Ym mis
Mawrth 2009 derbyniais e bost drwy law Gwenllïan Jones sy’n rhedeg y
safle we ardderchog rhiw.com. Roedd yr e bost oddiwrth Rich Hughes
sy’n un o swyddogion Clwb Nofio Tanfor y Dreigiau Coch sy’n
sefydledig yn Abergwaun, Sir Benfro. Yn Ebrill 2000 wrth nofio o dan
y môr oddi wrth Freshwater West ar arfordir Sir Benfro fe wnaeth
ddarganfod wats boced arian. Roedd o’n archwilio llongddrylliad.
Roedd yna
arysgrif ar y wats


RICHARD
PRICHARD 1866 ABERSOCH NORTH WALES
Roedd Rich
Hughes wedi bod yn chwilio am flynyddoedd am berthnasau i Richard
Prichard ond roedd wedi methu ac fe drodd at rhiw.com am gymorth.
Felly fe ddisgynnodd y dasg i mi.
Roedd Rich
wedi atodi adroddiad o’i gasgliadau i’r e bost gwreiddiol and dyma
grynodeb ohono:
Ffeindiodd Rich Hughes y wats yn Ebrill 2000
Roedd yna
grib ar glawr cefn y wats
Roedd y
peirianwaith pres yn rhyfeddol o gyflawn ac roedd arysgrif ar hwnnw
hefyd sef “Richd B Thomas No 63826”
Richd B
Thomas – Hwn oedd “Richard Bonner Thomas (watchmaker), Bank Place,
Portmadoc, North Wales”. Roedd yn masnachu rhwng 1865 a 1895.
Mae’r
arysgrif “Richard Prichard Abersoch 1866 North Wales”yn glir ar
glawr arian y wats.
Mae’r
dilysnod ar y dde am y flwyddyn 1863.
Yn ôl y
sôn mi fysa person a oedd yn berchen wats boced arian o waith llaw
yn berson fel capten llong neu o’r un statws yr adeg hynny (1866) .
Wel, lle i
ddechrau i chwilio am Richard Prichard. Y lle cyntaf es amdani oedd
llyfrau arysgrifau cerrig beddi mynwentydd Eglwys Llanengan a Chapel
Bwlch. Mae’r llyfrau yma wedi eu cyheoddio gan Gymdeithas Hanes
Teuluoedd Gwynedd. Mi welais y cofnod yma yn llyfr mynwent Bwlch:
B:36. Er
coffadwriaeth am/ROWLAND PRICHARD/Bryncethin, yr hwn a
fu farw Awst/21,
1878 yn 72 ml. oed
Yma am hir amod -
rhaid llechu
Yn llwch oer y
beddrod
Ond codi gaf o'i
geudod,
Yn hoew a rhydd y
dydd sy'n dod
Ganddo ef ei hun
Hefyd am ei fab/Capt. RICHARD PRICHARD/Barque Barbara/Yr
hwn a fu farw ar ei fordaith i Rangoon/Mai 12fed, 1881/yn
38 mlwydd oed
Fry hedodd yn
adferadwy - o'r môr
A’r marw ofnadwy,
Ni wel nerth na
rhyferthwy,
Un mor mawr na marw
mwy
W.N.
Hefyd am JANE
PRICHARD/Gwraig y dywededig ROWLAND PRICHARD/
Yr hon a fu farw
Medi 28ain, 1893/yn 81 mlwydd oed
Jane dan y gwys a
orwedd - Yma
Mewn anmharch a
llygredd;
Ond daw allan mewn
dullwedd,
Cadarn, foreu barn
o’r bedd
M.E.
A’i hwn yw
ein dyn? Mae’n edrych yn addawol iawn. Ganwyd y Richard Prichard yma
ym Mryncethin Fawr ym mis Medi 1842 yn blentyn i Rowland a Jane
Prichard. Roedd ym Mryncethin Fawr yn ystod cyfrifiad 1851 gyda’i
rieni a’i chwaer hŷn Jane. Erbyn cyfrifiad 1861 mae’n forwr
cyffredin ar fwrdd yr ‘Angora’ yn nociau Falmouth yng Nghernyw.
Cyfrifiad
1851 Bryncethin
Enw
Statws Oed Gwaith Man
genedigaeth
Rowland
Richards Head 45 Farmer
Llangian
Jane Richards
Wife 39
Denio or Pwllheli
JaneRichards
Dau. 11
Llanengan
Richard Richards
Son 8
Llangian
Mary Richards
Dau. 6 months Llangian
Cyfrifiad
1861 Angora yn Falmouth, Cernyw
Enw
Statws Oed Gwaith
Man genedigaeth
James Owens
Married 34 Master Bangor
John Roberts
Widower 42 Mate
Pwllheli
John Jones
Unmarr. 26 AB seaman
Bangor
Roland Jones
Unmarr. 33 AB seaman
Pwllheli
Richard Prichard Unmarr.
19 Ordinary seaman Pwllheli
Alexander Ross
Unmarr. 20 Ordinary seaman Dunbar
Scotland
John Jones
Unmarr. 18 Ordinary seaman Anglesey
Wrth gasglu
gwybodaeth o safle we Morwyr Cymru mae’n ymddangos bod Richard
Prichard yn gapten y barque ‘Barbara’ o 1879 hyd at ei farwolaeth ar
y ‘Barbara’ ar y 12fed o Fai 1881 ar y ffordd i Rangoon.
Mae hefyd yn crybwyll bod Richard Prichard wedi dod yn fêt yn 1866,
yn brif fêt yn 1868 ac yn gapten llong yn 1874.
Mae’n
ymddangos felly bod y wats wedi cael ei chyflwyno i Richard Prichard
pan gafodd ei ddyrchafu’n fêt yn 1866. Roedd yr oriadurwr Richard
Bonner Thomas yn rhedeg busnes gwneud watsiau ym Mhorthmadog felly
mae’n rhaid tybio bod y wats wedi ei phrynu yno a’i chyflwyno i
Richard Pricghard. Rwy’n amcanu mai un nai offeiriaid a chriw ei
long neu ei rieni Rowland a Jane Prichard Bryncethin Fawr wedi ei
phrynu.
Y llong sydd
yn gorwedd ar waelod y môr yn Freshwater West ar arfordir Sir Benfro
yw’r Barque Barbara, llong Richard Prichard. Roedd sawl erthygl am y
trychineb yn y papaurau newydd ym mis Tachwedd 1881.
Mis yn ddiweddarach roedd
yna ymchwiliad i’r digwyddiad yn Lerpwl ac roedd yna hanes am hwnnw
yn y Liverpool Mercury ar y 21ain Rhagfyr 1881.
Ym mis
Ebrill 1887 fe ymddangosodd erthygl yn y North Wales Chronicle.
Roedd mab perchennog y llong, a oedd ar y Barbara ar y noson
dyngedfennol, wedi cyflwyno teyrnged i Capten JO Williams o’r
Gwylwyr y Glannau a achubodd y criw heblaw am Capten Jones a aeth i
lawr efo’i long.
Felly fe
suddodd y Barbara yn Freshwater Bay, Sir Benfro. Roedd hi’n
dychwelyd adref o Rangoon gyda llwyth o reis. Bu farw Richard
Prichard ar y fordaith allanol i Rangoon ar 12fed Mai 1881 ac rwyf
yn amcanu bod Capten Jones wedi derbyn y gapteiniaeth. Ond fe aeth
Capten Jones i lawr gyda’r Barbara ar 22ain Tachwedd 1881. Rhaid
meddwl bod y criw yn dod a’r wats gartref ond fe aeth y wats i
waelod y môr gyda’r llong. Stori drist iawn.
Fe briododd
Richard Prichard gyda Margaret Jones Hendy, Llanbedrog a chawson fab
John Meredydd a aned yn 1877. Mae yna gofeb i Richard Prichard yn
fynwent Llanbedrog ar garreg fedd ei wraig a’i fab.
Er cof am
Capt. RICHARD PRICHARD
Barque Barbara
Bu farw ar ei fordaith i
Rangoon
Mai 12fed 1881
Yn 38 mlwydd oed
Hefyd ei anwyl fab
JOHN MERIEDYDD PRICHARD
Hendy, Llanbedrog
Bu farw Ebrill 8fed 1910
Eto, MARGARET PRICHARD
“Gynt Hendy” Llanbedrog
Anwyl briod Capt Prichard
Bu farw yn Isfryn Llanbedrog
Rhagfyr 26 1927, yn 85 mlwydd
oed
Bu farw John
Meriedydd yn Hendy yn 1910 a Margaret ei fam yn 1927 yn Isfryn
Llanbedrog. Dwi ddim yn meddwl bod John Meriedydd wedi priodi a
chael plant. Roedd gan Richard Prichard dair chwaer, Jane ganwyd
1840, Mary ganwyd 1851 ac Anne a anwyd yn 1856. Dwi ddim yn gwybod
beth a ddigwyddodd i Jane a Mary ond fe briododd Anne gyda John
Jones yng Nghapel Abersoch yn 1880. Fe symudodd John ac Anne Jones i
Lerpwl am gyfnod i werthu llefrith ond fe ddychwelont i Fryncethin
Fawr yn dilyn marwolaeth Jane Prichard, mam Anne yn 1893.

Fe gafodd
John ac Anne bump o blant yn cynnwys Richard Prichard Jones Angorfa
Stores, Mynytho a Margaret Dilys Roberts Bryncethin Fawr ond mae’n
ymddangos nad oes yna berthnasau wedi goresgyn o’r llinach yma. Bu
farw tri o’r plant yn ddiblant sef Annie (1881-1898), Evan Walter
(18891921) a Jennie (1892-1895) . Mi fysa’n ddiddorol ffeindio
tynged Jane Prichard a aned yn 1840 a Mary Prichard a aned yn 1851,
y ddwy yn chwiorydd i'r Capten Richard Prichard.
Serch hynny
mae yna berthnasau i Richard Prichard:
Ar ochr ei
wraig Margaret - disgynyddion teulu Hendy, Llanbedrog
Ar ochr ei
fam – disgynyddion Capten Richard Williams, Sarn Bach.
Roedd yn
daid i Richard Prichard ac yn dad i Jane Williams – mam Richard
Prichard
Mae Rich
Hughes o’r Clwb Nofio Tanfor y Dreigiau Coch yn teimlo ei bod yn hen
bryd i’r wats ddychwelyd adref ar ôl bwlch o 130 mlynedd. Mai’n
amhosib anghytuno gyda’r teimlad yna.
Nodiadau
Barque
Barbara
Adeiladwyd
Barbara yn Sunderland yn 1877 gan W Doxford a'i Feibion. Roedd yn
llong haearn ac yn pwyso 1082 tunnell. Perchnogion Barbara oedd W
Thomas a’i Gwmni, Amlwch. Roedd William Thomas y mab ar fwrdd
Barbara pan wnaeth suddo yn 1881. Ei phorthladd cartref oedd Lerpwl.

Rich Hughes ac Rick Hammond
Lleoliad
y llongddrylliad
Mae yna ddau
longddrylliad ar y safle yn Freshwater West, Sir Benfro. Mae’r
Barbara yno , fe suddwyd hi ar Tachwedd 22ain 1881. Achubwyd y criw
i gyd heblaw am Capten Jones a aeth i lawr gyda’r Barbara. Yno hefyd
mae’r barque Eidaleg, Guanito a suddwyd ym mis Ionawr 1887. Collwyd
deuddeg dyn, yr holl griw, golchwyd wyth o’r cyrff i’r lan. Mae Rich
Hughes a’i dim wedi cael hyd i gloch y Guanito.
David Roberts
Llanbedrog Mehefin 2009