"Capt Harri Parry"

1836 ~ 1919

Un o hogiau Pen draw Llyn a dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes ar y mor oedd Harri Parri o Dy Fry Uwchmynydd. ‘Roedd Harri yn perthyn i’r brid arbennig o ddynion yna oedd yn hwylio’r glannau o Lyn i’r Merswy yn cario glo a chwlm a charreg calch i gyflenwi anghenion yr ardal bellenig yma. Yn y 19C y mor oedd ffynhonnell bywyd y rhan fwyaf o bentrefi Llyn a chludai’r hen longau bach eu nwyddau o’r Merswy gan amlaf i’r ardal yma. Meddai‘r hen longwyr yma ar ddoniau arbennig iawn, roeddynt yn fedrus ac yn adnabod yr arfordir i’r dim ac yn adnabod arwyddion  y tywydd. Dynion caled yn brwydro’r elfennau yr heli yn eu gwaed, yn hwylio eu llongau bach yn galed er mwyn ceisio gwneud elw. Un felly oedd Harri, dyn cryf o gorff a chryf o ysbryd yn sicr. Dywedir ei fod weithiau yn hwylio’r llong ei hun a’i unig gwmpeini oedd ei gi bach Prince. Catherine oedd y llong gyntaf y bu Harri’n berchen arni ac y mae cofnod iddo hwylio fel mate am beth amser cyn dod yn gapten arni. Evan Hughes Dafarn Dywarch Aberdaron oedd yn berchen ac yn gapten arni pan oedd Harri yn fet. Ar y cyntaf o Orffennaf 1879 aeth Harri yn gapten arni, a’r met oedd Thomas Parry 21 oed o Aberdaron.

"Log y Catherine 1881"

Sailed July 2nd from Caernarvon, arrived Abersoch 3rd. Sailed 9th arrived same day Caernarvon. Sailed 17th arrived 26th Abersoch. Sailed 28th arrived 30th Bagillt. Sailed 17th August arrived same day Liverpool. Sailed 1st September arrived Portinllaen. Sailed 7th arrived Porthmadog 8th. Sailed 13th arrived 17th Portinllaen. Sailed 22nd arrived Caernarvon same day. Sailed 20th October arrived Aberdaron 21st. Sailed 29th arrived same day Pwllheli. Vessel laid up over winter from last date.

~~~~~~~~~

 

catherine_log.jpg (84408 bytes)

"Log y Catherine 1883"

 

"Catherine ym Mhorth y Sgaden, Tudweiliog yn 1886"

Llwythi o gerrig calch i Aberdaron yn 1886

June 17th "Caerhun"       32 tons, stones at 4/5

£ 7. 1. 4

June 17th "Vivid"             22 tons, stones at 4/5 £ 4.17.2
June 18th "Catherine"     32 tons, stones at 4/5  (Harri Parry) £ 7. 1. 4
June 18th "Lark"             57 tones, coal at 5/- grad. 10/6 £14.15.6
June 29th "Vivid"            21 tons, stones at 4/5 £ 4. 9. 3
July    8th "Vivid"            21 tons, stones at 4/5 £ 4. 9. 3
July  31st "Vivid"            21 tons, stones at 4/5 £ 4. 9. 3

    ~~~~~~~~~~~~~~~

 

Efallai mai yn yr amser yma tra’n gwario’r gaeaf ym Mhwllheli y bu i Harri roi trefn ar griw o longwyr o Sgandinafia oedd yn cadw reait yn un o dafarndai  y dref, fel y soniwyd eisioes gwr mawr cryf o gorff oedd Harri a phan fu twrrw yn y dafarn aeth Harri mewn gan ddweud “ Caewch y drws ar fy ol hogiau” mewn a fo i ganol y llongwyr o Sgandinafia oedd yn ymwelwyr lled gyson a Phwllheli (ar eu llongau hwy y doi y coed i Lyn) ac mewn dim o amser tawodd y twrrw a distewyd y Sgandinafiaid ac yn ol y son fe’u lloriwyd i gyd gan Harri!!!

Yn ddiweddarach gwerthwyd y Catherine i Fangor. A’r ail gwch y bu Harri’n berchen arni oedd y ‘Messenger’ ceir son amdano yn ‘Porthmadog ships’ gan Aled Eames ac Emrys Hughes :-

‘Built in Barmouth 1841 owned 1886 by Henry Parry Bryn Chwilog Aberdaron. M/M certificate cancelled and Reg. Closed 4 January 1907.  Vessel converted to dwelling at Abersoch. Advice from owner. Reg no longer required’.

Cloch oddiar y long Supe ddaru Harry "Fenthyg" yn Lerpwl a'i roi ar y Messenger

Un a oedd yn gyfarwydd a Harri oedd J Glynne Davies, awdur Cerddi Porthdinllaen ac Athro ym mhrifysgol Lerpwl. Magwyd J Glynne Davies yn Lerpwl gan i’w fam symud yno i fyw  o Edern ond dychwelai J Glynne Davies i Lyn bob cyfle gai at y teulu yn Edern, ar y llongau bach weithiau, a byddai yn chwarae fel plentyn ym Mhortinllaen a daeth i adnabod llongau a llongwyr ac i droi ym myd y mor. Mewn erthygl i’r cylchgrawn ‘Lleufer’ fe ddisgrifia Harri fel a ganlyn:-

“A Harri ‘Messenger’ hen glimach esgyrnog o ddyn, a’i hen smac gandryll dros driugain oed hanner can mlynedd yn ol ac wedi ei phrynu am bumpunt ar hugain. Mi fum wrth ei llyw ar daith o Enlli yn gwrando ar Harri yn prydyddu fel y gwynt ar bob llong a welai. A than ordors Harri “ Hard down” y llywiais y ‘Messenger’ i’w chartref olaf ar dywod Abersoch. Ond stori arall ydi honna”

"Harri Parry yn Abersoch"

Ac mewn rhifyn arall o ‘Lleufer’ adrodda J Glynne Davies y stori honno :-

‘Yr oedd bywyd morio’r glannau – y coasting trade – yn beth hollol ar ben ei hun, a’r morwyr yn feistriaid ar eu gwaith peryglus. Nid pob llongwr a fedrai grefft y glennydd; yn un peth yr oedd gofyn gwybodaeth fanwl am bob marc ar y tir, ac am y teitiau trofaus. Daliwyd fi yn Ynys Enlli unwaith am wythnos gron, y gwynt yn groes a Swnt Enlli yn afrywiog, a lle garw ydyw’r swnt. Yr unig gyfle i fynd i’r tir mawr oedd mynd ar hen smac y ‘Messenger’, oedd newydd ddadlwytho glo o Birkenhead. Hen grochan o long oedd hi, wedi ei bildio yn y Bermo yn 1832. Yr oedd hi yn dyfod oddiwrth ei gilydd, ac ni wn i sut yn y byd y gadawyd iddi fod ar y mor o gwbwl. Pum punt ar hugain a roes y perchennog yn ei lle – gallech dybied pa fath long i ddisgwyl am y pris yna, a hithau yn ddeugain tunnell. Yr oedd y capten yn hyn na’r llong; hen glimach tal esgyrnog, a gwep heb fod yn glws iawn. Gellid dweud amdano yng ngeiriau’r mor “ I guess he was at the end of the queue when good looks were handed out”. Yr oedd y mate yn iau, yn llai o gorph ac yn wydn a sionc. Yr oedd ei syniadau am rinweddau’r capten braidd yn ddiystyrllyd – “A be ges i futa ar hyd yr wythnos gin yr hen gena ond darn o gath for wedi bod yn drewi yn y forepeak ers wythnos.” Nid oedd fawr o gariad brawdol yn ffynu rhwng y naill na’r llall, ac ni welwn fai arnyn nhw am hyn. Gwelais ar fore Sul arwyddion oerni. Gwelwn y mate yn cerdded i fyny o’r Cafn, tuag at y capel ac mi holais “ Mhle mae’r capten?” “Mae o ar y llong” meddai’r mate. “Ydio ddim am ddwad i’r capel?” holais drachefn. “ Fedar o ddim; mae’r cwch ar y lan”. Yr oedd y mate wedi mynd i’r lan a gadael y capten ar y llong. Cerddais i lawr at y Cafn, ac mi welwn wep yr hen fachgen yn ymddangos o’r scuttle, a golwg ffyrnig arno. Gwthiais y cwch i’r dwr i nol yr hen greadur, ac ar ol cael y llwch glo o’i het wellt drwy ei tharo yn erbyn y mast, daeth gyda mi i’r lan ac i fyny i’r capel, a gwep reit ddefosiynol, gydag ambell i ebwch, ond a’i enaid yn glafoerio yn erbyn y mate. Porthodd y gwasanaeth yn soniarus, ac yn siwr i chwi yr oedd yn ymhyfrydu wrth feddwl am y mate yn cael ei rostio mewn ail fyd.

"Messenger yn Abersoch"

Yr oedd rhaid imi droi yn ol i Aberystwyth a’r ‘Messenger’ oedd yr unig gyfle i adael yr ynys y rhawg. Cytunais a’r capten i shipio yn llongwr, heb wybod i ble, ond Caergybi petae’r gwynt yn dal. Yr oedd yn niwl tew bore yr hwylio a chwch mawr Enlli yn y blaen i’n touo ni i’r swnt. Myfi oedd wrth y llyw, a’r skylight o fy mlaen, fel bocs mawr am ben y caban. Nid oedd ond saith tunnell o falast yn y llong, ac yr oedd ei bows mor uchel o’r dwr nad allwn weld cwch Enlli heb neidio ar ben y sky light. A dyna lle yr oeddwn fel mwnci ar ben pric i fyny ac i lawr rhwng y llyw a phen y skylight, nes i gwch Enlli roi cast off a gadael yr hen long ar ei phen ei hun yn y niwl gwyn, ar ol rhoi tair Hwre i ni. Bellach nid oedd diben imi lywio; nid oedd dim gwynt i roi cerdded ar y llong, a mynd yn brysur ar gefn y llanw oedd yr hen bowlen. “Bedi’r cwrs Capten” meddwn i. “Sow and by Est” meddai yntau ac i lawr a fo i’r caban i ddarllen Trysorfa’r Plant, a’m gadael ineu i ddyfalu ble roedd o am fynd ar y cwrs hwnnw. Swn corn y lighthouse i’w glywed yn bellach; swn mor yn tori yn erbyn ceulan i’w glywed yn nes. Yr oeddym o fewn hanner canllath i’r lle peryglus hwnnw, Trwyn y Fynwent. Yr oedd yn ddistyll erbyn hyn, ac mi lywiais am Ynys Tudwal; ae’r teit a ni yno, petae’r hen ddyn yn cadw yn ei gaban i ddarllen Trysorfa’r Plant, a gadael llonydd i’r hen long gymeryd ei chwrs ei hun. Ac felly y bu. Daeth ar y dec yn mhen awr, ac yr oedd yn ddigon bodlon wrth weld lle oedd y llong yn mynd. Yr oedd brisyn da erbyn hyn. Cawsom ychwaneg o hwyliau i fyny, a gaff topsail yn goron ar y cwbl. Yr oedd yr hen long yn sleifio drwy’r dwr, a mineu’n rhyfeddu fod cymaint cyflymder ynddi. Yr oedd yr hen ddyn yn ei hwyliau goreu, yn prydyddu fel y gwynt, a mineu wrth fy modd yn gwrando arno tra roeddwn wrth y llyw. Yr oedd ganddo, bennill byrfyfyr am bob llong a welai – sgwner wedi cael foresail newydd – a phennill ar y digwyddiad pwysig hwnnw. Cefais ginio gydag ef yn y caban. Yr oedd strempiau duon ar y dorth ac ol bodiau yn ddu ar y dafell fara. Ond pa ots gennyf i – yr oeddwn yn ddigon newynllyd i fwyta Trysorfa’r Plant. Daeth Abersoch i’r golwg; gwelwn ei thai yn rhuthro atom. “ Be di chwrs hi rwan, Capten,” meddwn i wrth weld pen yr allt ar y port beam yn llithro heibio. “Harrd down” meddai ynteu ym mhen tipyn ac i lawr a’r llyw, ac mi drodd y llong ar un wib ac yn syth i fyny’r traeth tywodog. A dyna lle mae hi hyd byth, y gwn i. Wedi mynd yn sownd yn y gwaelod, tybiwn y cawn fynd i’r lan yn y cwch. Ond ni chawn i ddim. Ni fedrai’r Capten ymddiried yn y mate i ddyfod yn ol a’r cwch. Yr oedd yn tynnu  at yr hwyr, ac wyth milldir gennyf i gerdded i Aberdaron, lle roeddwn yn cysgu. Tra bu’r Capten yn darllen Trysorfa’r Plant, unwaith eto, cefais air gyda’r mate yn ddistaw bach. Cefais raff ganddo, a chortyn i glymu fy nillad yn fwndal. Eis i ben pella’r bowspryd, a gollwng fy hun gyda’r rhaff i lawr i’r dwr, a fy nillad yn bac ar fy nghoryn. Yr oedd y dwr at fy ngheseiliau, ac mi fedrais ddianc i dir sych. A Ffarwel i’r ‘Messender.’ Yr oedd yn bleser i mi bob munud o’r daith – diwrnod heulog yn Awst, brisyn iawn a llong yn medru manteisio arno yn ngwaethaf henaint. Yr oedd y cwmni yn ddifyr, ac yr oedd yn anhraethol mwy difyr ar y llong na bod yn llyfrgellydd yn Ngholeg Aberystwyth.’

"J Glynne Davies ar y drol yn Aberdaron"

Diwrnod da a difyr gafodd J Glynne Davies, tywydd caredig, brisyn da a taith fach hwylus at ei ddiben. Ond oes a gafodd yr hen gapten ar y mor yn tradio hyd y glannau mewn hindda ac mewn tymestl a daeth o a’i hen long i’r traeth yn Abersoch, lle y bu yn byw ar fwrdd yr hen ‘Fessenger’ am rai blynyddoedd. (Reg closed 1907) Yn wir fe wyddom ei fod yno yn 1915 gan i’w ferch Eliza o Ael y Bryn Rhiw ymweld ag o. Ychydig ar ol hyn bu’r Hen Gapten yn y wyrcws am gyfnod cyn i Eliza fynd i’w nol ar Fedi 11fed 1916 a mynd ag o i’w chartref yn y Rhiw. Buan iawn fu ei arhosiad ac aeth yn ol i’w gynefin yn Uwchmynydd a bu’n cartrefu ym Mhenbryn Bach hyd ei farw ar y pedwerydd o Fai 1919 Cafodd ei gladdu ym mynwent Aberdaron ar yr wythfed o Fai yng ngolwg y mor a’i cynhaliodd hyd ei oes ac oedd yn gymaint rhan o’i gymeriad a’i fodolaeth. Yr oedd yn un o’r brid arbennig o ddynoliaeth sydd bellach yn atgof pell o oes aur yr hen longau hwyliau bach, dynion caled, crefftus yn feistri ar eu llongau bychain ac yn brwydro’r elfennau’n feunyddiol i ennill eu tamaid.

*********

Diolch i deulu Harry am gael tynnu llun y gloch.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com