|
"Adeiladu Llongau ym Mhorthdinllaen"
Trwyn Llwyd
:- Yn y fan lle saif ‘Cwt y Lifeboat’ yn Nhrwyn Llwyd adeiladwyd dwy long. Caent eu hadeiladu ar waelod yr allt ac fe’u lansiwyd wysg eu hochrau ar y trai. Y rheswm am eu adeiladu yma mor bell o’r safleodd eraill oedd nad oedd safle arall i gael ar y pryd ac fe ddengys hyn i ni lle mor brysur oedd ym Mhorthdinllaen yn y 19fed ganrif pan oedd adeiladu llongau yn ei anterth.
Rhenborth:- Yng
ngodre’r allt sydd yn arwain i fyny i’r ‘golf’ rhwng Ty Coch a’r
Whitehall adeiladwyd llong o’r enw ‘Voelas’. Nepell o’r safle yma roedd
llofft hwyliau David Rice. Fe ddaeth David Rice yn enw cyfarwydd iawn ym
Morthdinllaen gan iddo nid yn unig fod yn wneuthurwr hwyliau ond yn berchen yr
odyn ac yn benthyca arian i adeiladu ac i brynu llongau. Hen Blas :- ‘Three Brothers’, ‘Brothers’ a’r Anne Ellen a adeiladwyd yma gan Watkin Jones, Pwll Blew. Adeilawdwyd hwy rhwng Hen Blas a ‘Warws Dora’. Yn y safle yma roedd efail a Mr Bracegirdle yn berchen arni.
Bwlch:- Y partneriaid James Owen, Oak Field a Robert Roberts, Llain Hir Edeyrn fyddai yn adeiladu yma yn ochr Hen Blas o’r Bwlch, mi fuo nhw hefyd yn adeiladu llongau am gyfnod yn Nefyn. Yma oedd prif safle adeiladu llongau ac adeiladwyd llawer o longau yma ar gyfartaledd pymtheng mis gymerent i adeialdu llong. I gwmni teulu Beck Newcastle yr adeiladent y rhan fwyaf o’r llongau a gellir gweld hyn oddiwrth enwau’r llongau ee ‘Fanny Beck’. Roedd ganddynt grud i lansio ac aent a’u bow am y mor. Ochr arall i dai y Bwlch byddai Evan Ellis y Rhos a Huw Huws yn adeiladu ac adeiladodd y ddau a oedd yn gweithio arwahan gryn lawer o longau yn y safle yma. Y
Coed:- Deuai’r
coed i adeiladu’r llongau o wahanol fannau gan gynnwys Sir Feirionydd,
Newhaven ac wrth sgwrs gwinllanoedd Sir Gaernarfon. O’r America y deuai’r
bokes (baulkes) i wneud y mastiau. Roedd gan y llongau a gariai’r rhain
‘Boke Port’ yn eu bow, math ar drap door i hwyluso llwytho a dadlwytho gan
fod y mastiau mor hir ac yn amhosibl bron eu llwytho mewn un ffordd arall.
Cyflogid wagenni o Bwllheli i ddadlwytho’r llongau a defnyddid wageni i
gario’r coed o’r gwinllanoedd. |
|
Copyright © Rhiw.com |