|
"Adeiladu Llongau yn Nefyn" Byddai
Robert Thomas Derwen yn adeiladu sgwners yma ac fe gostiai sgwner rhwng deunaw
cant a dwy fil i’w adeiladu. Robert Parry, Bol Llaith, Penrallt, Nefyn oedd ei
‘foreman’ cyntaf a daeth Evan Jones Rhos Bach Nefyn ar ei ol. Roedd ganddynt
slip i’w lansio a hefyd byddent yn eu cael i fyny ar y ‘Patent Slip’ i’w
trwsio. Byddai ceffylau yn halio’r llongau fyny wrth gerdded mewn cylch i droi
olwyn fawr a oedd yn troi chaen fawr i dynnu’r llongau fyny.Robert Thomas
mae’n debyg oedd y prif adeiladwr yr ardal ac yn aml byddai dwy long yn cael
eu hadeiladu yr un pryd yn ei iard o. Wrth ochr ei iard o roedd gan Owen
Griffith iard. Ar draeth
Nefyn hefyd roedd dwy efail a thri gofaint sef Evan Williams, Harry Williams a
Thomas y gof, yn ogystal a’r rhai hyn byddai gofaint y dref yn rhoi eu
gwasanaeth at anghenion yr iardau llongau. Un man arall lle yr adeiladwyd
llongau oedd islaw Aberafon. Deuai’r
coed i adeiladu’r llongau o wahanol fannau gan gynnwys Sir Feirionydd,
Newhaven ac wrth sgwrs gwinllanoedd Sir Gaernarfon. O’r America y deuai’r
bokes (baulkes) i wneud y mastiau. Roedd gan y llongau a gariai’r rhain
‘Boke Port’ yn eu bow, math ar drap door i hwyluso llwytho a dadlwytho gan
fod y mastiau mor hir ac yn amhosibl bron eu llwytho mewn un ffordd arall.
Cyflogid wagenni o Bwllheli i ddadlwytho’r llongau a defnyddid wageni i
gario’r coed o’r gwinllanoedd. Yn ogystal a dynion o Nefyn a Morfa Nefyn deuai dynion o Laniestyn, Bodfean, Pwllheli Talsarn ac ardaloedd eraill i weithio yma. Fel arfer dechreuai’r gwaith am oddeutu chwech y bore ac ai ymlaen hyd at wyth y nos a byddai’r cyflog tua 12/- yr wythnos. Yn ystod y gaef pan fyddai’r dydd yn byrhau ai a rhai o’r gweithwyr a choed adref a gweithio arnynt yn eu cartrefi gwneud wedges er enghraifft. Doi eraill i weithio cyn doriad gwawr ac o gwmpas y tannau ar y traeth byddent yn paratoi’r ocwm gogyfer a chalcio llongau.
"Adeiladu y Venus 1880" Asiedwyr
(joiners) fyddai yn gwneud y cabannau a phethau cyffelyb dynion fel Thomas
Jones, Caerpwll a Thomas Jones Pen y Graig. Gwaith Evan
Hughes Pen yr Orsedd oedd cerfio delwau (figureheads) i roi ar y llongau. Seiri
fyddai yn adeiladu’r llongau ac roedd cryn nifer ohonnynt yn ymwneud a’r
gwaith dyma enwau rai ohonnynt :- Griffith
Parry, Tyn Llwyd, Morfa Nefyn. Robert
Parry, Bol Llaith, Penrallt, Nefyn. Henry
Parry, Caepwll, Morfa. William
Jones, Caerpwll, Morfa. Thomas
Jones, Ben a Jun, Llwyn Gwalch, Morfa. Evan Ellis,
Rhos Morfa. Watkin
Jones, Pwll Blew, Morfa. John
Roberts, Glanrafon, Morfa. James Owen,
Olffilt, Morfa. Hugh
Hughes, Penrhos, Morfa. John
Hughes, Penrorsedd Morfa. Owen
Williams, Werddon, Morfa. John
Williams, Werddon. William
Rowlands, Fron Deg. William
Williams , Caergwrle. Richard
Jones, Barics. William
Jones, Mount. John Parry
Penrallt. Robert
Parry Penrallt. William
Roberts Cae Coch, Morfa. Hugh Jones,
Glandwr. John
Williams, Llain Fadryn. Griffith
Owen, Dyffryn. John Owen,
Dyffryn. Robert
Humphreys, Cae Bach. Hugh
Roberts, Glanrafon Richard
Williams, Penrallt. Evan
Hughes, Penrorsedd. Ellis
Humphreys, Cil. Nefyn. Robert
Thomas, Tai’r Lon. William
Roberts, Vron. Robert
Williams, Llwyn Mary Mynydd Nefyn. Evan Jones
Rhos bach. William
Roberts Siop Glanrafon. |
|
Copyright © Rhiw.com |