|
|
"Extra Master" Mawr a llydan ydyw’r liner Rhaid wrth gabden "Dewr ei Fron" Ar y bridge mae lle ofnadwy I’r sawl fentra long fel hon.
Llawer fu yn meddwl mentro Mordaith bywyd gyda hi, Dychryn wnaethant oll cyn seinio Marw, wylo dwys y cri.
Yn yr harbwr mae yn disgwyl Eto’n ddyfal am rhyw lanc Fentro’r Bridge ac yna gilio Cyn ei rhwymo wrth y stanc.
Er ei siomi fwy nac unwaith Byw mewn gobaith mae o hyd Prynnu gwely, prynnu soffa Prin bydd eisiau byth wrth grydd.
Gresyn gweled llong mewn eisiau Gabden dewr un llewis hir Extra Master sydd yn brinion Dyna’r stori glywais i. ~~~~~~~~~~~ Barddoniaeth di enw, ond yn sicr wedi ei gyfansoddi gan un o forwyr Rhiw.
|
|
Copyright © Rhiw.com |