
"Captan William Williams"
1888 ~ 1942
(Hela'r Morfil)
|
Yn
1888 ganwyd William Williams yn Nhy’n Parc Rhiw yn fab i amaethwr. Ond
i Lundain aeth William i ddechrau i weithio efo’i ewythr oedd yn
bobydd yno. Ond roedd ei fryd ar fynd i’r mor a gyda’r nos a’i
i’r ysgol nos i ddysgu am forwriaeth ac felly y dechreuodd ar yrfa dra
llwyddianus. Ymunodd a chwmni Lever Brothers ac aeth ymlaen i fod yn
‘Uwch Swyddog’ (superintendant) efo’r cwmni. Roedd William yn
gweithio lawr ym Mor y De yn hela morfilod a phan briododd a merch ifanc
o Edern mi aeth a hi efo fo am fordaith ac yn ei chyfnod, hi oedd y
Gymraes i fynd bellaf i’r De . Yn 1936 gofynnwyd i Capt Williams fynd
i Gaergybi i chwilio am ddynion ifanc i weithio ar longau`r cwmni a chan
ei bod yn adeg y dirwasgiad doedd na ddim prinder o ddynion ar gael ac
yn wir bu’r rhaid siomi aml i un. Dau o’r rheini gafodd eu cyflogi
gyda llaw oedd fy ewythrod Cynfelin a Joseff Collins – Jones. Ceir
hanes hogiau Mon yn morfila yn y llyfr ‘Whalers of Angelesey’ gan
Alun Owen a chyfeiria ynddo am Gapten Williams ac yn ol y son yn y llyfr
roedd Capten Williams yn ddyn uchel iawn ei barch ymysg ei griw. Yn
ystod ein gaeaf ni sef yr haf lawr yno oeddan nhw’n hela`r morfilod
gan amlaf criw o Norwy oedd ar y llongau bach dal gan eu bod nhw yn
brofiadol mewn hela morfilod, wedi dal y morfilod arferwyd eu trin ar
long ffatri ac ar ddiwedd y daith aed ag olew’r morfilod yn ol i
Bromborough i Port Sunlight i wneud sebon ayb. Yn ystod y Rhyfel Byd
Cyntaf fe gafodd y llong oedd Capt Williams arni ei suddo gan yr
Alamenwyr ond fe’i achubwyd gan long o’r enw ‘Primrose Hill’. Yn
ystod yr Ail Ryfel Byd doedd o ddim mor ffodus ac fe suddwyd ei long yr
‘Empire Gilbert’ oedd ar ei ffordd i Archangel Rwsia
o Blyth. Cafodd ei tharo gan ‘torpedo’ o long danfor U586 tu allan i
Wlad yr Ia ar yr ail o Dachwedd 1942 a chollodd William ei fywyd yn pump
deg a phedair mlwydd oed. Yn
ffodus iawn i ni mi dynnodd William lawer o luniau tra i lawr ym Mor y
De ac ar Ynys De Georgia, ble roedd yr orsaf forfila a’r tanciau cadw.
Mae’n fraint gennym fedru dangos y lluniau i chwi ac mae’n diolch
a’n dyled yn fawr iawn i deulu’r diweddar Gapten William Williams am
gael eu benthyca.
|
"Southern King, llong Capt Williams, Rhiw"
 |
Capt William Williams |
 |
"Storm ym Môr y De"
"Grytviken, South Georgia"
"South Georgia"
"Albatross"
"Gorsaf Morfila"
|
"Bedd Shackelton"
|
"Eglwys Norwyeg"
|
"Y Lladdfa"
"Llongau bach Dal"
"Southern King"
"South Georgia"
 |
"Trin y Morfil Glas" |
 |
"Ar y ffordd adref"
 |
"Ymlacio ar y ffordd" |
 |
Y Morfil Glas
~~~~~~~
Cafodd y lluniau yma eu tynnu oddeutu 1934