"Bugail y ddafad wyllt"

Siop_Pencaera.jpg (119815 bytes)

    "Siop Penycaerau 1910"

Hanes Bywyd Owen Griffith

Am oddeutu hanner can mlynedd bu Owen Griffith yn Siopwr ym Mhencaerau, ond yr oedd i’r gwr yma adnabyddiaeth drwy’r byd am ei allu a’i rinwedd i wella’r canser croen y "Ddafad wyllt".

Yn fachgen deuddeg oed datgelwyd cyfrinach y driniaeth iddo gan ei ewythr Owen Griffith, Siop Penygraig Llangwnadl. Ar ol gweithio yn y siop am dair mlynedd aeth Owen i’r mor a bu’n hwylio’r dyfroedd am ddeunaw mlynedd cyn dychwelyd i Bencaerau i gadw siop ei rieni John a Mary Griffith yn 1921 ac o’r amser yma ymlaen dechreuodd feddyginiaethu o ddifri. Roedd ganddo feddygfaon yn Llangefni a Pwllheli.

Dywedir i’r feddyginiaeth lysieuol yma gael ei drosglwyddo i’w deulu dri chan mlynedd yn ol gan grwydryn am sofren, stori araall ydi i longwr ar ol cael ei achub o longddrylliad yn un o’r pyrth cyfagos ei ddatgelu. Er mor ramantus yw’r straeon yma mae’n fwy posibl ei bod wedi ei ddarganfod mewn hen lyfrau meddygol neu wedi ei gael gan un o’r Tinceriaid o’r Iwerddon a arferai grwydro Llyn , roedd gan y Tinceriaid yma wybodaeth helaeth iawn am feddyginiaethau llysieuol.

Roedd John ac Owen Griffith, tad ac ewythr Owen yn fferyllwyr cymwysedig ac yn wir roedd ei ewythr yn "feddyg gwlad", a bu ei daid Griffith Griffith yn gwella’r canser yn ei amser.Dysgodd Owen yr oll a wyddai gan ei dad a’i ewythr.

Yng nghyfnod ei ewythr Owen ddaeth y driniaeth i adnabyddiaeth cleifion o’r tu allan o Gymru a tyrrai pobol un ai i Bwllheli neu Benygraig i gael gwellhad o’r "Dddafad wyllt". Yn ystod y cyfnod yma bu rhwyg rhwng meddygon y ddafad wyllt a meddygon swyddogol ac yn sgil hyn daeth Owen yn amheus o feddygaeth swyddogol ac yn ofnus o feddygon. Yn niwedd ei oes byddai yn amharod i fwyta prydau ym Mhwllheli ar ddydd mercher rhag ofn i’r doctoriaid roi gwenwyn yn ei fwyd. Bu’r ofn a’r pryder yma o bosib yn gyfraniad at ei farwolaeth yn y diwedd.

Owen_Griffith.jpg (96954 bytes)

Owen Griffith yn Siop Penycaerau yn 1962.

Roedd y dull o’r driniaeth yn bwysig iawn a rhaid oedd dilyn y cyfarwydddiadau yn drwyadl a cham wrth gam. Yn gyntaf roedd rhaid gwneud diagnosis manwl a chywir i sicrhau mai’r ddafad wyllt oedd y broblem, yna fe’i crafwyd a rhoi plaster arni gyda’r eli cyfrinachol arno. Wedyn golchwyd y ddafad yn ddyddiol ac ail roi y plaster ac unwaith yr wythnos roedd yn rhaid ymweld ac Owen. Gallai gymeryd hyd at chwe wythnos i wella yn llwyr a’r ddafad ddisgyn i ffwrdd. Ffactor bwysig arall oedd na ddylai’r claf chwysu a pheri i’r gwaed boethi ac o’r herwydd roedd llai o gleifion yn cael eu trin yn ystod misoedd yr haf.

Yn 1932 bu farw gwraig o Lanllyfni oedd yn derbyn triniaeth, ac er na phriodolwyd dim bai ar y feddyginiaeth fe benderfynnodd y ddau gefnder atal eu gweithgarwch nes cael rhyw fath o gydnabyddiaeth swyddogol i’w diogelu. Un oedd yn uchel ei gloch yn ei herbyn oeddDr E. Lloyd Owen Swyddog Meddygol Cyngor Sir Gaernarfon rhwng 1908 – 1947. Er gwaethaf ei darannu yn y wasg yn eu herbyn yr oedd barn gwerin gwlad, yng nghyd a’r cannoedd a channoedd oedd wedi cael gwellhad yn gadarn tu cefn i’r "meddygon",Gwelwyd rhwydo cynghorau lleol, y "Cyfarfod misol", yr aelod seneddol lleol a Lloyd George ei hun yn y ffrae.

Yn sgil hyn i gyd anfonwyd amryw o ddeisebau at yr Adran Iechyd yn gofyn am drwydded i’r ddau feddyg er mwyn iddynt barhau a’r gwaith. Mi gaeson lawer iawn o gefnogaeth gan chwarelwyr Arfon ac yn wir roedd gan y chwarelwyr gronfa ariannol i helpu’r gweithwyr oedd angen cael triniaeth. Ond dylid pwysleisio yma nad oedd y meddygon yn codi tal, ond yn hytrach yn derbyn cyfraniadau fel bo modd.

Jean_Pencaerau.jpg (88331 bytes)

Jean merch Owen Griffith yn y siop yn1972.

Tyrrodd pobol o bob man at Owen Griffith am y driniaeth o lefydd fel America, Awstralia, Singapore, Rwsia a Buenos Aires. Ar ol ei farwolaeth yn Hydref 1974 daeth cyfnod trin y ddafad wyllt i ben er fod y gyfrinach yn hysbys i’w ferch Mrs Jean Hughes Jones, doedd Owen ddim yn awyddus iddi gario’r taddodiad ymlaen gan fod y byd wedi newid cymaint. Mae Mrs Hughes Jones wedi cael sawl un yn gofyn iddi am y gyfrinach, ond y mae hwnnw yn ddiogel a dirgel yn hanes teulu’r Griffiths Pencaerau. Teulu a roesant o’u bodd i wellhau miloedd ar hyd y blynyddoedd ac na wnaethant elw mawr personol o’i "Cyfrinach Wyrthiol".

Mewn cyfnod dros gan mlynedd damcanir iddynt wella dros 30,000 o gleifion o’r canser croen arbennig yma.

Lluniau gan Mrs J Hughes Jones, diolch yn fawr iawn.

Cerdd John Jones Cefn Coch i Owen Griffith.

 

I’r hynod Owen Griffith

Y ceisiaf nyddu can,

Mae’i enw ‘n Hysbys bellach

Dros wyneb Cymru lan;

Efe sy’n difa’r defaid

Sy’n ysu dynolryw,

A phawb ddaw ato’n brydlon

Yn ol yn iach i fyw.

~~~~~~~

Ymhellter yr Amerig

Gwyr llu am allu’r gwr

I ddifa’r defaid gwylltion

Rhaid iddynt groesi’r dwr;

Gwerinwr ydyw Owen

Sy’n caru dynol ryw,

Nid am yr aur mae’n chwarae,

Ond cadw dyn yn fyw.

~~~~~~~

I’r tlawd rhydd feddyginiaeth

Fel glaw o’r awyr las,

Gan wrthod cymeryd ceiniog

Am ddifa’r ddafad gas;

Er mwyn y tlawd mae’n cadw’r

Gyfrinach iddo ‘I hun

Nid aur yw safon Owen

I fesur gwerth y dyn.

~~~~~~~

Ni ellir cael un cofnod

I Owen fethu ‘rioed

A difa’r ddafad farus

O’r coryn hyd y troed;

Dibynna Owen Griffith,

Ar rodd wirfoddol dyn,

Ac felly’r dioddefydd

Sy’n prisio gwerth ei hun.

~~~~~~~

Dydd mercher ym Mhwllheli,

Y gwelir ef mewn hwyl,

Fe ddiystyra’n hollol

Yr hanner diwrnod gwyl;

Cysegra ef nawn mercher

I ddifa’r ddafad gas

Er nad yw’n gapelwr

Nid yw yn brin o ras.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com