|
"Cychod Celtaidd" Wythnos y 'steddfod oedd hi ac yr oeddem ni wedi mynd i Solfach am swper ac yr oedd Owain un or hogia 'cw a minnau wedi cerdded i fynu o faes parcio y gwesty i gael golwg ar y cychod yn yr harbwr. Ar gwr y dwr yn fanno roedd yna adeilad ac ar yr hysbysfwrdd yr oedd dyddiadau rasus rhwyfo y gwahanol bentrefi a lluniau o'r cychod ag ati. Pan oeddem yn busnesu yno fe ddaeth na dri neu bedwar o ddynion o gefn yr adeilad gan wthio chwip o gwch ar drelar a lle i bedwar rwyfo arno i lawr at fin y dwr, fe ddechreuais sgwrsio a'r dynion a holi ynghylch y cwch a chael gwybod mai newydd ei gael oeddent ac mai 'Celtic Longboat' oedd o, rwan mi gododd fy nglustia pan glywais mai newydd gael y cwch yr oeddynt a dyma fi'n gofyn iddynt be oeddynt yn wneud efo'r hen un ta. Yr ateb oedd fod rhai oedd yn dechrau rhwyfo yn ymarfer hefo un o'r hen rai ond fod llall ar fferm dair milltir i fyny'r lon, ac mae'n bosib y buasai y clwb rhwyfo yn gwerthu hwnnw 'ydi o'n ffit i fynd ar y mor'? gofynais, ' o yndi mi yda ni wedi bod yn ei rwyfo eleni' meddai Kelvin y prif siaradwr, 'faint gymerwch chi amdano fo? gofynais, eglurodd Kelvin y buasai yn rhaid i aelodau'r clwb drafod y mater a dywedodd y buasai yn fy ffonio drannoeth ac aethant hwy allan i rwyfo ac aeth Owain a minnau yn nol at Elen, Gwion a Gwern i'r gwesty. 'Ti di Be?' Wedi prynu cwch dwin, meddwl !' 'I be tisho cwch arall? Ma gen ti ddau' 'Oes, oes ond cwch rhwyfo di hwn sdi' 'Ia?' 'Ia be?' 'Beth di'r gwahaniaeth yn hynnu, a faint gostiodd o?, a sut yr wyt ti am ei gael o adra?' 'Dwn im, aros tan fory i mi gael ei weld o gynta ia' 'Wel mi wt ti yn gneud rhyw betha gwirion cofia'. Rhywbeth tebyg i hyn oedd y sgwrs wedi dychwelyd i'r gwesty a dweud yr hanes wrth Elen, ac aed yn nol ir garafan yn llawn brwdfrydedd a chynlluniau. Mae na ras rwyfo a rhedeg ar ddydd Sadwrn Gwyl Pen Draw'r Byd yn Aberdaron ac mi wyddwn fod rhai or hogia yn addasu a phrynu cychod at y ras ac mi own i am gael cwch i guro Dafydd Morfa Mawr a Bobi Congol ar ol yr holl slinsho oedden nhw wedi ei wneud, wel os oedd y cwch yma yn nofio ac yn rhesymol ei bris mi own ni am ei brynu. Wel mi ffoniodd Kelvin fi drannoeth a dweud ymhle yr oedd y cwch i mi gael ei weld a fod aelodau y pwyllgor wedi penderfynu ei werthu a faint yr oeddynt ei eisiau amdano. Aethom i weld y cwch a'i brynu yn y fan ar lle, y broblem nesa oedd ei gael o Solfach i Uwchmynydd, beth bynnag daeth Kelvin i'r adwy a dweud ei fod yn mynd i briodas yn y canolbarth ymhen pythefnos ac y doi ar cwch i Aberystwyth, ac fellu y bu. Ac ar ddydd Sul gwyl y banc mis Awst y llynedd aeth Owain a minnau i nol y 'John Lee' cwch hir Sir Benfro o Aberystwyth. Roedd angen cadw'r peth yn gyfrinach rhag i'r rhwyfwyr eraill wybod am y cwch tan ddiwrnod y ras (a oeddy Sadwrn canlynol). Felly dyma fynd a fo i Blasminffordd ai guddio yn fanno. Roedd angen pedwar o bobol i rwyfo a un i lywio y cwch ac roedd amser yn brin i gael ei drio ar mor, yr oedd Aled Bodernabwy hefo'i garafan yn agos atom ar faes y steddfod ac yr oedd wedi cytuno i rwyfo ac wedi dwyn perswad ar Iwan Gwyddel i ddod hefyd, yr oedd Owain am lywio ac mi ddaeth Cian un arall or hogia acw a minnau y pedwerydd rhwyfwr. Ar nos Fawrth cyn y ras aed ar cwch i Borthor (Nid Porthoer fel sydd wedi ymddangos yn y Llanw yn ddiweddar) iw drio yn y mor ar y slei, roedd yn mynd yn iawn ar ol ryw hanner awr o daro rhwyfau ein gilydd a phoetsio mi aeth pethau yn reit ddel, ond y broblem oedd na wyddem pa mor gyflym oedd y cwch yn symud gan nad oedd dim yno i gymharu ag o. Ond fe gaem weld dydd sadwrn. Roedd y cychod eraill i gyd yn cychwyn o draeth Aberdaron ar y bore Sadwrn ond aethom ni o Borth Meudwy i gadw'r gyfrinach i hyd at y diwedd (ac i gael ymarfer cyd dynnu or borth i Aberdaron). Erbyn cyrraedd man cychwyn y ras yr oeddem yn cyd dynnu'n eithaf.a daeth y cychod eraill o'r traeth, ac er mwyn torri stori hir yn fyr yr oeddem yn nol ar y lan cyn i'r ail gwch ddod o amgylch y bwi olaf ac wedi ennill y ras yn braf. Wel ar ol gweld sut yr oedd y cwch yn symud chad'al na'r cychod eraill roedd na holi a stilio ym mhle y ces y cwch ac a oedd na fwy o honnynt yno ac yn y blaen ac mi addewais i holi. Cefais afael ar ddau gwch arall yn Aberystwyth a phrynwyd un gan Rhys Rhandir a Robin Plasffordd a'r llall gan Steven Pendre, Dylan Moranedd, Aled Caerau, Wil Pys, Mark a Martin Cartref, prynais ddau arall yn Llangwm ger Hwlffordd (A thorrodd yr echel fel yr oeddwn yn cychwyn oddi yno, ond stori arall ydi honno) a phrynodd Bobi Congol un o honynt a chadwais inau y llall a gwerthu'r 'John Lee' i Terry Glandaron a ches i ddau arall oedd angen eu trwsio o Gwbert. Cawsom dywydd braf yn yr Hydref a buom yn rhwyfo bron bob Sul,weithiau yn rhwyfo o Aberdaron o gwmpas ynysoedd Gwylanod ac yn ol,unwaith rownd Carreg Wislan a wedyn rownd Ynysoedd Gwylanod ac yn ol i'r traeth,tua 7 milltir mewn tua tri chwarter awr),o Borth Sgadan i Borth Golmon neu o Borthor rownd Maen Mellt ac yn ol.Bu y tywydd yn ein herbyn wedyn ond bellach yr ydym wedi ail ddechrau ac mae rhai ieueungach wedi dod atom,mae Gerallt Ffatri, Ifan Post a Rhys Pencaerau wedi bod yn rhwyfo hefo ni ac mae na ferched wrthi hefyd, y Sul dwythau roedd Stephanie Caerau, Elen Geufron, Nia Bryn Crug, Nia Cae'r Wylan, Gwenda Cartref, Karen Morfa Mawr, Elen Tegfan a Meinir Giat goch ar y dwr. Os oes unrhyw un ffansi dod i drio neu i weld dewch i Aberdaron,ar brynhawn Suliau a chewch ymuno yn yr hwyl neu dowch i Borthdinllaen ar y degfed o Awst,os bydd y tywydd yn ffafriol yr ydym yn gobeithio cychwyn ras o Borth Sgadan a gorffen yno a byddwn yn cael rasus ym mae Porthdinllaen drwy'r pnawn fel rhan o ddiwrnod codi arian at y cwch achyb lleol. Huw Erith Gobeithio ei fod yn plesio.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |