
"Olion yr Hen Longau Bach"
Ganrif a
dwy yn ol roedd y fasnach forwrol ar ei hanterth yma yn Llyn. Heddiw prin y
gallech dychmygu’r fath brysurdeb oedd hyd ein glannau. Ond o edrych yn fanwl
fe ellir gweld rhai olion o’r fasnach yma sydd wedi gwrthsefyll trael y
blynyddoedd ac y sydd yn brawf pendant fod yr hen longau bach di galw a’i
llwythi o lo a charreg galch ac amryw o fewnforion eraill, ac wedi allforio
cynnyrch ffermwyr a physgotwyr Llyn.
Dyma
gasgliad o luniau o’r creiriau a welir hyd ein glannau, a does dim dwywaith y
byddan yn ychwanegu at y dudalen yma. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y
fasnach yma neu hen olion hyd y glannau gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
| "Odyn Porthsgaden"
|
"Ring ym Mhorth Ysgo"
|
"Odyn yn Abersoch" |
"Rhuol Rhiw"
|
"Odyn yn Porthor" |
"Ring Porthgolmon"
|
"Porthsgaden"
|
"Glanfa Porth Neigwl"
|
"Odyn Porthsgaden"
|
"Cerrig ring Porth Ysgo" |
"Porthgolmon"
|
"Olion trol Porthor" |
"Porthsgaden" |
"Wins Nant Gadwen" |
Gellir gweld yn glir yn y llun Rhuol lle roeddynt yn
adeiladu'r llongau, ac yn y llun Porthor fe welwch ol olwynion troliau wedi
erydu'r graig ar ol canoedd o flynyddoedd o gario o'r traeth.