Dyma fi
John Roberts yn cymeryd ysgrifbin yn fy llaw i ysgrifennu ychydig o hanes
fy mywyd. Ganwyd fi yn Edern yn y flwyddyn 1897 yn ail fab i Judith a
Henry Roberts. Prin yr wyf yn cofio dechrau yn yr ysgol gan imi fynd yno
yn dair oed a trwy ryw gamddealltwriaeth yn fy oed ces fy symud o’r
infants flwyddyn yn gynt na ddyliwn. Ddysgais i fawr yno a pan yn deuddeg
oed fe adewais yr ysgol gan imi fod wedi mynd trwy standard six
Yn byw
drws nesa i ni roedd rhai o deulu fy mam, sef ewythr iddi a’i fab.
Roeddynt yn rhedeg busnes carriwrs i Bwllheli. Byddem ni y plant ar ol dod
o’r ysgol yn gorfod helpu i falu eithin a gwair ar gyfer ceffylau.
Roedd
yr hen wr tua’r pedwar ugain bryd hynny a phan aeth i fethu mynd i
Bwllheli caem ni fynd efo’r second gert ar ddydd Sadyrnau. Tua wyth i naw
oeddwn bryd hynny a chychwynem tua 6.30 y bore, a dychwelyd rhwng pump a
chwech yr hwyr. Y cyflog fyddai cinio rhad ym Mhwllheli a chwe cheiniog.
Llwythi o foch fyddai gennym yn mynd yn y bore a general goods yn ol. Un
tro gwnes lanast garw tra yn eistedd ar ben y drol tu allan i’r iard goed
ym Mhwllheli. Roedd y goets fawr yn dod tu o i mi ac er mwyn rhoi digon o
le iddi tynnais ben y ceffyl i’r dde, ond rywsut roedd y reins wedi croesi
gennyf, ac aeth yr hen geffyl du ar draws y ffordd ag yn foul rhwng y
ceffylau blaen a’r bon yn y goets fawr. Nid wyf yn cofio beth ddywedodd y
dreifar amdanaf. Dro arall ces fy anfon efo llwyth o lechi i fynwent Denio
fy hun. Aeth popeth yn iawn hyd dychwelom i’r Maes pan roth y drol jerk
wrth ddisgyn i’r higol a syrthiais inna o ben y styllennod rhwng y llorp a
phen ol y ceffyl. Arwahan i dynnu croen o dan fy ngen toeddwn i fawr
gwaeth. Cefais help gan rhywun i ddadfachu’r ceffyl a roeddwn yn fuan yn
cario mlaen ar ben fy hun. Ychydig oedd gwerth ceffyl dyn a’r drol am
ddiwrnod bryd hynny. Bum gyda fy ewythr Jack am ddiwrnod a hanner yn mudo
i un o’r enw Mr Little o Morfa Nefyn i ben rallt Nevin. Y pris oedd 6/6 a
ches innau hanner sofran felen fel backshees. Tra yn yr infants rwy’n
cofio clywed swn fel tae coach a ceffylau yn gallopio heibio a’r
ysgolfeistres yn sefyll ar y ffenestr a’i phen allan i weld beth oed yn
bod. Daeargryn oedd wedi digwydd.
Un
noson aeafol a ninna’r hogiau yn chwarae ger y tan daeth Capt O.W. Evans
at y drws i ofyn fuasai un o’r hogiau yn mynd i nol llefrith iddo roi i’r
oen bach, a fi aeth. Arweiniodd hyn i gyfeillgarwch mawr rhyngddom ag yn
fuan wedyn ces y job o edrych ar ol ei ddefaid am chwe cheiniog yr
wythnos. Doi ef ei hun i fynnu o lan y mor yn y bore rhyw ddwywaith yr
wythnos, byddai i fynny yn gynnar cyn wyth, a tan asmer mynd i’r ysgol
byddwn yn cael llawer o hanesion y mor ganddo. Roedd ganddo iot ym
Mhorthdinllaen o’r enw Betsy a dau o gychod. Yn ystod gwyliau yr haf 1907
– 1909, yng nglan y mor yr oeddwn rhan fwyaf o’r amser. Cawn edrych ar ol
y cychod tra byddai’r iot allan yn pysgota mecryll. Tomos Hunt fyddai y
Mate, neu fel yr adnabyddid ef oreu ‘Twm Gwyddel’. Rhan amlaf byddai
merched y fro yn ymgynull i lan y mor erbyn doi’r cychod i fewn i brynu
mecryll, ag os byddai helfa go fawr a chydig o gwsmeriaid cawn ni y job
o’i cludo i’r pentref a’i gwerthu o ddrws i ddrws. Y cyflog fyddai ‘fry’ i
fynd gartre a chwe cheiniog.
Byddai
cael mynd i’r iot yn bles garw. Cyn mynd ar ei deck byddai raid tynnu’r
‘hob nail boots’ rhag marcio y decks. Pen amser addawyd trip allan yn y
iot i mi. Cof da am y bore hwnnw, galw yn Portinllaen Farm am Robert
Griffith, roedd ynta i gael trip yn y iot, a ffwrdd a ni am lan y mor a’n
stores wedi eu clymu mewn hancesi poced. Roedd yn fore clir ond chwythu yn
bur ffres. Pan oeddem ar ben yr allt gwelem Mr Lord o Nefyn tu allan i’r
Penrhyn, golygfa pur urddasol feddyliem ni. Wedi mynd i lan y mor dyma’r
Capten yn dweud ‘Wir hogia well i chi beidio dod heddiw mae hi yn rhy
rough o lawer’. Aethom ein dau yn drist iawn a chrefu am gael mynd a felly
bu. Cyn pen hanner awr roeddem yn ei ganol, yr hen iot yn plungio i’r mor,
yr aer yn y cabin yn dew o ogla tar a oakum a’r hen Tom Hunt a’i bwt o
bibell glai yn mygu i’n gwynebau. Toes ryfedd imi fod yn sal, ia yn
wirioneddol sal. Bum am ddyrnodiau wedyn yn teimlo y ddaear yn codi a
disgyn o tanaf fel tonnau’r mor. Tydi’r teimlad ddim wedi fy llwyr adael
eto ar brydiau. Dois yn fuan i ddeall sut oedd setlio’r hwyliau, ac fe
fyddwn wedi setlo’r mainsail rhan amlaf cyn i’r captan ddod i fewn. Cadw’r
cychod ar y dwr fyddai fy job i, fel y gallwn eu cyfarfod pan ddeuent i
mewn yn y pnawn, i’w landio.
Un
diwrnod roedd y iot allan a minnau yn tendio’r cychod. Tua 4pm daeth
visitors ataf eisiau eu cludo i Nefyn. Gwnawd bargen i fynd a nhw am 2/- a
hwythau i’m helpu i rwyfo yno. Daeth y broblem o ddod yn ol ddim i fy
meddwl. Landiwyd hwy ar y traeth yn Nefyn a chychwynais innau yn ol gan
sgwlio fy hun. Pan ar Benrhyn Nefyn canfyddais fod un o’r rowlocks ar
goll, troiais yn fy ol gan landio yn yr un lle a bum yn ffodus o gael hyd
iddo ar y traeth. Erbyn hyn roedd yn dechra nosi ond roedd y mor yn dawel
a smooth. Roeddwn yn dechrau poeni erbyn hyn gan fod y iot wedi dychwelyd
reit siwr a minnau ddim yno i’w landio. Ar ol bod yn sgowlio am tua awr yn
y tywyllwch clywn rywun yn gweiddi, ‘Ahoy there’ ac o dipyn i beth nesaodd
y swn, ac o’r tywyllwch daeth cwch arall, yr hen Gapten a Tom Hunt yn
chwilio amdanaf. Mi roedd y ddau yn ffyrnig wrthyf am i mi fynd a hithau
yn agos i nosi, a bu bron i mi gael sag oddiwrthynt altogether.
Gollyngais bwced o’m llaw dros y bwrdd un tro mewn dyfnder o tua 12
troedfedd. Rhowd lein amadanaf a gorchymyn imi recoverio’r bwced, a felly
dois a hi fyny.
Byddai
amryw o sgwners yn galw ym Mhorthdinllaen pryd hynny a chawn fynd arnynt.
Cofio am y Lord Nelson yno yn wind bownd am tua chwe wythnos. Un diwrnod
cymerais y lifebuoy ohonni i ddysgu nofio. Rhywsut slipiodd y lifebuoy i
lawr fy nghoesa a dyna lle ron i am pen i lawr am traed yn sticio allan
o’r dwr. Yn ffodus i fet y Lord Nelson fy ngweld am pigo allan efo
boathook. Byddwn yn cael mynd gyda tom Hunt i helpu llongau godi angorion
pan yn hwylio. Byddai yr hen Wyddel yn actio fel Pilot i ambell long ag
awn allan hefo fo i’r bae. Wedi setlo’r hwyliau a’r llong under way
byddai’r hen Dom a finna yn neidio i’r cwch bach a’i gadael. Byddai gan
Tom dipyn o gelfi hefo fo ar y ffordd yn ol, fel payment in kind.
Erbyn
haf 1909 byddwn yn cael mynd allan fel un o griw y Betsy ag yn cael sgar
o’r catch er byddai raid imi werthu sgar y Captain ei hun run fath. Byddwn
yn cael ei hwylio fy hun tra byddant hwy yn pysgota. Cawn fy orders a
lookout os awn i wanderio a gadael i’r hwyliau flapio. Bu yn ysgol dda i
mi.
Yn
ystod haf 1909 a minnau rwan wedi gadael yr ysgol yn groes i ewyllys pawb
gofynnwyd i mi gan visitors allan ar y iot a fuaswn yn hoffi cymeryd job
fel handyman o gwmpas ei ty, edrych ar ol yr ieir yn Tan Bryn, Morfa
Nefyn. Roedd y bachgen yno o’m blaen wedi cael lle i fynd i’r mor.
Cymerais y job ag es yno, llanu sgidia, cyllill, WC a bwydo’r ieir, gwneud
negeseuau etc. Roedd eisiau i mi gysgu yno ond doedd hynny yn plesio dim,
un noswaith wnes ac fe ddengwn adra nosweithiau eraill ffelly fflesiais i
ddim o gwbl reit siwr gan ar derfyn yr wythnos daeth y gwr bonheddig ataf
a dweud ‘You need not come here any more’ ac fe dalodd 2/- imi am yr
wythnos. Yn y cyfamser roedd fy mrawd William wedi cymeryd fy lle ar y
iot, a phan es i lan y mor drannoeth roedd yr hen Gapten yn o chwyrn ‘O
damn rwyt wedi fy ngadael’ meddai ond fe ges fynd yn ol ac aros dan
ddiwedd yr haf. Ron i yn rhy ifanc eto i fynd i’r mor a’r unig beth arall
i wneud oedd mynd i weini, ac felly yn Nhachwedd 1909, yn ddeuddeg oed.
Cyflogais yn was bach yn Brynrhydd am 30/- y tymor ac os y buasai imi eu
plesio fe gawn 35/- sef 5/- yn fwy yn fwy na’r cytundeb. Cefais 6d ernest
i selio’r fargen. Hen ferch, Miss Laura Roberts oedd yn ffarmio Brynrhydd
gyda Wm Hughes, Brongors yn Bailiff, ac roedd yno ddyn arall gyda’r
ceffylau. Roedd yno tua 25 o bennau o wartheg a thrwy i William Hughes fod
yn wael gadawyd y gwaith hwnnw i gyd i mi bron sef porthi. Cysgwn yn
llofft y stabal efo’r certmon mewn gwely wainscot. Nid oeddwn erioed wedi
gweld un cynt. Roedd drws y llofft ar dalcen y building ag ystol bren o’r
gwaith malu iddo. Codem tua hanner awr wedi pump yn y bore a rhoi noswyl
tua saith y nos.
Ar 15
o Fawrth 1910 roedd William Hughes a’r certmon wedi mynd a’r bystych i’r
ffair ym Mhwllheli am gadael fy hunan. Ar ol darfod llnau y beudy es i
fyrath efo’r injan falu eithin. Trwy dynnu rai o’r cocos byddem yn gallu
defnyddio hi at gorddi hefyd. Fodd bynnag rhois dro arni ac aeth fy llaw
dde i’r cocos gan sagio fy mysedd a thorri pen un i ffwrdd. Bum mewn poen
ofnadwy ac ofn mynd yn agos i’r ty i ddweud wrth y merched fath lanast
oeddwn wedi ei wneud. Bum yn rhedeg rownd y teisi yn yr ardd yd hyd amser
cinio ond doedd dim posib cadw heb ddangos wedyn. Anfonasent fi adref rhag
blaen, es at y meddyg a bum chwe wythnos cyn gallwn wneud dim wedyn. Er i
mi gael fy nghyflog yn llawn efo’r 5/- extra yn ei wneud yn 35/-, roedd
bil y doctor yn £2. Toedd dim son am National Health bryd hynny, gwnes
ddau dymor wedyn yn Brynrhydd am £2 a £2/10/0d fel bum yno am flwyddyn a
hanner i gyd ac yn meddwl fy hun cystal ffarmwr a neb. Byddwn yn mynd i’r
ffermydd cyfagos a’m picwach ar fy ysgwydd, rel dyn, i ddyrnu. Cawn job o
ddatod ysgybau yn amal, ond toedd hynny ddim yn plesio. Byddai fy nwylaw
yn goch gan waed wrth eu datod, a byddwn yn methu yn glir a dal y ffidiwr
i fynd. Gyda’r nos yn y Gwanwyn byddwn yn gweld yr amser hyfrytaf, hel
wyau cornchwiglod ar fy ffordd gartref, a’r adar yn canu, yn eu plith yr
ehedydd a’r afr gors.
Daeth
fy nhymor i ben yn Brynrhydd ar y 12fed o Fai 1911, ron o fewn dau fis i
fod yn bedairarddeg oed. Ni allent fforddio i roi mwy o gyflog imi ac es
am lan y mor a’r iot eto hyd nes cawn fynd i’r mor. Mae gennyf gof clir
o’r noson gyntaf imi gysgu ar y dwr. Roedd investiture y Prince of Wales
yng Nghaernarfon ar y 13 o Orffenaf, 1911, a roedd yr iot am fynd
yno.Euthum i a Now Virtue, bachgen tua’r un oed a fi, ond ei fod wedi bod
am voyage efo’r Virtue, i lawr noson cynt a mynd a’r iot allan i’r bae yn
barod i gychwyn gyda’r dydd. Roedd Now yn chwyrnu cysgu drwy’r nos, ond
nid felly fi. Clywn y dwr yn lapio tu allan yn erbyn ein hochor a daeth
i’m meddwl beth pe tae rhywbeth yn ein rhedeg i lawr gan nad oedd gennym
oleu o gwbwl arni. Tua hanner awr wedi pedwar y bore gwelwn oleu yn
ffenest ty yr hen Gaptan, signal i mi fynd i’w nol, a felly bu. Roedd yr
hen Gaptan, Twm Gwyddel a tair o ferched, Marjorie Porthdinllaen, oedd un
ond fedrai ddim cofio pwy oedd y lleill. Roedd yn fore tawel dim gwynt
bron, ac ar ol brisin calm a’r boys yn mynd i’r gig a thowio’r iot. Buom
felly drwy’r bore. Pan gawsom ni olwg Caernarfon fe droth y tide i’n
herbyn a gorfod troi yn ein holau yn bur siomedig.
Arvonian, 27 – 11 – 11 i 30 – 1 – 13.
Roedd
Hugh fy mrawd wedi gwneud voyage neu ddwy ar y llong hon fel mess boy a
roedd yn cael mynd yn ordinary seaman. Daeth adra un bore a mynd a fi
gydag ef y noson honno i gymeryd ei hen job. Mi gofiaf y noson honno byth,
trafaelio drwy’r nos i Swansea a gweld popeth yn rhyfeddod. Roeddwn yn
cysgu yn yr un cabin a’r third engineer a fy ngwaith oedd edrych ar ol yr
engineers ar gyflog o £1/10/0d y mis. O Bwllheli oedd y Capten yn dod a’r
mate o Nefyn. Y cyfarchiad cyntaf gan y Capten oedd ‘Wyt ti’n hoff o
siwgwr a condensed milk?’ ‘Ydwyf’ meddwn innau. ‘Wel machgen i mae’n rhaid
i ti gymeryd gofal ohonno yma neu bydd ddrwg arnat ti’ a mi ron mor siwr
ei fod o ddifirif fel na fu achos iddo gwyno o gwbwl. Byddai y 2nd
Engineer yn disgwyl ei baned te a toast yn brydlon am bump y bore, yn amal
iawn byddai’r mwg te wedi cyrraedd gwaelod yr engine room yn ddarnau o’m
blaen wrth imi slipio ar ystolin seimlyd.
Roedd
yno gymaint o longau hwyliau ac o stemars yn Swansea bryd hynny. Cofiaf y
four masted barque Margarette of Hamburg yn halio allan ar yr un tide a
ni, a merchaid Swansea yno yn gryno yn handio poteli o gwrrw i’r criw yn
y locks. Roedd y Margarette yn towio allan o’n blaenau a swell mawr yn y
channel. Yn bur fuan ron i yn glaf o dan ‘rhen glwyf, sal mor. Ein port
nesaf oedd Antwerp, galwom yn Madeira am bunkers ac ar ol hwylio oddiyno
a’r ynys ar y gorwel canfyddwyd fod gennym stowaway 16 oed. Dychrynais yn
ofnadwy pan glywais y capten yn gofyn iddo a allai nofio a bygwth ei daflu
tros yr ochr. Pardwn gafodd Mochacho a’r noson gyntaf yn Paranagua
diflannodd. Roedd angen dwr ffres arnom yn Paranagua a’r unig ffordd i’w
gael oedd mynd ag un o’r lifeboats yn agos i ffynnon, ei lenwi a’i dowio
efo’r gig at y llong, yna ei wagio efo pwcedi. Y port nesaf oedd i Rio
Grnade de Sol a buom yn angori tu allan i’r lle hwn am fis yn disgwyl
digon o ddwr i groesi’r bar. Oddiyno aethom i St Lucia am orders. Llwythom
yn Galveston – cotton am Havre a byddai’r stevedores yn canu rhyw fath o
shanties fel cyfarthiad ci wrth ddefnyddio’r screw jacks yn yr howld.
Hwyliom o Galveston ar y 24 Dec 1911 a roedd yr hen glwy, sal mor arnaf y
Nadolig gyntaf.
Byddai
bwyd yn weddol, hynny ydi salt horse a harriet lane, gan nad oedd son am
ice box na refrigerator bryd hynny. Ar ol cyrraedd port byddai’r soup a’r
fresh meat yn hynod flasus. Hwyliom o Norfolk ar ol bunkerio ar y cyntaf o
Ionawr 1812 ac ymhen ychydig ddyddiau daliwyd dan storm gref. Roedd y mate
yn 65 mlwydd oed ac ni chofiaf fod mewn awel mor gryf a hi. Fe barhaodd y
tywydd hwnnw bron ar draws y Werydd a fe gollwyd amryw o longau yn y mor
bryd hynny. Yn Havre aeth y tug boat i’n propellor a gwnaed niwed iddo ef
a ninnau. Dychwelsom i’r Bristol Channel yn niwedd Ionawr 1812 a cefais
innau adael y job a gasawn a mynd ar deck yn OS. Ar ol hyn buom yn actio
fel colier i’r Navy, gan roi glo i lawerodd o longau, yn eu plith y ‘Lion’
oedd yn ddiweddarach i fod yn Flagship Admiral Beatty. Byddai holl griw y
man o war yn cymeryd rhan yn y bunkerio a’r band yn mynd ar hyd yr amser.
Ar ol darfod y charter hwn aethom i West Africa i lwytho cnau am Ffrainc.
Roeddym i fyny yn y jungle a bwystfilod gwylltion o’n cwmpas ym mhobman.
Erbyn hyn teimlwn yn rel llongwr, ac yn cymeryd y llyw fel un o’r lleill,
watch and watch, 4 on 4 off oedd hi wrth sgwrs. Ar ol dadlwytho y cnau ym
Marseilles aethom i Torrevija, Spain, i lwytho halen. Un nos ar watch y
2nd mate, es i gysgu yn y galley. Wedi iddynt fy neffro galwyd fi i’r
bridge a pan oeddwn yn cyrraedd yno dyma’r 2nd mate wedi colli ei dempar,
yn fy hitio dan fy ngen o dop yr ystol i’r lower bridge, a coed wedyn imi
yn fanno. Roedd Hugh fy mrwad wrth y llyw a daeth ef i lawr i’m hachub a
chadw chwarae teg imi !!
Ar ol
cyrraedd Calcutta efo’r halen euthum i lawr fel amryw eraill o’r criw,
efo’r malaria. Daeth doctor du i fewn a’r ddedfryd oedd fy anfon i’r
hospital roedd temp yn 103 ag anfonwyd fi fy hun. Bum yn chwilio drwy’r
bore am yr hospital a pan gefais fy hun yno, rhowd fi yn y gwely a bum yno
am bron i wythnos, cael ond llefrith oer. Daeth y capten i fy ngweld a ron
i’n bur falch o’i weld, ag eb ef, ‘Welaist ti Hugh?’. Fedra Hugh ddim dod
i fyny i fy ngweld, roedd wedi dod i fewn ddiwrnod ar fy ol efo’r malaria.
Trannoeth, er fod fy ngwres yn dal yn uchel mynnais gael mynd o’r
hospital, gan alw efo Hugh ar fy ffordd allan. Druan ohonnof prin gellais
gyrraedd y llong, roedd y temp yn dal yn 103. Daeth y doctor du drannoeth
a gwaith papur imi fynd yn ol i’r hospital, ond gwrthodais yn llwyr.
Gwyddyn fy mod yn rhwym ag es at y steward am salts ond toedd dim yn tycio
ag ail repeatio’r dose. Gwnaeth hynny’r tric noson honno ac ar ol hyn dois
yn ol yn ara deg i’m cynefin.
Wedi
hwylio efo glo o Calcutta un bore rhwng 4 a 8 breuddydiais fod y llong
wedi rhedeg i’r lan. Pan alwyd arnom roedd wedi rhedeg ar sand bank. Rhowd
y cwch allan a’r 2nd mate in charge i sowndio am le dyfnach , a ron innau
yn un o’r boat crew. Ar ol peth amser llwyddwyd i’w chael yn rhydd, roedd
y gwynt wedi codi dipyn a’r hen long bellach y symud. Awd ati i godi’r
cwch a minnau ynddo yn tendio’r blocks, pan ddaeth moryn a’i gipio i fyny
gyda’r canlyniad i un pen ddod yn rhydd a throi y cwch a finnau ynddo. Yn
ffortunus dalias fy ngafael ynddo a llwyddwyd i’n cael i a’r cwch i fewn
heb niwed.
Cymerwyd y Capten yn wael yn fuan ar ol hyn a bu farw ar y mor a’i gladdu
y y Bay of Bengal. Cymerodd y mate y llong drosodd hyd nes daeth Capten
arall allan i joinio, ac ar ol tradio yn Calcutta ar y coal trade am rai
misoedd llwythom am Hamburg ac oddiyno am Gaerdydd ac adra. Roedd wedi bod
yn voyage o dri mis ar ddeg. Roeddwn wedi prifio llawer erbyn hyn a’m siwt
dydd Sul yn rhy fyr yn ei llewys a’i choesau.
Tavian
31 – 3- 13 i 6 – 2 – 14
Yr un
capten oedd ar hon ac a ddaeth i joinio’r Arvonian yn Calcutta, J,D,
Griffith, neu Jac Dan, fel yr adwaenid ef oreu. Roeddwn wedi bod yn hwylio
gyda’m brawd hyd yma ac yn sicr roedd yn amser partio gan y byddai yn
fight rhyngddom yn amal. Roedd o ddwy flynedd yn hyn na fi ac yn cael y
goreu arnaf rhan amlaf. Llong newydd oedd y Taivan wedi gwneud un voyage
ar draws y Werydd, a’r tro hwn aethom a llwyth o lo o Gaerdydd i Port
Said. Yna i’r Black Sea i lwytho manganese ore am Rotterdam. Roedd rhyfel
rhwng Twrci a’r Eidal bryd hynny a thaniwyd arnom gan y landforts tu allan
i’r Dardanelles i’n stopio rhag mynd i’r mine fields. Daeth launch i’n
harwain i Constantinople a wedi cwblhau formalities yno awd ymlaen i
Nickoleif i lwytho. Ar ein ffordd yn ol aethom ar sandbank lle buom rai
dyddiau a gorfu cael lighters o Odessa i’n ysgafnhau. Wedi dod yn rhydd
awd i Odessa i lwytho. Ar ol dychwelyd i Gaerdydd a docio gwelwyd fod yr
ail shaft wedi cael damage. Roedd raid shipio’r spare part oedd yn pwyso 7
tons i lawr i’r howld. Y riggers oedd yn cario ymlaen efo’r job yma a
thrwy ryw ddiofalwch wth iddynt swingio’r shafft troaosdd fe dorrodd y
derrick ac aeth y shaft i’r dock. Yn ffodus ni anafwyd neb.
Cychwynom allan y voyage ddilynol am Rio ac oddiyno am Cuba, ac yma
dechreuodd helyntion. Toedd J.D, ddim yn boblogaidd ar y goreu, trwbwl
efo’r steward, hwnnw wedi raidio’r whisky y Capten ac ail lenwi’r poteli
efo te a’i sealio yn ol. Disraddiwyd y steward a’i hel yn ol i’r
forecastle ac fe ddihangodd yn Baltimore. Roeddym wedi llwytho 8000
tunnell o ore yn Port Padre, Cuba mewn pum awr. Wn i ddim beth fuasai wedi
digwydd i’r hen gapten tae y steward wedi cael golwg arno y noson
ddihangodd gan roedd yn stelcian o gwmpas y bridge hefo revolver pryd
daeth yr hen Dafydd Jones o Nefyn ar ei draws a thaflu’r gwn drosodd. O
Baltimore aethom i New York i lwytho case oil a railway iron am Manila,
Kobe a Yokohama, taith faith rownd y Cape of Good Hope. Yn fuan wedi
gadael New York rhowd ni ar ein pound and peint o bopeth ‘according to the
act’ chwedl y sais. Aeth pethau o ddrwg i waeth ar y daith hon ac er inni
hwylio o Yokohama nosn cyn y Nadolig 1914, chawd dim arwahan i’r ACT.
Hynny ydi Salt beef. Toes ryfedd felly pan ddarfu i ni enterio Newcastle
NSW, y passage dilynol i mi ddweud wrthyf fy hun ‘Ai ddim allan o’r lle
yma yn y llong hon’. ‘Ychydig wyddwn beth oedd o’m blaen.
Roedd
yn beth cyffredin i hogia ddengid yn Awstralia bryd hynny a roedd y clwy
wedi gafael ynof innau. Doedd gennyf ddim syniad beth i wneud na lle ron
am fynd. Y plan oedd cael cymaint a allwn o’m cyflog yn gyntaf. Toedd hyn
ddim yn hawdd. Gallem fynd at deiliwr o’r enw Morgan yn Storkton a prynu
ein goods a’r Capten yn talu!!! Roedd y cena teiliwr yn fodlon advansio
pres on a fifty fifty basis, hynny yw buasai yn rhoi £1 i ni ond i ni
signio am ddwy. Roedd fy mryd ar ddianc nos Sadwrn, roeddym i fewn er
dechrau’r wythnos a disgwyl cael sub nos Sadwrn, ond toedd rhen Gapten
ddim ar gael i roi pres i neb ac aeth mwyafrif o’r criw a’r strike gan
ddemandio eu talu i ffwrdd. Drannoeth roedd angen symud y llong ond
gwrthodwyd a’r canlyniad oedd nad oeddem i gael dim bwyd os na weithiem.
Dydd llun galwyd plismyn i mewn a bygwth mynd a ni i’r jail os na
weithiem, yn gwbwl ofer. Ni allai’r plismyn fynd a ni onibai fod y capten
wedi codi warrant ac nid oedd wedi gwneud hyn. Roedd bellach naw ohonnom
yn benderfynnol nad aem bellach efo’r llong. Dydd mawrth awd i’r lan i
weld y shipping Master anfonodd ni at dwrna. Tra yn deud ein stori wrth y
twrna daeth plismyn i fewn i holi amdanom a wedi deall marchiwyd ni trwy y
dref i’r jail ac yna aethont i rwondio’r gweddill i fyny, fel erbyn canol
dydd roedd y naw ohonnom yn y cwt byhafio. Roedd y jail yn Newcastle wrth
ochor y Post Office ar Main Street, ac os oedd gennym bres gallem gael
bwyd o gaffi yn ymyl, ond ei ordro drwy y warders. Dim ond matia oedd ar
lawr i gysgu arnynt a naw i ddwsin mewn cell oedd yn llawn chwain. Tua
pump o’r gloch daeth ein twrna i drafod busnes. Yr unig gysur allai roi
oedd mae’r unig ffordd i gael yn glir a’r llong oedd mynd i’r jail am
gyfnod. Cytunwyd i dalu 2 gini bob un iddo am gymeryd ein case. Tua deg
bore drannoeth awd a ni i’r cwrt mewn Black Maria gyda ceffylau yn ei
thynnu. Hyrddiwyd ni i’r prisoner’s Box a dechreuodd y gweithgareddau gyda
amryw o gases o’n blaen ni. O’r diwedd dowd a’n hachos a’r cyhuddiad oedd
‘Absensce without leave and disobeying the lawful command of the Master –
Bu trafodaeth faith rhwng y ddau dwrne a J.D. Yn rhyfedd iawn chafodd run
ohonnom ni ddwued gair. Wedi iddynt orffen trafod troth y Judge at JD
‘What are you going to do with these men Captain, do you want them back?’
a dyna J.D i fynu a rhyw hen wen chwerthinllyd fel gallai wneud. ‘No’
meddai ‘I think you better punish them to teach a lesson’. Edrychodd y
judge tros ei sbectol arnom a rhoes ei ddedfryd. ‘So and So said to be the
leaders go to prison for 14 days, and the rest of you 7 days, all without
the option of a fine’. Rwan dyma ni wedi ein collfarnu ag i ddechrau ein
pennyd awd a ni yn ol yn y Black maria i’r jail i aros train i fynd a ni
i’r wlad. Roeddem wedi cael brecwast ond dim cinio ac yn hwyrach yn y
pnawn pan leiniwyd ni tu fewn i’r carchar a’n shacklio ni wrth ein gilydd
fesul tri. D Roberts, Tir Dyrus yn y canol, Joe Larney un ochr a finnau yr
ochor arall. Marchiwyd ni i’r steision mewn prisoner’s van efo
cwnstabliaid i edrych ar ein holau ac awd a ni i’r wlad i le o’r enw
Maitland. Pan gyrraeddom yno gwelem fryn uchel heb fod ymhell o’r
rheilffordd a walia uchel ar ei dop. Doedd dim amheuaeth beth oedd.
Marchiwyd ni fyny at y ty mawr ar ben y bryn, datwyd y gefynnau ,a wedi
cael y formalities stripiwyd ni yn noeth a pawb i’r bath er doedd yno ddim
sebon. Roedd tua chwech o’r gloch erbyn hyn a heb gael bwyd a heb gael
bwyd ers y bore, ond chafwyd dim y noson honno chwaith. Rhowd ni mewn
celloedd ar ben ein hunain. Mesurai’r gell chwe troedfedd sgwar, drws o
haearn a drws o faria, ffenast gul yn uchel ar y pared a dodrefn yn
cynnwys ond pisar dwr a stol. Tua saith o’r gloch agorwyd y drws a chefais
ddarn o ganfas a dwy blanced. Ni fum yn hir yn ffendio pwrpas y canfas gan
yr oedd twll ymhob cornel iddo a roedd dau fachyn ar ddwy o’r waliau.
Roedd yn ffitio i’r dim fel hammock a gwnes fy ngwely rhag blaen, ac iddo.
Pen ychydig daeth y warden o gwmpas ac ar ol edrych drwy’r Spy Hole ,
meddai ‘Nid dyma’r tro cyntaf iti fod mewn lle fel hwn’. Wel fe frifwyd fy
nheimladau i’r byw. Fodd bynnag roedd yn esmwythach na chysgu ar fat budur
yn llawn chwain fel y noson cynt. Fore drannoeth deffrowd ni yn fore a
dangoswyd sut i blygu y gwely i fyny a’i gadw tu allan i’r gell. Yn
ddiweddarach taflwyd tafall o fara i mewn a bum yn hir cyn ymosod arno,
disgwyl coffi neu de! Druan ohonnof toedd dim i gael ond tafell o fara
ddwy waith y dydd a dwr oer tra bu yno. Roeddym wedi ein gwisgo a siwt
briodol, canvas pants a striped shirt a number ar y frest a’r cefn. Os
cofiaf yn iawn 109 oeddwn i. Roedd tri ohonnom dan ugain oed a reoddym i
fynd i ben draw’r carchar. Mae’r olygfa o’m blaen byth, popeth yn cael ei
wneud fel yn yr army. Sefyll mewn lein wedyn right turn a quick march. Joe
Lamley oedd yn arwain ac ar ol gorchymun i left turn daliodd i gerdded yn
ei flaen gan syllu ar y warder nes roedd helynt mawr. Wedi mynd drwy lawer
o formalities yn y block newydd rhowd ni yn ein celloedd unig lle y
cadwent ni oddigerth am hanner awr o excercise mewn iard gauedig bob bore
a phnawn. Ni chaem siarad a’n gilydd o gwbwl. Byddai’r Governor yn gwneud
ei rownds yn ddyddiol pryd y byddai pob drws y cael ei agor o’i flaen a
phob carcharor yn sefyll gyferbyn gan salutio. Un bore reoddwn wedi methu
cael i’r W.C a phan ddaeth y Governor heibio roedd yn hawdd deall hyn
‘Phew’!! medda fo a chlep ar y drws arnaf. Fe ddaeth yr wythnos hir
bythgofiadwy honno i ben, a cofir mai 16 mlynedd a hanner oeddwn.
Gwawriodd bore rhyddid, rhoddwyd ein dillad ein hunain inni a thicad tren
yn ol i Newcastle. Daeth saith ohonnom allan a deallasom ar ein
cymdeithiom hyn bod nhw yn cael uwd arwahan i’r bara. Y pwrpas oedd i’r
troseddwyr sylweddoli ar eu pennyd. Wedi i ddrws y ty mawr gau arnom ar yr
ochr oreu y tro hwn aethom i’r pentref i’r caffi agosaf am feed o ham and
eggs. Roeddynt yn ein disgwyl fel pe taem wedi anfon rhag blaen. Pen
ychydig oriau roeddym yn ol yn Newcastle a’r broblem rwan oedd beth i
wneud, roedd yr hen long wedi hwylio. Wedi sicrhau lle i aros gyda teulu
caredig es i weld y shippimg master. Roedd ef yn bur ffafriol imi ac
addawodd wneud ei ora i imi. O ganlyniad bu imi hwylio ar long o’r enw Era
drannoeth yn tradio rhwng Newcastle a South Australia a’r cyflog yn
£6/10/0. Cyn pen mis roeddwn yn AB yn cael £8 y mis. Roedd y llong hon tua
40 oed a rhai o’r criw wedi bod arni am 25 o flynyddoedd. Bu amser cyn
cefais lythyr oddi cartre gan nad oeddynt yn gwybod lle ron i a pan
glywodd fy mam anfonodd imi ddod gartre modd cyntaf. Ar ol chwe mis
gadewais yr Era yn Newcastle. Es i Sydney, ron wedi clywed fod un o griw y
Tropic wedi dianc a hefyd mai Cymro oedd yntau.
Es arni
ac ar ol gweld y met gofynnodd hwnnw ‘What are you doing, are you on the
beach?’ Roedd gofyn hyn yn halen ar y briw. Fe ddywedodd ei fod eisiau
llongwr a buaswn yn cael dechrau drannoeth. Pan ofynnais faint oedd y
cyflog dywedodd y buaswn yn cael yr un faint a’r lleill, sef cyflog Lerpwl
£5. Roeddwn yn cael £8 y llong ddwytha, meddwn a gwelwn yn fuan os nad
oeddwn am gydsynio nad oedd dim job felly roedd rhaid acseptio y telerau
rhag blaen.
Tropic
1-7-14 i 30 – 8 – 14
Yr
oeddem ar ein ffordd gartref pan dorrodd y rhyfel allan. Gorfu inni fynd i
fewn i Capetown, roedd bron yr oll o’r criw yn perthyn i’r RNR (Royal
Naval Reserve); roedd yn cario dau o ynnau 4.7 ac yn fflio’r Blue Ensign.
Ar ein ffordd aethom heibio i amryw o longau y gelyn a’r naill yn cymeryd
dim sylw o’r llall. Roedd y raider ‘Javier Willhelm di Grosse’ yn operatio
o gwmpas St Vincent Cape de Verde Islands, ond yn ffodus ni ddaeth ar ein
traws a dinistrwyd hi gan ‘HMS High Flyer’ yn fuan wedyn. Cyrraeddom
Tilbury ar nos Sul Awst 30, 1914. Es adra B.O.T gan lygio fy luggage a’m
curios ar draws Llundain, cyrraedd Pwllheli tua un drannoeth a chychwyn
cerdded adra, cyfarfod ‘rhen John Ty Uchaf a’i lori ar yr Ala a hwnnw ddim
yn fy adnabod. Cefais lifft ar y bws o Bodfel i Bryncynan ac adref oddiyno
ar draws y caeau. Roedd fy mam yn llawen iawn o fy nghael adra. Roed hi
wedi bod yn yr ysgol efo JD a roedd wedi anfon pc iddi ac arno yn unig
‘Diod oedd yr achos i John gael ei adael yn Australia’ !!!
Roeddwn
bellach wedi troi yn 17 oed ac yn cael cyflog AB. Bum efo tair o longau o
hyn ymlaen yn perthyn i longau Pwll Parc a’r diwaethaf i’r C.P.R. Ryw dro
tua diwedd 1915 bu bron imi a boddi wrth ymdrochi yn Baltimore ar bnawn
Sul. Aethum rywsut i ddwr rhy ddyfn a chollais bob rheolaeth arnaf fy hun,
all neb ddychmygu beth yw’r teimlad ond rhai fu mewn argyfwng cyffelyb.
Rhywsut ces afael ar un o’r piles a barnacles drosto a felly dois i’r
wyneb a chawsant job im tynnu oddiyno.Roedwn yn scratches dros fy nghorff
i gyd ond dois ata fy hun erbyn drannoeth. Bum am flwyddyn na allwn edrych
ar neb yn neidio i’r dwr. Pan yn hwylio o Chile am Ffrainc trwy y Panama
Canal yn 1915 digwyddodd landslide yno un bore. Cyrraeddom ni Balboa ac
aros yno am dair wythnos, bu raid i ni ddychwelyd drwy y Straits of
Magellan. Es at y llyw am 4 o’r gloch un bore ar ol gadael Punta Arenas a
dyma’r Capten yno a chau ei ddwrn yn fy wyneb ‘Tendia Tendia Tendia! Myn
diawl mae hi yn mynd 16 knots ac os ei di oddiar y cwrs byddwn yn creigiau
yn slap’ !!! Erbyn Awst 1916 roeddwn wedi cwblhau digon o sea time i fynd
am dicad, fe gofiwch imi adael yr ysgol yn 12 oed ac heb stydio dim. Fodd
bynnag es ati o ddifri ac ar ol llai na dau fis mewn ysgol yng Nghaerdydd
mi fethais, ond ar ol pythefnos gartre es yn fy ol a llwyddais yr wythnos
ganlynol. Roeddwn bellach wedi cefnu ar ‘o flaen y mast’.
Picton
1-12-
16 i 10-11-17
Fy job
gyntaf oedd 2nd mate ar y Picton, perthynol i E.T Radcliffe & Co a captain
Roberts yn dod o Cricieth, roedd wedi ei eni yn Edeyrn. Cario ammunition a
stores oeddem o’r USA a Canada a Ffrainc.Cawd amal i narrow escape
oddiwrth submarines. Wedi i mi ei gadael yn Pennarth aeth allan i Canada a
roedd yn Halifax pan ddinistrwyd y lle trwy long yn cario TNT fynd ar dan
a ffrwydro. Ychydig iawn o griw y Picton a achubwyd.
Florentino 1918
Bum yn
second mate ar y ‘Florentino’ Houlder Middleton & Co, am y rhan fwyaf o
1918. Chinese oedd criw hon a fel y Picton actio fel transport ar draws y
Werydd oeddem ni. Tua diwedd 1918 ces dicad mate. Roedd y rhyfel bellach
wedi darfod a bum yn ffodus i ddod trwyddi heb anffawd. Fy llong nesaf
oedd ‘Frankby’, Mcvicar Marshall & Co. Roedd wedi ei hadeiladu fel y
William Wallace cyn i Mcvicar’s ei phrynu a bu dan charter i’r Italian
Government am yn agos i flwyddyn a hanner am £300 y dydd, yn cario gwenith
i’r West Coast Italy. Ar ol gadael y Frankby es yn ol i’r ysgol a pasiais
yn Feistr ar y 13 o Ragfyr 1920 pan yn 23 oed.
Bum
gartre am gwrs gan nad oedd yn hawdd cael lle bryd hyn ac roeddwn yn briod
a merch gennyf. Roedd Mcvicar, Marshall wedi gwerthu i llongau i gyd i’r
Scindia Co, Bombay, amryw ohonnynt, yn cynnwys y Frankby eisioes wedi mynd
allan i India. Fe joiniais y ‘Frankmere’ fel Mate ym Mai 1921 a newidiwyd
ei henw cyn hwylio i’r ‘Jalavihar’. Tradiem am tua dwy flynedd rhwng yr UK
ac India, a wedi hyn yn gyfan gwbl ar yr Indian Coast. Ar un bnawn Sul tra
ar angor tu allan i Green Island ar entrance yr afon i Moulmein gwelwyd
rhywbeth yn y dwr tua pum i chwe milltir i ffwrdd. Codwyd yr angor ac ar
ol nesau canfyddwyd mae sgwner yn water logged oedd a thri o ddynion wedi
eu lashio dan y bowsprit, un mewn cyflwr drwg iawn. Llwyddwyd i’w hachub.
Ymddengys i’r sgwner gapseisio dri diwrnod yng nghynt ac o’r deuddeg criw
dim ond tri achubwyd. Rhoth y Government watch aur i’r Capten a’r Pilot am
eu safio.
Ar y
13eg o Ragfyr 1923, o fewn tair mlynedd i’r diwrnod y pasiais yn fesitr,
ces fynd yn Gapten ar y ‘Jalapalaka’ roeddwn yn 26 a hanner, a bum yn
tradio ar yr Indian coast hyd ddiwedd 1930. Bu agos i ni gael ein dreifio
i’r lan mewn cyclone ar y N tip o’r Andoman Islands. Yn y llong yma dro
arall trawodd ar graig oedd yn uncharted yn Point de Galle, Ceylon, a
galwyd y
graig
yn Jalapalaka rock. I wneud yr harbwr yn saff fe chwythwyd y graig i
ffwrdd gyda dynamite. Byddai’r Seconds (Quarter masters) yn plymio’r dwr
wrth entero a gadael port a byddai ganddynt gan swynol ar dop eu lleisiau
‘Panch bam... nemila sat bam’. Pwy fu ar y mooring boats yn Calcutta na
chlywodd y rheini yn canu eu shanties wrth eu gwaith. Hindoos fyddem yn
gario fel llongwrs, rheini yn dod o Surat. Byddai yr hen Surang yn gwneud
trip gartre i wlad ei hun, fel byddai yn dweud, pan fyddai angen dwylo
newydd ac yn amal iawn fe ddeuai a ‘Chocra’, perthynas i rai ohonynt tua
10 i 12 oed yn ol i ddysgu’r grefft. Un dydd Sul tra ar buoy yn Moulmein
gwelwn
sampan yn tynnu am y llong a tua naw o griw ynddo , ac yn eu plith y
Chocra oedd ddim yn un o’r criw yn swyddogol. Roedd y tide yn rhedeg yn
gryf a throdd y sampan a’i wyneb yn isaf gan
daflu’r cwbwl i’r dwr. Driftion cyn i neb allu taflu rhaff
na dim.Lansiwyd y lifeboat dan ofal y 2nd mate ond erbyn hyn roedd yn nos
ar y cwch yn dychwelyd. Roeddwn mewn penbleth
rhag ofn fod rhai wedi boddi yn enwedig y Chocra. Fodd bynnag pan
ddychwelont roeddynt yno yn gryno. Gallent nofio fel pysgod a dringo fel
myncwns. Byddwn yn rhyfeddu atynt yn gallu gafael yn y stay efo bodiau eu
traed a cherdded i fyny. Cefais ddigwyddiad hynod iawn tra ar y Jalavijaya
yn Bassein. Roeddem yn shiftio o un felin i’r llall efo’r tide a thra yn
dod heibio right hand bend yn yr afon daeth lighter allan o’r banc ac
aethom i wrthdrawiad. Sinciodd y lighter a credem i un o’r criw golli.
Mooriwyd gyda un angor allan a’r rhaff i’r lan yn y felin rice. Drannoeth
tua deg o’r gloch aeth y mate ataf i ddweud fod arno ofn fod y dyn a
foddodd ddoe wedi dychwelyd i’n poeni ac yn sownd yn y chaen. Es ymlaen fy
hun ac yn sicr ddigon roedd yno gorff a’i fraich wedi bachu yn chaen yr
angor. Gwnes awgrym ar i’r mate slackio’r chaen yn syth a nofiodd y corff
efo’r trai. Fodd bynnag ar dop llanw yn y pnawn roedd y corff yn hofren o
gwmpas y llong. Roedd yn ddigwyddiad pur anghyffredin.
Tra yn
llwytho rice direct o’r melina byddai y lle yn glwstwr o lygod mawr a
rheini fel cathod. Byddai raid cael dynion yn barhaus ar y gang planks efo
bamboos i’w cadw draw. Serch hynny byddent yn dod i fewn ar y rhaffau ac
yn amal yn y boreuau deuai rhai o’r criw
ymlaen am feddyginiaeth i’w sodla, lle byddai’r llygod wedi cnoi croen
caled yn ystod y nos. Byddem yn cario bob math o gargo, byw a marw. Cofio
mynd a cheiliog a wyth o ieir o Birkenhead i Rangoon a roedd 2/- y pen o
bonus i mi fel mate os aethant yn saff. Digwyddodd clwyf eu taro a toedd
dim ond yr hen gobyn yn fyw pan gyrhaeddom i Rangoon. I ryw wraig oeddynt
yn mynd a bu iddi ysgrifennu llythyrau chwyrn iawn yn eu cylch. Fodd
bynnag anfonodd ddau swllt am yr hen geiliog er ei fod ar ei sodlau a
golwg druenus arno. Gadewais India tua diwedd 1930 ar y P&O Naldera a
roedd Amy Johnson y pilot enwog yn yr un llong ar ei ffordd gartre, Roedd
wedi fflio o Lundain i Australia ei hun.
Bum
adra am gyfnod hir, meddwl am ffarmio. Roedd pawb yn rhydd efo’i
cynghorion a’r diwedd fu imi ddychwelyd i’r mor eto yn 1932 fel second
mate ar yr Athelchief, perthyn i’r United Molasses Company. Wedi peth
amser mewn gwahanol longau o’i heiddo rwyf gyda hwy o hyd, yn feistr y 16
mlynedd ddiwaethaf. Bum am gyfnod o 17 mlynedd ar yr un llong yn yr Home
Trade a’r Baltic. Gwelais lawer tro ar fyd yn y llong hon – yr AthelTarn’.
Yn 1935 aeth i wrthdrawiad a railway bridge yn cario main line traffic
rhwng Amsterdam a Copenhagen a’i rhoi allan o iws am fisoedd. Rhowd y
llong dan arrest pan aethom i fewn i’r Danish port o Stege nes talwyd
£10,000 bond i lawr. Byddem yn pigo pobl od fel criw, rhai da, rhai fel
arall. Roedd un yn hynod sef Reeves y Bosun.
Hen fachgen dros ei drigain oed, llongwr heb ei ail ond byddai y ddiod yn
cael y goreu arno yn amal. Roeddem yn Ffrainc, Havre un tro yn llwytho
triog. Cafodd yr hen Reeves fwy nag oedd yn dda iddo ac fe setiodd rhai
o’r bwlis ifanc arno a’i guro a’i gicio yn anrhugarog nes fod ei wyneb fel
pulp. Serch hynny wnai yr hen greadur ddim dweud pwy ddarfu. Pen wythnos
gorfu imi ei roi mewn hospital yn Gluckstadt, Germany, efo carbuncle ar ei
wddw a’i adael yno. O ganluniad paciwyd ei ger ac anfonodd air fod ganddo
£10 yn ei room. Chwiliwyd ac ail chwiliwyd ond nis cawd, roedd yr hen
greadur wedi eu cuddio mewn hen bar o racs o socks a’i taflu ar lawr o dan
y bunk. Chwedl yntau ‘Fuasai neb yn meddwl dwyn hen bar o socks’!
Yn
Plymouth bum drwy y rhyfel arwahan i ambell i voyage i Falmouth, Fowey,
Dartmouth, Brixham a Portland yn oilio’r fleet. Yn yr amser buom yno fe
gariom, neu ei bwmpio i’r fleet, 800, 000 tunnell i 1300 o longau. Er y
bomiwyd Plymouth a Devonport yn ddrwg buom yn ffodus na chwasom ddim miwed
oddiwrth y bombs.
Mae
bellach 23 mlynedd er pan joiniais yr Athel Line ac yn dal i fynd o hyd yn
1955. Digwyddiad pur anghyffredin oedd i Wil y mab hynaf hwylio am gyfnod
fel mate efo fi. Yn ddiweddarach bu i mi releavio ef fel meistr ar ddwy
long yn olynol.
Mae hi
wedi bod yn daith faith o 1911 – 1955 a llawer tro ar y fyd. Mae’r hen
ysfa am gael traed ar terra firma mor gryf ac erioed.
********
Llongau Capt John Roberts Edeyrn
Yacht Betsy of Porthdinllaen - OW
Evans 1907 – 11
SS Arvonian, Cardiff, O&W Williams
1911 – 13
SS Tavian, Cardiff, O&W Williams,
1913 – 14
SS Era, Melboutne, Howard
Smith&Co, 1914
TSS Tropic, Liverpool, White Star
Line, 1914
SS Snowdonian, Cardiff, O&W
Williams, 1914 – 15
SS Devian, Cardiff, O&W Williams,
1915-16
TSS Lake Michigan, Liverpool,
Canadian Pacific, 1916
SS Pictom, Cardiff, E T Radcliffe,
1916 – 17
SS Florentino, London, Houlder
Middleton, 1918
SS Frankby, Liverpool, Mcvicar
Marshall, 1919-20
SS Frankmere, Liverpool, Mcvicar
Marshall 1921 – 23
SS Jalavihar, Bombay, Scindia
Steam Nav, 1923 – 26
SS Jalapalaka, Bombay, Scindia
Steam Nav, 1927 – 30
SS Jalarifaya, Bombay, Scindia
Steam Nav, 1930
MV Athelchief, Liverpool, United
Molasses co
TSS Teno Valpariso Copamania Sud
Americana
MV Athelknight, Liverpool United
Molasses
SS Atheltarn, Liverpool, United
Molasses, Co
SS Athelmere, Liverpool, United
Molasses Co
SS Brita Thordens of Liverpool. WS
Kenmaugh, Liverpool ?
MV Athel Queen
MV Athel Princess
MV Athelfoam
MV Athelbeach
MV Athelduke.
********
Y teulu
Fuasai
pictiwr ddim yn gyfa heb y teulu. Priododd Janet a finna yn ifanc a bu
inni saith o blant, sef dwy ferch Betty a Judith a pump o feibion Wil,
Henry, John, Hugh, a Dewi. Mae’r hynaf yn awr yn 36 a’r fenga yn 16. Loes
fwyaf ein hoes oedd colli y fam yn 1947, Hi oedd ein guiding star i gyd.
********
Diolch yn fawr i Capt
Hugh Roberts a'i chwaer Mrs Judith Griffith am rannu hanes eu tad efo ni.