"Masnach y môr oddamgylch arfordir Llyn"

( Y llong lo )

Pen Llyn oedd yr ardal olaf ym Mhrydain i ddefnyddio’r môr fel y brif ffordd o gludo nwyddau.  Yn nechrau yr ugeinfed ganrif y dechreuodd y ffyrdd yma altro a chael ei defnyddio i gludo nwyddau ac yr oedd yng nghanol y tridegau pan welwyd yr olaf o’r llongau bach yma ar y traethau a’r pyrth bychain. Ond fe fu llongau yn dod i nol cerrig o Nant Gwytheyrn hyd at ddechrau’r chwe degau pan gaewyd y stage yno a than hynny galwai'r stemars bach bron yn ddyddiol.

Rhwng Awst 1811 ac Awst 1812, mi gafodd naw llwyth ar hugain eu cario o’r pentrefi a ganlyn Rhiw 8, Aberdaron 5, Porthoer 5, Porthcolmon 8, a Porth y Sgaden 6. Menyn, wyau, caws a chywion ieir oedd y llwythi yn bennaf. Ac i fewn daeth, Rhiw 11, Aberdaron 6, Porthor 5, Porthcolmon 7, Porth y Sgaden 6. Erbyn 1831 roedd Porth y Sgaden yn unig yn mewnforio 43 llwyth o lo, calch a nwyddau siop, ac allforiwyd 19 llwyth o gynnyrch fferm gan gynnwys yd, cig moch, wyau, menyn a caws. Felly mewn ugain mlynedd yn unig tyfodd y fasnach drwy’r glannau gryn dipyn a daeth yn elfen bwysig o’r economi leol. Gellwch ddychmygu pa mor brysur fyddai’r porthlddoedd bychain yn enwedig yn y gwanwyn a’r haf pan fyddai y tywydd yn ffafriol.

Ceir hanes am ferch o Uwchmynydd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymmtheg a arferai gasglu wyau o ffermydd a thyddynod yr ardal yn fisol ac yna mynd ar y sloop ‘Catrin’ o Aberdaron i Lerpwl a gwerthu’r wyau yn y farchnad yno, er mwyn arbed arian fe gerddai yn ol i Aberdaron pellter o gan milltir a rhagor, a’r diwrnod wedi dychwelyd ai o gwmpas ei chwsmeriaid yn talu iddynt allan o’r elw oedd hi wedi wneud.

"Dadlwytho casgen ym Morthdinllaen yn 1893"

Mae’r rhestr o nwyddau gariwyd ar y llongau bach yn ddiddiwedd bron ac yn amrywiol iawn hefyd e.e  Yn Awst 1759 daeth y sloop ‘Lively’ oedd yn berchen gan Evan Mark, tad Ieuan Llyn a llwyth o hetiau ffelt ( 5 dwsin ) o Gaernarfon i Borth y Sgaden ac yn 1730 dadlwythwyd pump cant o lemons ym Mhwllheli.

Roedd calch yn gargo pwysig iawn gan fod iddo sawl defnydd ac adeiladwyd odynnau ar y traethau i’w losgi cyn yr ai i ben ei daith, roedd dwy odyn ar draeth Aberdaron yn unig. Defnyddid calch wrth adeiladu ond roedd llawer ohonno yn cael ei ddefnyddio ar y tir gan yr amaethwyr.

"Abersoch"

Mae hanes eitha diddorol i fewn forio haearn, aethai’r ffermwyr lawr i’r borth efo ceffyl a throl i nol yr haearn yna aent ag o i’r efail, mi oedd gan y gof focs ar gyfer pob un o’i gwsmeriaid a’u henwau wedi ei nodi a heyrn poeth ar y bocs, felly pan oedd angen gwneud celficyn, giat hoelion neu bedolau fe wyddai’r gof pa haearn yn gwmws i’w ddefnyddio. 

 

"Dadlwytho calch ym Mhorth y Sgaden 1886"

Mae’n debyg mai glo oedd yn cael ei fewnforio fwyaf a doi i bob traeth bach yn Llyn, o Lerpwl y doi y rhan fwyaf ohonno. Pan fyddai y llong lo ar fin cyrraedd fe yrrai’r masnachwyr air,ac yn ddiweddarach gerdyn post i hysbysu eu cwsmeriad ac fe ddoi rheini yn eu tro efo ceffyl a throl i nol y glo, gwelwyd dwsinau o droliau ar ddiwrnod y llong lo mewn mannau fel Porthcolmom a Phorth y Sgaden mor niferus oeddynt yno eu bod pen yng nghyffon lawr o’r ffordd fawr i’r borth ( tua milltir o hyd ) ac un enghraifft allan o ddwsine ydi hynna. Doi tair llong gyda’i gilydd i draeth Abersoch ar brydiau dychmygwch y prysurdeb yno pan yn dadlwytho ar y traeth yn syth i’r troliau, weithiau byddai’r llongau yn dadlwytho ar lanw a gollyngwyd y glo yn syth i’r mor ac fe’i cesglid ar drai. Gwnaed hyn i arbed amser yn enwedig gyda’r llongau mwy ac os nad oedd tywydd  ffafriol. Ar rai traethau byddai’n rhaid cwblhau’r gwaith rhwng trai a llanw ac yn Aberdaron, Porth Ysgo a Phorth Neigwl defnyddid ‘sloops a ketches ‘ gan amlaf.

~~~~~~~

Bydd y dudalen yma yn cael ychwanegiadau fel y daw mwy o wybodaeth i law am y llongau bach oedd yn masnachu oddi amgylch arfordir Llyn. Os oes gan unrhywun wybodaeth, lluniau neu gysylltiad efo'r llongau bach gadewch i ni wybod. 

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com