"Penwaig Nefyn"

Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 roedd gwerth yr helfa flynyddol yn £4000. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheng roedd pysgota penwaig o bwysigrwydd mawr ac erbyn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig ac arnynt dri neu bedwar o griw. Mewn cwch pedwar dyn y pysgotwyd, roedd yn 18 troedfedd o hyd, rhwyfai tri o’r dynion a  byddai’r llall, y perchennog gan fwyaf, yn gyfrifol am ei llywio. Roedd gan bob un ‘r criw ddau neu dri rhwyd. Er y byddai pysgotwyr Nefyn yn hwylio cyn belled ag arfordir yr Iwerddon ar ol y penwaig, arfordir Gogledd Llyn o Nefyn i Ynys Enlli oedd y lle mwyaf ffrwythlon a llewyrchus i ddal penwaig, a byddai pobl y cyfnod yma yn cysidro’r penwaig yma fel y rhai mwyaf blasus ac yn llawer gwell na’r rhai a gaed ym Mae Ceredigion. Roedd traeth Nefyn yn un diogel hefyd gyda’r tywod yn ymestyn yn raddol i lawr i’r mor a chydag ychydig o wahaniaeth rhwng y llanw gallai’r pysgotwyr lawnsio eu cychod o’r traeth yn hwylus ar unrhyw stad o’r llanw bron. Cychod dau flaen a ffafriwyd gan fwyaf gan eu bod yn hawdd eu lawnsio oddiar y traeth, er y defnyddid yr hwyliau roedd yn llawer mwy manteisiol i rwyfo’r cychod yma wrth fynd i bysgota. Pan ymwelodd Lewis Morris a Nefyn, ychydig cyn cyhoeddi ei lyfr, fe ddarganfu ddiwydiant pysgota lewyrchus yno a glanfa hwylus i’r fasnach benwaig a oedd wedi ei adeiladu gyda chyfraniadau, yn bennaf gan garedigrwydd William Bodvill AS. Yn y flwyddyn flaenorol fe welodd Lewis Morris fod 5000 o gasgenni o benwaig hallt wedi eu hallforio, yn ogystal a’r rhai a oedd angen gan y gymuned leol.. Daeth penwaig Nefyn yn enwog drwy Gymru ac mi ddaeth y porthladd i fod y brif  fan i bysgota penwaig yn y Gogledd.Yn 1679 cyflenwodd Nefyn stad Glynllifon gyda phenwaig a oedd yn costio rhwng swllt a 14c y cant. Mi ddaeth y gri ‘Penwaig Nefyn’ yn enwog drwy Lyn ac yn wir llawer pellach na hynny.

Cyn gynhared a 1287 roedd yn Nefyn 63 o rwydi ac yr oedd pysgota penwaig yn mynd law yn llaw ac amaethyddiaeth i lawer. Fe welir hynny yn y daflen isod.

Nefyn Inventories 1287

Einion ap Addah 9 oxen 6 cows 3 heifers 20 sheep 3 nets.
Ieuan ap Madoc 4 oxen 1 cow 1 heifer 1 horse 1 boat 4 nets.
Llywarth Crun 1 cow 1 net.
Bleddyn Fychan 6 oxen 3 cows 1 heifer 1 horse 1 small boat 3 nets.
Tagwynstyl wraig Addaf 2 cows 1 heifer 1 horse 1 net.
Dai Bach 1 heifer 2 sheep 2 nets.

~~~~~~~

Rhwydi.

Rhwyd a’i rhwydi (fine mesh) yn denau a ddefnyddid yn Nefyn a’i hyd fel arfer oddeutu 50 llath a’i dyfnder yn amrywio o chwech i ddeg troedfedd. Rhoddid pwysau cerrig ar waelod y rhwyd ac yn draddodiadol o wellt y gwnaed rhaffau’r rhwyd. Cerrig tua pedwar modfedd o hyd ddewiswyd a naddwyd hafn o’u cylch i glymu’r rhwyd arnynt. Clymwyd y rhwyd i’r cerrig gyda llinyn denau fel y byddai, pe bae angen yn gallu cael ei thorri yn rhwydd mewn mor tymhestlog. Wrth wneud hyn yna byddai yn bosibl arbed rhwydi drudfawr. Rhodwyd pwyasu bob dwy lath ar waelod y rhwyd a chyrcs ar ei phen uchaf eto gyda dwy lath rhwng bob un o’r cyrcs. Roedd un neu ddwy angor weithiau yn cael ei defnyddio ar y rhwyd, fe wnaed yr angorau gan ofaint lleol o haearn modfedd a hanner. Gosodwyd y rhwydi mewn un o ddwy ffordd yn dibynnu ar y safle ble y byddid yn pysgota ar y pryd. Ym Mae Nefyn angorywd y ddau ben o’r rhwyd, tra pan yn pysgota oddiar y trwyn un pen iddi a angorwyd gyda bwi ar y pen arall, felly yn galluogi’r rhwyd i symud efo’r llanw. Nid pawb a bysgotai allan o Nefyn allai fforddio prynu rhwyd, ac roedd rhai dynion yn y dref yn farsiandiwyr rhwydi. Byddai’r dynion yma yn llogi allan rhwydi ac fel ad – daliad byddent yn derbyn chwarter dalfa y pysgotwyr, gyda’r rhwyd arbennig honno am gyfnod y llogiad. I bysgota taflwyd yr angor allan ac ai’r cwch gyda’r lli a hyd o raff yn sownd i’r rhwyd, gollyngwyd y rhwyd allan a weithiau byddai’r broses yma yn cymeryd lle gyda dau neu dri rhwyd yn sownd i’r gyntaf gan greu wal fawr o rwyd, gyda un pen wedi ei angori neu yn mynd gyda’r llanw, clymwyd bwi lledr iddi oedd oddeutu dwy droedfedd mewn tryfesur i arnofio ac hefyd i ddangos ble roedd y rhwyd. Ar ol tua chwech neu saith awr aethpwyd ati i edrych ar y rhwydi i weld os oedd penwaig wedi eu dal neu beidio. Os oedd penwaig ynddi yna fe dynnwyd y rhwyd i’r cwch, tynnu’r penwaig ohonni a’i hail osod unwaith yn rhagor. Gallai’r rhwydi aros yn yr un safle am bump neu chwech diwrnod a byddid yn edrych arnynt yn ddyddiol cyn toriad y wawr. Pan oedd lleuad newydd credai’r pysgotwyr y byddai’r penwaig yn dod yn agos i’r lan, ac i’r gwrthwyneb gyda lleuad llawn, mi fyddai’r penwaig ymhell oddiwrth y lan. Dysgai’r pysgotwyr wylio allan am arwyddion o’r penwaig. Edrychent am helwyr naturiol y pysgodyn megis y llamhidydd a’r fulfran ac arwyddion eraill fel haenan o olew ar wyneb y dwr neu fordan o dan wyneb y dwr. Arwydd pendant arall oedd y ‘basking shark’ a fwytai’r un math o blancton a’r penwaig. Roedd yn rhaid i’r pysgotwyr fod yn gyfarwydd a’r arwyddion yma a dim ond gyda profiad y doi hyn i fod fynychaf.

 

The Oath of a Packer of Fish Nefyn, Corporation Book, 1815.

You shall well and truly swear to execute the office of Packer of Fish within the Porth of Porthdinllaen, in which you shall see that White and Red Herrings shall be packed in lawful Barrels and Vessels and shall be truly and justly laid and packed and shall be of one saying or drying and equally well packed in every part of the Barrel or Vessel, and you shall also see that everything belonging to the said Office of a Packer be well and truly executed within the Port aforesaid, according to the best of your skill and knowledge.

So help you God.

~~~~~~~

Rhenid yr helfa yn gyfartal rhwng aelodau’r criw, gydag un siar yn mynd i’r cwch. Yn amal iawn ni thalai’r masnachwyr pysgod dan nes oeddan nhw eu hunain wedi ei gwerthu i gyd. Os oedd gormodedd o bysgod, mwy na allai’r gwerthwyr pysgod trafaeliol yma ei cymeryd, yna aed a’r penwaig i’r gwerthwr ym Mhwllheli, a daliai bris sal iawn amdanynt fel rheol. Yn 1697 prynwyd 200 o fecrill ac un penfras gan stad Cefnamwlch am 15c, ond ddeufis yn ddiweddarach yn Ionawr 1698, swllt oedd gwerth 500 o benwaig hallt. Deuai cychod o’r Iwerddon i brynu penwaig gan bysgotwyr Nefyn, pan oeddan nhw yn pysgota oddiar arfordir y wlad honno, gan arbed llawer o ffwdan i’r pysgotwyr a’u galluogi i gael lle yn eu cychod i ddal mwy o bysgod.. Roedd rhai o’r cychod Gwyddelig yn eitha mawr ac yn gallu halltu’r penwaig ar fwrdd y cwch ar eu ffordd nol gartref yn barod i’r farchnad yn Nulyn a threfi eraill Iwerddon. Roedd gan bob pentref arfordirol yn Llyn ei therfynnau pysgota ac ni wnai pysgotwr o un pentref fyth dramgwyo’r ffin hon a thresmasu ar safle bysgota un arall. Medi oedd yr amser i ddechrau pysgota penwaig, er y credai rhai na ddylid mentro allan dan nes y byddai’r Diolchgarwch wedi pasio, o gwmpas y drydedd wythnos ym mis Hydref a cariwyd ymlaen i bysgota dan tua diwedd Ionawr. Roedd rhai blynyddoedd yn fwy llweyrchus na’i gilydd. Yn 1710,1711,1714, 1730 a 1771 roedd gormodedd o bysgod, tra roedd 1771 a 1822 yn flynyddoedd arbennig o dda, ond weithiau fel rhwng 1805 – 1808 ni ddangosai’r penwaig o gwbwl, digwyddodd hyn ar gyfnodau eraill hefyd. Ar adegau fel hyn pan nad oedd penwaig ar gael i’w pysgota, roedd bywyd yn galed iawn i’r  300 o bysgotwyr a amacnir oedd yn gweithio yn y diwydiant ar y pryd, ac ni ddylid anghofio chwaith fod penwaig yn fwyd cynhenid i lawer yma yn Llyn a phan nad oedd rhai ar gael, yna cynyddai tlodi, newyn a chaledi yn sicr.

Englyn gan Morus Dwyfach ‘oedd fardd enwog o Aberdaron yn blodeuo o 1540 hyd 1570.

       ‘Lawenydd Tref Nefyn’

 

Ple sydd gas, dynas, dynion ? – Tre Nefyn

     Tra ‘nafus Gristnogion,

Pa bryd y bydd hyfryd hon ?

Pan geir y Penwaig irion.

~~~~~~~

Er fod gan Nefyn bysgotwyr oedd yn gweithio llawn amser yn pysgota penwaig, macrell ac yn cwella, pysgotwyr rhan amser oedd y pysgotwyr penwaig fel arfer. Roedd rhai yn chwarelwyr, eraill yn longwyr a arhosai gartref dros dymor pysgota penwaig, a rhai yn dyddynwyr. Deuai dynion o rannau eraill o Lyn i Nefyn yn ystod y tymor pysgota, er engraifft byddai pysgotwyr Aberdaron yn lletya ym Mhorthdinllaen yn ystod y tymor. Yn llyfrau stad Cefnaamwlch yn y ddeunawfed ganrif gwelir y nodyn yma ‘There is great concern, many of the farm labourers have gone fishing and are ignoring the land’!!

Ar ol diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth pysgota penwaig fel diwydiant i ben oherwydd y rhyfel ac oherwydd i’r penwaig ddiflannu o’r ardal a heddiw does yna ddim bron ar ol i ddangos mai Nefyn oedd ‘Prifddinas Penwaig Cymru’.

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com