"Y fasnach galch"

Yn y dyddiau cynnar doedd yna ddim cyflawnder digonol o galch ar gael yn Llyn, a defnyddiai rai o’r adeiladwyr bridd a chlai i gau rhwng y cerrig. Pan ddechreuodd y fasnach arfordirol ddod i fri, daeth mewnforio y garreg galch a chwlm, y tanwydd oedd ei angen i wneud calch yn bwysig iawn.

Mae llawer o’r pridd yn Llyn yn tueddu i fod yn denau ac yn asidig, ac er mwyn ei addasu i fod yn dir âr, rhaid oedd rhoi calch iddo er mwy ei ffrwythloni. Defnyddid calch hefyd wrth adeiladu ac i wyn galchu tai.

Dechreuodd y diwydiant calch yn y ddeunawfed ganrif ac yr oedd odynau  yn y porthau canlynol :- Pistyll, Morfa Nefyn, Porthdinllaen, Porth Ysgaden, Porthgolmon, Porthor, Porth Orion, Llanllawen, Porth Meudwy, Aberdaron (2) Abersoch a Llanbedrog.

"Odyn Porthdinllaen, tu ol i'r drol"

Weithiau roedd y garreg galch yn cael ei chario, a'i llosgi ar y ffermydd, ac yn aml iawn y gwelwch gaeau o'r enw "cae'r odyn" yn Llyn, ac yn Pencaeraru, a Llangwnadl  mae tai o'r enw Cae'r Odyn yn bod.

Cyn dyfodiad y rheilffyrdd y mor oedd yr unig ffordd i ddod a charreg galch i Lyn, ac fe’i cludid yno ar y llongau bychain arfordirol. Yn aml fe’i dadlwythid yn syth i’r mor ar lanw ac yna ar drai doi y troliau i gael eu llwytho.

I wneud calch roedd yn rhaid yn rhaid twymo’r carreg galch neu galswim carbonad i wres o 800 – 900 gradd er mwyn chwalu’r carbon deiocsid  gan adael y calsiwm ocsid neu galch. Gwneid y broses yma mewn odynau mawr cerrig a rhoddid haenau o’r carreg galch a chwlm i lawr o wddf yr odyn.

Rhai o’r odynau a ellir ei gweld o amgylch Llyn.

"Abersoch"

Porth y Sgaden

 

Porthor

 

 

Enghraifft o fewnforio y garreg galch i Lyn

(Morfa Nefyn)

1868 Y long "Ebenezer" o Rhiw  yn cario calch o Gaernarfon.
1st August, 28 tons Limestone @ 3/- per ton £4-4-0
1869
6th October, 30 tons Limestone @ 3/- per ton £4-10-0
30th October 30 tons Limestone @ 3/- per ton

                       ~~~~~~~~~~

£4-10-0

 

 

(Aberdaron)

1886

June 17th "Caerhun"       32 tons, stones @ 4/5

£ 7. 1. 4

June 17th "Vivid"             22 tons, stones @ 4/5 £ 4.17.2
June 18th "Catherine"     32 tons, stones @ 4/5 £ 7. 1. 4
June 29th "Vivid"            21 tons, stones @ 4/5 £ 4. 9. 3
July    8th "Vivid"            21 tons, stones @ 4/5 £ 4. 9. 3
July  31st "Vivid"            21 tons, stones @ 4/5 £ 4. 9. 3

    ~~~~~~~~~~~~~~~

1887

Sept  -

"Koh i nooz"                       35 tons, stones @ 4/3

£11.13.9

   ~~~~~~~~~~~~~~~

1888

May 24th "Vivid" 20 tons, stone at 2/6  freight @ 1/8 for stone. £ 4. 6. 0
June 19th "Virtue" 28 tons, stone at 2/6 freight @ 1/8 for stone. £ 5.16.8
June 30th "Vivid" 20 tons, stone at 2/6  freight @ 1/8 for stone. £ 4. 6. 0
June 30th "Virtue" 28 tons, stone at 2/6 freight @ 1/8 for stone. £ 5.16.8
Aug 1st "Vivid" 20 tons, stone at 2/6  freight @ 1/8 for stone. £ 4. 6. 0
Aug 1st "Virtue" 28 tons, stone at 2/6 freight @ 1/8 for stone. £ 5.16.8
Aug 10th "Glyndwr" 42 tons, culm @ 4/6 freight. £ 9. 9. 0
Aug 16th "Vivid" 20 tons, stone at 2/6  freight @ 1/8 for stone. £ 4. 6. 0

   ~~~~~~~~~~~~~~~

 

"Dadlwytho cerrig calch ym Mhorth y Sgaden, Tudweiliog"

 

Gwerthwyd calch i’r amaethwyr ac mi fydden nhw yn ei adael yn dociau hyd y tir er mwyn iddo gael ei ddyfrhau a’i drosi yn galsiwm heidrocsid cyn y medrent ei daenu hyd y tir. Pe na bae‘r broses yma yn cymeryd lle yna byddai’r calch yn lladd popeth a dyfai. Roedd angen tua pedwar cwt o galch i’w daenu ar un acer.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com