|
"Y Fasnach Lo" "Y long lo Sparling yn Abersoch" Mae’n debyg
mai glo oedd yn cael ei fewnforio fwyaf a doi i bob traeth bach yn Llyn, o
Lerpwl y doi y rhan fwyaf ohonno. Pan fyddai y llong lo ar fin cyrraedd fe
yrrai’r masnachwyr air,ac yn ddiweddarach gerdyn post i hysbysu eu cwsmeriad
ac fe ddoi rheini yn eu tro efo ceffyl a throl i nol y glo, gwelwyd dwsinau o
droliau ar ddiwrnod y llong lo mewn mannau fel Porthcolmom a Phorth y Sgaden mor
niferus oeddynt yno eu bod pen yng nghyffon lawr o’r ffordd fawr i’r borth (
tua milltir o hyd ) ac un enghraifft allan o ddwsine ydi hynna. Doi tair llong
gyda’i gilydd i draeth Abersoch ar brydiau dychmygwch y prysurdeb yno pan yn
dadlwytho ar y traeth yn syth i’r troliau, weithiau byddai’r llongau yn
dadlwytho ar lanw a gollyngwyd y glo yn syth i’r mor ac fe’i cesglid ar drai.
Gwnaed hyn i arbed amser yn enwedig gyda’r llongau mwy ac os nad oedd tywydd
ffafriol. Ar rai traethau byddai’n rhaid cwblhau’r gwaith rhwng trai
a llanw ac yn Aberdaron, Porth Ysgo a Phorth Neigwl defnyddid ‘sloops a
ketches ‘ gan amlaf. "Disgwyl y long lo yn Aberdaron"
Un flwyddyn bu raid cau ysgol Nefyn, gan fod y tywydd yn rhy arw i'r llongau ddod a glo i'r dref. ~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |