Rhwng 1800 a 1900 pedair math o long welwyd yn hwylio hyd arfordir Llyn
sef :-
Slŵp,
Badlong (Ketch) Sgwner a Sgwner (Topsail)
fel y gwelir o’r lluniau yma.
Slŵp
– Un mast
a’r lleiaf o’r llongau ( 15 – 30 tunnell ) yn hawdd i’w hwylio, weithiau
doedd dim ond un arnynt ond gan amlaf byddai dau o griw arnynt. Oherwydd
eu gallu i fynd i mewn i’r hafan lleiaf roedd Smyglwyr yn ffafrio
y math yma o long.
Badlong (Ketch) – Dau fast yr un ol yn fyrrach. Fel arfer dau o
griw. Rhain ddefnyddid gan amlaf ar hyd arfordir Llyn.
Sgwner
- Dau fast yr un hyd
neu byddai’r ol fast yn hirach. Dau neu dri o griw dibynnu ar faint y
llong, fel y ketch roeddynt i’w gweld yn amal hyd lannau Llyn. Bu’r ‘May
Goldsworthy’ a welir yma ym Morth Ysgo yn dadlwytho glo ar y 10fed a
22ain o Orffennaf 1914.
Sgwner
(Topsail) - Dau fast
eto gyda dwy neu weithiau dair croesbren ar y mast flaen, fel arfer
rhain oedd y llongau mwyaf hyd at 120 tunnell a chanddynt bedwar o griw,
Capten. Met a dau longwr. Ym Morthdinllaen,Nefyn, Abersoch, Llanbedrog a Phwllheli y
gwelwyd y llongau yma gan y cymerai dipyn mwy i’w dadlwytho ac fe geid
cysgod yn y porthladdoedd yma o wyntoedd cynhenid y de orllewin.