau’r gelltydd ddydd a nos.
Yn
ol cofnodion Morgan Hughes am Awst 1759 daeth y llong ‘Lively’, llong Evan
Mark un o hogiau Llyn a phum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth
y Sgaden. Ymhlith mewnforion eraill
gweler fod 452 o fariliau gweigion o Ddulyn, yn ogystal a mil o Lerpwl, ychydig
lo a llechi. Roedd yr allforion o Borth
y Sgaden hefyd yn bwysig i economi yr
ardal menyn, wyau, tatws a penwaig a helltid mewn rhan o’r ty ar ben yr allt,
dymma’r rheswm ame’n debyg iddo ar un cyfnod gael ei alw yn storehouse, neu
strysa fel cai y tai halltu ei galw, roedd un o’r rhain ymhob porthladd lle
byddai pysgota penwaig.. Bu
i’r hen dy fod yn gwasanaethu fel goleudy hefyd gan y byddai goleu yn cael ei
arddangos mewn ffenestr fechan a wynebai’r mor.. Mewn
cytundeb tenantiaeth cydrhwng Cefnawmlch a’r deiliad gwelir rhybudd fod y
gwydr i’w gadw yn lan bob amser, tybed oedd hyn oherwydd fod Hugh Griffith,
mab i sgweiar Cefnamwlch yn forleidr ? a fod y golau yn ei hyrwyddo i lanio yn
ddiogel ar gefn nos. Mae
eghraifft dda o’r modd y dibynnai y trigolion lleol
ar y fasnach forwrol i’w gael yn llyfr cyfrifon Rowland Eames, stiward
Cefnamlch. Mae Eames yn cofnodi yn Rhagfyr 1788 iddo brynu tunnell o lo gan
Griffith William am ddau swllt ar hugain, eto yn Ionawr 1790 tunnell arall gan
Thomas Williams am un swllt ar hugain. Cofnodion eraill o’r llyfr
Yn
ol yr hyn a gred David Thomas capt y llong Providence oedd Griffith William. Nid
yr hen dy ar allt y mor oedd yr unig adeilad ym Mhorth
y Sgaden, roedd yno hefyd odyn ar
gyfer llosgi cerrig calch a gai eu defnyddio i galchio’r tir. Byddai
glo cwlm yn cael ei gynnau odditan yr odyn ac yn ol son byddai gwragedd y rhai a
fyddai yn trin y calch yn ymgasglu i sgwrsio a gwau oddiamgylch y tan. Uwchben
Porth Cychod adeiladwyd muriau o gerrig gwenithfaen i deulu bonedd Cefnawlch pan
y doent i fwynhau heulwen yr haf. Byddent yn dod a gweithwyr y stad gyda hwy gan
eu gosod yma ac acw ar hyd yr allt i rwystro unrhyw un ddod yn agos i amharu ar
bleser y byddigions. Flynyddoedd yn ddiweddarach codwyd to uwchben y muriau a bu
yn ddefnyddiol i gadw offer pysgota un o’r pysgotwyr lleol. Yn
ystod yr ail ryfel byd bu yn orsaf i wylwyr y glannau. Un o’r os nad y teulu
olaf i gartrefu yn y ty ar yr allt oedd teulu Griffiths a symudodd oddiyno ar ol
i’w merch Elinor gyfarfod a damwain angeuol drwy syrthio tros yr allt i’r
creigiau is-law pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Dau
o frodyr Elinor oedd masnachwyr glo y borth sef John Daniel a Hugh Daniel, swydd
a gafodd ei chario ymlaen hyd at 1935, pryd y gwelwyd y llong olaf yn gadael.
Fel ymhob oes byddai llongddrylliadau yn sicr o ddigwydd dyma restr fer a dichon fod llawer mwy nad oes son amdanynt.
Diolch yn fawr
i
Gwilym Jones, Felin, Tudweiliog. |
|
Copyright © Rhiw.com |