|
|
"Y fflat Ann" Un o’r
rhigymau mwyaf adnabyddus i ni yma yn Llyn ydi ‘Fflat Huw Puw’ does neb
o’r bron na wyr amdani a hon oedd yr ysbrydoliaeth i J Glynne Davies fynd
ymlaen i ganu ‘Cerddi Huw Puw’. Ond oedd yna ffasiwn ŵr a Huw Puw ynteu
cymeriad dychmygol chwedleuol oedd o? Cymeriad byw iawn oedd Huw Puw ei deulu yn
hannu o Ddolgellau ond fe’i ganwyd ef yn Princess Basin, Lerpwl. Roedd Huw Puw
yn Feistr ar long fechan o’r enw Ann. Fflat oedd yr Ann ac fe’i cofrestrwyd
yng Nghaernarfon ar Awst 4ydd 1848, dywedir yno ei bod wedi darfod ei hadeiladu
yn Frodasham yn y flwyddyn 1799 ac yn Nholldy Lerpwl y cofrestrwyd hi dan nes
iddi gael ei gwerthu i Gaernarfon yn 1848. Roedd Fflatiau yn longau bas a ac
fe’i defnyddid i hwylio fyny’r
afonydd y Merswy gan fwyaf ond hefyd Afon Ddyfrdwy ac afon Conwy cyn belled a
Threfriw. Triugain tunnell oedd yr Ann, un bwrdd ac un mast oedd iddi a thri o
griw. Yr oedd yn 61.8 troedfedd o hyd, 15.1 o led a 6.6 ddyfnder. Dyma
ddisigrifiad ohonni ‘Rigged with lifting Bowsprit, square sterned, Carvel
built, has neither Galleries or figurehead’. Roedd
ganddi dri o berchenogion pan gofrestrwyd hi yng Nghaernarfon:- Hugh Pugh,
of Caernarvon, mariner – Subscribing owner a’r ddau arall oedd David Davies,
saer maen o Gaernarfon a Richard Williams, ysgolfeistr o Lerpwl. Ugain o
gyfrannau oedd gan Hugh Pugh, 32 gan Davies a 12 gan Williams. Rhennid llong y
pryd hynny yn 64 cyfran, a gelwid 4 cyfran yn ‘owns’; felly roedd Hugh Pugh
yn berchennog ‘pum owns’ o’r llong yr oedd yn gapten arni. Yng
nghofnodion Porthladd Caernarfon, ceir enw ‘r Fflat Ann yn digwydd nifer o
weithiau ac yn talu ei ‘dues’ i awdurdod y porthladd. Yn ystod y blynyddoedd
o 1840 hyd 1847 ceir cyfeiriad at Ann, y capten Hugh Pugh 26 o weithiau ac fe
ddengys hyn ei fod yn gapten arni am flynyddoedd cyn ei phrynu. Daeth yr
Ann o Runcorn i Gaernarfon chwe gwaith – unwaith gyda llwyth o lo a phum
gwaith gyda llwyth o goed ac ychydig haearn. Rhoddir gwerth y coed deirgwaith
sef £210, £80 a £138; oddeutu 95 tunnell fyddai ei llwyth cyffredin o lo. Yn
ystod y tair blynedd o 1845 i 1847, aeth ag wyth llwyth o lechi o’r Felinheli,
sef pump i Runcorn a thri i Lerpwl. Bu’n
cludo gwair a llechi a ‘Bar wood’ o Gaernarfon i Lerpwl, glo o Fflint i
Gaernarfon, glo o Gaernarfon i Borthmadog a dychwelyd i Gaernarfon efo llechi.
Aeth a llwyth o ‘stranded goods’ o Borthdinllaen i Gaernarfon unwaith.
Gwelir mai rhwng Caernarfon, Lerpwl a Runcorn y byddai’n tradio fynychaf, ac
mai glo, coed a llechi oedd ei chargo. Cyfeirir
ati hefyd yn llyfr nodion harbwr Porthdinllaen. Talai capteiniaid a fyddai’n
troi i fewn i Borthdinllaen am gysgod swm fechan am gael rhwymo eu llongau wrth
y modrwyau haearn ar y bar; talai llong a chargo ddimai y dunnell, a llong mewn
balast ffyrling y dunnell. ‘Rings Account’ y gelwid y Llyfr Cyfrifon. Enwir
y Fflat Ann (Hugh Pugh) yn troi mewn i’r harbwr Chwefror 10, 1850 a thrachefn
Medi 2, 1864 a Mawrth 2, 1858. Talodd ffyrling y dunnell yr ail dro a dimai’r
dunnell y trydydd tro.
"Y Fflat Ann" Dywed y
llyfr cofrestriaid yng Nghaernarfon amdani ‘Lost in 1858’ ac mai ar Ynysoedd
St Tudwal, ger Abersoch, y collwyd hi, pan oedd yn hwylio o Borthaethwy i Bermo
efo llwyth o goed. Digwyddodd hyn ar y 18fed o Hydref a ceir yr adroddiad a
ganlyn yn y North Wales Chronicle :- ‘Pwllheli,
Oct 22. The Flat Ann Pugh ran ashore during a gale on the 18th Oct, in St
Tudwell Roads and went to pieces.’ Roedd Hugh
Pugh yn briod, a chanddo bump o blant, a phan ddrylliwyd ei long roedd ei fab
David a’i wraig Catherine gydag ef ar y pryd. Ceir hanes am Hugh Pugh unwaith
yn mynd a chargo i harbwr Cork yn Iwerddon, a’r brokers yn dod i’w gyfarfod
ar y cei i geisio archebion. Gwelsant mai Ann oedd enw’r Llong a chawsent hyd
i enw’r capten ar starn y cwch. Dyma ddechrau ei sillafu ‘H U G H , Hudge, P
U G H, Pudge’ a phan gyrraeddodd Huw Puw atynt, dyma’i gyfrach, a chynnig
ysgwyd llaw ag ef: ‘How d’ye do. Captain Hudge Pudge?’ A dyna fu enw ei
gyd gapteiniaid Cymreig am gryn amser ar ol hynny. Rhyw dro
arhosai nifer o gapteiniaid llongau mewn gwesty ym Mostyn, rhai ohonynt newydd
landio, ac yn paratoi i gychwyn adref i weld eu teuleuoedd. Yr oedd gan un
capten, a hwnnw’n gryn dipyn o gybydd, ham cyfan a brynasai’n rhad yn rhywle;
gofynnodd i wraig y dafarn ymhle y cawsai ei chuddio hyd nes y byddai’n
cychwyn adref, a dangosodd hithau’r cloc iddo. Trefnodd y
cwmni i gael swper gyda’i gilydd y noswaith olaf, a chytunwyd fod pob un i
ddarparu rhyw un peth ar gyfer y wledd, un y bara, un arall y picls, ac
addawdodd Huw Puw ofalu am y cig. Mwynhawyd y swper gan bawb, a llawer yn canmol
yr ham a’r cybudd barus yn uwch ei gloch na neb. “Yn wir
Huwcyn” ebe fe” yr wyt ti’n un da am bigo ham”. “ Bwyta
hi, a cau dy geg” meddai Huw Puw. Ond pan aeth yr hen gapten i chwilio yn y
cloc fore trannoeth am yr ham a guddiaisai yno, ni chafodd ddim ond yr asgwrn ar
ol. “Dy waith
di, Huwcyn, ydi hwn” meddai yn chwyrn, ond doedd waeth iddo dewi; rhaid i
longwr frathu ei dafod a bod yn fud pan wel ei fod ‘wedi ei chael hi. Stori arall
am Huw Puw oedd yr adeg yr oedd yn eistedd mewn tafarn ym Mhwllheli a’i beint
o’i flaen, a rhai o’i ffrindiau yn dod ato a dweud fod ei long ar dan. Unig
ateb Huw Puw oedd yfed ei beint a galw yn uchel am un arall. Daeth
eraill ato a dweud fod ei long ar dan yn yr harbwr, ond eto galw am beint
arall wnaeth Huw Puw ac felly fu – waeth pwy ddoi a dweud wrtho fod ei long ar
dan. Ymhen amser
dyma ei ffrindiau yn eu holau o’r harbwr, a dweud eu bod wedi llwyddo i
ddiffodd y tan. “Diolch yn fawr i chi hogiau bach” meddai Huw Puw “ Does
gen i ond gobeithio y ca innau gyfle i wneud yr un fath i chithau ryw ddiwrnod.” Rhy y
straeon yma syniad i ni ‘r math o gymeriad oedd Huw Puw – dyn oedd yn hoffi
cwmni diddan a glasiad o gwrrw, ac roedd ganddo gryn dipyn o ddireidi yn ei
natur ac un oedd yn hoff o ddweud straeon. Ceir hanesyn amdano yn ddeunaw oed yn
mynd i chwaraedy “Brothel” yn Llundain ac am ferch ifanc yn llewygu yno, a
fynta’n cymeryd gofal ohoni a mynd a hi adref a hithau wedyn yn ei gloi yn ei
hystafell er mwyn dwyn odd arno, neu efallai ei lofruddio a fynta’n llwyddo i
ddianc drwy ffenestr a thrwy’r iard gefn lle roedd homar o fastiff mawr yn
cadw gwyliadwriaeth. Claddwyd
Huw Puw ar y 10fed o Awst 1865 ym mynwent yr eglwys Llanidan, Mon, yn 70 oed,
mae ei wraig Catherine a’i ferch Margaret yn yr un fedd. ~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |